Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ADDYSG GERDDOROL YN NGHYMRU.

News
Cite
Share

ADDYSG GERDDOROL YN NGHYMRU. GAN DB. JOSEPH PARRY, FBIFATHEAW COLEG CERDDOROL CYMRU, ABERTAWY. CYNGHANEDD, GWBTHBWYNT, A'R EHEDGAN. Anwyl gerddorion ieuainc, dymunaf arwain eich sylw at dri maes eang efrydiaeth gerddorol, sef Gynghanedd, Gwrthbwynt, a'r Ehedgan. Yn gyntaf- G.ljn.r¡lzanedd.- Y mae adnoddau cynghanedd er lliwio y gerddoriaeth mor aml-liwiol a'r enfys, ac mor brydferth eu haddurniadau a'r blodeuglwm prydferthaf; eto ni ddadblyga hi ei dirgelion ond i'w hefrydwyr ffyddlonaf, a'r unig allwedd er agoriad i'w meusydd blodeuog ydyw nosweitbiau, misoedd, a blynyddoedd o efrydiaeth yn nirgelion ei phrydferthwch, trwy ddealltwriaeth drwyadl o bob sain ac anghydsain, yn nghyda'u gwrthddulliadau, parotoadau, a'u hadferiadau, nes y medr y cerddor ddethol, amrywio, a chydgymysgu eu llivviau seiniawl nes y byddo y cyfan fel gardd brydferth o flodau gan swyn amrywiol a phrydferth yr etaith. Y mae dealldwriaeth drwyadl o gynghanedd o fewn cyrhaedd pawb, ac heb angen o'r dalent leiaf; ac nid ydyw meddiant ychwaith o'r wybodaeth hon yn un prawf o athrylith-eyfrwng ydyw y wybodaeth hon ag sydd wedi ei gasglu, a swydd athrylith ydyw creu a defnyddio y wybodaeth hon er lliwio ei gerddoriaeth. Ni wna unrhyw gymaint o wybodaeth ddyn yn athrylithgar, eithr rhaid i'r athrylithgar wrth wybodaeth 11 o'r cyfryngau hyn er rhoddi bodolaeth a ffurf i'w feddyliau bywiog ac ysbrydoledig. Y llyfr goreu ar gynghanedd ydyw Rudiments of Harmony, gan Dr Macfarren, pris 5s., argraff- edig gan J. B. Cramer & Co., 201, liegent- street, London, gan ei fod yn cynwys yr oil, a'i driniaeth yn gryno, ei gyfundrefn mor gyson, meddylgar, arhesymegol er arwain yr efrydydd drwy yr holl faes blodeuog hyn mewn amser byr. Y mae tri pheth yn arbenig yn y gwaith hwn-yn gyntaf, y mae yn trin pob chord heb fyned allan o'r cyweirnod; yn ail, fod i'r oil anghydseiniau eu gwreiddiau ar y tonydd, eilfed, a phumed y cyweirnod a'u hadferiadau, heb fyned allan o'r cyweirnod yn drydydd, y mae pob rheol yn eglur a phendant. Enwaf, hefyd, ei Six Lectures on Harmony fel cyd- ymaith gwertbfawr, lie y rhesyma y doethawr yn gryf dros ei olygiadau, ac fel yr unig allweddau er esbonio triniaetk ddyeithr ac eithriadol o'r brawddegau hyny a ddangosa o weithiau y prif gerddorion. Pe bai amser a gofod yn caniatau, caraswn roddi engreifftiau mewn cynghaneddu brawddeg mewn lluaws o wahanol ddulliaut end gall yr efrydydd ym- chwilgar gael ymborth bras i'w feddwl ond iddo fanylu ar gyngkaneddion yr awduron goreu; nodaf vVagner, Gouuod, a Schumann fel meusydd toreithiog i'w liefrydu yn nghyfoethogrwydd cynghanedd eu cynyrchion. Dyma un o brif nodweddion y cyntaf yn arbenig, gan y ceir yn ei wybren gerddorol ef gymylau a phiunedao, yn ogystal a rnellfc a tharanau, ddigon i foddhau cywreinrwydd cynghaneddol yr efrydydd mwyaf uchelgeisiol, gan fod nodwedd cynyrchion y dyn rhyfedd hwn yn beuaf yn liiwiad ei gynghanedd ac offerynau y gerddorfa, ac nid arinibyuolrwydd ac aml-leisiau ei wrthbvrynt. Givrthbwynt.— Gan fod fy sylwadau ar gangenau y gynghanedd a'r ehedgan yn bur heJaetn, yr wyf felly dan orfodtetb i gvfyngu fy sylwadau ar y gwrthbwynt i yehydig eiriau. Prif nodwedd yr adran bwysig hon ydyw meithrin y gallu o roddi annibynolrwydd i'r holl leisiau, yn ogystal a dyddordeh a naturiol- deb rhediad alawaidd pob llais. Y mae braidd yn boblogaidd gan un dosbarth o'n cerddorion diweddaraf i gyhoeddi fod oes yr arddull hwn drosodd, ac y mae Berlioz, v Ffrancwr talentog rhyfedd hwnw, yn mha un yr oedd athrylith yn berwi o'i fewn, ac yn byrlymu allan ei gynyrchion fel y chwydda y mynydcl tanllyd allan ei gynyrchion yntau mae ei watwariaeth o'r arddull hwn (gwrthbwynt ac ehedgan) mewn cydgan, sef yr Amen," yn ei waith rhyfedd ac anfarwol o Ddamnedigaeth Faust," er yn ddoniol dros ben, eto yn engraiff't o'i farn ef ar arddull y gwrthbwynt; ond gwell genyf, er fy edmygedd o gynjTchion y dosbarth hwn, i gydsynio a barn y dosbarth arall, gan gredu na wnaeth efrydiaeth neu feistrolaeth drwyadl o'r arddull hwn yr un cerddor yn waeth. Mae cynyrchion Mozart, Bach, a Handel yn cadarnhau hyn. Er fod cynghanedd yn ofynol i'r arddull hwn, eto ail beth ydyw i symudiad alawaidd ae annibynol y lleisiau. Y cerddorion hyny na feddant dalent neu awen, na gallu naturiol i greu, dyma yr arddull fwyaf addas iddynt, gan mai y gallu o ymdriniaeth yw hon, ac nid creu yn gymaint. Hawdd fyddai gosod engreifftiau o amrywiol ffurfiau peirianol yr arddnll hwn, sef y pump rhyw o wrthbwynt syml, y gwrthbwynt gwrthddull- iedig. y gwahanol efelychiadau rhydd a chaeth ar wahanol raddau o'r raddfa; ond fy amcan er y dechreu ydyw eich anesmwytho i gael yn eich myfyrgell yr awduron goreu i'w liefrydu, eu dadlenu, a gweithio allan eu cynwysiad, ac nid rhoddi arddangosiad ohonynt yn fy ysgrif. Dr Macfarren ydyw yr awdwr olaf yn y ffurf hon, ac y mae yn llyfr gwir dda. Ei bris ydyw 7s. 6c, argraffedig gan University Press, Cambridge. Hefyd, Cherubini ar Counterpoint and Fugue, pris 6s. 6c., argraffedig gan Novello & Co., 1, Berners street, London. Yr Ehed,qan.- Y mae cyfeiriad bys gwrth- bwynt, efelychiadau, &c., at yr ehedgan rnegys ag y mae gwreiddyn y dderwen ya taflu a lledu allan ei changenau a'i dail, felly hefyd y mae y cyfansoddwr yn dadblygu allan o sylfon yr ehedgan ei changenau hithau Frwythau ydynt ag sydd yn tyfu allan o'i gwreiddyn, neu ei sylfon; ei gwreiddyn ydyw. Sylfon unigol neu ddwbl testyn yr ehedgan a'r cangenau ydynt—yn gyntaf, yr is-sylfon, neu gydymaith y brif sylfon, yr hon a ddylai fod bob amser yn wrthddulliedig yn ail, y cyweirnodau rylch- ynol. i ba rai y telir ymweliad a hwynt trwy gyfrwng trawsgyweiriant, er cynyrchu aiuryw- iaeth yn drydydd, y brawddegau crwydriadol er dwyn newydd-deb; yn bedwerydd, y stretto, yr hon sydd yn angerddoli diweddiad a thriniaeth yr ehedgan i'w graddau uchaf; ac yn olaf, y pedal point, yr hon sydd yn rhoddi gorphwysdra a diweddeb foddhaol, nes enill i'r oil o'r cangenau hyn driniaeth gelfyddydol, amrywiaethol, cryno, ac yn sicrhau bywiog- rwydd ae unoldeb rhwng gwraidd y sylfon a holl frigau y cangenau tarddedig a nodwyd uchod. Hawdd fyddai gosod o'ch blaen engreifftiau o'r holl gangenau hyn, ond y mae prinder gofod etc yn ein rhwystro, ac y mae llyfrau mor hawdd i'w cael i bob myfyrgell gan iselder eu pris. Ceir triniaeth o'r cyfan gan Cherubini, Counterpoint and Fugue, &c. a dau arall hynod o dda gan lawnder eu hadnoddau— yn gyntaf, Fugue, gan James Higgs, pris 2s., argraffedig gan Novello & Co. yr ail gan Rahdner ar Imitation, Fugue, and Canon, argraffedig gan Lougham, Brown, Green, & Loughmans, London. Gresyn na bai ein hieuenctyd yn treulio en nosweithiau i ymbortbi eu meddybau ar y brasder meddyliol hyn. Carwn allu eu hargyhoeddi, fod mil mwy o bleser yn y meusydd cyfoethog hyn nag mewn. canu eu hunain bob nos i wynebgochni a chrygni. O! fel y caraswn weled rhes o'n becbgyn ieuaine wedi meistroli y tair cangen hyn, fel y gallent gartrefu yn ngwahanol ardaloedd poblogaidd ein gwlad, er c/frami y wybodaeth hon trwy gynal dosbarthiadau hwyrol. Hefyd. hoffwn o galon weled pwyll- gorau ein heisteddfodau yn rhoddi gwobrau am destynau fel hyn, yn ogystal ag mewn canu a chwareu, gan fod liawer mwy o'u heisieu; byddant felly yn gyfrwng er mwy o addysg, ac yn cyfarfod ag angenion ein gwlad. Hawdd fyddai mabwysiadu y cynllun llesiol hwn trwy roddi gwobrau yn mhob un o'r tair cangen hyn, trwy nodi y llyfrau priodol i'w hefrydu, ac awr o eisteddiad yn mhob cangen mewn lie apwyntiedig, er ysgrifenu a gweithio allan yr atebion a'r gwersi a fyddo ar y papyr parotoedig. Ac yn olaf, carwn symbylu ein hieuenctyd i barotoi ar gyfer arholiadau lleol blynyddol yn ein gwlad gan golegau Llundain. Gan fod gini o draul i'r holl arholiadau uchod, tybed y cawn gcfnogaeth gan gerddorion Cymru pe bawn yn ffnrfio arholiadau blynyddol yn nglyn a'r coleg hwn, a hyny am brisoedd iselach—cael y papyrau a'r gwersi yn Gymraeg, yn ogystal a'r Saesoneg, fel y gall pob Cymro barotoi a myned i fewn i'r arholiadau hyn yn mhrif bentrefi a threfi Cymru. Ai nid ein dyledswydd fel cenedl yw cynorthwyo y Saeson yn eu hym- drechion i gyfranu addysg yn ein mysg drwy gynal arholiadau P A oes rhywun a ddywed ei farn, a yw yr awgrym hwn yn deilwng o sylw a mabwysiad P Yn fy Ilith nesaf ysgrifenaf ar gyfansoddi. ♦

CYFARFOD CHWARTEROL MON.

0 AMERICA. --