Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

YMYLON Y FFORDD.

Y GOLOFN WLEIDYDDOL.I

News
Cite
Share

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. GAN GWLEIDYDDWR. Owi/mp y Weinyddiaeth—Ymddiswyddiad y Weinyddiaeth — Galw am Salisbury — Churchill yn ben-Gladstone yn gvorthod bod yn Iarll. ODDIAR pan ysgrifenais o'r blaen, y mae yr amgylchiadau mwyaf cyffrous wedi cymeryd lie yn awyrgylch wleidyddol ein gwlad. Yn an- nysgwyliadwy iawn y cymerodd yr achos cyntaf o'r holl gynhwrf Ie, a diau y buasai yn dda iawn gan y rhai a gymerasant y rhan flaenaf i'w achosi pe na symudaseut yn y mater, canys y maent erbyn hyn wyneb yn wyneb a holl anhawsderau a chanlyniadau difrifol eu hym- ddygiadau. Dechreuodd yr oil gyda CHWYMP Y WEINYDDIAETH. Noson i'w chofio yn bir, a noson a edy ei hoi ar weithrediadau Seneddol ein gwlad yw nos Lun, yr 8fed o'r mis hwn. Yn unol a rhybudd a roddasid yn flaenorol gan Syr Michael Hicks- Beach, cynygiodd welliant ar ddarbodion Cyllideb Mr Childers—gwelliant oedd yn cyffwrdd ag hanfod y mesur-gwelliant i'r perwyl nad oedd toll i'w gosod ar wirodydd a chwrw, &c. Nid oedd ei welliant yn cynyg yn ffurfiol unrhyw gynllun i gyfarfod a'r treuliau gofynol, ond yn ei araeth aw^rymodd y dylesid gosod treth ychwanegol ar de. Gwir ei fod ef a'i gefnogwyr yn gwadu hyny yn awr, ond yn ofery gwna hyny. Cafwyd dadl frwd ar y mater, ond nid oedd neb yn dyfalu y baasai y canlyniadau yr hyn a fuont. Trwy gymhorth y Parnelliaid ac absenoldeb tua 70 o Ryddfryd- wyr, cafwyd mwyafrif o 13 dros y gwelliant, a'r Weinyddiaeth mewn canlyniad yn y lleiafrif. Cymerodd hyn le tua haner awr wedi un yn y boreu, ac yr oedd Arglwydd Randolph Churchill ac ereill o'r Toriaid fel gwallgofiaid yn ysgwyd eu hetiau, a neidio ar y meinciau gan lawenydd yn yr oruchaflaoth a gawsant ar y W einydd- iaeth. Maent wedi cael amser i sobri, a rhai ohonynt edifarhau yn ddwys, ar ol hyny. Daethai y Weinyddiaeth drwy holl anhawsderau ac ystormydd yr Aipht, Soudan, a llwsia yn fuddugoliaethus, ond yn amiysgwyliadwy syrth- iasant ar fesur cymharol ddibwys fel y Gyllideb. Tarawyd yr holl wlad a syndod, a mawr y beio sydd ar yr aelodau Rhyddfrydig hyny oeddyrit yn alluog i fod yn bresenol- ac heb fod. Mae rhai ohonynt wedi bod yn ceisio ymesgusodi trwy dafiu bai ar y Whips, ond y mae Argl wydd Richard Grosvenor wedi penderfynu y mater hwnw yn ddigon boddhaol i bob un rhesymol. Nid ar y rhybadd a gawsant, yr oedd y bai. Gadewir i'r aelodau hyny bellach i ofal eu hetholwyr, a byddant yn debyg o gael yr hyn a haeddant. Canlyniad anoeheladwy y bleidlais oedd YMDDISWYDDIAD Y WEINYDDIAETH. Dywedasai Mr Gladstone a Syr C. Dilke yn eglur yn y ddadl eu bod hwy yn edrych ar y bleidlais oedd i ganlyn y ddadl yn angeuol i'r Weinyddiaeth os yn eu herbyn yr aethai. a rhybuddient yr Wrthblaid i fod yn barod i gymeryd y canlyniadau. Ar ol y fath fynegiad, nid oedd ganddynt ddim i'w wneuthur ond ym- ddiswyddo, a gadael i'r Frenines alw y neb a welai hi yn dda i gymeryd yr awenau. Pan wnaeth Mr Gladstone yn hysbys mai v cwl's hyny a gymerid, dechreuodd y Toriaid a raeddwl am yr hyn a wnaethant. Yr oedd rhai ohonynt yn llawn brwdaniaeth-y bobl oedd â'u llygaid ar swyddi—am i'r Toriaid ymgymeryd a'r gwaith os gelwid arnynt, ond yr oedd y rhai doethaf a mwyaf pwyllus ohonynt yn bwrw y draul, gan wqled mai peryglus iawn, ac y gallasai brofi yn waith mawr iddynt gymeryd yr awenau a hwythau mewn lleiafrif yn y Ty Cyffredin. Un peth yw bod mewn swydd, a pheth aral1 yw bod mewn grym ac awdurdod ac nid oes dim yn fwy dirmygedig na dyn mewn swydd heb allu ac awdurdod i'w gweini yn effeithiol. Anfonodd Mr Gladstone genad i Balmoral, lie yr oedd y Frenines ar y pryd, i hysbysu yr amgylchiadau, a gosod ei ymddi- swyddiad ef a'i Weinyddiaeth yn ei llaw. Derbyniodd hithau yr ymddiswyddiad ar unwaith, Yr oeddid yn meddwl, gan fod y Weinyddiaeth wedi ei gorchfygu dan y fath amgylchiadau, a hithau yn gwybod eu bod â mwyafrif mawr tuol iddynt yn y Ty serch iddynt golli y bleidlais ar y Gyllideb, yr anfonai am Mr Gladstone, gan geisio ei berswadio i adfeddwl am y peth. Nid felly, ond gyda brys anweddus derbyniodd yr ymddiswyddiad. Dyma un prawf ychwanegol o'i drwgdeimlad tuag at ddewis-ddyn y bobl, a gall fod yn bur dawel ei meddwl nad anghofir ei hymddvgiad tra bydd hi byw, a dyweyd y lleiaf. Yn 1880, pan gafodd Mr Gladstone y fath fwyafrif aruthrol, bu hi yn hwyrfrydig iawn i anfon am dano i'w benodi yn Brifweiniclog: Cymharer y brys i dderbyn ei ymddiswyddiad yn awr a'r hwyrfrydigrwydd i'w benodi i'r swydd, ae ymddengys ei hymddygiad yn annoeth, a dyweyd y lleiaf. Hwyrach nas gellir ei beio, am fod ei ehydymdeimlad yn fwy A- un blaid na'r llall. Byddai yn anmhosibl iddi fod fel arall tra fyddo pleidiau yn bod, ond gellid dysgwyl iddi beidio dangos ei chydymdeimlad mor eglur a mynych; a gwaeth na'r cwbl, dengys ei drwgdeimlad at berson neillduol. Pe gwybyddai yr oli, efe yw gwir frenin y wlad, er mai ar ei phen hi y mae y goron. Oer iawn fydd teimlad Rhyddfrydwyr tuag ati bellach o angenrheidrwydd, ac iddi ei hun y mae ganddi ddiolch am hyny. Mae terfyn ar oddefgarweu y rhai mwyaf teyrngarol ohonom. GALW AM SALISBURY. Nid cynt y derbyniodd y Frenines ymddi- swyddiad Gladstone nag yr anfonodd am Salisbury i edrych beth a fcdrai ofe wneyd. Wedi ymgynghori a rhai o'r Toriaid, cychwyn- odd yntau i'w daith bell, oblegid mae Balmoral yn licheldiroedd Ysgotland. Anffodus iawn ydoedd fod Ei Mawrhydi yn dygwydd bod mor bell o dan y fath amgylchiadau, ac ofnid unwaith mai aros yno a wnaethai, gan beri trwy hyny drallerth ddiangenrhaid ond y mae wedi dychwelyd erbyn hyn. i Windsor. Mae yrt debyg fod Salisbury a hithau wedi myned dros yr helynt, ac ymadawodd ef i gael ymgynghori yn mhellach a'i gyfeillion; ond gyda'i fod yn ymadael, ymddangosodd hysbysiad yn y Court Circular ei fod wedi derbyn y swydd. Sicrheir ar awdurdod go dda na tharawyd neb a mwy o syndod pan ddaeth yr hysbysiad allan na'r I Ardalydd ei hun, a dyma brawf arall o frys El Mawrhydi i gael gwared llwyr o Mr Gladstone