Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Cynwysiad.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cynwysiad. Hysbysiadan .1,3 Ymylon y Ffordd 3 Addysg Gerddorol yn Nghymru-Cyfarfod Chwar. terol Mon 4 Ebenezir, Dnnyant—Y Golofn Wleidyddol 5 Undeb yr Anuibynwyr Cymreig 6, 7 At ein Gohebwyr—Yr Wythnos 8 Y BRIF ERTHYGL- Gollyogiad y Senedct-O America 9 Cwm Rhoudda-Rhostyllon-Tabernaci, Hirwaun —Pethau nas gwyr pawb — Beth ddywedir yn nghymydogaeth Uangiwc 10 Gohebiaethau-Genedigaethau, Priodasau, &c. 11 Y Wers Rhyngwladwriaethol-Cyfarfodyàd, &c. 12 Caerlleon a'r Cyffiaiau—Llwydcoed, Aberdar 13 Hysbysiadau 14. 15, 16
AT EIN GOHEBWYR. -
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. R. Wood.—Ymddengys y farddoniaeth y cyfeiriwch ati yn ein nesaf. Mewn Llaw. Cyfarfod Chwarterol Llanbedr-Tôn Dyffryn Baca — Fforestfaoh — Silurydd — Gurnos, Ystalyfera-Taith o Lundain i Ganolbarth Affrica- Adolygiadau—D. G. Evans — Cyfarfodydd, &c.— Cyfarfod Ail-agoriadol Brynberian, &c.
Advertising
Advertising
Cite
Share
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. CYFARFODYDD LLANELLI. ADRODDIAD 1884. YN CYNWYS A NEROHIADyCadeirydd—Pregetltauyi-Undeb—Papyrau —Areithiau — Penderfyniadau — Cyfrifon, &c Pris swllt (0 am 5s.) Archebion oddiwrth brynwyr al dosbarth- wyr, a'r taliadau i'w hanfon i Rev H. Jones, Harland-Road, Birkenhead. Dyogeler yn ddioed, er gochel siomedigaeth, gan nad argreffir ond nifer fechan. Anfbnir copi yn rhad heb archeb i bob tanysgrifiwr o 5s ac uehod at Diysorfa, yr Undeb. TYSTEB MR DAVID JAMES, YSGOLFEISTR, HENLLAN AMGOED. SWYDDOGION Y PWYLLGOR:- Cideirydd:—Mr T. Lewis, Ffosddufach. TiysoryddMr T. Jones, Wernlygos. YsgrifenyddParch D. E. Williams, Henllan. DARFU lluaws o gyfeillioD ao edmygwyr 'Mr James, yr hwn sydd, ac wedi bod yn ysgolfeistr dafnyddiol a llwyddianus iawn ya Henllan am uwchlaw dwy flynedd ar hugain, ac wedi rhoddi dylanwad ei gymeiiad pur, a'i fywyd gweithgar, yn mhlaid pob mudiad sydd a thuedd i foesoli a dyrchafu ei oes, benderfynu yn ddiweddar mewn pwyligor rheolaidd a gynaliwyd yn ysgoldy Henllan ei anrhegu a Thysteb, fel atwydd o'u paich diffuant tuag ato, a'u gwerth- fawrogiad o'i lafur. With gychwyn nid oedd dim yn mhellach o feldwl y Pwyll. gor na rhoddi cyhoeddusrwydd i'w bwriad, ond yn wyneb fod llawer o'r ihai fu dan addysg Mr Jame3 yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf wedi gwasgar ar hyd a lied y wlad, yn taimlo parcli mawr tuag ato, a than rwymedigaeth. iildo, yr ydym wedi derbyn tanysgrifladau oddiwrth nvi nadadwaenem, ac ereill yn cwyno am nad yw y peth yn gyhoeddus. Felly mae y Pwyligor wedi penderfynu taflu y drws yn agored, a ] hoddi gwaboddiad i'r rhai a ewyllysiant i gydweithredu yn yr amcan teilwng hwn. Bydd y Dysteb yn cael ei chau a'i cliyf- lwyoo ddiwedd Medi. Cyhoeddir rhestr o'r tanysgrifwyr yn y TYST A'R DYDD, Seren Cymru, &c. CARDIFF GRAMMAR SCHO¥L. A BOARDING AND DAY SCHOOL. CI LASSES now reading for the UNIVERSITY Colleges, the J TRAINING and DENOMINATIONAL Colleges, the M EDICAL, LEGAL, and PHARMACEUTICAL Examin- ations, and for the CIVIL SERVICE and COMMERCIAL PURSUITS. DUTIES resumed on MONDAY, JULY 28th, ISSt. For terms, &c., apply to R. G. LEVI, VJ, Fitzalan Place, C udiff. 18 7.r EOS DYFFRYN, R.A.M. MAE'E Eos wedi dychwelyd o'r America,, ac yn agored i dderbyn engagements fel Tenor iganu mewn Cyngerdd- it'r a beirniadu mewn Eisteddfodau. Cyfeiriad — EOS DYFFRYN, la Palross-road, Brixton, London, S.W. OPINIONS OF THE PRESS. Mr Dyffryn demonstrated an excellent quality of voice and very pleasant and effective expression in his songs. Wilkesbarre Record (America). "Much was said to Mr Dyffryn's praise before hlS appear- ance, but it is impossible to describe the satisfaction and sur- prise which he gave to his audienee.Mahonoy Tribune (America). 8.15.84j CANWCH YN DDA SlAKADWCH YN DDA!- Mac Doughty's Voice Lozenge wedi eael ei Werthfawrogi yn fawr gaii glcrigwyr, cantorion, ac enwogion ereill am yn agos i 40ain mlynedd. lthydd glirder a gloewder i'r llais. JENNY LIND. Y mae yn bleser mawr genyf, mor bell ag y mae fy mliroiiad yn myned, i gadarnhau y dystiolaeth sydd mor gy- fti ediriol yn ffalr y Lozenges a barotoir genych clnvi" (Miles Doughty). lie. Is, 2s 6c, 5s, a Us-yn rliydd trwy y llythyrdy, 7c, Is 2e, &e. (lol vmvch i'eh Cyfl'erydd am danynt— JMI3\V15ERYr a'i FKIIHON"' J, Killg Edward-street, Llundain, E,C. Scfydlwyd yn y t>wyddynl716
YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
YR WYTHNOS. MAEWOLAETH CYBYDD.—Yr oedd hen wr o'r enw Abraham Price yn byw yn Chester, ac yn gwerthu llyfrau bob dydd ar le gwag ar Eastgate-road. Golwg fudr ac afler fyddai arno, ac yr oedd golwg felly yn deffro tosturi llawer tuag ato, gan dybied ei fod yn dlawd ac mewn angen. Bu am dymhor yn un o heddgeidwaid y ddinas, ond yn ddiweddar yr oedd wedi cymeryd a gwerthu llyfrau. Cymhellid ef gan ei gyfeillion mewn cellwair i wneyd ei ewyllys, er na wyddai neb fod ganddo berthynas ar y ddaear, a'i ateb fyddai, "Y caffai y Goron wneyd ei ewyllys ef." Bu farw yn ddi- weddar, a chafwyd ei fod mewn eiddo ac arian yn werth £5,000; a chan iddo farw yn ddiewyllys, diau y bydd ei holl gyfoetb, fel y dywedai, yn myned yn eiddo y Goron. Onid cyflwr truenus yw eiddo y gvvr hwnw sydd yn cosbi ei hun i gasglu arian, a disgyn i dlodi tragywyddol yn y byd arall ? MARWOLAETHAU DISYMWTH.- Y r wythnos ddiweddaf adth Mr Thomas Lewis Thomas, Penydarren, i Ffynonau Llanfair. Ym- ddangosai dydd Iau yn ei iechyd arferol, ond boreu dydd Gwener bu farw yn hollol ddisymwtb ac annysgwyliadwy, er dychryn i'r canoedd ymwelwyr, ac er galar i gylch eang o gyfeillion. Pellebrwyd y newydd i'w weddw, yr hon a gyflymodd i Lanfair ond Did oedd ganddi ddim i wneyd ond wylo mewn hiraeth. Cymcrwyd y corff adref dydd Sadwrn i'w gladdu yn meddrod y teulu. Yr oedd Mr Lewis mewn amgylch- iadau clyd, ac yn nodedig o barchus gan bawb a'i badwaenent. Llanwodd y swydd o ddiaconyn Horeb am flynyddau, a tbeimlir colled fawr ar ei ol yn y cylch crefyddol. Yr un wythnos, pan oedd Dr Richardson, Rhaiadr, yn dychwelyd adref mewn cerbyd, gwylltiodd yr anifail, taflwyd ef allan, a bu farw yn y fan. Derbynia llawer golled drom yn ei farwolaeth, canys yr oedd yn feddyg medrus ac yn wr caredig, ac wedi gweini ar gleifion am flynyddau lawer. TORIAD I FYNY Y SENEDD.—Am fod Ty yr Arglwyddi wedi gwrthod Mesur yr Etholfraint, penderfynodd Mr Gladstone ddirwyn gwaith y Senedd i fyny yn fuan, fel y gallent gael ychydig seibiant a gorphwys cyn cyfarfod eto yn yr Hydref i ail basio y mesur. Darllenwyd yr Araeth ymadawol dydd Iau, y 14eg cyfisol, ac ymadawodd yr ychydig ffyddloniaid oedd yn aros gyda chyflymder-rhai i'w cartrefi, ereill i'r Cyf- andir, ereill i lan y mor, a chryn lawer i'r mynyddoedd. Bydd yr eisteddiad hwn yn un hanesyddol, a gadawa argraff annileadwy ar ddeddfwriaeth y wlad. Er nad oes mesurau o'r pwysigrwydd blaenaf wedi eu gwneyd yn ddeddfau, eto mae y ffordd wedi ei hagor i basio mesurau a ffurfiant gyfnod newydd yn hanes ein teyrnas. Bydd y gwyliau hyn yn un o'r cyfnodau mwyaf cynbyrfus, ac y mae'r frwydr rhwng yr Ar- glwyddi a'r bobl wedi myned yn boeth iawn. Deil Arglwyddi Salisbury a Churchill mor ystyfnig ag erioed, ac ni wna ymad- roddion sarhaus y ddau ond cynhyrfu y bobl i fwy o benderfynolrwydd i fynu eu hawliau cyfreithlon. Clywir bonllef y bobl yn dyrchafu yn groch o bob cyfeiriad. Ffurfir cymdeithas er dileu Ty yr Ar- glwyddi, ac nid oes ganddynt neb i'w feio am hyn ond hwy eu hunain. Dechreuad gofidiau yw y pethau hyn oil, ac ni a byder- wn y rhoddir iddynt ddoethineb i gymodi a'r anocheladwy mewn pryd. MARWOLAETH SYR ERASMUS WILSON.- Nid oedd un enw yn y byd meddygol yn fwy adnabyddus na'r uchod. Dringodd i sylw yn ieuanc fel meddyg galluog ac ym- roddgar. Rhoddid iddo ar wahanol adegau anrhydedd a theitlau lawer. Nid llawer o'n meddygon a anrhydeddwyd a'r fath gyflawnder ac amrywiaeth o'r cyfryw bethau. Penodwyd ef rai blynyddau yn ol yn Llywydd y Royal College of Surgeons, a dim ond y goreuon sydd yn gymhwys i lanw y cylch hwnw. Astudiodd glefydau ydynt yn cael eu hesgeuluso yn ormodol gan feddygon yn gyffredin. Cyhoeddodd lyfrau ydynt yn weithiau safonol mewn amryw gangenau o law feddygiaetb. Casglodd gyfoeth mawr, a chyfranodd filoedd lawer er gwaddoli cadeiriau yn ysbytai cyhoeddus Llundain a dinasoedd ereill; Dygwyd ei enw i amlygrwydd neill- duol yn ddiweddar gan ei anturiaeth yn gwario £10,000 i gael Nodwydd Cleopatra o dywod yr Aipht, lie y bu yn gorwedd am ganrifoedd, i Lundain. Llwyddodd yr antnriaeth yn hollol, a gwelir y nodwydd heddyw yn sefyll ar sylfeini cedyrn ar yr Embankment yn Llundain yn gofgolofn brydferth o ysbryd anturiaethus a haelioni calon Syr Erasmus. Ond efe a fu farw; a thra byddo ei lyfrau yn cael eu darllen, ffrwyth ei haelioni yn cael ei fwynhau gan genedlaethau dyfodol, ac yn neillduol tra byddo Nodwydd Cleopatra ar ei sylfaen adamantaidd yn dyrchafu ei phen i'r awyr ar lan y Thames yn Llundain, bydd enw Syr Erasmus Wilson yn adnabyddus, a'i goffadwriaeth yn barchus, a hyny gan genedlaethau ydynt eto heb eu geni. MARWOLAETH Due WELLINGTON.—Dim ond un Due Wellington sydd yn adnabydd- us i'r holl fyd gwareiddiedig. Pan gry- bwyllir yr enw meddylir am wron y Penin- sular War, a buddugoliaethwr Waterloo. Efe trwy y fuddugoliaeth hono a waredodd y byd oddiwrth draha a balchder gormesol Napoleon Bonaparte. Dringodd trwy yr amgylchiad hwnw i'r poblogrwydd mwyaf fel penrhyfelwr. Ond mae efe wedi huno or's amryw flynyddau, a daeth ei fab hynaf i'r bendefigaeth yn ei le; ond nid oedd dim o neillduolion meddwl na chymeriad ei dad yn perthynu i'r mab. Gvvr tawel, heb ym- boeni dim gyda gwleidiadaeth na rhyfel, oedd y mab ac yn y blynyddoedd diweddaf hyn yr oedd wedi myned yn bruddaidd ei feddwl, ac yn ymgynghori yn barhaus a'i feddygon am anhwylderau tybiedig. De- chreu yr wythnos ddiweddaf aeth i Brighton am ychydig ddyddiau, gan gymeryd ei was gydag ef i weini arno. Gan nad oedd yn teimlo yn well, penderfynodd ddychwelyd i Lundain. Aeth i'r orsaf i gyfarfod y tren dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, a phan yn gorchymyn ei was i godi tocynau syrth- iodd ar ei wyneb, a bu farw yn y fan. Ym- daenodd y newydd gyda chyflymder, a thaflwyd mantell o brudd-der dros gylch- oedd uchaf cymdeithas yn y wlad hon.
GOLLYNGIAD Y SENEDD.
News
Cite
Share
GOLLYNGIAD Y SENEDD. MAE ein Senedd wedi ei gollwng, a'n Seneddwyr wedi eu gwasgaru, a diau fod cael eu penau yn rhydd yn ymwared mawr iddynt oil. Cyfarfuasant ar y 5ed o Chwef- ror, ac o hyny hyd Awst 14eg-am chwe' mis llawn-bu raid i Weinidogion y Goron I