Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

CYFNEWIDIAD Y LLYWODRAETH.

News
Cite
Share

CYFNEWIDIAD Y LLYW- ODRAETH. MAE bellach yn ffaith adnabyddus trwy'r byd gwareiddiedig fod Gweinyddiaeth gref Mr GLADSTONE wedi ymddiswyddo, a'r awenau wedi disgyn i ddwylaw Arglwydd SALISBURY. Yr oedd gan Mr GLADSTONE Weinyddiaeth alluog a chref—Gweinydd- iaeth wedi enill ymddiriedaeth lwyraf Rhyddfrydwyr y genedl, ac o'r tucefn iddo yr oedd digon o fwyafrif i gario pob peth yn erbyn y Toriaid a'r Parnelliaid, ac nid oedd y mwyafrif hwnw wedi myned yn llai nag ydoedd yn 1880. Cyfarfu ag amgylchiadau tramor eitbriadol o ddyryslyd a chyffrous, ae ymgymerodd a dwyn i fewn fesurau o welliant cartrefol nas gallasai neb ond gwladweinydd o'r radd flaenaf ryfygu eu gwynebu ac ymgymeryd a bwynt; ond yn Inhob amgylchiad profodd ei bun yn ber- flaith feistr ar y sefyllfa. Er mor boblog- aidd oedd, ac mor ddyfned yn serch ac ym- ddiriedaeth mwyafrif mawr y wlad yn 1880, ni fu erioed yn fwy felly nag ydoedd pan drodd mwyafrif y Ty yn ei erbyn. Nid ots esboniad i'w gael ar y mater hwn ond art- ffyddlondeb yr aelodau hyny oeddent yn absenol ar y noson fythgofiadwy, nos Lun, Mebefin 8fed. Y noson hono, fel yr oedd yn wybyddus i bawb obonynt, dygodd Syr Michael Hicks-Beach ei welliant yn mlaeu yn erbyn darbodaeth y Gyllideb i osod toll ychwanegol ar ddiodydd meddwol a gwirod- ydd. Anfonodd y Whips at bob aelod yn hysbysu fod y mater yn un pwysig, a bod dymuniad taer am eu presenoldeb. Yn lie ufuddhau i'r alwad a dangos ffyddlondeb i'w plaid ac i'r Weinyddiaeth, ymgadwasant o'r Ty yn* gwbl, a bu ychydig ereill vn ddigon bradychlyd i bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth. Ystyriwn y rhai hyny yn ddyfnach mewn camwedd na'r rhai oeddynt yn absenol; nid am nad ydym yn caniatau i aelod ryddid i farnu drosto ei hun, ond Eiewn amgylchiad fel hwn, pan y mae tynged -Y y Llywodraeth yn troi arno, credwn fod ei ddyledswydd i'w etbolaeth, a'i rwymedig- aeth i'r Llywodraeth yr oedd wedi addaw ei Poleidio, yn hawlio iddo beidio pleidleisio o gwbl, os nad oedd yn gallu yn gydwybodol oleidleisio drosti. Rhwng y bradychwyr hyn a'r anffyddloniaid a arosasant gartref hebun rbwystr cyfreithlon ar eu ffordd, caf- odd y gelynion 12 o fwyafrif ar y Llywod. raeth. Mae eyfrifoldeb cwymp y Llywod- raeth yn gorphwys ar y ddau ddosbarth byn o'r aelodau Rhyddfrydig, a dylid yn yr eth- oliad nesaf eu galw i gyfrif, os nid cymhwyso atynt y gosb a haeddant, trwy eu troi o'r peilldu ac anfon ereill yn eu lie. Meddyl- lwyd ar y cyntaf y buasai Mr GLADSTONE, wedi ail-feddwl ac oeri ychydig, yn dal yn tnlaen hyd ddiwedd y tymbor, a gwnaed ymdrech mawr i byny gan y papyrau Rhyddfrydig, yn arbenig gan fod y mwyaf- rif nior ychydig. Ond nis gallasai ei syniad anrhydedd ganiatau iddo wneyd hyny, a thaflodd y canlyniadau ar y rhai oeddynt yn gyfrifol am y bleidlais. Gan fod mwyafrif y Ty Cyffredin presenol yn Rhyddfrydwyr, gallasai Mr GLADSTONE 8yda phriodoldeb gymeradwyo Arglwydd -PARTINGTON i'r FRENINES i ffurfio Gwein- yddiaeth. Ond gwell oedd ganddo ei gad- ael i wneyd yn ol ei hewyllys i anfon am y neb y mynai. Gwr ei dewisiad hi oedd Ar- glwydd SALISBURY, ac y mae efe wedi ym- glwydd SALISBURY, ac y mae efe wedi ym- gymeryd a'r gorchwyl o fftirfio Gweinydd- iaeth, a'r Senedd wedi ei gohirio hyd ddydd Gwener nesaf. Pwy fyddant aelodau ei Weinyddiaeth nis gwyddom yn awr, ond ni fydd raid aros yn hir cyn cael y dirgelweh. Yr anhawsder mawr ganddo fydd, nid pwy i'w alw i mewn, ond pwy i'w adael allan. Mae digon o ymgeiswyr awyddus am swydd i'w cael, beth bynag am eu cymhwvsder. Yn eu mysg enwir Due RICHMOND a GORDON, Arglwydd RANDOLPH CHURCHILL, Arglwydd CRANBROOK, Mr W. H. SMITH, Mr JAMES LOWTHER, Mr EDWARD GIBSON, Arglwydd CAERNARFON, Mr H. CHAPLIN, Mr J. E. GORST, Mr D. H. PLUNKET, Arglwydd J. MANNERS, Mr E. CLARKE, Q.C., Mr R. BOURKE, Mr H. C. RAIKES, Mr ASHMEAD-BARTLETT, &c Yn mysg yr enwau uchod y mae rhai sydd o dan eu creithiau oddiwrth ergydion trymion a dderbyniasant ami i dro oddiwrth Mr GLADSTONE. Ereill ydynt wedi bod yn brif boenwyr iddo am dymhor maith. Pwy bynag elwir i mewn, yr ydym yn dra sicr na adewir allan Arglwydd CHURCHILL. Mae Arglwydd SALISBURY yn bur debyg o gau ei enau ef trwy roddi iddo swydd o ryw fath, a'i gadwyno felly i ufudd-dod i Syr S. NORTHCOTE yn y Ty Cyffredin, yr hwn fydd arweinydd dyfodol y Ty am ryw dymhor. Gyda golwg ar y mesurau ddygir i mewn gan y Weinyddiaeth newydd, rhaid i ni fod yn bur gymedrol ein dysgwyliadau. Yn wir, nid ydym yn dysgwyl dim ond yr hyn fydd raid ei gael i gario yn mlaen lywodr- aeth a chynaliaeth y wlad hyd yr etholiad cyffredinol. Gwyddant fod y mwyafrif yn Rhyddfrydwyr, ac ofer fydd iddynt ddwyn i mewn fesurau o natur geidwadol tra y byddo cyfansoddiad y Ty fel y mae. Mae y mesurau diwygiadol, Estyniad yr Etholfraint a Mesur Ad-drefniad y Seddau wedi eu pasio gan Weinyddiaeth M r GLADSTONE, ac ni eheir gan y Toriaid ddim a fydd er lles i'r wlad. Gall- wn ganu yn iach am FeSur Addysg Ganol- raddol i Gymru, a llawer mesur arall oedd ar raglen yr hen Weinyddiaeth, a rhaid fydd i ni foddloni ar gael dim ond yr byn sydd raid mewn trefn i fyw rvwfodd. Hyn yn unig yw ein cysur, na phery ei thymhor ond dros amser byr, a byr iawn. Mae y tebygolrwydd hyd at sierwydd y cawn ethol- iad cyffredinol tua mis Tachwedd. Y pryd hwnw bydd dwy filiwn yn ychwaneg o etholwyr yn arfer y bleidlais, a hyny o blith dosbarth nad ydynt wedi enwogi eu hunain fel Toriaid. Os cafodd y Rhyddfrydwyr y fath fuddugoliaeth anrhydeddus, a'r fath fwyafrif mawr yn 1880, y mae pob sail i gredu y ceir gwell buddugoliaetb, a mwy o fwyafrif yn yr etholiad nesaf, pan y bydd pump yn lie tair miliwn yn arfer y bleidlais. Y pryd bwnw dysgwyliwn gyda phob byder y dychwel yr awenau i ddwylaw y Rhydd- frydwyr ac os na cheir Mr GLADSTONE yn barod i'w derbyn, bydd genym Arglwydd HARTINGTON yn barod ac yn gymhwys i'r gwaitb.

[No title]