Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ATHROFA ITEWDTAL A'l HANESIOiN.

TAITH 0 LUNDAIN I GANOLBARTH…

--YMYLOlSr Y ITORDD. -

News
Cite
Share

Nid ydyw yn rhwystro pobl sychedig am Z, gwrw i fyned i'r Mumbles. Ni thyr music o fath yn y byd eu syched hwy, ond y mae yn tynu llawer o yfwyr i dref Abertawy. Pobl wrthwynebol i'r Sabboth ac i grefydd ydyw pleidwyr y mesur." Buaswn yn dysgwyl i'r Gymdeithasfa, wedi mwy na dwy awr o siarad arno, a'r fatb siarad ag a gaf- wyd, basio penderfyniad llawer cryfacb na'r un y daethant iddo. Os na rydd pobl gref- yddol a gweinidogion yr Efengyl, pan y codir hwy i gynghorau ein gwlad, eu gwyneb yn erbyny fath halogedigaeth, pwy a wna ? Y mddangosai i mi wrth ddarllen yr adrodd- iad fod llawer iawn o deimladau personolyn dyfod i'r golwg trwy yr boll ddadl, a bod dynion yn myned dros neu yn erbyn i radd- au pell iawn oblegid eu teimlad tuag at bersonau. Dygodd y Metbodistiaid dyst- iolaeth gref yn erbyn anfoesoldeb trwy boll ystod eu hanes. Dyna un ran bwysig o'u cenadwriaetb, a'r byn a roddodd iddynt y fath ddylanwad ar ein gwlad. Drwg genyf nad yw y genedlaeth bresenol yn llefaru mor groew. Yr oedd llawer o'r un amwys- cdd ac amheusder, yn ol yr adroddiad yn y Goleuacl, i'w glywed yn N ghymdeitbasfa Caernarfon yr wythnos hon yn nglyn a'r gvvyn a ddaeth o Gyfarfod Misol Mon yn herwydd y dawnsgynulliadau rnewn tafarn- au, i'r rhai y mae yr ieueuctyd yn ymgynull. Ni buasai yr ben Fetbodistiaid yn petruso condemnio y fath betbau yn yr iaith gryfaf. Ond ymddangosai mai cynul ac ofnus iawn oeddynt wrth drafod y mater. Nid wyf yn synu dim i Mr Joseph Thomas, Carno, ddyweyd, na "leiciai efe weled y Gymdeith- asfa yn myned yn wan ac yn anmhender- fynol i gondemnio y wedd ar bethau ag a roddid yn y gvvyn o Fon." Nid wyf yn gwneyd unrhyw esgusawd am gyfeirio at y materion yma, oblegid nid achos un enwad ydyw, ond achos moesoldeb y genedl; ac y mae y modd y gweithreda un enwad parchus a clylanwadol yn rhwym o adael dylanwad pwysig ar yr boll genedl. LLADMEEYDD.