Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CAERLLEON A'R CYFFINIAU.

News
Cite
Share

CAERLLEON A'R CYFFINIAU. Am daro Edward Owen a chwip, a bygwth I bollti ei ben, dirwywyd William Hayes gan ynadon Caer, dydd Sadwrn, yr 2il cyfisol, i ddeg swllt a'r costau. j Hefyd, dirwywyd hen filwr o'r enw William Robinson, yr hwn a ddywedai iddo ddyfod o America, i £ 2 a'r costau neu fis o garchariad, am ymosod ar fachgen o'r enw Freeman. Mewn canlyniad i ddymchweliad cerbyd yn Northgate-stveet, Caer, trwy i'r anifail syrthio yr un dydd, lluchiwyd boneddigesau oedd yn y cerbyd, ac er iddo dori yn ddarnau, yn ffodus ni anafwyd neb yn fawr. Cafwyd Robert Brown, Cuppin-street, Caer, ar y ffordd, nos Lun, y 4ydd cyfisol, wedi ei anafu yn fawr drwy iddo gael ei daro i lawr gan gerbyd. Dydd Mawrth, y 5ed cyfisol, agorwyd bazaar yn Colwyn Bay, yr elw oddiwrth yr hon sydi yn myned i drysorfa adeiladu capel Annibynol Seisonig yn y lie. Yr un dydd, cynaliwyd trengholiad ar gorff William Pierce, 65 mlwydd oed, yr bwn a gafwyd yn farw ar y ffordd yn Penmaenmawr, a dygwyd rheithfara ei fod wedi colli ei fywyd mewn can- lyniad i doriad gwaed-lestr. Hefyd, yr un dydd, tra yr oeddid yn croesawu Mr Johu Henry Darby, Brymbo, adref ar ol ei briodas, drylliodd un o'r magnelau, a tharawyd un John Davies gan un o'r darnau gyda'r fath rym nes o'r bron wahanu ei glun oddiwrth ei gorii.

LLWYDCOED, ABERDAR.

Advertising

I'Cyfarfodydd, &e.