Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

YMYLON Y FFORDD. -

News
Cite
Share

YMYLON Y FFORDD. Nos Sadwrn, Awst 16eg. YR wythnos hon yr oedd Cyfarfod Blyn- yddol UNDEB Y BEDYDDWYR yn cael ei gynal yn Nghaergybi. Nid wyf yn meddwl rhoddi adroddiad ohono, ac nid oes genyf ddefnyddiau at hyny. Ond gan ei fod wedi dygwydd mor agos i gyfarfod Undeb yr Annibynwyr yr oeddwn yn teimlo dyddordeb ychwanegol ynddoj ac yn darllen yn awyddus yr yehydig gofnodion ohono a ddeuai i'm cyrhaedd ddydd ar ol dydd. Mae y cyffelybrwydd sydd yn ffurf-lywodr- aeth y ddau enwad yn gwneyd gweithred- iadau y naill i'r Hall yn fwy dyddorol, ac yn peri iddynt deimlo y gallant ddysgu oddi. wrth eu gilydd heb beryglu eu Cynulleidfaol- aetb, dros yr hwn y mae y ddau enwad mor eiddigus. Dichon fod y Bedyddwyr yn gweitbredu yn fwy cyfundrefnol, yn cyd- nabod awdurdod y Gymanfa a'r Cyfarfod Chwarterol yn fwy cyffredinol, ac yn barot- ach i roddi ystadegaeth yr enwad i'w cyboeddi pan y gofynir am hyny; ond yn awdurdod pob eglwys i drefnu ei hachosion mewnol ei hun y mae eu heglwysi yn llawn mor annibynol a'r eglwysi Cynulleidfaol. Gwelaf nad ydyut yn cario eu Hundeb yn mlaen yn hollol yr un fath a ni, a dichon fod ganddynt b wy rai petbau y byddai yn dda i ni gymeryd addysg oddiwrthynt, ac y mae yn llawn mor debyg fod genym ninau bethau a allent fod yn wers iddynt hwythau. Maent hwy yn dewis Is-gadeirydd yn gystal a Chadeirydd, a'r Is-gadeirydd y flwyddyn hon fydd Cadeirydd y flwyddyn nesaf. Y Parch R. Lloyd, Casbach, oedd y Cadeirydd eleni, a thraddodwyd anerchiad ganddo ar Yr Eglwys a'r Wladwriaeth ac y mae y Parch D. Thomas, Llangefni, yr hwn oedd yn Is-gadeirydd eleni, yn Gadeirydd am y flwyddyn nesaf. Mae gan y cynllun hwn, yn ddiau, ei fanteision, ac y mae yn ddar- pariaeth ar gyfer yr hyn a all ddygwydd. Etholwyd Mr Alfred Thomas, cyn-faer Caerdydd, yn Is gadeirydd, fel yn y cyfarfod blwyddyn i'r nesaf efe fydd y Cadeirydd. Nid dyma y tro cyntaf i leygwr fod yn Gadeirydd Undeb y Bedyddwyr. Bu bon- eddwr o Lundain yn Gadeirydd ycbydig flynyddau yn ol, pan oedd yr Undeb yn Ffestiniog. Nid yw yr Annibynwyr wedi dyfod hyd yn hyn eto. Enwad lied geid- wadol ydym, er cymaint a soniwn am rydd- frydigrwydd. Nid ydym yn rhoddi unrhyw bwys ar urdd mewn credo, ond y mae llawer o'i gweddillion yn glynu wrthym yn ym- arferol. Ofna rbai os agorir y drws i leyg- wyr fyned i'r gadair, y gorfaelir hi gan- ddynt; ond nid wyf yn meddwl fod achos ofni hyny He y mae y bleidlais yn llaw lluaws aelodau yr Undeb, ac os cariant y mwyafrif mewn pleidlais deg, mawr dda iddynt. Yr wyf yn meddwl fod yn llawn bryd, yn mhob peth o'r fath, i dynu i lawr ganolfur y gwahaniaeth rhwng gwyr lleyg a gwfr lien, a chydnabod mai un frawdoliaeth ydym. Gwelaf hefyd fod dau leygwr yn darllen papyrau yn Nghyfarfod Undeb y Bedyddwyr, y naill ar "Ein Sefydliadau, a'u hawliau ar yr Enwad "—testyn rhagorol iawn—a'r Hall ar H Ddadgysylltiad a Dad- waddoliad." Gwelaf hefyd mai gweinidog oedd yn llywyddu y cyfarfod cyboeddus. Credaf fod hyn hefyd fel y dylai fod, ac y mae yn gwneyd ymaith a'r ffin rhwng gweinidogion a lleygwyr. Tarawyd fi gan amledd y materion a ddygwyd ger bron, a'r eyfle a roddwyd i alw sylw at y gwahanol symudiadau a'r cym- deitkasau sydd yn nglyn a'r enwad, ac yn enwedig y He amlwg roddwyd i'r Genadaeth. Sylwais o'r blaen yn Nghymanfa Gyffredinol y Methodistiaid, y fath gyhoeddusrwydd oedd yn cael ei roddi i'r achos Cenadol. Gallai y dylem ni fel Enwad gymeryd gwers oddiwrth hyn. Nid wyf yn meddwl fod yr achos Cenadol yn cael y sylw a ddylai yn yr Undeb Cymreig mwy nag yn yr Undeb Cynulleidfaol. Un rkeswm, yn ddiau, am hyn ydyw nad yw ein Cymdeithas Genadol yn enwadol, ond mewn enw yn unig y mae Z, heb fod, oblegid y mae ynymarferol—Anni- bynwyr yw ei chynalwyr a'i rheolwyr agos yn hollol; ond nid yw yn gorchymyn i'w chenadon i ffurfio y dychweledigion yn eglwysi Annibynol, ond yn rhoddi rhyddid iddyut i wneyd yn ol eu doethineb fel y byddo yr amgylchiadau. Ar yr un pryd, bawlia v Genadaeth dramor fwy o'n sylw nag y mae wedi ei gael hyd yma. Yr oedd yn dda genyf weled yr achos dinvestol yn cael He mor amlwg yn nghyfar- fod Undeb y Bedyddwyr. Pregethodd Dr Roberts, Pontypridd, ar y mater y noson gyntaf—un o bregetkau yr Undeb—a chaf- wyd cyfarfod cyhoeddus dranoeth yn nglyn a'r ackos. Mae wedi dyfod yn rkan o waitk yr Undeb. Mae yn enwad y Bedyddwyr ar hyn o bryd gryn nifer o ddynion, o oedran a dylanwad, sydd yn teimlo yu gryfary mater yma, ac yn benderfynol, hyd y gallant hwy, na bydd eu henwad yn ol i unrhyw enwad arall yn y Dywysogaeth mewn set a gweith- garweh o blaid dirwest. Ein perygl ni fel Enwad bwyrach ydyw tybied ein hunain yn rhy ddyogel yn y mater yma. Mae y gymer- adwyaeth gyffredinol a geir i'r ackos dir- westol yn ein plith, a'r kawsder gyda pha un y gellir pasio unrkyw benderfyniad ar y mater yn ei holl arweddion, yn ein gosod mewn profedigaeth i fyned yn ddiofal ac esgeulus; ond nid gelyn i bepian yn ei bresenoldeb ydyw y gelyn anrheitkiol hwn. Pasiwyd yno benderfyniadau cryfion yn ffafr cynygiad Mr Dillwyn, ac o blaid chwyddo y rhodd flynyddol i Aberystwyth, ac o gondemniad ar Dý yr Arglwyddi am ddyrysu Mesur yr Etholfraint. Rywfodd diangodd y ddau flaenaf sylw Undeb yr Annibynwyr. Mae yn anhawdd cofio am bob peth oddigerth fod rhywun yn arbenig yn cymeryd gofal pob cwestiwn. Ni ddylai yr un gynadledd bwysig bellach gan unrhyw enwad basio heb ddatganiad cryf o blaid Dadgysylltiad yr Eglwys yn Ngkymru, fel y gwelo y Senedd ein bod o ddifrif yn y mater, ae na orphwyswn nes y byddo yr amcan wedi ei sicrbau. Ni ddeallais fod pregetbu yn cael lie mawr yn y cyfarfodydd. Dichon ei fod, ond ni dygwyddodd i mi ei weled Byddai yn dda genyf gael mwy o amser at gyn- adleddau mewn cyfarfodydd o'r fath ond yr wyf yn meddwl ar yr un pryd mai colled fawr fyddai cwtogi ar y pregethu. Ni wna dim i fyny am golli hyny. Nid oes dim arall fedr ddarostwng gwlad. Mae diwrnod o bregethu grymus a dylanwadol yn cynorth- wyo yn effeithiol i gynal i fyny urddas y weinidogaeth; ac ar un cyfrif ni ddylid gadael i'r pregethu ar y fath achlysur i fod yn wan a chyffredin. Beth bynag ydyw y gallu sydd gan enwad, dylai gael ei ddwyn i'r golwg ar achlysuron o'r fath a dyna y cwbl y mae lluaws pobl y lie yn ei gael yn ad-daliad iddynt am eu croesaw a'u caredig- rwydd. ANGLADD AR DIR PABYDDOL. Bum ar fin tipyn o brofedigaeth y pryd- nawn heddyw, ac ofnid y gallasai fyned yn gythrwfl, ond aeth pobpeth heibio yn hollol dawel. Yr oedd yr wvthnos hon yn wythnos gladdu i mi yn Anfield Cemetery. Ar ei wythnos gladdu rhaid i bob un ofalu bod yno am dri o'r gloch bob dydd-yr awr gyhoeddus, ac ar unrbyw awr arall os bydd angladd arbenig. Prydnawn ddoe cefais rybudd y dysgwylid i mi weinyddu mewn angladd arbenig am haner awr wedi tri heddyw fod y gwasanaeth i fod yn y Capel Ymneillduol, ond fod y corff i'w gladdu yn y tir Pabyddol. Mae y gladdfa yn dair rbau-yr Eglwywyr, yr Ymneillduwyr, a'r Pabyddion, a chapel gwahanol i bob un ond o dan Ddeddf Newyddy Mynwentydd, y mae y cwbl yn rhydd, fel y gall gweinidogion y naill weinidduyny llall, ond rhoddi rhybudd rbeolaidd. Ond y mae cyn lleied o gyfath- rack rkwng yr Ymneillduwyr a'r Pabyddion, fel na chlywais o'r blaen am y naill yn cael ei alw i weinyddu ar dir y Hall ond gan y gwyddwn fod y ddeddf yn gwneyd hyny yn gyfreitblawn, ni feddyliais ragor am dano. Yr oeddwn wedi bod yn gweinyddu ar dir yr Eglwys, y cyntaf a weiuyddodd yma ar 01 pasio y ddeddf, ac ni ddangoswyd y gradd lleiaf o wrthwynebiad, ac y mae amryw wedi bod ar ol hyny. Pan aethum i'r gladdfa erbyn yr awr gy- hoeddus heddyw, bysbyswyd fi gan y gwr sydd yn arolygu y gladdfa fod y Canon Pab- aidd sydd a gofal y rhan hono arno yn gy- nyrfus iawn oblegid fod gweinidog Ymneill- duol yn dyfod i'w tir hwy i gladdu, ac yn dyweyd os goddefai y Bwrdd y fath beth y byddai iddynt dynu yn llwyr oddiwrth v gladdfa, ac yn dyweyd wrthyf am barotoi, gan y gallai fod yno dipyn o wrthwynebiad. Yr oedd yr Eglwyswyr wedi bod yn claddu yn y tir cyn hyny, ond nid oedd boddlon- rwydd o gwbl i hyny; ond tybient, mae yn debyg, fod mwy o gyfathrach rhyngddynt a'r Eglwyswyr nac a'r Ymneillduwyr. Yr oeddynt hwythau wedi bod yn claddu yn nhir yr Eglwys, ac wedi cario yn mlaen yno eu holl seremomau gwag ac ni buasent yn petruso dyfod i dir yr Ymneillduwyr i wneyd yr un fatb, ond cael cyfle. Pobl ydynt am gael pob rhyddid iddynt eu hunaiti, ond na ckaniatant unrhyw ryddid i neb arall. G\vr oedranus oedd yr un oedd i'w gladdu, ac yr oedd ei wraig, yr hon oedd Babyddes, wedi ei chladdu yno o'r blaen, fel yr oedd ganddo fedd yn barod. Ma.b, fel y tybiwn, oedd yn