Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

MERTHYR TYDFIL.

News
Cite
Share

MERTHYR TYDFIL. Perfformiacl Llewelyn ein Llyw ol(lf." Nos Iau, yr 21ain cyfisol, a nos Sadwrn, y 23ain, perfform- iwyd y ddrama Hehod, a gyfansoddwyd gan Mr Beriah Gwynfe Evans, gan y St. Tydfil's Amateur Dramatic Society, yn y Neuadd Ddirwesto], i gyn- ulleidfaoedd Iluosog. Yr oedd y cwmni yn cael ei wneyd i fyny o gynifer o ddynion ieuainc, yn benaf o Heolgeryg, ac aethant drwy eu gwaith yn rhagorol, ac ystyricd mai newyddiaid oeddynt yn y gwaith. Pa ua bynag a ellir oymeradvvyo y ddrama fel cyfrwng dyrehafiad cyuideithas ai na ellir (gadawn byny yu bwnc agored), y mae yn eglur fod chwaeth yr oes yn rhedeg yn gyflym i'r cyfeiriad yna yn breseuol, a gwelir dynion cref- yddol yn eu cefnogi yn awr, yr hyn a ystyrid yn bechod er's blynyddau yn ol yn N gbymru. Gan hyny, y mae yn bwysig fod darnau priodol a moesol, cyffelyb i "Llewelyn ein Llyw olaf," at law yn yr iaith Gymraeg, fel na haloger meddyl- iau yr oes gau ddarnau estronol sc anfoesol, megys ag y mae y mwyafrif a ddygir o'n blaen gan y ewmrnau dyeitbr a ymwel a'n cymydogaethau. Hefyd, priodol yw defnyddio dygwyddiadau yn hanes ein gwlad yn sylfaen y dramas; bydd hyny yn fantais i gadw i fyny ysbryd cenedlgarol a gwladgarol yn y wlad, ac adgofio gwroldeb a gorchestgampau gwroniaid Cymru, gwlad v gan Y mae yn dda genym ddwyn tystiolaeth ein bod wedi ein boddhau yn llawer uwch na'n dysgwyliad yn y perfformiad dan sylw. Gwnaeth Ab Mor- ganwg, yr hwn gyr.rychiolai Llewelyn, ei ran yn rhagorol. Gellir dyweyd yr un peth am Llinos Rhondda, yr hon a gynrychiolai Ellen Montford; a Hywel Morganwg, sef y brenin Iorwerth yn nghyda Llinos y Bryn, sef y Frenines; a Durtnry Gelli, yr hon a lenwai le Gwen. Gwnaeth Aelfryn ran y bradwr Gruffydd yn dra effeithiol. Yr oedd yr oil yn ol cyfarwyddyd a than arweiniad Gwyddonfryn, yr hwn hefyd a gymerai le y bardd Meredydd. Cyflawnodd y cor, dan arweiniad Cerddorfab, ei ran yn dda, yn nghyda'r cyfeilwyr, Miss Walker ac Alaw Cyfarthfa. Gobeithiwn gael y fraint o'u gwrando yn fuan eto. Nid gormod fyddai i'r ddrama bon redeg ryw ugain o nosweithiau ar y bwrdd heb lacio dim mewn poblogrwydd. Gan i'r cwmni ddechreu mor dda, dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.

Advertising

YRAPOSTOLPAULYN NGHYMRU!

TYWALLT -GWAED YN NGHYMRU.

Advertising