Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
CYFARFOD AIL-AGORIADOL BRYNBERIAN,…
News
Cite
Share
CYFARFOD AIL-AGORIADOL BRYN- BERIAN, SIR BENFRO. Dydd Mercher, Awst 13eg, cymerodd y cyfarfod nchod le-boreu hyfryd, a'r haul yn gwenu ond tua deg o'r gloch, yr oedd yn tywyllu, yr haul yn ymguddio,. a'r cymylau yn c)di, ac fe gafwyd 'èJ.wod o wlaw trwm, a phob arwydd ein bod i gael diwrnod gwlyb. Y cerbydau yn cyflymu o bob 'cyfeiriad, a'r gwyr traed yn britho y ffyrdd a'u gwynebau tua'r Bryn, yr hwn a saif ar fan lied *uchel, yn cael ei amgylchynu gan goedydd felfrigog—N"atur ar ei goreu yn barddu. Erbyn 11 cl .cyrhaedd yno, yr oedd yn hawdd i bawb ddeall tfod rhywbeth neillduol yno cyn denu y fath dorf Suosog yn nghyd-cerbydau o bob math yn britho y He, a trigolion o bob enwad weli ymgasglu yn Dghyd, nes yr oedd y capel yn orlawn. Am 10 o'r gloch, dechreuwyd gan y Parch Mr Davies, gynt o Glandwr a phregethwyd gan y Parchn O. R. Owen, Glandwr, a S. Evans, Hebron. Cyn terfynu, cafwyd anerchiad gan Mr Lewis, y parchus weinidog, rywbeth Tel y canlyn :—Y 9fed ,o'r mis hwn, 41 o flynyddoed l yn ol, cefais fy .prdeisio yn eich roysg, ac o'r holl weinidogion y pryd hyny, nid oes ond un ohonynt heddyw yn ein myag— y Parch J. Davies, Glandwr, gynt; ac o'r oil aelodau y pryd hwnw, nid oes ond 30 ohonynt yn fyw, sef 8 brawd a 22 chwaer. Yr ydwyf wedi gweled claddu y gymydogaeth, a tbo pewydd yn codi. 4m 2 o'r gloch, dechreuwyd gan y Parch W. (Jones, Trewyddel; a phregethwyd gan y Parchn Thomas, Solfach, a Thomas, Whitland. Yn yr hwyr, dechreuwyd gan y Parch Morris, Trefdraeth; a phregethwyd gan y Parchn James, Llanwrtyd, a Richards, Caerphili. Cafwyd trwy y cyfarfodydd bregethau grymus, tlC yn cael eu traddodi gyda difrifoldeb mawr; gweddiau taer, a'r dorf luosog yn talu sylw roanwl gwrandawiad astud, a chasgliaiau rtiagorol-eyfarfod y boreu < £ 81 16s., y prydnawn £ 25 10s., a'r hwyr .£10, cyfanswm iil25 143. 3c. Dyma ardal lie raae cariad brawdol yn uchel, ac ysbryd Efengyl yn ei pherffaith waith undeb fel llyn ariaaaidd yn rhedeg trwy y gymydogaeth -offeiriaid a phregethwyr o bob enwad, y cyf- oethog a'r tlawd, wedi ymgasglu yn nghyd i wrando am yr hen, hen wirioneddau am y Groes; ac nid ydyw hyn yn eithriad, ond ei cyson waith ydyw. Priodol ydyw nodi fod yr eglwys a'r gynulleidfa -wedi cyfranu yn belaetb, ie, a'r gymydogaeth hefyd. Yr oedd yr holl draul dros .£700, ond •heddyw nid oes ya aros ond y swm fechan o £25. 'Cafwyd tywydd rhagorol gyda'r eithriad o'r ) ,gawod yo y boren, a digon o ymbortb. Llwydd- :iant iddynt, a hir barhaed yr undeb Cristion- ogol a'r cariad brawdol, heb gydnabod y llinyn ;gwahaniaethol enwadol, y rhai ydnyt goron yr siradal, yw ein dymuniad. AMICUS. -♦
CASTELLNEDD.
News
Cite
Share
CASTELLNEDD. CYFARFOD SEFYDLU. Nos Ilerchet, a dydd Iau diweddaf, traddod- wyd pregethau mewn cysylltiad & sefydliad y Parch T. Rhondia Williams yn weinidog i'r eglwys Seisonig yn Nghastellnedd. Y mae yr eglwys'wedi dyfod yn ddigon cref a haelionus i allu sierhau gwasanaeth un o'r pregetbwyr ieu- ainc goreu yn y sir. Mae yno faes rhagorol, ac y mae rhagplygon gobeithiol am lwyddiant gwirioneddol a pbarhaol. t, Nos Fercher, pregethodd y Parchn J. Towyn Jones, Gwernllwyn, Dowlais, a J. Pandy Williams, Llanelli. Dydd Iau, am 11, pregethodd y Parch R. T. Howell, Aberdar. Gofynodd Dr Reea am yr ar- wyddion arferol gan yr eglwys a'r gweinidog fod yr alwad yn cael ei chadarnhau, ac wedi en Gael i foddlonrwydd gweddiodd yn daer am fendith y Nefoedd ar yr undeb. Am 2, pregethodd y Parchn T. Morris,. Bryn- seion, a Dr Rees, Abertawy. Am 7, pregethodd y Parchn R. T. Howell, Aberdar, ac E. Jenkins, Walter-road, Abertawy. Cafwyd cyfarfod gwir dda o'r decbreu i'r diwedd. ♦
Advertising
Advertising
Cite
Share
SING WELL! SPEAK WELL — Doughty s Voice Lozenge has been gratefully appreciated by thousands of clerical, musical, and other celebrities for nearly 40 years. It imparts to the voice clearness of sound and brilliancy of tone. JENNI LIND.—" 1 have much pleasure in confirming, as far as my experience extends, the testimony already so ceneral in favour of the Lozeng-es prepared by you" (Miles Doughty). fid, la, 2s (id, 5s, and lJs-post. free, 7d, Is ':td, &c. Ask your chemist for them.—F. NKWISERY and HONS, 1, King Kdwai cl- street, London, E.C.jEstabIiS'lCd A.D. 1746.
[No title]
News
Cite
Share
MODDION CREFYDDOL BOREU'R SABBOTH: Gan 11 Parch E. Owen, Clydach. Argrajfwyd gan J. Jones, Plasmarl. Hwn yw v papyr a ddadlenwyd gan Mr Owen yn nghyfarfodydd yr Undeh yn Ffestiniog. Nid oes un ddadi am y priodoldeb o'i argiaffa, a gobeithio y gwas- gerir miloedd lawer obono, ac y mae yn dda genym fo i yr awdwr wedi cael y doethineb a'r gweddusder o'i argraffu a'i gyboeddi ivedi i "Adroddiad swyddo^ol yr Undeb gael ei werthu allan. Mae yn ymdrin ag un o'r pynciau pwysicaf mewn cysylltiad a. meithriniad crefydd ysbrydol yn yr Un o arweddion dif- rifolaf yr oes yw yr esgeulusdra cywiiyddus sydd ar foddion boreu y Sabboth yn y trefydd a'r gweithfaoedd. Fel y sylwa yr awdwr, mae He i ofni fod y wlad yn eyflym ddilyn y dref yn yr arferiad drwg hyn. Gresynol yw gweled llawer o gynulleidfaoedd boreu Sabboth can mor fychain a difywyd ydynt wrth eu eymharu ag eiddo y cyfryw leoedd yn y nos. C mer yr awdwr olwg earig ar y pwno, ac ymdrinia a'r holl ranan mewn ysbryd efengy'aidd. Yn wir mae aronl peraidd yr efengyh I' ysbrydoledig yn codi oddiwrtho. Gesyd bwys mawr ar ddarparu nos Sadwrn ar gyfer y Sab- both, a rboddi fyny cynal y cymdeithasau cyfeillgar mewn tafarndai nos Sadwrn, yr hyn sydd o fewn cylch profiad pawb, ac yn hollol ddinystriol i foesoldeb a chrefydd. Ofer dysjwyl am oedfaon llawn ar foreu Sabboth hyd oni cheir diwygiad yn y peth hwn. Mae iaith y llyfr yn dlws a chwaethus, y syniadau yn fardd- onol ac efengylaidd, a'i duedd oil yn rhagorol. Byddai gobaith am ddiwygiad pe gwnai ffyddloniaid pob eglwys ofalu am roddi copi o'r llyfryn hwn yn lIaw pob esgealuswr. Dyma'r tro cyntaf i ni gyfarfod a Mr Owen fel awdwr, ond yr ydym vn gobeithio nad hwn yw y diwe tdaf. Mae yr argraffydd wedi gwneyd ei waith yn ddestIus a glan, a chydrhwng y ddau dyma Jyfryri ar bwnc angenrheidiol iawn, a dylai gael darilen- iad cyffredinol.
IN MKMORIAM : THi LATT: EKV.…
News
Cite
Share
IN MKMORIAM THi LATT: EKV. JOSRPH WAITK, B.A., CARDIFF. South Wales Prin ing Press, St. Mary Street, Cardiff. Llyfryn bychwi Seisonig yw hwn, wedi ei gyhoeddi mewn coffadwriaeth am y diweddar Mr Waite. Nid oes angen dyweyd fod yr oil ohono yn Uawn o ddyddor- deb pruddaidd i'r neb oedd yn meddu yr anrhydedd o adnabod y gwr y coffeir am dano. Cynwysa bump rhan. Yn gyntaf ni gawn hanes ei gystudd, ei farwol- aeth,-a'i angladd- Cantynirbyny gan draethawd byr, and hynod o deg, ar nodwe idion cymeriad a bywyd Mr Waite, ae y mae yn amlwg fod yr awdwr wedi cadw lawr ei deimladau a gwrando ar reswm a barn yn unig. Wedi hyny ni gawn anerchiadau Dr Morris a Dr Rees ddiwrnod ei angladd. Dilynir hyny drachefn gan b'Gj;eth angladdol a draddodwyd v Sabboth dilynol yn Charles Street, gan y Parch H. Arnold Thomas, B.A., Bryste, oddimh 1 Thes. iv. 13; ac yn ddiweddaf oil pre reth anorphencdig Mr Waite ei hun oddiar Rhnf. xv. 16. Cyrnerwyd ef yn glaf pan ar ganol gwneyd pregeth genadol, ac ni cbafodd wella, i'w gorphen, a diau nid oedd arno ei hangen yn y wlad ddedwydd yr aeth iddi i fyw. Mae holl gynwysiad y llyfr yn rhagorol, ae yn Ilawn o'r tynerweh ysbrydol hwnw sydd yn" cael ei b rffeithio gan drallod. Gwr nodedig o gywir ei chwaeth oedd Mr Waite ei hun, a phe gallai ddarllen hwn heddyw nid ydym yn meddwl y gallai feio ar un gair nac ymadrodd ynddo. Yr oedd cyfiawnder, ac nid cyfeillgarwch, yn llywodraetim y gwahanol awdwyr— nid oes yma ddim gormodedd, ond mae gwirionedd yn pefrio ar bob tudalen. "0.1 oes neb yn eich plith mewn adfyd ? heblaw gweddio, ceisied y llyfr hwn, a bydd ei ddarllen yn falm i'w glwyfau. Y mae eglwys Charles street weii ymddwyn yn cithriadol o anrhyd- eddns at ei diweddar weinidog. Deuriaw mlynedd yn ol gwnaeth nn o'r diaconiaid (Mr Alderman Lewis) baner ei orlodi i inswrio ei fywyd am £1,000, ac aeth ei hun yn gyfrifol am y tal blynyddol. We thiau byddai yn eu casglu oil gan gyfeillion ond modd bynag byddai efe yn gotalu fod v premium yn cael ei dalu yn amserol. T wy ofal y boneddwr hwn, sydd yn garedigrwydd olli gyd, dyogelwyd £1,000 i'w deulu yn y dydd blin. Nid oedd yr un b neddwr yn foddl >n ar hyn, ond, wedi marw Mr Waite, casglodd £1,000 arall, ac mae y ddwy fit wadi eu suddo yn ddyogel yn trafr Mrs Waite a'r plant. Teimlwn yn ddiolchgar i Rftiluniaeth am garl c.,flj cyfreitblon i fynegi y ffaith hon. Nid oes ond ychydi^ iawn hyd yma wedi gwneyd y f"th garedig- rwydd, ond dyna'r drwg, mae boneddigion tyner-galon fel Mr Lewis yn ana ml iawn. Beilach mae yr oil dros- odd, a'i J')t Memoriam" weJi ei gyhoeddi. Wrth ei ddarllen teimlwn bob ysbryd I'eimiadol yn ymgilio ac yn toddi ymaith gan ddyfndor ein hiraeth ar ol gwr mor bur, gweithiwr mor ddifrifol, Cristion mor low, a chyfaill raor ffyddlon,
AGE RLONGATJ CAERDYDD.
News
Cite
Share
AGE RLONGATJ CAERDYDD. Cyrhaeddodd Gwenllian Thomas, s s., Garston o Kfcuelva, Awst 20fed, 1884. Gadawodd Iolo Morganwg, s s., Caerdydd am Aucona, Awst 13eg, 1884. Gadawodd Anne Thomas, s s., Syra am 1'agaurog, Awst 19ag, 1884. Cyrhaeddodd Kate Thomas, s.s., Rotterdam o Tagaurog, Awst 21ain, 1884. Gadawodd Wynnstay, s s Tagaurog am Llundain, Awst 20fed, 1884 Gadawodd Walter Thomas, s s Baltimore am Antwerp, Awst 21ain, 1884. Mae y Bala, s.s., yn ffitio allan yn Hartle- pool.
TON, "DYFFRYN BACA."
News
Cite
Share
TON, "DYFFRYN BACA." At Oljgvjyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Ymddengys i mi fod lhagor nag un yn cael yr enw o fod yn awdwr i'r don nehod yn Llyfr Stephen a Jones. Yr oe Idwn wedi arfer meddwi bob amser mai Mr Richards, Caerphili, oedd ei hawdwr, a dywedais hyny wrth ragor nag nn, heb feddwl am foment y gallai fod rhagor nag un D. Richards. Pan ar ymweliad a'r America yn 1882, yn nrs Gorphen if, yr ovddwn yn siarad 3. mam Mr Davies, Bangor, yn Wiikesbarre, ac ar y pryd daeth Mr Gwrhyd Lewis yn mlaen a rhyw ddyn gydag ef. Yr oedd yn ddyn o daldra cyffredin, gwallt du, a clFoen bytrach yn felyn- ddu a dywedodd wrthyf, Dyma Mr D. Richards, awdwr y don Dyffryn Baca yn Llyfr Stephen a Jones." "0, ai e meddwn inau yn yr ateb wrth ysgwyd Haw ag ef, A chwi yw yr awdwr ? "16," atebai yntau. "Mae argraff arall ar feddwl pobl yr Hen Wlad, yn neillduol yn y De, yn ei chylch," meddwn i wrtho. Wei," ebai y gwr dyeithr, beth bynag yw barn pobl yr Hen Wlad, myfi yw yr awdwr." Addewais ar y pryd i wneyd ymchwiliad pellach yn ei chylch, ac felly ymadawsom. Ni feddyliais mwy am dani hyd nes y daeth y TYST A'R DYDD i'm Haw am Awst 15f.d, ac i'm llygad ddisgyn ar hanes cyfarfod blynyddol Adulam, Tredegar, ac mai y Parch D. Richards, Caerphili, oedd yn pregethu yno—"awdwr yr hen don fendigedig Dyffryn Baca," meddai yr hanesydd. Fy ngofyniad yn awr yw, Pwy yw yr awdwr ? Os na wyr neb arall, yn sicr dylai Mr Stephen, Tanymarian, wybod. Teilwng i bob dyn, a'r dyn iawn hefyd, i gael y credit due am ei waith, beth bynag fydd. Nid yw y cwestiwn yn an pwysig dichon i olwg rhai, ond dylid cofio hefyd fod bod yn gywir yn bwysig i bob dyn. Yr eiddoch yn 03tynged'g, Maesycwmwr, Awst 16, 1884. T. J. HUGHES.
ADRODDIAD COLEG CAERFYRDDIN,…
News
Cite
Share
ADRODDIAD COLEG CAERFYRDDIN, At Olygioyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Gair ar y mater uchod. Gwnaeth "Annibynwr" yn dda i alw sylw at y gwallau yn yr Adroddiad. M'te y rhai y cyfeiria atynt bron oil yn rhes y gweinidogion a dderbyniasant eu haddysg' yn y coleg. Fel hyn y dygwyddodd Yr oedd brys mawr i gael yr Adroddiad yn llaw y myfyrwyr o fown i ddau neu dri diwrnod i'r arholiad. Anfonais list ddiwyz- iedig, gan ymddiried i arall oedd yn agos i'r argraffydd i gywiro y proofs. Fe'ly, nid yw y rhestr argraffeliir yn ateb i'r un a anfonais. Bu yr amryfusedd yu nes i'r argraff-wassr nag yma. Mae yn dda genyf na chafwyd un bai ar ranau pwysicaf yr Adroddiad—y cyfrifori arianol, &c. Disgynodd y rhaniad o'r hen fytyrwyr i Settle I in England, in Wales, and Foreign oddiwrth yr Ysgrif- enydd blaenorol. Pe dileid In Wales," diflanai y camgyfeiriadau a nodir agos oil. Prin y credaf y bydd y man-frychau y cyfeirir atynt, megys enw Mr Towyn Jones ddwywaith, yn rhwystr i neb gasglu at y coleg. Gwell y tro nesaf. Yr eiddoch, &c., YR YSGRIFENYDD.
GURNOS, YSTALYFERA.
News
Cite
Share
GURNOS, YSTALYFERA. At Olygwyr y Tyst a'r DydcI. FONEDDIGION,—Mae yn hysbvs i lawer fod y Parch B. Thomas wedi rhoddi gofal yr eglwys Annibynol yn y lIe uchod i fyny oherwydd henai n t a methiant. Da genym ddywedvd fod y teimladau goreu yn bodoli rh'An/Mr Thomas a'r a mawr yw ei gofid ei fod yn teirnlo fod y gwaith yn rhy galed, y llafur yn ,rhy fawr, a'r pryderon yn ormod iddo barhau i'w gwasanaethu. Et > teiml r yn hapusach ac yn hawdd. ach i viriadael fel hyn, na phe baasai rhyw helyut'on ereill yn ein gwahanu. Bu Mr Thomas yn gwe:nidojaethu am saith mlynedd ar hugam yn y He, ac yn hynod Iwyddianus. Nid oedd yr eglwys pan ddaeth yma ond 60 0 rif, ond pe buasai pawh wedi cael estyn eu dyddiau ar y ddaear i aros hyd y dydd hwn ag oed l yma v pryd hwnw, .yn nghyda'r holl rai a Idlerbvu;, vy(i o'r newydd a t rwy lythyrau, buasai yr eglwys hon erbyn byn yn saith cant a haner o aelodan; ond cymerwyd llawer i ogoniant, ereill oblegid ise'der masnach yn y lie wedi gorfod symud o'r gymydogaeth. Eta mae tyrfa yn aros yn y Gurnos, ond yn awr mewn galar ar ol en hanwyl fugail. Mae pawb sydd yn adnabod Mr Thomas yn gwybod mai gwaith anhawdd ydyw ymadael ag ef unwaith yr adnabyddir ef yn iawn. Un tyrier, addfwyn, a gostyngedig o galon ac o ysbryd ydyw efe; a mawr oedd ei ofal a'i bryder am ei braidd—porthai hwy yn ofalus. Arwemiai hwy i'r porfeydd gwelltog ger llaiy y dyfroedd tawel, traetliai yn ofalus holl gynghor Daw, esi: ynai i ben Sinai i egluro manwl ofynion deddf tuag at Dduw a dyn, esgynai i Galfaria i eglnro y cariad traaywyddol, datgudd.ai fyn-^es y Tad, hunan- ¡ aberthiad y Mab, a chysuron dyddanol yr Ysbryd Glan; treiddiai fel rhyw lefiathan i fewn i eigbn y