Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

UtilDEB YR ANNIBYNWYR CTMEEIG.

News
Cite
Share

yr athrawiaeth am y Groes. Mae diffyg mewn credo yn rhwym o gynyrchu diffyg mewn bywyd. Gweitbio allan eu credoau y mae dynion yn eu bucheddau. Newid credo Efa wnaeth y sarff i newid ei buchedd. Yr un person oedd Saul o Tarsus a Phaul yr apostol, ond yr oedd cryn wahaniaetb rhwng ei ymarweddiad tra yn Saul a'i ymarweddiad fel Paul. Yr oedd yn gablwr, yn erlidiwr, ac yn drahaus tra yn myned i Damascus, end wedi newid ei gredo ar y ffordd newidiodd gwrs ei fywyd. 0 hyn allan yr oedd yn y byd, ond nid ohono; yn rhodio nid yn ol y cnawd eitbr yn ol yr ysbryd. Mae credo ddrwg yn arwain i fywyd llygredig, a chredo dda yn arwain i fywyd pur. Am hyny, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd rinwedd, at rinwedd wybodaeth, at wybodaeth* gymedroldeb, at gymedroldeb amynedd, ac at amynedd dduwiol- deb, ac at dduwioldeb garedigrwydd brawdol, ac at garedigrwydd brawdol gariad; canys os yw y pethau hyn genych, ac yn ami hwynt, y maent yn peri na byddwch segur na diffrwyth yn ngwybod- aeth ein Harglwydd Iesu Grist. Oherwydd pa- ham yn hytrach, frodyr, byddwch yn ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sicr canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragy- wyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist," 2 Pedr i. 5-11. Eiliwyd y penderfyniad gan y Parch J. Machreth Rees, Pentrefoelas, yr hwn a ddy- wedai:— Y mae yn ddiamheu fod cydsyniad a chydym- deimlad mwyaf trwyadl y cyfarfod hwn nid yn unig gyda gosodiadau y papyr gwerthfawr a ddar- llenwyd, ond hefyd gyda'r casgliadau yr arweinia yr ymdriniad-yn naturiol iddynt, y rhai sydd wedi eu corffori yn y penderfyniad a osodwyd eisoes ger -bron. Fe gydnabyddir gan bron bob dysgawdwr yn y dyddiau hyn fod yr Efengyl yn dal i fyny y safon uchaf o foesoldeb. Nis gall Amheuwyr a Rhesymolwyr lai nag edmygu cymeriad Iesu o Nazareth, fel y mae yn cael ei bortreiadu yn y Testament Newydd. Ystyrir ef yn gorfforiad perffaith o bob rbinwedd a daioni. Nid oes un "Normal Teacher nad yw yn barod i addef fod y bregeth ar y Mynydd yn llenwi ei ideal uchaf o'r hyn a ddylai dysgeidiaeth foesol fod. Ac y mae deunaw canrif yn dwyn tystiolaeth mai y dynion sydd wedi llwyddo i gyrhaedd agosaf i'r safon Ysgrytbyrol fu y dynion mwyaf dedwydd, y dyn- ion mwyaf gwasanaethgar i gymdeitbas, y dynion y teimlwyd y golled fwyaf ar eu hoi ac yr amlyg- wyd y parch dyfnaf i'w coffadwriaeth. Ond y mae lluaws o ysgrifenwyr tra yn cydnabod rhagoriaeth moesoldeb yr Efengyl, yn taflu hyny allant o ddi- ystyrwch ar ei hathrawiaethau. 0 bob cangen o wybodaeth, Duwinyddiaeth sydd yn cael ei dir- mygu fwyaf gan ysgrifenwyr doniol o ddosbarth Mr Matthew Arnold. Sonir am dani dan yr enwau Theological Speculations of St. Paul," Meta- physical Abstractions," "A String of Metaphys- ical propositions conceived in a scholastic brain and put into scholastic phraseology." A gwneir hyn gan ddynion sydd ynawyddus, meddanthwy, am weled Cristionogion yn efelychu mwy ar "sullime morality y bregeth ar y mynydd. Ac nid oes genyin un hawl i amheu nad ydynt yn onest pan yn dyweyd yr ewyllysient weled y moes- oldeb uchaf yn cael ei ymarfer. Ond y casgliad naturiol oddiwrth y papyr a wrandawsom ydyw, eu bod drwy anmharchu gwirioneddau athraw- iaethol Cristionogaeth yn gwneyd y gwaith mwyaf effeithiol i rwystro byny. Nid oes yr un dylanwad yn ddigon cryf i gynyrchu cymeriadau rhinweddol a daionus-cymeriadau na fynant ymostwng at weithredoedd iselwael ac anheilwng-cymeriadau digon cryfion i orchfygu hudoliaethau y presenol a'r daearol—cymeriadau digon hunanymwadol i aberthu eu hunain er lies cymdeithas-beblaw dy- lanwad crediniaeth ddiysgog yn athrawiaethau sylfaenol yr Efengyl. 0 leiaf, dyna farn loan, ac y mae ef yn awdurdod er ei fod yn gryn theolo- gical speculator" "Pwy yw yr hwn sydd. yn gorchfygu y byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw F" Ac y mae y gosodiad wedi ei wireddu yn hanes loan ei hunan. Cwestiwn sydd yn deilwng o sylw ydyw, Beth yw safle bres- enol crefyddwyr Cymru yn eu perthynas ath- rawiaethau yr Efengyl ar y naill law, ac a moes- oldeb ar y 11aw arall. Nid wyf yn teimlo y gallaf siarad yn bendant, ond ofnaf ein bod yn dirywio yn nglyn a'r naill a'r Hall. Ofer i ni gau ein llygaid ar y ffaith fod i lenyddiaeth amheuol Lloegr ledaeniad mawr yn y Dy wysogaeth, a bod ei dylanwad yn lefeinio hyd yn nod cylchoedd cref/ddol ein gwlad. Effeithia, yn anymwybodol i ni efallai, hyd yn nod ar ein pwlpudau. Ai nid yw pregeth gref, athrawiaethol, yn llawer mwy dyeithr nag y bu i luaws o'n cynulleidfaoedd P A phan y traddodir un felly iddynt ceir ar ddeall yn fuan nad yw yn boblogaidd. Gwrandewir arni gyda graddau helaeth o ddifrawder a difaterwcb, a bydd yn lied sicr o gael ei bedyddio a'r teitl pregeth sych." Ai nid yw y run yn awr ar ol yr hyn a elwir yn bregethu ymarferol, fel pe buasai hyny yn rhywbeth gwahanol i draethiad clir o athrawiaethau sylfaenol a dyfnaf Cristionogaeth. Ai nid yw ein pregethau yn ystod yr ugain neu y deng mlynedd ar hugain diweddaf, wedi myned yn llawer llai efengylaidd,. ac yn llawer mwy o moral lectures" nag oeddynt cyn hyny ? Caiff y tadau sydd yma ateb y cwestiwn. Ond hyd y medraf fi gael allan felly y mae. Ac ofnaf y rhaid i ni gyfaddef mai prin y daliwn gymhariaeth ffafr- iol a chrefyddwyr yr oes o'r blaen o ran perffeith- rwydd buchedd. Ai nid y w moral tone yr eglwysi yn is nag y bu ? Mewn llawer o bethau yr ydym yn sicr o fod yn rhagori, ond o ran gonestrwydd, un- plygrwydd, hunan-ymwadiad, a brawdgarwch, a yw y type presenol o grefyddwr mor uchel a'r un a geid yn Nghymru amser yn ol ? Ai nid oes mwy o ysbryd eiddigedd a chenfigen yn d'od i'rgolwg? Ai nid oes mwy o awydd cydymffurfio a'r byd, a llai o ymgais i'w orchfygu P Ai nid yw aelodau ieuengaf ein cynulleidfaoedd yn cael eu gadael yn ddigerydd i gymeryd rhan mewn arferion a chwa- reuon sydd yn ddieithriad yn arwain i anfoesoldeb a gwarth. Ofnwn eu bod, ac nid oes ynom y pet- rusder lleiaf i ddywedyd fod a fyno y difrawder yn nghylch egwyddorion sylfaenol yr Efengyl lawer i wneyd a dwyn y sefyllfa hon oddiamgylch. Mae gofal yr eglwys am burdeb yn ei haelodau yn sicr o wanhau os na bydd sylw yn cael ei dalu i wir- ioneddau atbrawiaethol crefydd. Yn mhlith y pethau sydd yn wastad yn myned gyda'u gilydd yn hanes yr eglwys, meddai un sylwedydd craff, y mae "anwybyddu athrawiaethau sylfaenol, preg- ethu moesoldeb, a dysgyblaeth lac." Felly y bu yn rhai o'r hen eglwysi Cymreig yn nechreu y ddeunawfed canrif, ac felly y mae profiad mwy diweddar wedi ein dysgu. Cyfeiria y papyr at gyfaddasder arbenig athrawiaethau crefydd i gynyrchu moesoldeb uchel. Gallem dybied y golygir yr athrawiaetbau sydd wedi cael y lie am- lycaf yn hanes yr eglwys, a'r rhai y gellir dywedyd en bod hyd yma wedi gwneyd i fyny Dduwin- yddiaeth ein Hen wad." Nid wyf yn un o'r rhai sydd yn credu mewn rhwymo unrhyw gorff o bobl wrth gyffesion a chatecismau, ond rhaid cyfaddef mai dynion yn dal gafael yn yr athrawiaethau sydd wedi eu corffori yn y Westminster Con- fession," a "Dadganiad" yr Undeb Cynulleid- faol, yw y dynion y mae eu cymeriadau yn dys- gleirio danbeidiaf yn y gorphenol. Sonir llawer gan rywrai am New Theology," er mai ychydig o ddim byd newydd sydd ynddi, Ond cyn ei der- byn buaswn yn hoffi gwybod a yw yn abl i gynyrchu cymeriadau moesol mor rhagorol ag a gynyrchwyd gan yr Old Theology y mynir ei chicio dros y drws. Teimlir gwrthwynebiad mawr gan rai i'r athrawiaeth o Ben-arglwyddiaeth Duw. Dywedir ei bod yn farbaraidd, ac yn anheilwng o feddyliau diwylliedig yr oes oleu hon. Ceisir genym ei diorseddu, a gosod y syniad o Dadolaeth i deyrnasu yn ei lie. Yn sefyllfa bresenol dynol- ryw, nid wyf yn gweled sut y gallasem gyflawni hunanladdiad moesol yn fwy uniongyrchol. Pe buasem yn hiliogaeth berffaith sanctaidd, gallas- em fentro gwneyd efallai. Ond y dylanwad cryfaf i gadw pechadur yn agos i'w le yw dylanwad y grediniaeth fod yna Arglwydd yn agos ato. Rhaid i Dafydd ddangos teyrnwialen y brenin, neu fe gyfyd Absalom wrthryfel yn erbyn ei dad. Yr wyf yn cael fy ngyru i gredu mwy yn yr athraw- iaethau Puritanaidd ddydd ar ol dydd. Hyd y gwelaf fi, dyma yr athrawiaethau sydd wedi codi cewri mewn moesoldeb. Ar y borfa hon y magwyd Awstin, Martin Luther, John Knox, a John Bunyan ar y borfa hon y magwyd y tadau pere- rinol, a'r tadau anghydffurfiol Cymreig; ar y borfa hon y mae Spurgeon a George Muller yn byw-dau gymeriad moesol na welodd y bedwar- add ganrif ar bymtheg mo'i rhagorach. Y mae cyfaddasder yr athrawiaethau hyn i gynyrchu moesoldeb uchel wedi ei brofi, a gwell i ni ddal gafael ynddynt. Y mae ymadawiad oddiwrthynt yn sicr o gynyrchu dirywiad yn ein moesoldeb. Dywed y diweddar Ddoctor Rees, Abertawy, yn Hanes Anghydffurfiaeth" wrth son am ddiryw- iad rhai o'r eglwysi Anghydffurfiol Cymreig boreuol-" Conformity to the world was the excep- tion, not the rule, in the Nonconforming Churches previous to the rise of Calvinistic Methodism but those churches who embraced Arminian sentiments after the year 1735, became less strict in their morals. Their renunciation of Puritan doctrines led them gradually to renounce Puritan serious- ness and strictness of morals." Os ydym am weled moesoldeb o'r iawn ryw yn blaguro yn ein tir, gofalwn am fod yn ein pwlpudau a'n cyfarfod- ydd crefyddol ddigon o athrawiaeth iachus, a cheisiwn fagu chwaeth yn ein pobl ieuainc at Dduwinyddiaeth bur. Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol. DIEWBST. Ymddiriedwyd y penderfyniad canlynol i'w gynyg a'i eilio i'r Parch E. James, Nefyn, a Mr Williams, Gwaelodygarth, Merthyr, a buasai yn anhawdd iawn i'r penderfyniad hwn syrthio I well dwylaw. Yr oedd Mr James gyda el arabedd arferol, a'i happy hits yn ddoniol droS ben, ac yr oedd brwdfrydedd a sel Mr Williams wrth drafod ei hoff bwnc yn gyru yr hoel adref bob ergyd. Derbyniwyd a phasiwyd y pender- fyniad yn wresog. Fod y Gvnadledd bon yn ystyried na ddylai ucbel- wyl yr Undeb fyned heibio eleni heb osod ar gof a chadw ddatganiad o'r llawenydd mawr a deimla yn llwyddiant yr ymdrecbion a wnaed o blaid sobrwydd yn yr haner can' mlynedd diweddaf, a thra yn cydnabod fod "tir lawer eto i'w feddianu," yn diolch i'r Ar- glwydd am y cyfnewidiad amlwg sydd wedi cymeryd lie yn marn ac arferion y wlad gydagolwg ar y diodydd meddwol, a gobeithia y bydd hanes llafurns gariad cychwynwyr y mndiad dirwestol yn Nghymrn yn fodd- ion i gyffroi holl gyfeillion rhinwedd a chrefydd 1 wynebn ar yr ail haner can' mlynedd gyda mwy o sel 110 phenderfyniad i wrthwynebu angbymedroldeb yl1 nghyda'r holl achlysuron sydd yn arwain iddo. Cyfarfod dau o'r gloch. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddi gan y Parch D. S. Thomas Penrhyndeudraeth. Yna galwodd y Cadeiryda ar y Parch R. W. Griffith, Bethel, i ddarlleO Papyr ar GYLLID CYFREITHLON CREFYDD. Mater lied gynil i'w drafod yn gyhoeddus, a phwnc ag sydd a llawer iawn o wahanol farnatf o'i gylch fel ag y cafwyd profion ddigon yn S cyfarfod hwn. Buasai yn dda genym weled y pwnc yn cael ei wyntyllu yn ein colofnau gydø. dadl foneddigaidd yn cymeryd i fyny ei wahanol agweddau. Cynygiwyd y penderfyniad canlynol ar S Papyr gan y Parch D. Williams, Llandilo* Pen fro:— Ein bod wedi gwrando gyda boddhad mawr ar Bapyr rhagorol y Parch R. W. Griffith ar Gyllid Cyt-, reithlon Crefydd,' a'n bod yn dymuno galw sylw mwyaj ystyriol yr eglwysi at y pwys o ymgadw yn ein hol» ymdrechion i gyfarfod a gofynion arianol yr achOS oddiwrth bob moddion a fyddo yn anheilwng o ysbryd- olrwydd g-oruchel ein crefydd yn ogystal ag yn anghyson 4'n gwirfoddolrwydd fel Anghydffurfwyr. Ar ol darllen y penderfyniad, dywedai Mf Williams-- Mewn ystyr eang a chyffredinol, dichon y gellit edrych ar gyllid crefydd fel yn cael ei ddwyn 1 mewn o ddwy ffynonell, sef yr orfodol a'r gwir-' foddol. O'r blaenaf y gwesgir allan gyllid Yr Eglwys Wladol, ac o'r olaf y credwn ni, mewP undeb A holl enwadau Anghydffurfiol y Dywysog; aeth, y mae yn anrhydeddus :,a chyfreithlawn1 grefydd dderbyn ei chynaliaeth, a bod pobpeth ø. wesgir i'w thrysorfa trwy ymyriad deddf gorfod- aeth yn anghyson a dysgeidiaeth y Beibl, ac anghydweddol ag ysbryd ac ansawdd crefydd el hun. Dysga y Beibl, ei hunig ddeddlyfr, meWI2 geiriau diamwys ac esiamplau ymarferol nad YVV crefydd yn hawlio perchenogaeth o ddim ond a estynir iddi gan law pob gwr ewyllysgar ei gal0?.' Dyma yr egwyddor trwy orchymyn yr oedd i lywodraethu cyfraniadau y bobl at t tabernacl—nid^edd pren, na hoel, na lien i ga^ eu dwyn i mewn trwy unrhyw foddion arall, fel ? byddai yn arwydd o ymlyniad ewyllysgar y bobl wrth yr Arglwydd, yn gystal ag yn drigfa i ogoniant Ef. Yr un fath yn nglyn ag adeiladu J deml. Yr oedd y bobl a. chalon berffaith y11 ewyllysgar yn offrymu i'r Arglwydd a byddai yn hawdd dangos o'r Testament Newydd nad yw anrhydeddus a chyfreithlon i grefydd feddu dial fel ei chyllid ond yr hyn fyddo yn rhedeg a^a yn naturiol o'r ffynonell hon. Darostyngir X cyfranu at grefydd trwy ddeddf gorfodaeth i leve trethoedd y wlad, a gorfodir hi i gymeryd ei safle yn mhlith y dosbarth sydd yn byw- ar y pl vvyf tra y cydnabyddir ar y Haw arall, trwy yr eg, wyddor wirfoddol, yr anrhydedd a'r urddas berthyn i grefydd ei hun, ac y gosodir y gwaitn gyfranu at ei chynal ar dir rhinweddau moesoi chrefyddol. Ond tra yr ydym yn dal mai °y.n?^C0 yr egwyddor wirfoddol yw unig gyllid cyfreitnio crefydd, nid ydym yn honi fod pobpeth a wneir £ i ei henw yn ami yn meddu y cyfryw nodwea