Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
SARON, TREWILLIAM.
News
Cite
Share
SARON, TREWILLIAM. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONBDDIGION,—Dan y penawd uchod ymddatlffos- odd hysbysiad yn y TYST A'R DYlm diweddaf, Mehefin 3ydd, seffod cyfarfodydd urddiad J. Grawys Jones, 0 Goleg Caerfyrddin i gael eu cynal yn y lie uchod Gor- phenaf y 6ed a'r 7fed. Yr wyf yn dymuno dal ar y cyfleustra cyntaf i alw yr hysbvsiad uchod yn ol, oblegid i'r ysgrifenydd ei ddan- fon i'r newyddiadur yn ananosercl, heb ymgynghori yn derfynol S, mi ar y mater, ac yn hdlol heb fy nghan- iatad, na cbymaint a'm hysbysu ei fod yn gwneuthur. Nid ydyw yr urddiad i gymeryd lie fel yr hysbyswyd oherwydd rhesymau digonol. Yr eiddoch, &c., Presbyterian College, J. GRA.WYS JONES. Carmarthen.
YR YSGOL SABBOTHOL-
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
YR YSGOL SABBOTHOL- Y WERS RH YI\G WLA D WRIAETHO L. (International lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, TREFFYNON. MEH, M.—ArcboSeh-iadaeth Crist.— Heb ix. 1-12. TESTvN EURAIDD. Am hyny Efe addichon hefyd vn gwbl iachau y rhai trwyddo Efsydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy."—Heb. vii. 25. RHAGARWEINIOL. YN y benod hon y mae yr awdwr yn dechreu ar fater newvdd, sef traethn am y tabernacl cys:*or!ol, a holl ddefodau y gwasanaeth oedd yn perthyn iddo hyd adnol 11. Yna, by,l ddiwedd y benod, traetha am dabernael perffeithiach Crist, a rhagoriaeth ei aberth Ef ar yr holl abertbau oedd yn cael eu hoffrymu yn ngwas- anaeth y tabernacl gynt; a rhagoriaeth ei fynediad Ef i'r nefoedd unwaith trwy ei waed ei hun ar fynediad yr archoffeiriad unwaith bob "blwyddyn i'r cysegr sancteiddiolaf a, gwaed arall. ESBONIADOL. Adnod 1.—" Am byny yn wir yr ydoedd hefyd i'r tabernacl cyntif ddefodau gwasanaeth Dijw, a cliyspor bydol." Cyf. Diw., "Yn awr, yr oedd hyd vn nod i'r cyfamod cyntaf ordeiniadau gwasanaeth Dwyfol, a chysegr o'i eiddo, cysegr o'r byd hwn." Y mae yr awrlwr yn necbren y benod hon yn cymeryd i fyny y syniad a geir yn pen. viii. 5, lie y nodir am yr offeiriaid gynt en bod yn gwasanaethu i" esiampl a chysgody pethau nefol," yn ol gorchymyn pendant Duw i Moses. Ymhelaetha ar ddefodau a threfniadau y gwasanaeth hwn. Diau mai cyfamod cyntaf ydyw y darlleniad goren, fel yn y Cyf. Diw. Y mae rhyw ddefodau a rhasorfreintiau yn perthyn i bob cyfamod o eiddo Duw. Defodau, neu ordeiniadau. Trefniadau yn ol ewyllys a gorchymyn pendant Daw. Gwasanaeth Duw-gwasanaeth addoliad i Ddu v. Oysegr bydol- cysegr perthynol i'r byd hwn mewn cyferbyniad i'r cysegr nefol i'r hwn yr aeth Crist i me»n iddo. Adnod 2,—" Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur; y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canwyllbren, a'r bwrdd, a'r bara gosod yr hwn dabernacl a elwid, Y cysegr," Cyf. Diw., "Canys yr oedd tabernacl wedi ei barotoi y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canwyllbren, a'r bwrdd, a'r bara gosod, yr hwn a elwir, Y He sanct- aidd." "Yn y benod flaenorol, cyfeiria yr awdwr at orchymyn Duw i Moses i wneuthur y tabernacl a' yma, cyfeiria at y ffaith fod y gorchymyn hwnw wedi ei gwblhan. Y tabernacl, neu babell. Y cyntaf. Yr oedd y babell wedi ei rhanu i ddwy ran, sef y cysegr sanctaidd, a'r cysegr sancteiddiolaf y cyntaf a elwid y cysegr sanctaidd, yn yr hwn y byddai yr offeiriaid yn gweinyddn yn feunyddiol, aca amgylchynid a dwy Inn y gauadlen oedd yn gweinyddu rhyngddo a'r cyntedd oddiallan, a'r wahanlen yr hon oedd ;) n gwahanu y lie sanctaidd a'r lie sancteiddiolaf, Golygir yr ail ys- tafell gyntafyr äi yr archoffeiriad i mewn iddi ar ei fyf'ediad i'r sancteiddioiaf. Ynyr himiyr oeddy can- wyllbren. Am wneuthuriad y canwyllbren gwei Exod. xxv. 31-40, a xxxvii. 17-24. Yr oedd o aur pur, ac iddo saith o geinciau i ddal y goleuni i oleuo ar gyfer bwrdd y bara gosod, ac wedi ei guro a morthwyl yn un cyfanwaith. A'r bwrdd Ceir hanes gwneuthuriadjy bwrdd yn Exod. xxv. 23-29. Yr oedd o goe i Sittim, ac wedi ei wisgo fig aur, yn ddau gnfydd ei hyd, cufydd ei led, a chutydd a haner ei uchder. A'r bara gosod. Ary bwrdd hwn yr oedd deuddeg o deisenau, wedi eu gosod yn ddwy res, yn ol rbifedi deuddeg ilwyth meib- ion Israel. Dyma'r bara gesod, neu fara dangos am ei fod yn cael ei roddi ger b- on yr Arglwydd yn ei gysegr. Yr oedd i gael ei newid bob Sabboth, ac nid oedd y bwrdd i fod heb fara un amser. Y cysegr, neu y sanct- aidd. Adnod 3.—" Ac yn ol yr ail len, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cysegr saneteiddiolaf." Cyf. Diw,, Ae ar ol vr ail Ion, y tabernacl, yr hwn a elwir, Y sanctaidd sancteiddiolaf." Y tn ol i'r Hen oedd yn gwahanu rhwng y cysegr sanctaidd a'r cysegr sancteidd- iolaf. Gelwid yr ail len y wahanlen- Ceir hanes am ei defnyddian gwerthfawr, ac am ardderchogrwydd ei gwneuthnriad yn Exod. xxvi. 31-33. Y babell-neu y tabernacl, sef rhan arall o'r tabernac'. Yn y rhan hwn yr oedd yr arwyddion mwyaf neillduol a gogoneldus o bresenoldeb yr Arglwydd yn aros yn rnhlith ei bobl; yma yr oedd y goleuni dysglaer—y Sechina-yr hwn ni allai yr archoffeiriad e-rych arno Beg iddo gael ei orchuddio H mwg yr arogldarth. Adnod 4. Yn yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgvlch; yn yr hwn yr oedd y crochan aur a'r mana ynddo, a gwialen Aaron, yr hon a flayurasai, a llechau y cyfamod." Cyf. Diw., "A chanddo thuser aur.vn yr hon yr oedd crochan aur," &o. Thuser aur. Y rope yn debygol mai yr allor aur a olygir, ar yr hon y bvddid yn llosji yr arogldarth yn y lie sanctaidd. Ni ddywedir ei bod yn y sancteiddiolaf, ond yn perthyn i'r sancteiddiolaf, Ac arch y cyfamod. Cist fechan lie y cedwid dwy lech y cyfamod. Q/el Exod. xxv. 10-17. Yr oedd ei chauad o aur pur, yr hwn a elwid y drugareddfa, ac yn mhob pen iddi yr oedd cernb o aur pur, a'r ddau yn gwynebu eu gilydd, dan ledu eu hesgyll i fyny i or- chnddio y drugareddfa, ar yr hon yr oedd arwydd y presenoldeb Dwyfol yn gorphwys. Gelwid hi arch y cyfamod am ei bod yn arwydd o'r cyfamod rhwng Duw a'i bob}. Yn yr hon yr oedd y crochan aur"a'r vnanei ynddo. Mae yr hanes yn cael ei ro ldi yn helaeth am y mana \n Exod. xvi., ac am roddi Ilonaid omer ohono i gadw ger bron y dystiolaeth, er coffadwriaeth i ger- edlaethau Israel, Exod. xvi. 32-36. A gwialen Aaron, &c. Ceir hanes srwialen Aaron a'i blagur yn Num. xviL, arol i'r Arglwydd daro Corah, Dathan, ac Abiram. Yr opdd hwn yn gofgolofn o offeiriadaeth reolaidd. A Illechau y cyfamod, ar y rhai yr ysgrifenwyd gan yr Arglwydd ei hun y deg gair deddf, Exod. xxxiv. 1. Adnod 5.—" Ac uwch ei plien cerubiaid y gogoniant, yn cysgodi y drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan." Set uwchben yr arch, ar yr hon yr oedd y drugareddfa yn gauad. Mae yr banes am ddefnydd a gwneuthuriad y cerubiaid hyn, yn nghyda'r dull yr oeddynt yn sefyll ac yn cysgodi y dru- goreildfa, i'w gael yn helaetli yn Exod. xxv. Adnod 6.—" A'r pethau hyn wedi eu trefnn felly, i'r tabernacl cyntaf yr ai bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyfhwni gwasanaeth Duw." Cyf. Diw., Yn awr, a'r pethau hyn we i eu parotoi fel yma, i'r taber- nacl cyntaf yr a yn wastadol yr offeiriaid, yn cyflawni y gwasanaeth." Pethau hyn. Y pethau a nodwyd yn yr adnodau blaenorol amy babell, y cysegr sanctaidd, a'r cysejr sancteiddiolaf. Wrth y tabernacl cyntaf y golygir y cysegr sanctaidd, yr hwn oedd rhwng y can- adleu a'r wahanlen. Yr a yn wastadol yr offeiriaid, sef bob dydJ, i gyfhwni y gwasanaeth. Yr oedd gan yr offeiriaid ddau orchwyl i'w gyflawni y boreu a'r hwyr bob dydd yn y cysegr, sef arogldarthu a thrwsio y lampau, yn nghydag unwaith bob boreu Sabboth i iiewid y bara ar fwrdd y bara gosod. Adnod 7. Ac i'r all, unwaith bob blwyddvn yr ai yr archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto ei hun, a thros anwybodaeth y bobl." Cyf. Diw., Eithr i'r ail, unwaith bob blwvdd- yn yr ai vr archotieiriad yn nnig; nid heb waed, yr hwn a offryma efe drosto ei hun a thros gamwe ldau y bob]." I'r ail—i'r cysegr sancteiddiolaf. Unwaith bob bltvyddyn. Mewn cyferbyniad i'r offeiriaid ereill yn myned b b dydd i'r cysegr sanctaidd, äi yr arch- offeiriad i fewn i'r cysegr sancteiddiolaf ar y degfed dydd o'r seithfed mis, sef dydd y cymod. Nid heb waed. Gan nad oedd yr archoffeiriad yn rhydd oddi- wrth bechod. Yr hwn a offrymai efe drosto ei hun. Gwaed y bustach. A thros anwybodaeth y bobl. Gwa,ed bwch y pech-aberth. Am wasanaeth yr arch- offeiriad ar wyl y cymod, gwel Lef. xvi. Adnod 8.—" A'r YsbrydGlan yn hysbysn hyn, nad oedd y ffordd i'r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai y tabernacl cyntaf yn sefytt." Cyf. Diw., "Nad ydvw y ffordd i'r lie sanctaidd we li ei hamlysu eto, tra y mae y tabernacl cyntaf eto yn sefyll." Yn hysbysu hyn-neu trwy hyn, sef nad oedd neb ond yr arcbotfeiriad i fyned i'r sancteiddiolaf. Y ffordd i'r cysegr-ffordd i'r Archoffeiriad mawr i fyned i'r gwir gysegr, sef y nefoedd. Yn agored—neu yn fwy priodol, wedi ei hamlygu eto. Tra fyddai y tabernacl cyntaf yn sefyll. Wrth y tabernacl yn y fan hon y golygiryr holl wasanaeth Iuddewig. "Tn yr oedd hwnw yn sefyll, nis gallai ond yr archoffeiriad fyned i mewn i'r sancteiddiolaf. Nid oedd ffordd wedi ei hagor i'r genedl fyned i mewn. Yr oedd ei fynediad ef yn eu can hwy allan, ac yr oedd yn rhaid i hyny fod tra y parba-i gwasanaeth y tabernacl cyntaf. Nid oedd yr archoffeiriad Iuddewig yn abl i lawn sylwe,idoli drych. feddwl y swydd, sef gwneuthur ffordd i'r sancteidd- iolaf. Myned yno ei hunao yn unig yr oeld dros y genedl. Yn hyn yr oedd yn arwyddlun nad oedd yr archoffeiriad gwirioneddol eto wedi ymddangos, i agor y ffordd, trwy fyned ei hun, i ereill hefyd fyned i'r cysegr trwyddo ef." Adnod 9.—" Yr hwn ydoedd gyfFelybiaeth dros yr amser presenol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai r.i allent o ran cydwybod berffeithio yr addolydd." Cyf. Diw., "Yr hyn sydd ddameg am yr amser sydd yn awr yn bresenol, yn ol yr hwn yr offrymir rhoddion," &c. Nid oedd y tabernacl, yn nghyda'i ddodrefo a'i wasanaeth, ond arddangosiad damegol o syfnndrefn inwy ysbrydol. Am yr amser sydd yn awr yn bresenol, &(; sef goruchwyliaeth yr Efengyl. Rhoddion ac aberthau. Yr oil oedd yn myned trwy law yr offeiriaid yn offrymau i'r Ar- glwydd. Y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio yr addolycld. Nid oedd yn yr holl offrymau a'r aberthau Iuddewig un rhinweld i buro cydwybod neb, trwy symud ymaith yr enogrwydJ na glanhau oddiwrth yr halogrwydd. Adnod 10. Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwyd. ydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodan cnawdol, wedi en gosod arnynt hyd amser y diwygiad." Cyf. Diw., "Gan nad ydynt (gyda bwydydd, a diod- ydd, ac amryfal olchiadau) ond ordeiniadau cnawdol yn unig, wedi eu gosod hyd amser diwygiad." Y mae y Cyf, Diw, vn gosod allan y meddwl yn llawer gwell na'r hen. Gan 1tad ydynt, sef yr offrymau a'r rhodd- ion, gyda'r bwydydd, a diodydd, ac amryfal olchiadau oedd yn perthyn i'r gwasanaeth, ond ordeiniadau cnawdol, sef perthynol i'r cnawd mewn cyferbyniad i'r ysbryd.. Amser y diwygiad, neu amser adgyfodiad- rhoddi y syhvedd yn lie y cysgod. Golygir amser ym- ddangosiad Crist. Adnod 11.—" Eithr Crist, wedi dyfod yn archoffeir- iad y daionus bethau a fyddent,. trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith lIaw, hyny yw, nid o'r adeil- adaeth yma." Cyf. Diw., "■ Y daionus bethau a <yddant trwy y taberuact mwy a pherffeithiach, nid o waith Haw, hyny yw, nid o'r greadigaeth hon. Eithr, mewn cyferbyniad i'r hyn oedd gysgodol ac aneffdth. iol. Gelwir bendifnion offeiriadaeth Crist y daionus bethau i ddyfod oherwydd eu rbagoriaeth yn eu natur a'u parhad ar y pethau oedd Israel gynt yn eu derbyn dan offeiriadaeth Lefi, A fyddant. Y maent yn eu cyflawnc^er llawnaf yn ddyfodol, ac ni bydd diwedd ar barhad eu dyfodiad i drhgywyddoldeb. Trwy daber- nacl mwy a pherffeithiach. Golygir ei natur ddynol. Trwy y natur ddynol fe aeth Crist i'r nef ei hun at y Tad. Yr oedd y tabernacl hwn yn fwy mewn urddas a gwertb, ac yn berffeithiach, ga.n ei fod yn llanw ei ddrychfeddwl yn well na'r cysegr sanctaidd; nid 0 waith Haw dynion, fel y tabernacl gynt. Adnod 12.—"Nid chwaith trwy waed geifr a Hoi, eithr trwy ei waed ei bun, a aeth unwaith i mewn i'r cysegr, gan gael i ni dragywyddol ryddhad." Cyf. Diw., Na chwaith trwy wao I goifr a Hoi, eithr trwy ei waed ei bUD, a aeth unwaith am byth i mewn i'r lie sanctaidd, wedi cael i ni dragywyddol ryddhad." Trwy ei waed ei hun. Yr hwn a dywalltwyd mewn ffordd aberthol yn union fel y tywelltid gwaed geifr a lloi dan y gyfraith. I'r cysegr—j nefoedd. Unwaith am byth mewn cyferbyniad i fynediad yr archoffeiriad i'r sancteiddiolaf unwaith bob blwyddyn. Tragy- wyddol ryddhad. Gwaredigaeth oddiwrth bechod a'i ganlyniadau. mewn cyferbyniad i ryddhad amserol a seremonïol dan y gyfraitb. GWERSI. Pethau cysgodol, i arwain meddyliau yr Inddewon at Grist, oedd y tabernacl, a holl ddefodau y gwasanaeth oedd yn perthyn iddo, ae nid oedd yr holl fwyd- olfrynnau, yn nghyda'r holl olchiadau Iuddewig, yn meddn un peth ynddynt eu hunain ag oedd yn ddigonol i berffeithio eydwybod yr addolwr. Y mae bendithion yr Efenayt mor anhraethol dda- ionus, fel na welodd Crist, ein Hiachawdwr, yn ormod i gymeryd arno y swydd offeiriadol, fel y gallai, trwy roddi ei hun yn abertb, gael ffordd rydd i'w cyfranu i bawb sydd yn gweithredu ffrdd ynddo. Gan mai unwaith yr aeth Crist i mewn i'r nef, i gael traivwyddol ryddhad i'w bobl, y mae yn amlwg ei fod yn tra ragori ar yr holl archoffeiriaid dan y gyfraith, y rhai er eu myned i mewn bob blwyddyn i'r cysegr sancteiddiolaf, ni fedrent gael i Israel ond rhyddhad amsero! a seremon'iol. Y mae y rhyddhad y mae Crist yn ei roddi yn rhyddhad tragywyddol, ac nichaiff neb a ymddiriedant ynddo fyned i golledigaetb. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Pa beth a olygir wrth y "taberno.cl cyntaf" yn adn 1 ? Beth ydyw cysylltiad yr adnod hon ? 2. Pa beth a olygir wrth y tabernacl" yn adn. 2 ? Eglurwch yr hyn a olygir wrth y cyntaf," a pha ddodrefn a enwir fel yn perthyn iddo, a pha beth y gelwi i ef ? 3. Po. le yr oedd y cysegr sancteiddiolaf p Pa ddod- refn oedd ynddo ? Yn mha le yr oedd y thuser aur ? 4. Eglurwch ddefodau gwasanaeth y cysegr. 5. Pa sawl gwaith yr ai yr archoffeiriad i'r sanct- eiddiolaf? Eglurwch ddull ei fynediad. 6. Cyffelybiaeth o beth oodd y tabernacl Iuddewig a'i wasanaeth ? 7. Yn mha ystyr y mae Crist yn archoffciriad ? 8. Dangoswch pa fodd y mae yn rhagoiri ar yr arch-" offeiriaid dan y gyfraith.
URDDIAD MR J. MATTHEW HENRY…
News
Cite
Share
URDDIAD MR J. MATTHEW HENRY YN BETHEL, LLANTRISANT. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONBDDIGION,—Caniatewch i mi linell neu ddwy i alw sylw at yr Hysbysiad uchod a welir yn y TYST A'B DYDD am yr wythnos ddiweddaf. Fy enw i sydd wrtho, ond ni wyddwn ddim am dano hyd nes ei weled yn y TYST, ac nid yw yr eglwys ychwaith yn gwybod dim am dano, felly bydded i bawb edrych ar y cyfryw HjsbyS" iad fel un celwyddog. Yr eiddoch, &c., THOMAS DNRBOCKS. O.Y.-Ar ol bod yn Sw yddfa'r TYST yn cael golwg Kr y llaw-ysgrif, yr wyf yn lied sicr yn fy meddwl fy hun pwy yw yr ysgrifenydd, a dylasai y brawd wrido am gymeryd y fath hyfd a a rhyddi i. Heblaw hyny, y mae wedi gosod ei hun yn adored i gosb am ffugio fy enw i wrth yr Hysbysiad.-T. D.
Advertising
Advertising
Cite
Share
"GREEN MOUNTAIN ASTHMA CUBE —• Anfonir tiaiau bycliain yn rhydd trwy y Iivthvrdv am 13 2c.' F. NEWBERY, a'i FEIlilON, i.iKiug SldwiSGSreS™ Llundain. ¡ Sefydlwyd yn y tiwyddyii 1746.