Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

PETHAU NAS GWYR PAWB.

News
Cite
Share

PETHAU NAS GWYR PAWB. CWESTTXWN NEWYDD. Yr hen gwestiwn oedd, "Beth wna yr Ar- glwyddi 0 Fesur yr Etholfraint?" Ond dyna sydd yn ngenau pawb yn awr, "Beth wna'r wlad i'r Arglwyddi ? Maent yn fwy o humbug i'r Weinyddiaeth Ryddfrydol weithgar na set o drones diog mewn cwch gwenyn yn mynu bwyta y met, a rhwystro y gweithwyr hefyd. Dedfryd gyffred- inol cynadleddau y gweithwyr ydyw, "Aufonwch hwy allan o'r nyth." A beth debygwch chwi am hyn ? GENEDIGAETHFRAINT YR ARGLWYDDI. Veto of birth ydyw Ty yr Arglwyddi i'r Ar- glwyddi. Ysbeiliwyd tid duciaid Edom o'i veto of birth, ae ni chafodd mohoni byth yn ol, er iddo trwy ddagrau ei thaer-geisio hi. Os dygir veto yr Arglwyddi oddiarnynt, ffarwel am dani byth. Mae veto gan y wlad, a threch veto gwlad nag Arglwyddi. A" lawr a'r Arglwyddi" ydyw llais dystaw main veto yr holl wlad. Clywais rai o'u tylwyth hwy eu hunain yn dywedyd, fod y genedl wedi bod lawer yn rby amyneddgar, ac y dylasai fod wedi tynu y Ty i lawr am eu penau er's llawer dydd." Wel, beth debygwch chwi am hyn ? Y PECHOD NAD YW I FARWOLAETH. Tybia rhai go waeiwyllt fod gwaith yr Ar- glwyddi yn bwrw allan Fesur yr Etholfraint o'r Ty Uchaf yn bechod anfaddeuol, ac felly yn haeddu marwolaeth ddisyfyd. Mae gwaedd dwy filiwn o bobl yn llefain yn groch am osod l'hyw ddial arnynt, ond nid dialedd angeu. Cant fyw, a byw yn Arglwyddi, a cbadw eu hystablau, a'u tsitlau am eu hoes, o'm rhan i ond dim rhithyn o hawl mwyach i legislative veto. Os oes eisieu Ty yr Arglwyddi, gofaled y wlad am roi tyaid o weithwyr ynddo, ac nid obstructives, a bod y rhai hyny i gyd yn gyfrifol am eu llafar, onide, Tor ef i lawr paham y mae yn diffrwytho y tir ? A beth debygwch chwi am hyn P YR "IMPERIAL LORDING" YN YMPAGTT. Mae rhyw ddrwg yn crynhoi ar lwyfen ei dafod, heblaw fod dot yn ei ben. Yr oedd ei wallt yn britho er's llawer dydd, a pharabl ei dafod yn dra syfrdanol. Haera rhai gwleidyddwyr craff ei fod wedi dechreu declino er 1832, a'i fod yn drifftio byth er hyny i'r stad waethaf o'r darfodedigaeth. Wel os felly, yn ddiddadl yr oedd yn rhy ddrwg i'w ddiWygio.. A beth pe dygwyddai iddo farw yn ddirybudd? Pe clywai fod Mesur y Bleidlais yn ddeddf ar lyfrau Prydain, cai angeu yn ei grochan trwy gyfrwng y palpitation. A oes bedd- au yn barod iddo yn y gladdfa ? Pwy geir i bregethu yn ei angladd? Bydd dwy filiwn yn barod i'w gladdu a'i wyneb yn isaf y foment y clywant iddo drengu, ac ni lithr cymaint ag un deigryn maes o'u llygaid. Å both debygwch eh wi am hyn ? SUT I SAFIO TY YR ARGLWYDDI. Wel, gorchwyl anhawdd ofnadwy ydyw, oher- wydd mai lladd ei hunan y mae efe. Anfynych y mae nnrhyw leiddiad ynymatal, ar ol cydio gafael yn yr erfyn, neu osod gwenwyn yn y cwpan, neu daflu rhaff am ei wddf, beb orphen ei dynged ar y pren crog. Mae Arglwydd Salisbury yn y Jingo fever, ac mae hwnw yn waeth na'r clefyd me]yn am osod ei liw ar yr holl aelodau. Lliw Jingo sydd ar wyneb rhan luosog o'r ieirll, yr arglwyddi, a'r pendeiigion, a llais Jingoes sydd i'w glywedyn ysgrech parabl eu tafodau. Y mae pobpeityn Tor- nidd wrth gyfarch y dinner parties yn orlawn o Jingoism. Pan lynodd gwahanglwyf Naainan wrth Gehazi, glynodd hefyd wrth ei dri mab, nes bod pedwar gwyr gwahangleifion yn cydorwedd o'r tufaes i borth Samaria. O'r tufewn i'r mur yn ninas Llundain mae plaid y Jingo hyd yn hyn, a Jingo fever Arglwydd Salisbury wedi cydio gafael mewn rhagor na dau cmt o'r arglwyddi, a'r rhan fwyaf ohonynt yn glafach na'L1 tad ond rhaid eu bwrw dros y mur i fysg gwersyll yr Assyriaid, rhag ofn i'w Jingoism heintlo cyfansoddiadau iach, a myned 0 breswvlwyr y ddiuas i gyd yn Jingoes. Ilio mae y clefyd hwn fel y gwahanglwyf, oddi- eithr fod rhyw alia Dwyfol yn ei ragflaenu. Nid oes un arwydd gwella eto ar dad y drwg. Y mae ef yn sefyll mor syth, nc yn ymddangos mor ben- derfynol, a'i bleidwyr hofyd mor dalgryfion ag oeddynt ddydd rhaniad y Ty ar Fesur y "Bleidlais. Os na bydd arwydd gwella arno ef a hwythau cyn rhaniad y Sesiwn nesaf, neu fod rhagor na dau score o'i ddysgyblion yn absenolion, ac yn gallach na'u tad, dygir oddiarnynt yr hyn sydd ganddynt, a gwneir eu ty yn angbyfanedd. A beth debygwch chwi am hyn? Y DYN HYSBYS.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

CYFARFOD SEFYDLIAD Y PARCH…

LLANGRANOG.

Advertising

[No title]