Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ATHROFA GOFFADWRIAETHOL ABERHONDDU.

News
Cite
Share

ATHROFA GOFFADWRIAETHOL ABERHONDDU. Cyfarfu Pwyllgor y Sefydliad uchod dydd jMawrth, Mehefin 9fed, pryd yr oedd yn bresenol y Parchn It. S. Williams, Bethesda, yn y gadair Dr Morris; Proff. Rowlands, B.A.; Dr Kennedy ac S. Hebditck, Llnndain James, Llanwrtyd; Jones, Cerygcadarn; Jones, Ffaldybrenin Williams Llandilo, Penfro Jones, Ty'nycoed; Howell, Aberdar; Parry, Llangatwg Williams, B.A., Caerdydd Jones, B.A., Aberhonddu; Richards, Tonypandy; Robert, Porthmadog Jones, Fford Jenkins, Pentre-Estyll; Davies, Taihirion Jones, Tre- forris; Peregrine, B.D., Rhymni; Mr W. R. Jones, Rhaiadr y Trysordd, a'r Ysgrifenydd. Wedi dechreu trwy weddi gau Mr James, Llanwrtyd, darllenwyd a chadarnhawyd pen- derfyniadau y cyfarfod diweddaf. Yna gwnaeth yr Kennedy gyflwyno Mr Hebditch i'r cyfarfod iel yr a anfonwyd gan y Bwrdd Cynull- eidfaol i'w gynrychioli gyda Dr Kennedy, gan na welir Dr Aveling mwyach. Teimlid colled ar ol Dr Aveling, ond llanwyd ei le yn ardderchog gan Mr Hebditch, a buan y gwelwyd nad rhaid oedd iddo wrth lythyrau cymeradwy- aeth, canys yr oedd ei wyneb yn adnabyddus i amryw, ac yr oedd ei enw yn adnabyddus i bawb oedd yn bresenol. Daeth cais y pwyllgor oddiwrth Mr J. R. Jones, un o'r myfyrwyr, am ganiatad i ymadael a'r athrofa ar ddiwedd ei drydedd flwyddyn i gymeryd gofal eglwys «aron, Maesteg. Barnodd y pwyllgor mai doeth oedd iddynt ganiatau y cais ar gyfrif Sefyllfa iechyd Mr Jones. Gwnaeth naw o ymgeiswyr sefyll eu harholiad am dderbyniad i'r athrofa, a derbyniwyd chwech. ohonynt, sef Mri David Davies, Roath-road, ^aerdydd, cyn hyny o Blaenycoed; W. Williams, Carmel, Pembre; J. M. Evans, Three grosses John Davies, Bethel, Aberdar; David °nes, Pentre-Estyll; a Thomas Price, Ffaldy- renin. Hwnyraa ydoedd prif waith y cyfarfod ac efe aetk a'r rhan fwyaf o'r amser. Yr oedd y Parch W. Nicholson wedi addaw rhoddi yr anerchiad blynyddol i'r myfyrwyr, ond yn herwydd byrhau o'i nerth ar y ffordd, gorfu iddo dynu yn ol ei ymrwymiad, yr hyn fu yn groes drom iddo. Pasiwyd penderfyniad o ^ydymdeimlad dwys ag ef yn ei gystudd trwm. ll'6lsiwyd gan y Parch S. Hebditch i gymeryd „,e Mr Nicholson, yr hyn hefyd a wnaeth. ;addododd anerchiad pwrpasol neillduol. Prif Dh aner°hiad ydoedd gwasgu arnynt hwy a 1 awb oedd yn bresenol y pwys o sicrhau ymeradwyaeth yr Arglwydd." Cyinhellai i osod cymeradwyaeth yr Arglwjrdd yn °d ar eu holl gyflawniadau. Sicr ydym nas gall y geiriau synwyrol a doeth a lefarwyd lai pf J^ario dylanwad daionus ar bawb a'u y#sant. Gorfu i Mr Hebditch draddodi ei "Ilerchiad hwyr ddydd Mawrth, a hyny heb oddi y cyhoeddusrwydd arferoi iddo, am fod Ij^ad arno i ddychwelyd i Lundain boreu enGu^er ,olierwydd paham ni chafwyd ei bres- am°l aSymhorth yn y cyfarfod blynyddol, hyny pasiwyd penderfyniad o ddiolchgarwch chalonog iddo ar ddiwedd y cyfarfod |rS, Fawrth. Nid yw yn debyg y gwelir Mr .yn- Aberhonddu eto, gan y bwriada ymfudo i.Awstralia. Dyad Mercher, cynaliwyd cyfarfod blynyddol y tanysgrifwyr, pryd yr oedd yn bresenol heblaw y rhai a enwyd eisoes, Mr W. Williams, Islington, Llnndain; Parchn Catwg Davies a T. P. Williams, Aberhonddu; Morgan, Saundersfoot; Edmunds, Hirwaun Rees, Tredwstan Jones, Gelli Williams, Brych- goed Jones, Talybont; Evans, Capel-y-Wig Rees, Llanharan a Jenlfins, Abertawy. De. chreuwyd trwy weddi gan Jones, Fford; yna darllenwyd Adroddiad y Pwyllgor am y flwyddyn, yr hwn a gyfeiriai at farwolaethau amryw o frodyr amlwg yn ystod y flwyddyn, gan ddechreu gyda Dr Aveling, a diweddu gyda'r Parch E. Stephen, Tanymarian. Yna eyfeiriai at y fifaith ddarfod i'r flwyddyn agor gyda 16 o fyfyrwyr yn Aberhonddu, ac 11 yn Nghaerdydd. Ymadawodd un o Gaerdydd a dau o Aberhonddu yn ystod y flwyddyn cyn gorphen eu hamser, ac heb ganiatad y pwyllgor. Y mae pump ereill yn ymadael yn awr-un i Penmaenmawr, un i Hay, un i Saron, Maesteg, a'r ddau ereill heb benderfynu eto ar feusydd dyfodol eu llafur. Ymddengys fod cysylltiad yr athrofa a Phrifysgol Caerdydd yn bobpeth ellid ddymuno hyd 11 yn hyn. Daw chwech i lenwi lie y rhai aethant allan. Mae Adroddiad y Trysorydd eleni yn fwy boddhaol nag ydoedd y llynedd. Penderfynwyd derbyn yr adrodd- iadau, eu hargraffu, a'u gwasgaru yn mhlith y tanysgrifwyr. Pasiwyd y diolchiadau arferol, ae etholwyd Pwyllgor Gweithiol am y flwyddyn. Yn ychwanegol at y penderfyniadau arferol, amlygodd y. cyfarfod ei ddiolchgarwch am Fesur Addysg Canolraddol Cymru, er fod cyfeiriad yn y penderfyniad at bethau anfodd- haol yn rhai o'i ddarbodion. Hefyd, amlygwyd galar yn herwydd symudiad cynifer o frodyr yn ystod y flwyddyn, a chydymdeimlad a'tt perth- ynasau. Bellach, y mae y myfyrwyr allan, fel arfer, yn galw heibio yr eglwysi am eu casgliadau blynyddol. Dymuna y Pwyllgor ar yr eglwysi i roddi y derbyniad serchog maent wedi arfer roddi trwy y blynyddoedd. Dymunol fyddai, mor bell ag y byddo hyny yn ddichonadwy, i wneyd y casgliadau ar yr adeg y byddo y myfyrwyr yn galw heibio yr eglwysi, canys byddai hyny yn hwylusdod neillduol i'r pwyll- gor, ae yn enwedig i'r trysorydd ffyddlon. Nid gwaith hawdd ydyw cael y cyfrifon yn drefnus pan y byddant yn agored hyd yr adeg y darllenir y fantolen i'r cyfarfod blynyddol. Hyderir yn gryf y ceir diwygiad yn hyn o beth, ae er cyrhaeddyd yr amcan, dymunir yn daer ar yr eglwysi ydynt yn arfer gohirio y oasgliadau i'w gosod ychydig yn gynarach yn y flwyddyn. Da genym feddwl mai ychydig ydyw nifer y rhai a adawant y casgliadau hyd yn ddiweddar yn y flwyddyn. Wrth derfynu, diolcha y Pwyllgor yn gynes am ffyddlondeb yr eglwysi yn cefuogi y Sefydliad drwy y blynyddoedd, ac apelia yn galonog am barhad o'r cyfryw. Dros y Pwyllgor, D. A. GRIFFITH.

ARHOLIAD MEHEFIN, 1835.

ETHOLIAD BWRDD YSGOL ABERTAWY…

ABERGWAUN.

[No title]

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMBEIG-