Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMIiEIG.

News
Cite
Share

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMIiEIG. CYFARFODYDD BLYNYDDOL YN LLANELLI, GOEPHENAF 28AIN, 29AIN, A'R 30AIN, 1884. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) Wedi ychydig sylwadau arweiniol gan Syr J. Jones Jenkins, galwodd ar y Parch T. Nicholson, Dinbych, i draddodi ei anerchiad ar DRUENI CYMDEITHASOL SIN" GWLAD, A'R FEDDYGINIAETH. Mae y deffroad cyffredinol yn y dyddiau hyn i sefyllfa dosbarthiadau isel a thruenns cymdeithas yn un o arwyddion mwyaf calonogol yr amserau. Hyfryd yw gweled Cristionogaeth yn amlhau y rhesymau dros ei bodolaeth, ac yn wyneb cyfnewidiadau cymdeithasol yn ateb yn hyglyw a gwrol drosti ei hun. Mae'r hunan- aberth fu yn Jlosgi yn nghalonau Howards a Nigh- ingales y dyddiau a fa, yn fyw mewn llawer calon eto, ac nid ydym heb arwyddion fod yr ysbryd hwn yn ein gwlad yn myned rhagddo yn gorchfyau ac i orch- fygu." Mae Diwygiad Cymdeithasol" yn prysur ddyfod yn un o brif bynciau y dydd. Mae'r fath oleuni wedi ei dafla ar y sefyllfa fel y mae yn rhaid ei gwynebu. Mae nythleoedd trueni erchyll fa yn ym- guddio yn hir yn nghysgod tawel difaterwch wedi eu dwyn ar edyn y Wasg i oleuni llachar y cyhoedd. Gwnaeth y pamphledyn adnabyddus," The Bitter Cry of Outcast London," wasanaeth dirfawr yn y cyfeiriad hwn. Derbyniodd miloedd o galonau ysgydwad trydanol gan y dynoethiad hwn ar y trueni cymdeith- asol; a'n gobaith ydyw na wellheir yn rhy fuan oddi- wrth effeithian y shock-no. wellheir yn wir nes y bydd mwy o edrych—o ddal i edrych yn hir a gonestyn wyneb y mater hwn nag a fu erioed, ac nes y bydd y mesuran mwyaf effeithiol wedi eu dyogelu, a'r ym- drechion mwyaf epniol a diorphwys wedi en dwyn allan er darparn yn foddhaol ar gyfer eyflwr adfydus miloedd o drigolion ein gwlad. Mae y trueni cymdeithasol mown rhan yn allanol a materol, ac mewn rhan yn fewnol ac ysbrydol. Mae y ffurfiau allanol arno yn rhai brawychus iawn. Meddylier am y bryntni sydd oddeutu personan y dosbarth hwn, a'r carpiau aflan Bydd o'n cylch. Llusgant ea bodolaeth mewn ystafell- oedd nad oes cyfleusdra i'r gair anwyl, cysegredig, cartref," roi ei droed i lawr ynddynt. Pentyrir y ddau ryw yn nghyd i'r un ystafelloedd yn fath niferi nes y mae pob gwedde'dd-dra yn cael ei golli. Nid oes ffordd rydd i belydron siriol y goleuni i'r manau hyn. Mae y tai a'u bamgylchoedd yn orchuddiedig gan fudredrli-y drygsawr yn annyoddefol, a'r awyr yn llawn gwenwyn a haint. Dyna ddigon; dyna ddigon," ebe rhywun. Na, aroswcb, dyna'r meddw- dod, dyna'r llwon, a'r rhegfeydd, a'r iaith ffiaidd, dyca'r grechwen annaturiol, dyna'r ilefau a'r crion sydd yn rhwygo yr awyr, dyna'r anniweirdeb a'r anon- 'o did, dyna'r rhyfyg annuwiol. Mae y rhai hyn yn llef- aru am ryw drueni duach, dyfnach, na'r allanoI-dyna drueni ysbryd-Duw yn unig sydd yn gweied hwn fel y mae, a Thad yr ysbrydoedd yn unig all ei ddiwreiddio o ysbrydoedd dynion. Dyna y trueni, a drych o dristwch yw edrych drosto." Yn awr, credwn fod yn rhaid i'r feddyginiaeth amrywio i gyfateb i ffurfiau amrywiol y trueni. "Remedies are as manifold as the disease," ebe Llywydd presecol ein Bwrdd Mas- nach. Ychydig roesaw allwn ei roddi i'r dyn sydd yn proffesu bod wedi darganfod yr un a'r unig feddygin- iaeth anffaeledig ar gvfer y trueni, ac yn dysgu mai trwy weithio allan ei gynllun ef yn unig y gwneir hi yn nefoedd ar y llawr. Mae dyn yn cael ei ddallu gan ei hobby, nes methu gweled anhawsderau ag y mae y craff yn ei ymyl yn eu gweled yn bur glir. Nid oes ond amryw foddion mcddyginiae, ho), yn cydweithredu yr nn pryd, a all gyfarfod y trueni hwn yn gyflawn ac effeithiol. Yn uchaf, ac yn benaf oll, rhaid cael nodweddfoesol ac ysbrydolyn y feddyginiaeth, a hyny am y rheswm mai moesol ae ysbrydol, fel rheol, yw dechreuad a hanfod y trueni: dynion wedi myned i afael arferion annuwiol yw y mwyafrif mawr o'r rhai sydd wedi disgyn i drueni amgylchiadol. Ond cam- gymeriad fyddai arcs yn y fan yna, a pheidio darparu ar gyfer yr allanol a'r amgylchiadol, am y rheswm fod llawer iawn o engreifftiau lie y map anffodion am- gylchiadol wedi eychwyn dynion i lawr tua'r t'ueni moesol dyfnaf. Cyfeiriai Stopford Brooke y dydd o'r blaen at engraifft o hyn-teulu ag y gwyddai efe am danynt—tad a mam, mab, a dwy ferch. Yr oeddynt yn byw yn y wlad ar lafurio y tir; ond trowyd hwy i ffwrdd gan y meistr tir. Yr oedd arno eisi u eu bwth- yn, ond nid oedd arno eisieu eu gwasanaeth mwy. Daethant i Lnndain âg ychydig o enillion a roddwyd heibio ganddynt, Aethant i un o'r courts parchusaf i chwilio am lety, ond cawsant fod yn rhaid talu deg swllt yr wytbnos am ddwy ystafell. Dilynir eu diryw- iad o gam i gam-cyfeirir at yr ymborth, yr awyr, a'r dwfr-at en dyled-at y cyflog creulon a dderbynient or gweithio yn galed. Gorfodwyd hwy i chwilio am lety rhatach, a chyfyngwyd yr holl deulu i un ystafell. Daeth y fasnach feddwol i wneyd gwaith buan arnynt. Yr oedd tafarn, bid sicr, ar bob pen i'r court He yr oeddynt yn byw. Dyma Alpha ac Omega lleoedd o'r fath. Dilynir en hanes, a'r diwedd yw hyn—yn tnhen ychydig fisoedd yr oedd y tad yn y carchar, y fam yn marw, y mab yn droseddwr, a'r ddwy ferch yn rbai o I gymeriadau iselaf a gwaethaf yr ystrydoedd Un yw hwn o lawer mil o achosion cyffeiyb. Gw iir mai yn yr amgylchiadol y dechreuodd. y rhai hyn fyneel tua'r goriwaered, a'r teby^olrwydcl yw, pe buasai cyfleusder- au bydol amgen wedi eu cyfarfod, y cawsent eu hachub rhag y diwedd alaethus y daethant iddo, Nid oes cysondeb mewn dyweyd, "Diwygiwch y moesol a'r ysbrydol, ac fe ddaw yr allano I i'w le ohono ei hun." Pa hawl sydd genym i'w adael iddo ei hun, pryd y gallon ei gynorthwyo i dd'od i'w Ie. Diau fod dawer wedi gweled deddfau tirol, deddfau masnachol, a safon cyflogau yn rhyw nerthoedd duon, bygythiol, didroi yn 01, liollalluog, yn mron, yn cau o'u deutu o bob cyfeir- iad, nes y teimlent yn bollol ddiamddiffyn yn eu canol. Torant eu calon, collant eu gobaith, ac yna collant en hunan-barch; ac ar ol colli hunan-barch, pwya wyr i ba ddyfnder o drueni y gall dynion ddisgyn ? Dichon y dywedir nad oes yn Nghymru yr un o'r ffurfi HI eith- afol hyn ar y trueni; ond y mae y returns diweddaraf yn dangos fod yma dlodi mawr yn Nghymru, ac y mae yr ystadegaeth a gasglwyd gan ein cydwladwr enwog, Mr Henry Richard, yn dangos fod nifer y rhai a gy- merwyd i fyny am feddwdod y flwyddyn ddiweddaf yn lluosocach nag yr oeddynt ddwy flynedd cyn hyny. Mae yr un pechodau yn Nghymru, ac y mae y rhai hyn yn rhwym o ddylanwadu yr nn ffordd, pa le bynag y maent. Pa beth yw y feddyginiaeth ar gyfer y tru- eni hwn P Dyma un o gwestiynau mwyaf dyrys y dyddiau hyn. Cyfaddefwn fod y trueni o ran eangder a maint yn ddigon i wneyd i'r cryfaf ei ffydd ddigaloni, ond dylem lawenhau oherwydd yr holl vmdrechion sydd ar waith yn ceisio symud ymaith yr wflwydd hwn, ae wrth bawb, cylioedd ao a^ghyhoed t, a geisiant war- edn y rhai a lusgir i angeu, dywedwn o galon, Duw yn rhwydd." 1. Y SENEDD. Credwn y dylai dylanwad y Senedd fod yn rhan o'r feddyginiaeth. Mae cylch ei deddfwriaeth i gyrhaedd pob ppfcli sydd yn poryglu heddweh, a dyogelwch, a chysur y deihtid; ac y mae trueni eymdeithasol" nifer mor fawr o'r boblogaeth ynfater i'n Llywodraeth i'w wynebu yn (wy difiifo], a deddfu arno yn fwy pen- derfynol. Dywed Francis Peek yn ei lyfr ar Social Wreckage," fod gan ddeddfau gwlad ddylanwad ar gymerad moesol ei thrigolion-fod cyfraith y wlad yn raddol yn d'od hefyd yn gyfraith cydwybod i'r dos- barthiadau isel ac annysgedig a pha un bynag a all deddfau uniawn wneyd y deiliaid yn rhinweddol, ei bod yn ffaith anwadadwy y gall deddfan anghyfiawn ac annigonol gario dylanwad tra niweidiol ar y deiliaid. Gwyddom fod deddfau tirol (land laivs) mewn rhan neillduol o'r DeyrDas Gyfunol wedi cael llawer o sylw ein Senedd yn ddiweddar, a dywedir fod angen peth sylw ar ddeddfau tirol y wlad hon hefyd. Gwrthwyn- ebwn y mcsurau a awgrymir gan rai i ddwyu y tir yn feddiant cyffredin fel rhai peryglus a chwildroadol, ac fel rhai a arweiniant ddynion i fathru cyfiawnder ei hun dan draed, wrth broHeau ymladd am dano. Ond mae rhybudd yn y cynhwrf hwn; ac os yw yn tfaith fod y deddfau a gynorthwyant i ddwyn rhanau mor helaeth o'n tiroedd i feddiant yr un person au yn mhlith rhai o brif achosion y trueni yn ein trefi mawrion, yna gallwn yn rhesymol alw eiu Senedd at y gwaith o unioni y deddfau byny. Credwn hefyd y dylid gosod rhyw der- fynau gyda golwg ar y tal am lafur. Gwyddom fod hwn yn fater cangenog a dyrys, a bod petliau mor dyner a baddianau yn d'od i mewn iddo; ond dylai deddfau ein gwiad ni fod yn gyfryw fel ag i wneyd y gormes a'r anghyfiawnder a ddynoethwyd mor llym gan Mr Reanyyn nghyfarfod yr Undeb Cynulleidfaol fod yn anmhosibl. Ni fedd neb hawl i wneyd grisiauo drueni ere ill i fyned fjyfoetha moethau ac os nad drueni ere ill i fyned fjyfoetha moethau ac os nad all un dylanwad arall effeithio ar y buddianau hyn a'r cydymgais masnachol, yna dywedwn y dylai ein Llyw- odraetli osod ar frys i Pharoaid creulawn a chalon- galed fel hyn derfynau fel nad e'ont drostynt. Dy wedir nad yw Deddfau y Tlodion (Poor Laws) yr hyn y dylent fod, na'r deddfau y sydd yn cael eu cario allan yn fanwl a cbydwybodol. Dylai y rhai hyn gydnabod gwastraff yn becbod, a'i gosbi fel y cyfryw. Yn byt- rach na hyn maent yn achles iddo, oblegid wedi i'r dosbarth yma brysur dreulio y cwbl a fe idant, gwydd- antfod y gyfraith yn darparu ar eu cyfer. Mae tlotai yn fagwrfeydd trueni, fel rheo). Dylid talu sylw man- ylach a meithach i'r achosion a ddygir ger bron, a gwneyd cymeriad moesol deiliaid elusen yn y tlotai ae allan ohonynt yn sail gwahaniaeth yn y driniaeth a dderbyniant. Mae awyrgylch y workhouse yn magu cardotwyr, a chymeriadau gwaeth hyd yn nod na'r rhai hyny. Gellir bod yn llawer mwy manwl gyda Deddfau Iechydol (Sanitary Laws). Dylai ein Llyw- odraeth at-d i dealuoedd gael eu pentyru yn nghyd fel y gwneir. Dyma fuddianau rhyw ddosbarth eto yn y cwestiwn yma ond meiddiwn ddyweyd na ddylid can- iatau i neb osod tai a gondemnir gan ddeddfau symlaf iechyd. Amlwg yw fod y deddfau a basiwyd er gwella trigfanau y dosbarth gvveithiol yn gorwedd i raddan rhy helaeth yn llythyren farw ar ddeddlyfrau ein gwlad. Nid oes gan un dyn ImwI i dyru golud ar draul trueni y creaduriaid sydd yu ceisio byw (pe byw hefyd) yn ei dai, a dylai ein Llywodraeth edrych na wnelo neb hyny. Yn benaf, gallwn ddysgwyl ymyriad yn Neddfau y Trwyddedau (Licensing Laws). Mae hwyrfrydigrwydd ein Llywodraeth gyda'r mater hwn yn bur annyoddefol i garedigion sobrwydd. Mor araf yw camrau Local Option yn ein Senedd! Dylai ein Senedd yn mliob ffordd gyfreithlawn atal cynydd meddwdod gydag awdurdod a gallu deddf. Credwn y gall ein Senedd mewn ftyrdd fel ag y nodwyd dd'od i gyffyrddiad bendithiol a thrueni cymdeithasol ein gwlad. II. CTMDEITHASAU DYNGAROL; CWMNIAU; AC YMDEECHION PERSONOL. Dymunwn dalu ein teyrnged o barch i bob cym. deithas a sefydliad dyngarol sydd yn ein gwlad yn dar- paru ar gyfer yr aflywodraethus a'r amddifad, y crwydryn a'r carcharor. Buasai ein trueni cymdeith- asol yn Ilawer iawn mwy oni buasai am weithwyr dewrion sydd ar y maes ar hvd y blynyddau. Gellid gwneyd lies dirfawr drwy i ddynion goreu y gwahanol ardaloedd i ymffurfio yn gwmnmn, neu bwyllgorau, i e irych i gylfwr y truan a'r heibulus yn eu cymydog- fiethau hwy eu hunain. Gall cwmniau fel hyn gyflenwi diffyg y Poor Laws trwy wneyd ymchwiliad manwl i achosion y trueni yn yr engreitftiau a. ddygir dan en sylw, a darparu yn gyfatebol ar eu cyfer trwy rwystro i'r gwastraffus bwyso ar garedigrwydd yn He ar eu hentllion eu hunain; a thrwy ofalu fod y cymhorth yn sylweddol i'r rhai sydd yn gwir haeddn. Mae llawer iawn o baelioni yn ategu y trueni cymdeithasol. Oy. wedir fod oddeutu ^65,000,000 yn cael eu cyfranu mewn ffordd o elusen yn flynyddol yn Llundain. Mae perygl fod y rhan fwyaf ohono yn ofer, oherwydd diffyg arol- ygiaeth. Un peth yw rhoddi arian, ond rhaid cael pethau mwy anhawdd eu rhoddi, sef amser, a sylw, a chyfarwyddyd. Rhaid cael y dosbarthiadau goreu i droi mwy yn mysg y dosbarthiadau isel-eu cynghori yn garedig,?a dangos y Hordd iddynt o'u trueni. Gall cwmniau fel hyn gynorthwyo y rhai sydd heb waeth i'w gael, a. rhoddi iddynt offerynau angenrheidiol i gario yn mlaen en galwedigaeth cyfarwyddo y claf i'r infirmaries a'r hospitals, a'r amddifaid i'r cartrefi a ddarperir i'r dosbarth hwnw. Mae wedi ei brofi y gall cwmniau dyngarol ddarparu tai cymhwys i'r dos- barthiadau iselaf, a hvny er onill tymborol i'r eWlnnÏau eu hunain. Y dydd o'r blaen yr oedd Tywysog Cymru yn agor nifer o dai oeddynt i fod yn gartrefi cysurus i ganoedd o deuluoedd a drigent mewn tai oedd wedi eu nodi i gael eu tynu i lawr fel rhai anghymhwys i fyw ynddynt. Llawenydd yw gweled fod y Tywysog a'r Dywysges hefyd yn cymeryd cymaint o ddyddordeb yny mater hwn. Tai yw y rhai a agorid ganddo a adeiladwyd gan gwmni dyngarol a elwir The Im. proved Industrial Dwellings Company "—tai newydd- ion am renti rhesymol, wedi eu goleuo, a'u hawyro, a'u drainio yn dda, ac yn meddu pob cysur angenrheidiol yn eu trefniadau mewnol. Mae'r cwmni hwn wedi llwyddo, ar delerau manteisiol i'r cwmni ei hun, mewn 21 mlynedd, i godi pum' mil o deuluoedd o ganol trueni ac aflendid a'u gosod mewn parchusrwydd, ac iechyd, a chysur. Mae'r awyrgylch foesol o'u deutu y fath fel nad oes yno nemawr ddim meddwdod. Mae cyfrif y meirw a'r cleifion yn llai nag yn y Brifddinas yn gytrredin, ac yn llawer llai nag yn y rhanau iselaf ohoni. Dyma ddarpariaeth ar gyfer trneni a drodd yn elw arianol i'r cymwynaswyr. Dra heln, trw? ym- drechion cwmniau fel hyn gellid cynorthwyo ymfud- iaeth, ac yn enwedig ymfudiaeth plant tru-nus, i America a'r Trefedigaethau, eu cadw dan arolygiaeth ar y ffordd, ac ar ol cyrhaedd y manau hyny. Dywedai Mr Samuel Smith, A.S., yn adeg ei etholiad yn Liver- poo!, fel hyn ar y mater yma Gallaf dystio fod y mwyafrif mawr o'r plant t'uenus hyn—a godwyd o'r ffos, a golwg frawychus arnynt-ar ol c3el peth trin- iaeth garedig, a'n plana allan yn Canada, yn tyfu i fyny yn ddynion a merched hardd, ae yn troi allan yn dda yn mhob ystyr o'r gair. Credwyf fy mod oddeutu y gwir wrth ddyweyd fod 90 y cant o'r plant tlodion a gymerir allan o Liverpool yn troi allan yn Ilwydd. ianus." Mae'r alwad yn uchel y dyddiau hvn am weithrediad unol fel hyn yn mysg dyngarwyr pob cym- ydogaetb. Eto nid yw yr ymdrechion unedig yma i wneyd i ffwrdd a llafur personol. Dysgwylia ein Blaenor i bob un ohonom wneyd ei ddyledswydd tuag at y trueni sydd o'i gylch. Y dydd o'r blaen hvsbys- wyd ni am un Mrs Courtney-un o gydweithwyr tfydd. lonaf Miss Octavia Hill. Cymerodd hi ddau neu dri court mewn rhan isel o Lundain dan ei gofal i gasaln y rhenti a chynghori y bob!; a thrwy lafur amyneddus, a dyfal, ac egniol, gwelodd ddyrchafiad graddol, ond sier, yn eu cyflwr tymhorol a'u moesoldeb. Pwv a wyr y gwaith allasai un chwaer neu un brawd o'r cyfarfod hwn ei wneyd pe yn penderfynu i ymdreulio or symud ymaith gymaint ag a all o drueni cymdeithasol ein gwlad. III. EGLWYS DDUW. Mae genym waith glanhau oddeutu ein drysau ein hunain fel eglwysi. Dylai pob eglwys ddarparn yn deilwng ar gyfer ei thlodion ei hun, ac ar gyfer y tru- eni sydd agosaf ati. Mae Cristionogaeth o'r dechreu wedi cydnabad ei rhwymedigaeth i'r tlawd, ac nia gallai lai. Dysgwvlir i ddilynwyr y Gwaredwr hy- rwyddo pob moddion i wellaitrueni yn mhob cylch. Dyna wnaeth ein Blaenor. Ni bu neb yn sangu ein daear ni erioed a chymaint o atdyniad ynddo i'r truan a'r Arglwydd lesu. Deuent ato o bob man, ac yr oedd efe yn Waredwr cyrff yn ogystal ag eneidiau. Y G*r yw Efe aeth yn mhell drwy ddyrysni i chwilio am y cyfrgolledig ac fe all y dyngarwyr yma sydd yn myned i'r alleys aflan ddyweyd fod Mab y dyn ynddynt bwy wedi d'od i geisio yr hyn a gollasid." Cofiwn fod gan Eglwys Dduw offerynoliaeth sydd yn cyrhaedd yn ddyfnach nag un moddion adferol yn y byd. Gall y Senedd gyffwrdd a'r wyneb gall ymdrechion o blaid moesoldeb fyned yn ddyfnach, ond mae cenadaeth yr Efengyl at y galon-mae hi yn proffesu rhoi ysbryd ae anian newydd. Mae y moddion ereill yn ofer ond mewn cysylltiad a'r Efengyl. Dyma sydd i symud o ysbrydoedd dynion yr hyn sydd yn gydnaws a'r trueni o'u deutu, ac heb y dylanwad hwn, mae perygl iddynt syrthio yn ol drachefn i'w haflendid. Goddefer i ni roi yn nesaf at yr Efengyl yr achoa dirwcstol. Nid ydym