Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

GWAELOD GWLAD MYRDDIN.

News
Cite
Share

GWAELOD GWLAD MYRDDIN. Rhaid i mi yn gyntaf oil gael dyweyd gair byr am y diweddar Barch Simon Evans, Hebron. Er nad oedd yn trigo o fewn cylch y sir hon, eto yr oedd yn adnabyddus iawn yo y rnanbart-h yma o'r wlad. Gwr da oedd efe, ac yn ofni Daw yn fwy na llawer," ac y mae ei goffadwriaeth yo berarogl yn y wlad lie y bn yn gweinidogaethu am fwy na deugain mlynedd. Yr oedd yn ddyn pwyllus, o farn addfed, yn gynghorwr doeth, yn ddinvestwr cadarn, ac yn meddu ar benderfyniad di-ildio i Jynu o blaid yr egwyddorion a broffesai. Nid oedd yr un dyn yn meddu ar ddigon o swyn i'w dynu oddiar y llwybr y credai efe oedd yn unol & cbyf- ^■wnder. Yn hertvydd hyny, bu rhai personau yn ddigon brwnt i ymosod arno, a galw enwau cas arno mewn ffordd o wawd. Ond yr oedd ei gy- 113criad ef yn rby bur, caled, a thryloew, i dderbyn ^Qrhyw staen oddiwrtbynt. D sgynodd Simon ■^tans i'w fedd a'igymeriad yn lan, tra y mae y gwawd a geisid bentyru ar ei ben ef, wedi disgyn Y11 ol yn barddu dros bersonau yr ymosodwyr. "^imlir chwithdod mawr yn y parth hwn ar ei ol, °!1d fe gofir, gyda bias am ei ymarweddiad sanct- aidd, ei ddysgeidiaeth bur, ei sefydlogrwydd a'i fawr ofal dros achos Duw. Y mae aageu fel pe yn ymidigrifo i dori y cedrwydd i lawr yn y gongl hon o'r winllatl yn ddiweddar. Parchn J. Lewis, Henllan; W. Morgan, Caerfyrddin; J. Davies, letwen; a S. Evans, Hebron, eu lie nid edwyn ddim ohonynt hwy Illwyaeh. Ond y maent hwy er weli marw, yn llefaru eto. YR ACHOS CREFYDDOL. Y mae gwaelod y wlad bon wedi ei britbo A chapeli eang a chyflens, ac y mae y rhan fwyaf ohonynt wedi eu hail-adeiladu neu eu hadnewyddu Yo y blynyddoedd diweddaf hyn. Nid oes unrbyw "obi odditm y nef yn fwy teyrngarol i'r Efengyl °*or bell ag y mae myned i'w gwrando yn ei Sfogoneddu. Brithant y ffyrdd, a dylifant dros y llwybrau yn dyrfaoedd tua thy yr Arglwydd ar toreu Sabbotb. Ond wedi y cwbl yr achwyniad a Slywir o bob cymydogaeth yw fod crefydd ysbrydol yi bur isel yn yr eglwysi. Y mae ymB. laweroedd 9 bobl dda, ond yn brin o set a gwroldeb i ddysg- Yblu y rhai drwg. Goddefir dynion i gyflawni pechodau y buasai ein tadau yn disgyn yn drwm arnynt.Hiraetha y bobl oreu am ymweliad gfymus o eiddo Ysbryd Duw i sancteiddio yr ^glwys, ac achub y rhai digred. Pan yn ysgrifenu el hyn, nid ydym am awgrymu fod yr ardaloedd yn yn waeth na pbarthau ereill o'r wlad. Onid Oyma. hanes y ) ban flVyaf o gymydogaethau yn y Llynyddoedd claear a chaled byn. Gan fy mod wrth fy swydd yn trarnwy o ardal i ardal mae genyf fantais i wybod ychydig am symudiadau y gwabanol enwadau. Deallaf fod yma. lawer iawn o ymdrech gyda yr Ysgol Sabbotbol a chaniadaeth y cyse^r. P.m ar ymweliad a Whitland yr wyth- nos ddiweddaf, hysbyswyd fi fod dwy gymanfa ysgolion i gael eu cynal yn y gymydogaeth tua diwedd Mai-un yn Heullan a'r llall yn Carfan-. Cynelir y cymanfaoedd hyn yn fiynyddol, pryd y cyferfydd nifer o ysgolion yr ardaloedd i adrodd ae esbonio, yn nghyda chanu tonau cynullwidfaol. Yn ddiddadl y mae cyfarfodydd fel y rhai hyn yn achlesu a gwreiddio dynion yn yr atbrawiaetb, ac os caf ddim o egwyl byddaf yn bresenol ynddynt y tro nesaf, er mwyn gweled eu trefn. Hysbys- wyd fi hefyd gan Mr Evan Francis fod pru-otoi mawr yn Llanybri ar gyfer cynal eu cymanfa yn Capel Newydd, pryd y bydd y cangbenau yn cyf- arfod ar aelwyd y fam. Rhaid i mi beidio angbofio enwi St. Clears, onide byddaf dan gerydd Mr Jones, Ffynonbedr. Yma daw Gibeon, Elim, Ffynonbedr, a'r esgobion, yn nghyda dwy ysgol St. Clears. Mae tref Caerfyrddin a'r evlchoedd yn for o gan yn parotoi ar gyfer cynal Cymanfa Ganu yn Mehefin nesaf, pryd y dysgwylir y Parch Emlyn Jones i arwain y corau. Wei, llwyddiant, meddaf, i bob gwaith da. DIEWEST. Fel hen ddirwestwr, nis gallaf sycha fy ysgrifell heb ddyweyd gair am ddirwest lan. Yr wyf newydd ddarllen gyda bias mawr lyfr Dr Thomas ar y Diwygind Dirwestol yn Nghymru." Dywed y Doctor, mai yn Nghaerfyrddin y cychwynwyd y gwaith da hwn yn y rhanbarth yma o'r wlad yn Ionawr, 1837, a'r cyntaf i arwyddo yr ardystiad oedd y Parch J. Davies, gweinidog y Wesleyaid yn y dref. Efe oedd yr unig weinidog yn y dref z7, a ymunodd, ond dllynwyd ef gan amryw o'r myfyr- wyr, o ba rai y cyntaf oedd y Parch J. Lewis, Henllan. Erbyn dydd Calan, 1838, yr oeddynt yn rhifo rhai canoedd. Y dydd uchod cynaliwyd gwyl ddirwestol yn nghapel Heol-y-dw'r. Ym- ddengys mai rhwyfo yn erbyn y Ilif oedd dirwest y pryd hwn yn nhref Caerfyrddin, a bod yno lawer yn elynol iawn i'r mudiad, fel y dengys yr hanes a ganlyn :—" Nos Lun, yr lleg o'r un mis (sef Ionawr, 1838), cafwyd cyfarfod yn Llysdy y dref. Llywyddwyd gan yr Hybaroh Archddiacon Bevan, ac areithiodd Mr C. Jones a Mr R. Parry (Robyn Ddu Eryri). Bu terfysg mawr yn y cyf- arfod hwn. Cododd Mr Samuel Evans, Golygydd Serett Gomer, ac a wnaeth rai sylwadau gwrth- wynebol, a phan gyfododd Robyn Ddu i'w ateb, aeth yn gynhwrf dros fesnr. Yr oedd lluaws o'r rhai yr oedd gobaith eu helw mewn perygl wedi dyfod i'r lie, ac yn gwaeddi yn groch, fel yr oedd yn anmhosibl clywed gair. Gadawodd y Cadeir- ydd y gadair, a bu raid galw yr beddgeidwaid i mewn cyn cael tawelwch, ond yr oedd yr ysbryd a amlygwyd yn ddangoseg o'r cynddeiriogrwydd oedd yn erbyn dirwest." Dywed yr banesydd yn mhellach, Ni chafodd y"Gymdeithas ddim cefn- ogaeth gan neb o weinidogion Caerfyrddin na'r amgylchoedd, ac eithrio y Parch J. Davies, hyd tua'r flwyddyn 1843." Drwg genym ddeall mai derbyniad oeraidd a gafodd Dirwest ar y cyntaf yn ben dref gwlad Myrddin, ond y mae yn llawen genyf hysbysu fod pethau wedi newid or gwell erbyn byn, a bod YllIa luaws o weinidogion yn y dref, a'r wlad oddiam- gylch, yn ddirwestwyr pur o'r sect fanylaf. Llawer meddaf, ond nid pawb. Y tcao lluaws o gymdeitbasau dirwestol wedi eu sefydlu hefyd yn y gymydogaeth, a pbob capel drwy y wlad yn agored i'r areithiwr dirwestol, ac y mae dirwest yn lefeinio yr ardaloedd yn araf. Ceir yma ganoedd o ddirwestwyr proffesedig, ac er fod yr yfwyr hyd yn byn yn y mwyafrif, eto y mae dirwest wedi llwyddo i godi y farn gyhoedd yn erbyn y diodydd meddwol. Y mae llawer o'r yfwyr yn edrych o'u cwmpas pwy fydd yn gweled cyn myned i mewn i'r dafarn. Mae y llwyddiant yn sicr, er yr holl rwystrau, yn nerth ein Duw y gwnawn wroldeb.

MEKTHYE TYDFIL.

CYFUNDEB DEHEUOL MORGANWG.

Advertising

LLUNDAIN.