Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

YR YSGOL SABBOTHOL.

News
Cite
Share

YR YSGOL SABBOTHOL. Y WERS RIIYNGWLADWRIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. AWST 24ain.-Ataliad y pla.-2 Sam. xxiv. 15-25. Y TESTYN EURAIDD.—" Nid byth yr ymryson efe ac nid byth y ceidw efe ei ddigo"aint.Salm ciii. 9. RHAGAltWEINIOL. Bu Dafydd yn llywodraethu am tua deng mlynedd ar ol marwolatth Absilom gyda graddan o lwvddiant. Parodd i'w lwyddiant feddwl am gyfrif y bobl, er mwyn ffurfio, y mae yn debyjjol, fyddin gwastadol ohonynt tnag at ychwanegu ei fuddugoliaethau. Yr oedd llywodraeth filwraidd yn llwyr wrthnaws i arsawdd rhyddgarol y llywodraeth a drefnodd Daw ar Israe!, dan yr hon yr oeddynt yn gwasanaethu mewn rhyfel fel gwi,foddolion oil: am hyny, nid oedd mor rhyfedd fod Joab yn withwynebwr mor bybyr i'r cynygiad, (lan y gallai yn rhesymol ofini iddo achlysuro gwrthryfel i ewydd yn y wlad Er i Joab ar y cyutaf ddinaos gwrthwynebiad i gynllun y breniN. eto bn vn rhaid iddo ei gario allan. Cyfrifwyd holl Iwythan Israel o Dan i Beerseba. Ynddo ei hnn nid oedd y eyfrifiid yn bechadarus, ond yr amcan oedd mewn golwg oedd yn gwneyd y weithred yn (jdrwg. Gwnai Pafydd byn er mwyn gweled ei fawredd ei hnn, ac i ychwanegu at ei ogoniant. Trwy ryw foddion, daeth Dafydd ei hnn i weled drygioni y weithred, ac y mae yn edifdrhau yn ddwys ger bron yr Arglwydd; ond rhaid ydoedd ei geryddo. Y mae yn drose Id rhy fawr i fyned yn ddigosh. Rhaid i'r gosb ateb i'r pechod. Rhaid ei bod yn ayfryw gosbedigaeth ag y caffo y bobl ran belaeth ynddi, canys enynodd digofai' t Duw yn erbyn Israel. Er mai pechod Dafydd yn ddigyfrwns a agorodd y dwfr-ddo>, cyno; thwyodd pechodaa y bobl 0'1 tuag at y dylif." Yr oedd y bobl yn gystal a Dafydd wtdi mynetl i ymfalchio ynddynt en hunain. Daeth gair yr Arglwydd at Dafydd trwy Gad y gwyliedydd. Crlfodd ei ddewis o dair gwialen, naill ai newyn, nen ryfel, nen haint. Dewisodd Ddfydd syrthio yn Haw yr Arglwydd, "canvs," meddai, "ami yw ei druyareddau Ef." Folly, anfonwyd haint ar y wlad, a bu farw o'r bobl, o Dan hyd Beerseba, ddeng mil a thriugain o wyr." ESBONIADOL. Adnod 15.—" Yna y rhoddes yr Arglwydd haint yn Israel, o'r boreu hyd haner yr amser nodedig a bu farw o'r bobl, o Dan hyd Beerseba, ddeng mil a thringain p wyr." O'r boreu hyd haner yr amser nodedig. Amser vr offrwin hwyrol, tua thri o'r gloch y prydnawn. Yr oedd Gad wedi hysbysu y buasai yr haint am dri diwrnnd, ond byrha' yd yr amser. Cyfryngodd trugaredd-ni fu ond nn diwrnod. Decbreu 'dd yn y gogledd, ac ymledodd yn gyflym fel tan dinystriol tna'r de, hyd nes dyfod i gymydoo-aeth Jerusalem. Gwelai Dafydd y dinysir dychrynllyd oedd ar ddisgyn ar y ddinas. Tafia ei hun yn edifeiriol ger bron yr Arg wydd, ac mewn ing ineddwl ymbilia arno atal ei law rhag dinystrio Jerusalem. Adnoi 16. A phan estynai yr angel ei law at Jerusalem i'w dinystrio hi. e lifarhaodd ar yr Arglwydd y drwsr hwn, ac a ddy" acJodd wrth yrangeloeddyn dinyst, io y bobl, Digon bellacb atal dy law. Ac angel yr Arglwydd oedd wrth lawr-dyrnu Arafnah y Jebusiad." Ysbrydion gwasanaethgar vr Arglwydd ydyw yr angylion. Mae yr holl hanes yn awgrymn fod Dafydd wedi gweled yr angel. Nid ftrwyth dychymyg ei feddwl ydo da. Yn 1 (Jiirou. XXI. 20, ychwanegir fod Arafnah, neu Oman, a'i bedwar mab wedi gweled yr a"gel. Edifarhaodd ar yr Arglwydd. Ni newidiodd ei feddwl, ond ei ffordd, a dywedodd with yr angel oedd yn dinystrio, Digon bellacb atal dv law, a gad i diugaredd orfoleddu yn erbyn barn. Gwelwn yma pa mor barod yw Duw i faddeu, a pba cyn lleied hyfrydwcb y mae yn gymeryd mewn cosbi." Llawr-dyrnu. Adeiledid hwy yn gytfredin ar leoedd uchel er mwyn c-i 1 digon o wynt- Tybir fod y llawr hwn i'r go^lcdd-ddwyrain i'Seion ar fryn Moriab. Arafnah, neu, fel y gelwir ef mewn manati ereill, Ornan. Adnod 17—"A llefarodd Dafydd wrth yr Arglwydd, pan ganfu efe yr angel a darawsai y bobi, a dywedodd, Wele, myfi a becbais, ac a wnaethum yn ddrygionus ond y defatd hyn, beth a wnaetbant hwy ? bydded at 'Iwg, dy law arn if fi, ac ar dy fy nhad." Mae y brenin am gymeryd y cyfrifoldeb o't bai arno ei hnn, ac y mae yn ymbil am arbediad i'r bobl. Mae hyn yn nodweddiadol o'r gwir edifeiriol bob amser. Nid yw am daflu y bai ar ereill. Arnaf ft, ac ar dy fy nhad, hyry yw, fy nhvlwvth i. Y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? "A wnaethant! Beth? hwy a wnaethant lawer allan o le eu pechod hwy a demtiodd Duw i adael Dafydd ei hun wnenthur fel ag y gwnaeth; eto fel yr oedd yn gweddu i un edifeiriol, y mae ef yn llymdost at ei ieiau ei hun. tra y mae yn esgusodi eu beiau hwynt. Mae y rhan fwyaf o bobl, pan y mae barredigaethau Daw ar y ddaear, yn cyhuddo ereill o fod yn achos ohonynt, ac nid ydynt yn gofalu pwy fyddo yn syrthio trwyddynt. ond iddynt bwy alhi dia^c ond yr oedd ysbryd e iifeiriol a gwlad- garol Dafvdd yn cael ei effeithio yn wahanol." Y mae Dafydd yn barod i offrymu ei fywyd ei hun er mwyn arbed y bobl. Adnod 18—" A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwuw, ac a ddywedodd wriho, Dos i fliny, cvfod allor i'r Arglwydd yn llawr-dyrnu Arafnah y Jebusiad." Atebwyd gweddi Dafydd, ac arbedwyd y ddinas. Gad ydoedd un o gjfeillion ae un o gyfarwyddwyr penaf Dafydd. Yr oedd Arafnah yn un o hen drijolion y wlad, ac un o ddisjjynyddion y Canaaneaid. Tybir gan rai oddiwrt!) adnod 23 ei fod wedi bod yn frenin Jerusalem. Cenadwri Gad ydoedd hysbysn Dafydd fod yr Arglwydd wedi ei wran to, ac ar ei edifeirwcb a'i yraostyngiad wedi heddychu ag ef. Gan mai trwy aberth y mae heditwob yn cael ei wneyd rhwng Duw a phechaduriaid, gorchymynir i Dafydd fyned a chodi allor i'r Arsrlwydd yn y tan lie yr ataliwyd yr angel. Adnod 19.—" A Dnfydd a aeth i fyny, yn ol gair G-id, fel y gorchymyn^sai yr Arglwydd iddo" Mor baro 1 y mae Dafydd i ufuddhau. Yr oedd ei galon yn llawn diolchgarwch. Yr oedd yr allor hon yn He manteiaiol iddo oftrymu otfrymau diolch. Adnod 20.—" Ac Arafnah a edrychodd, ac a ganfa y brenin a'i weision yn dyfoii taag ato. Ac Arafnah a aeth allan, ac a ostyngodd ei wyneb i lawr ger bron y brenin." A aeth allan, o'r llawr-dyrnu lie yr oedd yn gweithio. Ymostyngodd i'r brenin, gan ei gydnabod. Ni wyddai yn iawn pa b th ydoedd amcan dyfodiad y brenin eto. Adnod 21.—" Ac Arafnab a ddywedodd, Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was? A dywedodd Dafydd, I brynu genyt ti y llawr dyrnu, i adpiladu wllor i'r Arglwydd, fel yr atalier y pla oddiwrth y bobl." Mae Dafydd mewn clull agored yn hysbysu ei neg-es, a chan fod Arafnah wedi gweled yr angel ei hun, yr oedd yn fwy pirod i gydsynio a chais y brenin. Adnod 22.—"A dywedodd Arafnah wrth Dafydd, CymKred, He offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olww wele yr ychain yn boeth-offrwm a'r ffustiau ac offer yr ychain yn lie cynud." Mae Arafoah yn dangos ysbryd hae,frydig iawn. Mae yn fod ilawn rhoddi y llawr dyrnu, ac nid hyny yn unig, ond yr ychain a'r offer. Yr oedd am roddi y cwbl at was- anaeth y brenin. Adnod 23.—"Hyn oil a roddodd Arafnah, megys brenin i'r brenin. A dywedodd Arafnah wrth y brenin, Yr Arglwydd dy Dduw a fyddo boddlon i ti." Megys brenin i'r brenin. Oddiwrth yr ymadrodd hWfJ, t) bir fod Arafnah wedi bod yn frenin ar y Jebusiaid yn Jerusalem, neu ei fod yn disgyn o'r teulu breninol. Mae ereill yn golygu nad ydyw yr ym. adrodd yn golygu mwy na bod ei rodd yn anrhydeddus megys rhodd brenin i frenin Adnod 24.—"A dywedodd y brenin wrth Arafnah, Nage dthr gln brynu y pryriaf ef mewn pris genyt i ac nid offrymaf i'r Arglwydd fy Nuw boeth- offrymau rhad. Felly Dafydd a brynodd y llawr- dyrnu a'r ychain, er deg a deagain o siclau arian." Mae yma ddau enaid boneddigaidd wedi cyfaifod yn dda. Mae Arafnah yn ewvllystjar iawn i roddi; ond y mae D/ify ld yn benderfynol i brynn, ac am reswm da —ni wneiff offrymu hyny i Dduw yr hyn ni chost'odd ddim iddo." Deg a deugain o siclau arian, neu chwe' chan' sier o aur wrth bwys gwerth tua .£157, fel yn 1 Chron. XXI. 25. Meddylia amryw mai pris y llawr-dyrnu a nodir yma, ond bod y pris a nodir yn 1 Chron yn cynwvs yr hyn a roisai Dafydd am yr holl fynydd hwnw, set Moriah. Adnod 25.—" Ac yno yr adeilado^d Dtfydd allor i'r Arglwydd, ac a offrymodd boefh-offrymau ac offryman hedd- A'r Arglwydd a gymododd a'r wlad, a'r pla a atal'wyd oddiwrth Israel." Poeth-offrwm. Yn golyau ei ymgysegriad Ilwyr a hollol i'r Arglwydd. Offrymau hedd, sef offrwm y cymod a Duw, a diolch- garwch i Dduw am ei druiaredd. Ychwanegir yn 1 Cliron xxi. 26, Ac a alwodd ar yr Arglwydd ac efe a'i hatebodd ef o'r nefoedd t wy dan," &o. Ar y lie hwn yr adeiladwyd y deml-gwêl 2 Chron. iii. 1. GWERSI. Aincan Duw yn ei holl famedijjaethau ydyw gwella y cymeriad. Nis gall Duw oddef pechod yn ei bobl; rhaid eu ceryddu. Yn ngweddi Dafydd, cydnabyddir uniondeb y farn- addefa ei bechod, ac y mae yn barod i ddyoddef y canlyniad ond mewn ysbrvd haelfrydig a gostyngedig deisyta am arbediad i drigolion Jerusalem. Dyma'r ysbryd sydd yn nodweddu y gwir edifeiriol bob amser. Wrth yr allor, trwy hunanymwadiad ar sail haeddiant lawn y Croes, y gall y pechadur edifeiriol obeithio am Mr Duw a diaugfa bythol rhag y far' edigaeth. Crist yw ein hallor ni, ein haberth ni; yndds Ef yn unig y gallwn ddysgwyl tru^aredd gyda Duw, i ddianc rhag ei ddigllonedd." Nis gwyr y rhai hyny ddim bfth yw crefydd, holl Nis gwyr y rhai hyny ddim btth yw crefydd, holl ofal pit rai yw ei awneuthur yn iselbris ac yn esmwyth iddynt eu hunain, a'r rhai syd'i yn cael eu boddhau fwyaf gan vr hyn sydd yn costio leiaf o boen ac arian iddynt." Rhaid offrymn i'r Arglwydd offrwm diolch- garwch, ac y mae yr offrwm hwnw i fod yn ffrwyth hunaii) mwadiad. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Beth gymhellodd Dafydd i gyfrif y bobl ? Profwch ei fod yn bechadurus ? 2. Paham y dygodd yr Arglwydd haint ar y wlad oberwydd hyn ? 3 Yn mha fodd y gpllir dywedyd fod y bobl yn rhanol o bechod Dafydd ? 4. Beth barodj i'r Arglwydd atal y pla cyn taro Jerusalem P 5. Yn roha. le yr oedd llawr-dyrnu Arafnah ? 6. Pwy oe id Arafnah, y Jesubiad P 7. Paham y mae Dafydd yn dymuno p-ynu ei lawr- dyrnu ? a ph Jham y gwrthododd gynygiad haelionus Ar-ifnah P 8. Beth ydoedd ystyr yr allor a adeiladodd Dafydd yn llawr-dyrnu Arafnah P 9. Beth ydoedd ystyr yr offrymau a offrymodd Dafydd, sef poetb-offrymau ac offrymau hedd ? 10. Pa adeilad a adeiladwyd ar y lie hwn wedi hyny ?

I'Cyfarfodydd, &e.