Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Cjinwysiad. I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cjinwysiad. I Hysbysiadau 12 Ymylon y Ffordd—Y Golofn Wleidyddol 3 Undeb yr Arinibynwyr Cymreig; 4, 5, 6 Athrofa Aberhonddn, Arholiad Mehefin, 1885— Etholiad Bwrdd Ysgol Abertawy 7 At ein Gohebwyr-Yr Wythnos 8 Y BRIF ERTHYGL- Ein Sefyllfa Boliticaidd 9 Cymanfa Annibynwyr Merthyr—Cymanfa Maldwyn 10 Taith i'r Undeb yn Aberystwyth—Yr Hen Wr Ardderehog U Y Wers Rhyngwladwriaethol-Cyfarfodydd 12 Genedigaethau, &o. hi 13 ilysbysiadan 13,14,15,16
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. L.J.—Gan fod dau o'r Colegau yn talu am y cyfryw hysbysiadau, nid teg gwneyd eithriad o'r llall. Mewn llaiv.—Maelluaws o ysgrifau pwysig mewn Haw, pa rai sydd worii eu cau allan yn herwydd meithder Adroddiad Cyfarfodydd yr Undeb. Dysgwyliwn gael lie iddynt yr wythnos nesaf. ♦ PEN CHWARTER. DYMUNIR dwyn ar gof i'n Derbynwyr a'n Dos- barthwyr fod y Rhifyn hwn yn gorphen yr ail chwarter o'r fiwyddyn breseriol. Amgauir y biliau yn mharseli yr wythnos hon, a byddwn ddiolchgar am iddynt gael eu gwastadhau mor fuan ag y byddo yn bosibl. "BYWYD GEORGE MULLER," Sylfaenydd drwy ffydd a gweddi y Tai i 2,050 o Amddifaid, Bryste. 1'ris 6c., gyda'rpost 6ic., neu 10 am 4s. 6c. Blaendal. I'w gael gan y Cyfieithydd- J. P. JONES, Caerwent House, Bridgend, Glamorganshire. UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. Yn y Wasg, pris Is., YR ADRODDIAD 0 Gyfarfodydd Blynyddol yn Undeb yn Aberystwyth, YN cyiwvys AraetVi y Llywydd, Fregethau yr Undeb, y Papyrau a ddarllenwyd, a'r Areithiau a draddodwyd Pel na siomer neb. anfoner yr eirchion heb oedi i'r Ysgrifen- ydd, y Parch. W THOMAS, Whitland, R.8 0., South Wales. Anfonir 6 copi yn rhad trwy'r post am 5.
YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
YR WYTHNOS. DAEARGRYN-3,000 YN COLLI EU BYW- YDAU.—Y mae newyddion difrifol wedi cyr- haedd y wlad hon yn rboddi banes daear- gryn ofnadwy gymerodd le ddydd Mercher diweddaf, yn Cashmere. Dinystriwyd yn hollol dref o'r enw Baramula, yn cynwys 70,000 o dai. Lladdwyd 3,081 o bersonau, 25,000 o ddefaid, ac 8,000 o anifeiliaid. Y GERI MARWOL. — Parbau yn ddrwg iawn y mae y geri marwol yn yr Ysbaen, fel y dengys y ffugyrau canlyuol am y Sabboth diweddaf yn unig mewn man drefi a phen- trefi :-Cymerwycl yn glaf 763, a bu farw 366. 5,000 0 WEITHWYR ALLAN 0 WAITH.— Taflwyd pum' mil o lowyr allan 0 waith yr wythnos ddiwedaf yn South Durham, Glo- feydd Mri Bolckow, Vaughan a'i Gvvmni, yn herwydd rhyw anghydwelediad rbwng y becbgyn a'u meistradoedd. SYR STAFFORD NORTHCOTE WEDI EI WNEYD YN IARLL.-Mae ei Mawrhydi wedi gweled yn dda i wneyd y bdneddwr crybwyll- edig yn iarll, ac mae yntau wedi derbyn yr aurhydedd, ac wedi dewis y teitl o Iarll Iddesleigb. TAN DYCHRYNLLYD YN LLUNDAIN — EIDDO GWERTH DROS £ 100,000 WEDI EI Losci.—Boreu Mercher, rhwng pedwar a S phump o'r gloch, canfyddodd un o'r hedd- geidwaid fwg yn tori allan 0 un 0 siopau Mr William Whiteley, Westbourne-grove. Ar ol gwneyd ymchwiliad, cafoddd fod rhif 41 ar dan oddi fewn rhoddodd y cri allan, ac mewn amser hynod o fyr yr oedd 180 fire engines yn taflu dwfr ar yr adeilad, ond nid cyn fod yr elfen fflamllyd wedi cael yr afael drechaf ar rhif 37, 39, 41, a 43, a'r holl eiddo drudfawr oddimewn wedi llosgi yn ulw. Yn mhen ychydig oriau nid oedd dim ond olion pedair o'r siopau mwyaf ysblenydd yn Llundain i'w ganfod, a dywedir fod y golled dros gan mil 0 bunau. SYR CHARLES DILKE A MR CHAMBER- LAIN.—Yn nghwrs ei araeth i'w etholwyr yn Chelsea, nos Lun diweddaf, dywedai Syr Charles fod yn ei fwriad ef a Mr Chamber- lain fvned drosodd i'r Iwerddon am dymhor, y cyfleusdra cyntaf gawsent, er mwyn astudio y wlad hono, a chryuhoi pob gwybodaeth oddiwrth bersonau unigol a gwahanol swydd- ogion cymdeithasau gwleidyddol a chrefydd- ol, gyda'r bwriad o ddwyn cynllun o flaen y Llywodraeth er eu galluogi i drosglwyddo i gorfforaethau o Gymry, Ysgotiaid, a Gwydd- elod lawer iawn 0 waith neillduol pertbynol iddynt hwy fel gwahanol genedloedd nad oedd y Senedd yn alluog i'w wneyd fel y dylasai gael ei wneyd; ac ar hyn o bryd a wneir yn ddrwg iawn, neu na wneir ef o gwbl. III TANCHWA OFNADWY-YN AGOS I 200 o FYWYDAU WEDI EU COLLI. — Cymerodd ffrwydriad dychrynllyd le' prydnawn ddydd y Iau diweddaf, yn y Clifton Hall Pit, Pendle- bury, rhyw dair milldir o Manchester, glofa perthynol i Mri Andrew Knowles a'i Gwm- ni. Disgynodd 349 0 lowyr i'r pwll rhwng pump a chwech boreu ddydd Iau, ac yn eu plith 36 o fechgyu. Aeth pob peth yn mlaen yn hwylus hyd rhwng naw a deg y boreu, pryd y dychrynwyd y bobl oedd ar ben y pwll wrth weled fflam o dan yn ym- saethu o'r genau, yn cael ei ddilyn mewn amrantiad gan swn ffrwydriad. Pan ddeall- wyd beth gymerodd Ie, gwnaed trefniadau i anfon pobl i lawr i edrych ansawdd y pwll, a chafodd y parti cyntaf aeth i lawr olygfa nad anghofiant byth. 0 fewn ychydig lath- eni o amgylchedd yn ugwaelod y pwll daeth- ant o hyd i ryw haner cant o ddyniou a becbgyn yn gorwedd ar draws eu gilydd— rhai yn feirw, ereill fel pe ar dynu yr anadl- iad olaf; ereill yn fyw, ond wedi eu niweidio a'u llosgi i'r fath raddau fel o'r braidd y gallesid eu hadnabod. Dygwyd y rhai hyn i fyny yn ystod y prydnawn. I fyny hyd ddydd Llun yr oeddynt wedi llwyddo i godi 151 o'r cyrff, a bernid fod 30 ar ol wed'yn, a chredir y deuir o hyd i'r gweddill yn ystod yr wythnos hon. Nid oes gwybodaeth eto beth achlysurodd y ddamwain. Ychydig iawn o niwed mae'r ddamwain wedi effeithio yn y pwll gallesid ei adnewyddu a gosod y cwbl mewn llawn waith mewn dau neu dri diwrnod, ond nid yw y perchenogion yn dewis ail gychwyn hyd nes y bvdd y corff olaf wedi ei godi o'r pwll. Da genym ddeall fod Maer Manchester a Maer Llundain wedi agor cyfres danysgrifiadol i gynorthwyo y gweddwon a'r amddifaid, ac mae'r arian yn dyfod i law wrth y canoedd o bunau.
Advertising
Advertising
Cite
Share
CANWCH YN DDA SlARADWCII YN DDA!- JJIae Douryhty's Voice Lozenge wedi cael ei werthfavvrogi j7>i fawr gau glevigwyr, cantorion, ao enwogion ereill am yn agos i 40ain mlynedd. Kljydd glirder a gloewder i'r Jlais. JENNY LIND.—" Y mae yn blcser mawr genyf, mor bell agy mae fy mKrofiad yn mvned.i gadarnhau y dystiolaeth sydd mor gy- ffrednrol yn ffafr y Lozenges a barotoir genyeh clnvi" (Milea Doughty). 6e, Is, 28 6e, fig, a lis—yn rhydd trwy y llythyrdy, 7c, Is 2e, &e. Gofyuwch i'ch-Cyfferydd am danynt—NEWHERY a'j FEIBION, 1, King Edward-street, Llundain, E.G.! Sefydlwyd yn y ttwyddyn 1746
EIN SEFYLLFATBOLITIO.AIDD.
News
Cite
Share
EIN SEFYLLFATBOLITIO- AIDD. MAE ein sefyllfa boliticaidd ar hyn o bryd yn gyfryw na fu ei chyffelyb yn nghof neb sydd yn awr yn fyw, os bu erioed yn hanes ein gwlad rywbeth yn debyg. Pythefnos i neithiwr y dygwyddodd y bleidlais anffodus hono arweiniodd i ymddiswyddiad y Llyw- odraeth gryfaf, fwyaf poblogaidd yn y Ty Cyffredin ac yn y wlad y bu yr awenau yn eu dwylaw erioed; ac o hyny hyd yn awr nid oes dim mewn ffordd o ddeddfwriaeth wedi ei wneyd gan ein cynrychiolwyr. Mae Mr GLADSTONE a'i Weinyddiaeth wedi cyf- lwyno eu hymddiswyddiai i'w MAWRHYDI hithau wedi eu derbyn seliau y gwahanol swyddogaethau yn Windsor Castle; Ar- glwydd SALISBURY wedi ei alw i ffurfio Gweinyddiaeth; yntau wedi cydsynio ac agos a chwblbau y gwaith ond hyd yn hyn yn sefyll ar drothwy y Swyddfa, fel dyn a blys arno am fod i mewn, ond ofn yr antur- iaeth. Nid oes genym felly Lywodraeth ym- arferol i wneyd gwaith y Wladwriaetb. Pob peth wedi sefyll, a'r wlad mewn anesmwyth- dra ac anfoddlonrwydd. Paham hyn oil? Gallesid meddwl mai dymuniad eu calon fuasai ymddiswyddiad y Llywodraeth er mwyn iddynt hwy gael yr awenau i'w llaw, ond yn awr pan y maent o hyd cyrhaedd iddynt, ni fyn eu harweinydd eu cipio. Yr unig reswm yw fod Arglwydd SALISBURY am gael sicrwydd gan Mr. GLADSTONE a'i Weinyddiaeth y bydd iddynt roddi pob cyoi" hortb. iddo ef hyd derfyn y tymhor I gario allan ei fesurau. Mae y mater ar ei wyneb ya un digrif a chwerthinllyd. Rheol pob gwladweinydd yw cymeryd yr awenau i'w law heb un ddealltwriaeth flaenorol rhyngddo a blaenoriaid y blaid wrthwynebol- Y cwbl all ddysgwyl oddiwrthynt ydyVi chwareu teg i gario ei waith yn mlaen, ac nid eu rhwymo draed a dwylaw i ymostwng yn mhob dim i'w ewyllys ef. A ydy^ Arglwydd SALISBURY yn ddifrifol yn ei gate rhyfedd hwn ? Os ydyw, rhaid nad ydyw y11 adnabod Mr GLADSTONE, neu ei fod y1^ credu fod y Grand Old Man wedi myned 1 sefyllfa o fabandod yn ei henaint. Ydyw yn sicr, y mae yn ddifrifol, beth bynag feddyl" iwn ni am hyny. Onid dwyn dirwasgiad a? Mr GLADSTONE oedd ei amcan, nos Iau di- weddaf, yn gwrthod ystyried gwelliantau Y Ty Cyffredin ar Fesur y Seddau hyd nos Fawrth. Rhoddi iddynt hyd nos Fawrtb i ystyried pa un a wnaent, ymostwng i roddi iddo yr addewid a geisia, neu oddef i ethol- iad cyffredinol gymeryd lie yn awr o dall yr hen drefn, trwy atal Mesur y Seddau j basio hyd nes cael yr addewid. Yn gweled na ddaliai y rhwyd yr ben aderyn, ac ntt, derbyniol yr abwyd gan y pysgodyn, aeth 1 ddyweyd ei gwyn wrth ei Feistres, gall erfyn arni gyfryngu ar ei ran, a defnyddio ei dylanwad a'i hawdurdod hefyd mor bell ag y gallasai, i ddwyn y GLADSTONE ystyfo1# hwn i'w iawn bwyll, fel ag i fod yn f«ry trii" gar, er mwyn iddo ef a'i ganlynwyr gael mymryn o brofiad o felusion swydd a# ychydig fisoedd. Mae ei MAWRHYDI wedi gwrando ar ei lef Itwynfanus, fel y gwna bob amser pan elwir arni gan Dori o'r iawn ryl"g a dydd Llun yr oedd yn brysur gyda r gorchwyl. Llechai Arglwydd SALISBURY yn Arlington-street; arosai Mr GLADSTONE yn Downing-street; a Syr HENRY PONSONB^> ysgrifenydd ei MAWRHYDI, fel gwas bach at drot trwy y dydd rhwng y naill a'r Hall, ac