Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG.
News
Cite
Share
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. ADDAWSOM yr wythnos ddiweddaf ddychwel- yd at y cyfarfodydd hyn, er mai prin y mae hyny yn angenrbeidiol ar ol yr adroddiad llawn a geir yn ein colofnau. Pa fodd bynag, gallwn ddyweyd i'r cyfarfodydd bar- hau byd y diwedd, fel y dechreuasant, yn llwyddiant bollol. Yr oedd Cyllid yr Eglwys, ar yr hyn y darllenwyd papyr yn y prydnawn gan y Parch R. W. GRIFFITH, yn un y dysgwylid cryn amrywiaeth barn arno, gan fod gwahanol gynlluniau yn cael eu defn- yddio gan eglwysi i godi arian. Yr oedd papyr Mr GRIFFITH, fel y gallesid dysgwyl, onodwedd.hollol Buritanaidd, ac ni fynai ddefnyddio unrhyw foddion at dalu dyledion capeli na chynal yr achos y byddai lle i unrhyw ddadl am eu cyfreithlondeb. Yr oedd y Parchn D. WILLIAMS, Maenclochog, a J. R. THOMAS, Bethesda, y rhai oedd yn cynyg ac yn cefnogi penderfyniad ar y mater, yn synied yr un fath. Ni fynent ddisgyn at na Bazaar nac Art Union, nac unrhyw beth yr oedd dim byd yn debyg i hap-chwareu yn ngtyn ag ef er talu dyledion. Ni chredent fod dim mor anrhydeddus na dim yn deilwng o'r egwyddor wirfoddol ond offrwm pob gwr ewyllysgar ei galon. Amlwg oedd fod teimlad y cyfarfod yn rhedeg yn gryf yr un nbrdd ac er fod yno rai brodyr, fel yr ym- ddengys, wedi ymhalogi trwy rai o'r pethau gwabarddedig, eto cawsant ras i .fod yn ddystaw, fel na wybu ond ycbydig am eu heuogrwydd. Ar yr un pryd, nid ydym heb dybied fod rhai o'r ymadroddion a lefarwyd yn rhy ysgubol, ac, o bosibl, yn rhy lym yn eu condemniad ar bob dull a ddefnyddir i godi arian, ac heb wahaniaeth rhwng y pethau y mae gwahaniaeth rhyngddynt. Nis gall brodyr sydd yn llafuno mewn hen eglwysi, gyda phobi gymharol glyd eu ham- gylchiadau, fyned i mewn i brofiad y rhai sydd yn llafurio mewn lleoedd by chain, ac yn mysg cynulleidfa o weithwyr, y rhai nas gallant roddi llawer ar y pryd. Rhwydd addefwn mai offrwm gwirfoddol yn union- gyrchol o'r Haw yw ymwyaf cymeradwy gan Dduw a dynion; ond pan y mae beichiau yn llethu y mae eglwysi yn gorfod gwneyd llawer o bethau y byddai yu dda ganddynt beidio, ond yn cydffurfio a hwy am y credant nad ydynt yn bechadurus. Yr hyn a gon- demnid yn fwyaf cyffredinol ydoedd hap- chwareuaeth a rafflo, ac yn sier nid oes unrhyw amddiffyniad i'w wneyd iddynt, nac unrhyw beth a all eu cyfiawnhau. Mae syrthio iddynt o dan ryw brofedigaeth yn ddigon drwg, ond y mae eu hamddiffyn yn waeth fytb, ac os na ellir cael Bazaar neu Sale. of ivorJc yn llwyddianus hebddynt, y mae pob anrhydedd a chrefydd yn galw am eu rhoddi i fyny. Mae gwneyd elw o ddar- lithiau, a chyngerddau, a tea parties yn hollol wahanol, ac nis gallwn weled fod ynddynt ddim yn bechadurus, er ein bod yn mhell o feddwl eu bod y ffurf uchaf ar haelioni cref- yddol. Nid ydym yn sicr fod cyhoeddi ad- roddiadau a chadw cyfrif o roddion pob un yn deilwng o'r ffurf uchaf ar baelioni-y ffurf hono a ddysgwyd gan yr Hwn a ddy- wedodd, Na wyped dy law aswy pa beth, a wna dy law ddeheu;" ond ofnwn mai ychydig eto yn ein heglwysi sydd wedi cyrbaedd y tir ysbrydoX-hwnw mewn crefydd. Gwreiddyn yr holL helbul yma ydyw fod eglwysi yn codi GSfieli uwchlaw eu gallu, ac uwcblaw eu hangen. Camgymeriad dybryd ydyw tybied fod pob capel a godir yn hejaethiad ar yr achos gwanychdod, ac nid cryfhad, i grefydd fu eu codiad, ac y mae lluaws o gapeli yr oedd gwir angen am danynt wedi eu codi yn llawer rhy gostus. Mae yn llawn bryd i rywrai godi eu llais yn erbyn yr afradedd yma. Mae gormod o lawer o nerth haelioni pob enwad yn ein gwlad yn myned i dalu am goed a cheryg, ac nid yw swm yr arian a delir i'r rhai sydd yn llafurio yn llawer o'n capeli yn deilwng o'r draul anferth yr aed iddi i'w hadeiladu. Dygwyd Mesur Addysg Ganolraddol ger bron yn y Gynadledd brydnawnol, a datgan- wyd barn y rhai oedd yn breaenol arno mewn modd diamwys. Mae yn syn genym fod rhai o'n baelodau Seneddol, a rhai o arwein- wyr addysg yn ein gwlad wedi llefaru mor gymeradwyol am dano. Nid oes ond un o ddau reswm i'w roddi am hyny. Nid ydynt yn deall y mesur, neu yntau nid ydynt yn deall Cyrnru. Mae Adran y burned syddyn dynodi cyfansoddiad y Pwyllgor Sirol yn hollol anfoddhaol. Paham y rhoddir y fath bawl i Fyrddau Ieebyd, ac y cauir allan y Colegau Cenedlaethol ? Paham y rboddir yr awdurdod i Gadeirwyr ac Is-gadeirwyr y Byrddau Ysgol, ac nid i'r holl fyrddau, neu rywrai a etholir gan yr holl fyiddau ? Ac uwcblaw y cwbl, paham y rboddir i'r Ynadon, y rhai nad ydynt yn cynrycbioli neb, ac yn gwbl anghyfrifol, ac yn Nghymru gan mwy- af yn Eglwyswyr ac yn Doriaid-pahaw, gofynwn, y rhoddir iddynt hwy y fath aw- durdod ? Mae y mesur, tra yn proffesu ei fod yn seiliedig ar yr egwyddor o gynrych- iolaeth, yn gwneyd fod y gynrychiolaeth yn mhob engraifft yn anuniongyrchol, ac nid yn uniongyrchol, beblaw fod rhai o'r cyrff y rhoddir yr awdurdod iddynt yn hollol anghymhwys i'r gwaith. Mae yn dda genym fod yr Undeb wedi datgan ei farn mor groew arno, a bod cyrff crefyddol ereill wedi gwneyd yr un peth, a dylem fynu i'n llais gael ei glywed. Daeth arnom yr hyn a fawr ofnem o'r dechreuad, sef y dygid y mesur yn mlaen yn hwyr yr eisteddiad, ac y ceisid ei wthio drwodd cyn i'r wlad gael hamdden i osod ei barn arno. Ni ddylai ofn drygu y mesur beri i ni fod yn ddystaw, oblegid gwell i ni iddo fethu, a'i daflu i'r Senedd newydd, na'i dderbyn fel y mae j ond nid
't' Cynwysiad.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
't' Cynwysiad. Hysbysiadau 1,2 Ytnylon v Ffordd 3 Undeb yr Annibynwyr Cymreig .4, 5, 6, 7 At ein Gohebwyr-Yr Wythnos 8 Y BRIF ERTHYGL- Undeb yr Annibynwyr Cymreig 8 Ymddiswyddiad y Weinyddiaeth—Y Scnedd Ym- herodNl-Gideoo, sir Peofro-Blaenafan 9 Yr Undeb (parhad) 10,11 Cyfarfodydd 11 Y Wers Rhyngwladwriaethol—Gohebiaethau 12 Cymdeithas Rhyddfrydol Merthyr-Galwaõan 13 li.ysbysiadau 13,14,15,16
"AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Yn herwydd meithder adroddiad cvfarfodydd yr Undeb yn ein rhifyn hwn eto, mae llnaws o ysgrifan ac hanesion wedi eu can allan, er fod rhai ohonynt wedi en cysodi. Gwnawn ein goreu iddynt ym- ddangos yr wythnos nesaf.
Advertising
Advertising
Cite
Share
"BYWYD GEORGE MULLER," Sylfaenydd drwy ffydd a gweddi y Tai i 2,050 o Amddifaid, Bryste. Pris 6c., gyda'r post 61c., neu 10 am 4s. 6e. Blaenddl. I'w gael gan y Cyfieithydd- J. P. JONES, Caerwent House, Bridgend, Glamorganshire.
YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
YR WYTHNOS. Y BARNWR B. T. WILLIAMS, Q.C.— Ymddengys fod Registrar Abertawy (Mr Home) wedi derbyn hysbysrwydd oddiwrth yr Arglwydd Ganghellydd fod Mr B. T. Williams, Q.C., wedi ymddiswyddo. Hefyd, fod Mr Benson wedi ei benodi yn ei le fel Barnwr y County Court yn Morganwg a Brycheiniog am y mis hwn. Y W EINYDDIAETH.-Am 2 o'r gloch, dydd Llun, cyfarfu holl aelodau y Weinydd- iaeth yn Downing-street, ac eisteddasant am ddwy awr. Daeth Iarll Spencer o'r Iwerdd- on o bwrpas i'r cyfarfod, ac yr oedd dysgwyliad pryderus am y canlyniadau. Mae y Crimes Act a'i thymhor i ben, a barn a y Rhaglaw nad yw yr lwerddon eto mewn cyflwr i'w gadael heb rywbetb yn debyg iddi. Deallwn fod y prif bwyntiau mewn mesur yn ei lie wedi eu penderfynu, gan fod Mr Chamberlain a Syr C. Dilke am ei dileu, ac felly nad yw yn debyg y cymer y rhwyg Ie, yr hwn a fawr obeithiai y Toriaid am dano. SYR PETER LUMSDEN.-Cyrbaeddodd y boneddwr a'r cadfridog hwn Lundain am 6 o'r gloch, nos Sadwrn diweddaf, yn nghwmni ei wraig a Mr C. Stephens. Yr oedd nifer luosogo foneddigion yn ei groesawu, a thorf fawr o edrychwyr y tuallan i'r orsaf. Rhoddwyd iddo groesaw tywysogaidd. Gwyr y darllenwyr mai achlysur ei ddyfodiad yn ol o Afghanistan yw yr anghydgordiad oedd rhwng ei adroddiad ef o'r amgylcbiadau a arweiniasant i'r gwrthdarawiad o flaen Penjdeh, ag eiddo Cadfridog Komaroffo du y Rwsiaid. A chan fod y mater wedi ei gyflwyno i gyflafareddiad, barnodd y Llyw- odraetb yn ddoeth i'w alw yn ei ol i gael rhoddi ei dystiolaeth o flaen y cyflafareddwr. Y MESUR ADDYSG.-Mae y mesur a ddygwyd o flaen y Senedd gan Mr Mundella i ddarparu addysg ganolraddol i Gymru wedi bod o flaen y wlad am ysbaid bellach, ac wedi ei feirniadu gan bob plaid yn ddi- wahaniaeth. Mae y Toriaid wedi bod yn dyner ohono, heb weled ynddo ddim i'w feid, os nad ydyw yn rby haelfrydig tuag at yr Anghydffurfwyr; ond o'r ochr arall, y mae yr Anghydffurfwyr wedi uno ag un lief i'w gondemnio mewn llawer o bwyntiau fel un anghymhwys i genedl sydd mor Anghyd- ffurfiol. Mae ei holl ddiffygion wedi eu nodi allan, fel nas gall Mr Mundella ym- esgusodi o dan gochl anwybodaeth. Credwn hefyd fod yr aelodau Cymreig wedi talu sylw i'r cwynion yn erbyn y mesur sydd wedi eu cyrhaedd o'r gwahanol etholaetbau. Pan ddyg Mr Mundella y mesur i mewn i'w ail ddarllen, oni fydd wedi cymeryd gwers, a mabwysiadu y gwelliantau awgrymwyd iddo, dysgwylir'y cyfyd yr aelodau Cymreig eu lief, ac na oddefant iddo basio y pwyllgor heb iddynt sicrhau y prif welliantau, a dyweyd y lleiaf. Gwyddom nad yw pawb phonynt, o ran eu golygiadau crefyddol, yn gynrychiolwyr teg o'r genedl, ond y mae hwn yn bwnc o addysg cenedlaethol, heb adnabod neb yn ol ei olygiadau crefyddol, ac nid gormod yw dysgwyl iddynt gyduno a'r lleill i fwrw allan y cwestiwn crefyddol yn hollol. Mae yr aelodau Seneddol wedi eu hanfon i fyny i gynrychioli yr ethol- aethau, ac oni wnant ar gwestiwn y mae yr etholaethau wedi traethu eu barn yn amserol, ofnwn mai nid dymunol fydd eu cyfarfyddiad a hwynt yn yr etholiad sydd yn yr ymyl. Mae yn bryd i Gymru godi ei llef yn y mater hwn, ac y mae yn haeddu cael mesur fydd yn ateb ei neillduolion.