Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
CWM RHONDDA.
News
Cite
Share
CWM RHONDDA. YBarry Dock.-Mae Mesur Rheilffordd a. Dociau Barry wedi pasio trwy y Senedd, ond nid beb ymdrech ddirfawr gan y promoters. Fe ddaliodd y Bute a'r Taff ati yn dyn, ond gorchfygwyd bwynt. Mae wedi myned yn rhy bell yn banes y byd, ac hyd yn nod yn hanes y Cymry tawel a llwfr, yn awr i oddef llawer o orfaeliaeth ac nid yw dyweyd fod hyn wedi cymeryd lie yn y gor- phenol yn nglyn A'r Cwm hwn a Chaerdydd ond dyweyd yr hyn a wyr pawb. Mae preswylwyr y Rbondda-y Rhondda Pawr a'r Rhondda Fach- yn ymgystadlu i ddangos eu parch tuag at, a'u hedmygedd o'r gwyr fu yn Llundain yn brwydro. Y mae preswylwyr y Rhondda Fach-Perndale a'r Maerdy, &c.—wedi dangos cymaint parch i Mr Lewis Davies pan ddychwelodd o'r frwydr, fel y penderfynodd preswylwyr y Cwm eu trecbu, os gallent. Yr oeld Mr Davies, Llandinam, yn ym- weled a'r Cwm am y tro cyntaf wedi y frwydr, nos Iau, y lie,, cyfisol. Daeth i fyny gyda y tren wyth o'r gloch prydnawn. Yr oedd yn rhaid iddo ddisgyn yn yr Ystrad, er mwyn i'w weithwyr ac ereill ei dynu trwy y Pentre a Treorci i Ysirad- fechan, He yr oedd esgynlawr wedi ei chodi iddo roddi araeth i'r dyrfa. Yr oedd yr heolydd ar hyd yr holl ffordd yn Hawn baneri o bob math a JIiw, ac arnynt y dyrouniadau arferol ar amgylch- iadau o'r fath. Yr oedd yn ddigrif gweled Iliein- iau byrddan a gwrtbbanau, &c yn chwifio yn yr awyr; ac am y torches yr oeddynt yn cyneu with y canoedd, a'r hauliers yn gwaeddi fod y Barry Dock ar dan. Yr oedd saethu hefyd yn rban amlwg o weithrediadau y dydd. Pan gafodd Mr Davies ei hun ar yr esgynlawr, ac ar ol i ycbydig sypynau o sebon oeddynt wedi eu darparu erbyn yr amgylchiad gael eu gwerthu, cafwyd araeth ar- dderchog ganddo. Dywedodd fod yr ymdrech wedi costio iddynt .£60,000 neu Y,70,000, ond y deuai ag arian i mewn yn mhen amser, a'i fod ef yn bersoDol yn foddlon iawn i ranu yr elw rhwng y meistr a'r gweithiwr. Wei, da iawn. Pe na byddai cludiad y glo i'r Barry ond un geiniog yn rhatach yn y dunell, y cawsent X12,000 i'wrhanu ond ei fod ef yn credu y bydd yn bump ceiniog y dunell yn rbatacb, ac yna cant X60,000 i'w rhanu rhwng y meistr a'r glowr. Campus, wir. Rhwydd hynt ynte i'r Barry. A wna y Birry Dock ni wed i Gaerdydd? Mae yn rhwym o wneyd i rywrai yno; ond nid llawer, os dim, i'r bobl gyffredin a'r gwmthwyr. Y Bute gaiff yr ergyd trymaf; y nesaf ato y Taff; oblegid, fel y dywedodd Mr Davies, mae yn bur debyg o dd'od, nid i'r Porth, ond i Treorci. .4
RHOSTYLLEN. -
News
Cite
Share
RHOSTYLLEN. Mae y lie uchod yn bentref cynyddol a phryd. ferth oddeutu haner y ffordd rhwng Wrexham a Rhosllanerchrugog. Tuadechreu y flwyddyn hon decbrenwyd pregethu mewn ty yn y gymydogaeth gan y Parchn D. Roberts, Wrexham, ac R. Roberts, Rhos. Nid oedd addoliad Cymreig yn ctel ei gynal yn yr ardal o'r blaen, a chafwyd prawf yn ebrwydd fod y Cymry yp hoffi addoli Duw yn iaith eu tadau. Gwasgai y lluaws i wrando, ac ymunodd amryw o'r newydd a'r ychydig frodyr oedd yn y lle o'r blaen. Meddyl- iwyd am gapel, a cbafwyd hanes capel haiarn da ar weith gan Undeb Cynulleidfaol Seisonig Gogledd Cymru, a tbalwyd am dano .£150 gan Mr Charles Griffiths, Wrexham. Bellach, mae eglwys wedi ei ffurfio yn y He, ac mae y dyfodol yn edrych yn addawol. Eistedda y capel oddeutu 300, ac edrycha yn dlws iawn. Dydd Llun di- weddaf, cynaliwyd gwyl de yn y capel, a daeth canoedd yno o'r ardajoedd cylehynol i weled y capel ac i gefnogi y cyfeillion yn y lie. Yn yr bwyr cafwyd cyngerdd ragorol, o dan lywyddiaeth y Parch R. Roberts, ac arweiniad Mr J. Evans. Canwyd yn ardderchog gan amryw gyfeillion o'r Rhos, Wrexham, a'r Nant. Elai yr holl elw at y gost o symud y capel a phrynu y tir. Bu yr an- farwol Williams o'r Wern yn meddwl am achos yn y lie hwn, ond yr oedd ei ofalon mor fawr fel nas gallodd gyflawni ei fwriad. Bellach, wedi 50 mlynedd, dyma ei fwriad yn ffaith.
AGE B LONG ATJ CAERDYDD.
News
Cite
Share
AGE B LONG ATJ CAERDYDD. Gadawodd y Gwenllian Thomas, s.s., Huelva am Garston, Awst 13eg, 1884, Gadawodd yr Iolo Morgan- wg, s.s., Caerdydd am Ancona, Awst 14ig, J884. Mae yr Anne Thomas, s.s., yn Syra yn dadlwytho. Gad- awodd y Rate Thomas, s.s., Gibraltar am Rotterdam, Awst 14eg, 1884. Cyrhaeddodd y Wynnstay, s.s., Taganrog ar y 9fed eyfisol. Mae y Walter Thomas, s.s., ar ei mordaith i Baltimore. Mae y Bala, s.s., yn cael ei phafofcpi at fyned allan yn Hartlepool.
TABERNACL, HIRWAUN.
News
Cite
Share
TABERNACL, HIRWAUN. CYFARFOD ORDEINIO. Yn y lie uchod, Sul a Llun, Awst y 3ydd a'r 4ydd, cynaliwyd cyfarfodydd urddiad Mr T. Edmunds, o Goleg Aberhonddu. Da genym ddwyn tystiolaeth i lwyddiant y cyfarfodydd hyn. Dydd Sul, drwy y dydd, bu y Parch R. Trevor Jones, Pant-teg, yn cyfranu i ni o fara y bywyd, ac yn wir yr oedd y gwirioneddau yn flasusfwyd o'r fath oreu. Dydd Llun, am 10 o'r gloch, pregethodd y Parch J. Davies, Soar, Aberdar, ar Natur Eglwys, ac yn absenoldeb Dr Morris, Aberhonddu, gofyn- wyd y cwefatiynau arferol i'r gweinidog ieuanc gan y Parch R. T. Jones, ac offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch J. Morgan, Cwmbaeh, a tberfynwyd y cyfarfod drwy waith y Parch T. George yn pregethu siars i'r gweinidog etholedig. Am 2 o'r gloch, pregethwyd gan y Parchn Thomas, Pen- rhiwceibr, a Williams, Canaan, yr olaf a bregeth- odd siars i'r eglwys. Gwyn fyd na fyddai pob eglwys Annibynol yn Morganwg yn cael ei chlyw- ed. Am 6 o'r gloch, pregethodd y Parcbn Williams, Castellnedd, a Williams, Omaan. Ni raid iddynt wrth gynieradwyaeth. Hefvd, cy- merwyd rhan yn y cyfarfodydd gan y Parchn Davies, Abercwmboy; Jones, Waunlwyd a Lewis, Treforris. Yn ychwanegol at y rhai a enwyd, gwelsom yn bresenol y Parcbedigion Morgans, Resolven; Evans, Brynmawr Jones, Llwynypia; Stephens, Beaufort Rees, Tredws- tan; Williams, Quaker's Yard; a Rees, Salem, Aberdar. Meistri D. Phillips, J. Price, Waters, Davies, Prothero, James, Walters, Morgan, Lewis a Rees, pa rai oeddynt fyfyrwyr o Aberhonddu a Thomas, Western'College. Dymunwn longyf- arch y gweinidog ieuanc ar ei waith yn cychwyn ei weinidogaeth dan amgylchiadau morddymunol. Caffed hir oes i lafurio yn y lie. CTPAILL. ♦
PETHAU NAS GWYR PAWB.
News
Cite
Share
PETHAU NAS GWYR PAWB. Y ffordd gyntafi argyhoeddi Esgobion a Phrelad- iaid.-Siglo eu prif gadeiriau, bygwth eu tocyn, a chynyg prinhau yr Epha arnynt. Ant yn llygaid a chlustiau a chalon i gyd, os medr rhyw- un wneyd iddynt deimlo fod eu parch, a'u cwp- bwrdd, a'u llogell mewn danger. Bu tafodau rhyddaf Liberals y ganrif hon yn pregethu iddynt yn rhad ac am ddim, oddiar destynau mwyaf etholedig y dydd, sef, "Rhyddid gwladol, cyd- raddoldeb crefyddol," ac egwyddorion ereill an- feidrol bwysig "i'r werin a'r miloedd;" eithr prin yr oedd neb yn mysg y goreugwyr urddasol yn cymeryd arnynt weled na chlywed lleferydd y gwyr a'r tafodau arian. Yr oeddynt mor ddi. gyffro a'r neidr fyddar. Ond, pan fygythiodd Radicals yr House of Commons gael Bill of depar- ture i symud eu cyrff, a sychu 61 eu traed oddiar loriau yr House of Lords, disgynodd y syniad fel Roman Bulletin hyd eigion eu calonau. AcArch- esgob Canterbury oedd y cyntaf amlygodd yn wyneb haul a llygad goleuni," fod,retax yn cymeryd Me within the strata oj their narrow limits, cyn ei myned yn too late. Cododd "y Gwir Barchedig Dad yn Nuw ar ei draed fel dyn yn yr House of Lords ddydd rhaniad y Tý ar ail ddarlleniad y Franchise Bill, ac areithiodd cystal a Liberal o'i blaid, a mynai iddynt ei basio yn ddeddf ddinag, ac ymaith ag ef i'r un lobby a'r Weinyddiaetb, a'i frawd o York ar ei ol, a deg o Esgobion ereill hefyd, gan adael yn hai-gip yr hen Elliott o Gaerloyw, yn unig fab dyddanwch i eneinio mynwesau clwyfus Ardalydd Salisbury, Arglwydd Cairns, a'i gyteillion. Wei, dyna beth newydd dan haul yn hanes Esgobion Lloegr, Cymry, ac Isle of Man. Agorwyd eu llygaid i gyd ond un! Hawyr bach pa gyfrif ellir roddi am beth fel hyn ? U D esgob ar ddeg, a'r penbugail yn yr un lobby a'r Liberals! "My- I y negwch hyn yn Gath i'r High Church Party ? ac yn Ascelon i'r Low Ecclesiastics? ac na chelwch y ffaith oddiwrth fercbed y Philistiaid," er na buont hwy o dan urddasol eneiniad "Y Church Holy Orders ?" Ai mwy grasol a doeth ydyw y set Esgobion presenol, na'r lluaws a fu o'u blaen yn perch enogi y one tenth ? Na, without controversy, y ddadl a'r bleidlais ar eu hachos yn yr House of Commons dro yn ol daflodd oleuni mawr iddynt ar eu perygl o ymgyndynu yn erbyn Bill y mil- oedd Gwyr Dr. Benson, "Mai trech gwlad nac Arglwyddi," ac nac Esgobion hefyd. Ymgroes- odd mewn pryd rhag tanio nyth y picwn. A phe buasai yr Arglwyddi yn agoryd eu clustiau i wrando arno, yn actio mor galled ag yr actiodd ef a'i frodyr lien, ac yn peidio lladd mab y wraig rydd" yn y cawell magu, dichon y cawsent leasehold for a certain period yn y Ty UchaIfel politicians, ond gan iddynt ddewis peidio gwisgo mask am eu gwynebau, ac ymwthio fel gwaddod trwy feusydd llafur eu eymydogion diwyd, rhaid iddynt ddyoddef canlyniaian barn y wlad yn gosb am eu camwedd, ac nid rhyw lygaid craff iawn sydd eisieu i weled yn glir beth fydd eu tynged! As it is written, They ought to be abolished." Ofn nos yn erbyn mwyafrif Ty yr Arglwyddi. Maent yn arswydo pob twmpath, yn ofni pob tro yn yr heol, ac yn roundio milltiroedd rhag pasio glewdai. Ac yn wir, yn wir, meddaf i chwi, am- ser tywyll a du yw hi arnynt er dydd rhaniad y Ty ar ail ddarlleniad y Franchise Bill, a chynt. Ac os oee rbyw goel i'w roddi ar y public opinion, y maent yn ymyl gwaeth catastrophe na drwg- ddiwedd yr Express Train yn Penistone. Swn taranau, a mellt, a daeargrynfäl1 sydd yn mhob parth o'r Deyrnas Gyfunol, pob mynydd a bryn yn mygu, gan esgor lava yn rhigolau, a'i lucbio i fyny hyd entrych nen, nes tynu i lawr hail stones yn gawodydd breision, a'r rhai hyny yn cbwalu megys peleni tanllvd o gwmpas traed meinciau Lords, Peers, ae Esgobion y Ty Uchaf yn y deyrnas! Ac yn ddiddadl, maent hwythau "yu ofni ac yn crynu," rhag ofn y dygwydd rhywbeth a fo gwaeth. A gwaeth waeth y mae hi yn myn'd o hyd. Arwyddion beichiogi yn brysur ar y cymylau, yr wybrenau yn myned drymach drym- ach, a'r ddu-nos dywyll yn pygu yn dywyllach dywyllach dywyllacb, heb gymaint ag argoel llewyroh haul, lloer na ser A gwaeth na'r cwbl, y mae rh6ch gwynt yn chwiban hefyd o bwyntiau peryglus, ac yn arwyddo gwlaw bras iawn. Y mae rbutbrwyntoedd yn ysgubo maes trwy ddrys- au a ffenestri Ty y Cyffredin, a dwy filiwn o voters tybiedig yn fanio ar ol hyrddwynt aruthrol a Ilais y wlad yn mon ei adenydd yn ysgrechian yn groew waeau a chwildroadau, nes bod ambell Lord yn syrthio ar ai liniau yn nghanol y storm ifegio pardwn meginwyr y ddrycin Meddyliodd Lord Wemys, ond perswadio y Tory Lords i wneyd compromise a'r Liberal Commons, y gallai atal achos y rhyferthwy a chael tawelwch mawr. Eithr nid felly y bu, oud cwbl groes i'w obeithion er mawr sioruedigaeth i'w ddysgwyliadau. Taflodd Lord Cadogan faw i'r caws nes anurddo ffrwyth y fuches i gyd, er anogaeth, cynghor, a chysur cryf i Arglwydd Salisbury, yr hwn yn wastad sydd yn ymylu "ar amryfusedd cadarn mewn bustl chwerwder, a rhwymedigaeth anwiredd." Ha wyr frodyr, a fedrwch chwi broffwydo beth fydd diwedd y pethau hyn ? Y mae a fedr ddeongl, a deongl diwedd eu hymarweddiad hwynt! Y DYN HYSBYS., « 1.
BETH DDYWEDIR YN NGHYMYDOGAETH…
News
Cite
Share
BETH DDYWEDIR YN NGHYMYD- OGAETH LLANGIWC. Fe ddywedir fod cyfarfod mawr i gael ei gynal argae Dr. Rees, Tirbacb, ar y 25ain o'r mis yma, er dadleu cwestiwn yr Arglwyddi, pryd y dysgwylir yno i areithio dri o aelodau Seneddol, sef Mri Pugb, Powell, ac O'Connor Power. Bydd gorymdaith yn cerdded o Brynaman hyd waelod Cwmaman, yu cael ei blaeriori gan chwech seindorf. Fe ddywedir fod cyfarfod o'r un natur i gael ei gynal yn Ystalyfera. Cyferfydd pwyllgor ar y mater nos Fercher nesaf. Fe ddywedii mai tywyll iawn yw cyflwr masnach wedi bod yn y lie olaf er's rhai blynyddoedd, ac nad oedd dim i'w ddysgwyl ond y newydd fod ewmni y gwaith aIcan wedi cau ycyfan i fyny; ond pan mae'r nos dywyllaf inae'r wawr agosaf. Felly yma. Rhedodd yuewydd fod y gwaith wedi ei brynu gan gwmni y Gurnos, ac fod yr holl swyddogion i gael eu symud, bag and baggage, ar unwaith. Mae rhai obonynt yn dechreu pacio eisoes, ac ni fu y fath lawenydd yn unman a fydd yma pan fo rhai ohonynt yn gadael y lie. Fe ddywedir fod gwaith glo mawr i gael ei gycb- wyn yn ardal Cwmllynfell. Bydd hwn yn gaffael- iad mawr i'r lie hwn a Brynaman. Fe ddywedir fod eglwys Brynaman wedi pasio i roddi gal wad i Mr Evans, brawd Mr Evans, Felin- crythan. Gobeithio yr ateba efe hi yn gadarnhaol. Fe ddywedir fod bra wd yr afradlon' wedi bod yn y capel uchod yn ddiweddar yn cynorthwyo byddin y Riban Glas. Dichon mai dirwestwr yw, os nad o egwyddor, ei fod felly o serch at y geiniog, gan ei fod mor gas wrth ei frawd pan ddaeth yn ei ol i gael rhan o eiddo ei dad. Fe ddywedir fod gwaith newydd y Waun yn d'od yn mlaen yn rhagorol. Dyma un or gweith- iau goreu yn y eymydogaethau hyn.
Advertising
Advertising
Cite
Share
GREEN MOUNTAIN ASTHMA. CUKE — A nfonir tiniau nychain yn rliydd trwy y Jiythyrdy ain ls2c.- K. NEWBEITY, a'i FEIBJON, 1, King Edwin-d-struet, Lluudain Sefydlwyd yri y lfwyddyn 1746.