Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG.
News
Cite
Share
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. At Olygivyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION, — Derbyniwyd y llythyr canlynol oddiwrth Ysgrifenydd Mr Gladstone mewn atebiad i'r penderfyniad o gondemniad ar waith TS" yr Arglwyddi yn gwrthod Mesnr yr Etbolfraint, a basiwyd yn Nghyf- arfodydd yr Undeb Cynulleidfaol Cymreig yn Llanelli, Gorpbenaf yr 28ain, 291.in, a'r 30ain :— 10, Downing-street, Whitehall, Awst 12'ed. BARCH SYR, — Cafodd Mr Gladstone yr anrbydedd o dderbyn y penderfyniad y bn i chwi fod mor garedig a'i anfon iddo o barthed i wrtbodiad Mesur yr Ethol- fraint gan Dy yr Arslwyddi. Cyfarwyddir fi i gyf- lwyno ei ddiolchgarwch trwyoch chwi, am yr amlyg- iadan o gymeradwyaeth a chefnoyaeth a esyd y pender. fyniad allan. Ydwyf, Syr, eich nfndd was, S. LKVESON GOWER. I'r Parch J. B. Parry.
ADRODDIAD COLEG CAERFYRDDIN…
News
Cite
Share
ADRODDIAD COLEG CAERFYRDDIN AM 1883-1884. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,— Dichon y caniatewch i tri ychydig ofod i alw sylw at yr Adroddiad uchod. Gallaf eich sicrbau mai nid awydd nodi ffaeleddau yr Ysgrifenydd, nac ychwaith niweidio y Colez sydd yn peri i mi ysgrifenu. Yr wyf yn gyfaill i'r Coleg, ac y mae genyf barch calon i'r Ysgrifenydd parchus, eto rhy anhawdd yw cau llygaid rhag gweled diffygion mewn Adroddiad fel h-Nn sydd mor lla. n ohonynt. Gwir nas gallwn ddysgwyl fod ysurifenyddion ein Colegau yn hollwybodol, ond yn sicr dylent fod mor wybodus a bodau cyffredin am symudiadau yr Enwad. Y mae'r Adroddiad wedi newid ei liw, a da hyny; y mae bellach yn Doriaidd ei liw, ac fel y blaid hono yn bob peth ond yr hyn a ddymunem dim cymaint a title page, enwan un aosbarth o'r myfyrwyr wedi en gadael allan, a rhaid cael slip bychan o bapyr i dynu sylw pawb at yr aflprwch. Ond rbaid gadael y pethau yna, a myned at yr hyn y bwriadem alw sylw ato. Y mae yma restr o enwau gweinidogion sydd wedi en haddysgu yn y Coleg, a dosrenir hwynt i dri dosbarth Settled in England, in Wales, and Foreian." Kdrycbir ar y rbestr vn Nghymru, a chawn D. T. Evans, New College, London; Jobn D. Roberts, London; W. Thomas, Lancashire College; Enoch Jones, America; ac amryw ereili yn America yn y weinidoaaeth, ac yn Yale College Yn awr, beth a feddyliai plant ein hysgolion dyddiol pe dywedai rhywnn wrtbynt fod Llnndain, America, Coleiz Yale, a Lancashire, yn Ngbymrn, sier yw yrhaidfod Cymru Coleg Caerfyrddin yn eang iawn. Hefyd, gellir meJdwl fod y list yn rhy fer i foddio yr Yagrifedydd, ac i wneyd i fyny am hyny gosodir enwau yr un personan i lawr mewn gwahanol ffurfian. Cawn yma J. Jones, Gwernllwyn, Dowlais ac eto J. Towyn Jones, Gwernllwyn, Dowiais gallem feddwl y bnasai yn bawddach gwneyd dau o faintioli cyffredin o ami un sydd yn y list nag o Jones, Dowlais. Eto ceir R. Jones, St. Ishmael's, ac hefyd Richard Jones, Lit'le Haven dylasem gael R. Sirhowy Jones, Dale, eto i fewn. Eto ceir Proff T. Rees, Bala College, ac befyd T. Rees, Bali. Os felly gellid yu hawdd gwneyd list i gvrhaedd o Gaergybi i Gaerdydd. Hefyd, nis gallwn hi na theimlo fod yr Adroddiad yn bradychu anwybodaeth anesgusodol am symudiadan ein gweinidogion. ond ni wnawn enwi ond ychydig o lawer ceir T. M. Henry yma fel aweinidog Boddgelert, dylasai yr vsgrifenydd wybod fod Mr Henry weli ymadael o Beddge ert er's blynyddau, a bn farw yn Nghaerfyrddin yn ymyl y Coleg. G. D. Hughes eto fel myfyriwr yn Ngboleg Lancashire, ac yntau wedi ei ordeinio er 1881. D. N. Jenkins, Cardiff; y mae Mr Jenkins wedi myned o Gaerdydd er's amryw flynydd- au. Y mae dau weinidog weli bod yn Star-street ar ol Mr Jenkins, a Mr Jenkins wedi bod dros foroedd geirwon ond yn Nghaerdydd y mae o hyd meddai Adroddiad Colea Caeifyrddin. Nis gwn a wêl yr Ysgrifenydd yn dda ddarllen yr uchod, ond gwu fod yr Adroddiad yn rhwystr i'r myfyrwyr gasgln mewn llawer ardal. ANNIBTNWR.
'YR UNDEB CYMREIG. ,-
News
Cite
Share
YR UNDEB CYMREIG. At Olygivyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDlGION,- Y r ydwyf fi gyda chanoedd ereili yn teimlo yn ddiolcbgar dros ben chwi am yr adrodd- iad llawn a roddasoch o gyfarfodydd yr Undeb Cymreig, ac yn ddiolchgar hefyd i Lladme. ydd am ei adolygiad teg a didnedd arnynt, er nad yw yn gwneyd fawr ddim ond canmol. Dichon fod ambell frawddeg yn yr adrodd- iad a'r adolygiad yn eithafol, ac yn fwy o farddoniaeth nag o wirionedd llythyrenol ond yr oedd yn anhawdd peidio myned yn farddonol dan ddylanwad y gwefr a'r ysbrydiaeth a dramwyai drwy y gweithrediadau yn Llanelli. Yn ddiddadl yr oadd y eyfarfodydd yn rhai rbagorol, a gwnaeth y rhan fwyaf o'r rhai a gymerodd ran ynddynt eu gwaith yn ganmoladwy a dywedir gan y rha) eydd wedi dilyn yr Undeb o'r dechreuad na chaf- wyd eu cyffelyb o ran lluosogrwydd cynnlliadau. Ond er mor rhagorol oeddynt, nid wyf yn tybio y dywed neb eu bod mor berffaith fel nas gellir gwella arnynt. Yr unig ffordd i berffeithio cyfarfodydd yr Undeb y;lyw drwy alw sylw y naill flwyddyn ar ol y llall at yr hyn oedd ddiffygiol ynddynt, ac y mae rbyw dri neu bedwar o bethau a ymddangosant i mi yn ddiffygion yn y cyfar- fodyd I eleni, at y rhai y dymunwn giel ystyriaeth holl gefnogwyr yr Undeb. 1. Gwuaeth rhyw haner dwsin o bersonau-gwein. idogion a lleygwyr—ea hunain yn amlwg drwy eu hab- senoldeb, ac ni chlywais neb yn medra i hoddi cyfrif boddhaol paham yr oedd. nt yn absenol. Di,au mai hwy gafodd y polled fwyaf, ac nid wyf am foment yn tybio nad all yr Undeb fyw a myned yn ei flaen yn annibynol ar help unrhyw baner dwsin o wyr lien a gwyr lleyg sydd genym, oherwydd ni tbeimlwyd unrhyw anfantais neillduol o achos yr absenolion eleni. Ond pan y mae dynion wedi bod yn flaenllaw gyda'r Undeb, ac wedi cael lie amlwg ynddo, y mae yn natutiol i bobl holi am danynt os na welir hwy yn y cyfarfodydd. Dysjwyl r yn rhesymol am bresenoldeb rbai dynion bob bivvy idyn er lIa byddatit, efallai, i sjymeryd unrhyw ran bendant yn y gweithrediadau, ac y mae y dysgwyliad yn fwy pan y byddo y cyfryw bersonau wedi cael lie prominent eisoes. Os yw yr Uudeb i barhau yn allu grymus yn yr Enwa I, rhaid i'n holl ddynion mwyaf btaentlaw a chy- hoeddus ei wneyd yn nod fod yn bresenol pa un bynag a fydd eu henwau ar y rhaglen neu beidio. Y mae o bwys h nfodol na byddo neb, yn fwriadol nac yn an- fwriadol, yn tafln cysgod diystyrwch ar y rhai a nodir o flwyddyn i flwyddyn i gymeryd rban yn y gweithred- iadau. Buasai yn hawdd iawn i amryw o'r enwo&jion a ddaethsnt i Lanelli. gymeryd vmrwymiad arall ar y tlyddiau byny, nen gymeryd ihyw achlysur yn ea.;ns dros beidio bod yno, ond yr oedd eu sel dros yr Undeb, a'u hawydd i gynal breichiau y rhai a (II dasid i'r gwaith cyhoeddus yn peri iddynt dori drwy bjb rhwystr er mwyn bod yn bresenol. 2. Yr oeddwn yn dysgwyl, ar ol y papyr rhagorol a llawn o awgrymiadau gweithfawr a d^arllf>nwyd gan Mr Herber Evans, y cawsid ymddyddan aruo a fuasai yn dangos i ni ddrws agored pa sut i weithredu yn y mater. Ond fel arall y bu. Yr oedd y rhan hon o'r gweithrediadau yn anfoddhaol iawn, ac yr wyf yn sier fod ngeiniau fel fy hunan yn myned allan wedi eu siomi. Yn ddiddadl y mae Ein dyledswydd fel Enwad yn wyneb cynydd addysg yn un o'r pynciau pwysicaf i ni ar byn o bryd, ac ni cheir byth gystal cyfle i'w drafod ag a gafwyd yn Llanelli. Gwyrpawb fod t-in Henwad mewn sefyilfa gythryblu3 bellach er's saith mlynedd. Gobe thiai llawer fod sefy d ad y Colegau Cenedlaethol yn agor ffordd i ddyfod allan yn anrhydeddus o'r dyrys- wch; ae er, efallai, nad oes neb hyd yma wedi cael gweledigHeth eglnr, eto yr oedd yno amryw a chanddynt air i'w ddywedyd allasai fod yn help i gychwyn. OlJd ni chawsant gyfle. Dywedodd yr Ysgrifenydd fod cymaint o waith i fyneJ drwyddo fel na ellid rhoddi mwy na chwarter awr o amser i siarad ar y mater; yn sicr dylasai y Pwyllgor fod wedi t'efnu i gael awr o leiaf, hyd yn nod pe buasai raid er mwyn hyny daflu yr holl waith arall hyd y gyn d'edd boreu dranoeth. Ac i ddifa hyny o amser a ganiatei I galwodd rbywrai am Syr Jones Jenkills, ac ereili am Dr Evans o New College. Y mae genyf gymaint o barch ag a fedd un- rhyw un i'r ddau foneddwr, ac yr oeddwn yn falch o'u gweled yn y cyfarfod, ond nid oedd yr un ohonynt, fel y profodd en sylwaiau, yn deall yr anhawsder yr ydym ynddo, ae, oblegid hyny, nid oedd yr hyn a d ywedwyd gand.iynt yn un help i ddyfod all-in ohono, ac ni siaradodd yr un ohonynt ar bwnc y papyr. Baich hwnw, ydoedd, pa beth, a pha fodd, i woeyd a'n colegau enwadol wedi y ce r addysg ganolraddol, ac wedi sefydlu y colegau cenedlaethol. Dyna y mater y dylesid cael ymddyddan arno, ac ni ddyles d galw ar neb i siarad oddigerth y tybid fod ganddo ryw oleuni i'w roddi. Bellach, ar ol colli y cyfle i'w drafod yn Llanelli, bydd raid i'r wasg a chynalwyr ein colegau ei gymeryd i fyny a'i wyntyllio yn dda. 3. Yr oedd yn eglur fod teimlad cryf yn y lie o blaid y gwelliant a gynygiwyd gaD Mr Miles, Aberystwyth, er mai efe yn unig oedd yn ddigon diofu i'w ddwyn yn mlaen. Ond yr oeddwn yn rhyfeddu na buasai mwy o pluck mewn amryw oedd yn y cyfarfod i'w gefnogi yn gyhoeddus. Ni waeth i ni heb wenieithio, nid yw yr aelodau Cymreig yn gwneyd o lawer yr hyn a allent dros y wlad sydd yn eu hanfon i'r Senedd. Nis gellir eu galw yn party o gwbl. Y maent yn cadw yn rhy bell oddiwrth eu gilydd, yn Ile bod yn ymuno lei un gwr i gydhawlio i ni ein hiawnderau. Prin hwyrach y bvddai yn ddymunol cael Welsh party yn y Senedd o ysbryd ac ymddygiadau yr Irish party sydd yno yn barod ac nid wyf yn credu mewn taflo rhwystrau i ffordd y Weinyddiaeth pan y maeyn eglur nad oes uim i'w enill, er nad yw rhai o'n haelodau yn petrnso gwneyd hyny pan fydd ^.anddynt ryw hobby o'r eiddynt eu hunain ond yr wyf yn credu yn gryf mewn iddynt ddyfod i well dealltwl iaeth å'u gilydd, i gydofyn am yr un petb, a gwasgu yn dyn nes ei gael, a rhoddi ar ddeall yn glir i'r awdurdod-iu nas gall ein lojalty fel gwlsd barhau oni wruidewir ar ein llais, ac oni chyflawnir ein dymuniadan. Pe gwnaethent hyn ni feiddiasai y Llywodraeth gynyg llai i Aberystwyth nag oedd wedi ei roddi i Gaerdydd a Bangor, ac ni buasai achos addysg ganolraddol ychwaith wedi ei adael lie y mae. Y ew r am dani ydyw, nid oes pedwar o aelodau yn y Seneid yn baeddu unrhyw ddiolchjarwch am yr hyn a wnaethant o blaid addysg ganolraddol Cymru, ac nid Ilawer mwy na byny sydd wedi dangos rhyw frwdfrydedd mawr dros bar had y rhodd i Aber- ystwyth. Cafwyd cyfleusdra rhagorol yn Llanelli i ddwyn ein cwynion i sylw, ac ni feddyliais erioed o'r blaen y gallasai dynion mwyaf blaenllaw yr Enwad Annibynol fod mor amddifad o wroldeb yn mhresenol- deb aelod Seneddol. Dywedwyd gan amryw ar ol'y cyfarfod, oni bai tod Syr Jones Jenk ns yn bresenol, a Mr Henry Richard yn cael ei ddysgwyl y noson hono, mai nid gwaith anhawdd fu isai cario cynygiad Mr Miles drwy y gynadlcdd gyda mwyafrif m'lwr, os nad yn gwbl unfrydol. Ond, atolwg, pa riswra sydd dros fod yn fwy o lwfriaid'yn wynebau yr aelodau nag yn eu cefnau P Rhyfedd y fath Wrfseidd-dra sydd wedi ein meildianu fel cenedl, a thra y byddo arweinwyr y bobl felly, nis gellir dysgwyl i'r werin fod yn wahanol. Hh >tf i'm liith fyne I yn rhy faith, gadnwaf y pethau ereili hyd yr wythnos nesaf. Yr eidoeb, &c., UNDEBWR.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Genedigaethau, Priodasau, &c. DAJÆmR SYLW.—Ein telerau am gylioedili Barddoniaetli yn sysylltiedis a hanes Gencdigacth, Priodas, neu Farwolaetli yw tair ceinios y llinell. PRIODASAU. EDWARDS—JONES.—Awst 12fed, vn nghapel Tyrhos swydd Benfro, gan y Parch T. M. Davies, gweinidog y lie, Mr St pbei Edwards, 1, Sapphire-street, Caerdydd, A Miss Eliza Jones, ail ferch Mr S tmuel Jones, Kilrhue. MARWOLAETHAU. DAVIKS A THOMAS.—Dydd Gwener, Awst laf, geneth fechan amddifad, bed-nr mlwydd oed, o'r euw Elixa- beth Davies, yr bon oedd o da ) ofal y Parch J Tho- mas, B.A., Capel Isaac ac ar y Sabboth canlynol cymerodd v gelyn, o fynwes dyncr y fam, faban tlws ac anwyl Mr a iWra Thomas cyn ei bod yn chwe' mis oed. Golygfa ddifrifol ydoedd gweled y ddwy fechan yn trorwedd yn farwol yn ymyl en gilydd. Y Llun canlynol cymerwyd corff E. Davies at ei pherihynas- au i gladdfa Eglwys Llangathen. Gwei"yddwyd yn y ty sran lorwerth, Liaudilo. Dydd Mercher, Awst 6ed, ynigasglwyd drachefn i gladdu BLth Thomas, yr hon a welid n ei harch fel delw brydferth o gwyr neu farmor gwyn. Yn y ty darllenwyd rhanan o'r Gair, a gweddiwyd gan y Parch W. Davies, Llandilo, a chymerwyd y b'odeuyn toredig i gladdfa Capel Isaac. Darllenwyd a aweddiwyd wrth y bedd gan y Parch D. M. Evans, Salem. Yr oedd yn yr angladd amryw weinidogion heblaw y ddau a enwyd, sef y Parchn W. Gibbon, Llanymddyfri; D. Odver, Tie- ffynon; W. Oliver a W. Lewis, Llanfynydd; yn nghydag amryw o swyddogion ac aelodan Capel Isaac a Llanarthney-—Iorwerth. EVANs.-Awst IOfed, Mr William Evans, grocer, Cas- llwchwr, yn 58 mlwydd oed. Ni bu yn glaf ond tair wythnos. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf parchus a charedig yn y dref ac yn eglwys Horeb. Profwyd hyny yn amlwg ar ei gladdedigaeth y dydd Iau can- lynol. Dilynwyd yr elorgerbyd o Casllwchwr i Pembre gan ddeg-ar-hugain o gerbydau, a llu o gyf- eillion ar eu traed. G*einyddwy i yn yr angladd gan Mr Thomas, Bryn, a Mr Stephens, Brvnteg. Mab ydoedd Mr Evans i'r diweddnr Barchedig Mr Evans, Crwys. Byddwn yn teimlo yn chwitbig a galarns heb gwmpeir.i a dyddanwch ein hen gyfaill. Yr Arglwydd fyddo yn Fugail ar ei weldw wylofus a'i dwy eneth fechan.-Ioon Kemes. EVANS -Awst 13eg, Ellen Myfanwy, plentyn ieuangaf Mr Beriah Gwynfe Evans, Llangadog. LLEWELLYN.—Gorphenaf 31ain, Mr G. P. Llewellyn, Tiewern, Wlntland, yn 52 oed. Cafoddiiirgystudd. Ni wyr neb ond Duw fa nt o boenau ddyoddefo 'd am y tair blyned 1 y cyfyugwyd ef i'w wely. Siar- adodd lawer am grefydd yn ei gystudd, a gweddiodd lawer am barodrwydd erbyn y siwrnai ddidroi yn ol. llu yn aelod crefyddol yn Bethel, LLwddewl Velfrey, hyd ei fai wulaeth. Ym^asjlodd torf fawr i'w angladd Awst4ydd, am 11 o'r gloi-h. Gweinydd«yd yn y ty gan ei weinidog, y Parch W. Thomas, ac yn eglwys Llanddewi gan y Parch Mr Dav d, curad, lie j c'addwyd ei weddillion marwol. GadawoJd weddw ac un-ar-ddeg o blant i alaru eu colled ar ei ol. Barnwr y gwe fdwou a Thad yr amddifaiJ ofalo am y teulu yn eu trallod blin. MORGANS -Awst laf, yn 44 mlwydd oed, Sarah Mor- gans, anwyl briod David Morgans, Gadlys-street, Aberdar. Cafodd yr ymadawedig gystudd maith, a bu farw yn dawel a'i phwys ar ei Gwaredwr. Bu yn aelod dichlynaidd yn eglwys Bethel (A.) am flynydd- oedd lawer. Boreu Llun canlynol, wedi darllen a gweddio gan y Parch J. D. Rees, Salem, yn y ty, hebryngwyd ei gweddillion marwol gan dorf fawr i orsaf y G.W.R., er myned a'r corff i Gaste'lnedd, ac oddiyno gyda'r N. & B. i orsaf yr Onllwyn, ac yr oedd yno dorf yn ein cyfarfod er cludo ei rhan farwol i fynwent bynafol Ty'nycoed—ei chartref genedigol. Dechreuwyd y gwasanaeth yno gan yr Hybarch Davies, o'r Seven Sisters, a phregetbwyd gan ei pharchus diweddar weinidog, y Parch T. Selby Jones, Llangiwc, a chafwyd anerchiad ar lan y bedd gan y Parch L. Jones, gweinidog y lie. Yr Arglwydd fyddo yn nerth ac yn nodded i'w phriod galarus a'i unig ferch fach tra yn nhaith yr anial. Heddwch i'w llwcli.