Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

PENMAIN.

News
Cite
Share

PENMAIN. CYFARFOD S E F Y D L I A D. Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod blyn- yddol ar y Sul a'r Llun, Awst 3ydd a'r 4ydd. Y Sul, pregethwyd gan y Parchn J. Jones, New Tredegar; R. Hughes (M.C.), America, a W. Griffiths, Cendl. Cawsom bregethau grymus ac effeithiol, a mwynhawyd Sibboth dymunol iawn genym yn ngwaith crefydd. Y Llun, am 10.30, rboddodd y cyfarfod blynyddol ei le i gyfarfod nad ydym wedi cael un o natur gyffelyb iddo yn Penmain er yn agos i ddeugain mlynedd, sef cyf- arfod yn nglyn a sefydlu y Parch R. Evans, gynt o Troedyrbiw, yn weinidog ar yr eglwys. Wedi darllen a gweddio gan y Parch W. Griffiths, Bar- goed, traethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch L. P. Humphreys, Abercanaid, ac ar ol gofyn a der- byn arwydd oddiwrth Mr Evans a'r eglwys o'u dewisiad o'u gilydd, gweddiwyd yn afaelgar gan y Parch T. Rees, Sirhowi, am fendith Duw ar yr undeb. Yna cafwyd pregeth gan y Parch W. Griffiths, Cendl, ar Y Gweinidog yn ei berthynas a'r Eglwys a dilynwyd ef gan y Parch J. Grif- fiths, Casnewydd, ar I I Y ffordd i'r eglwys i fod yn gefnogol i'r weinidogaeth." Am 2 o'r gloch, caf- wyd cyfarfod anerchiadol, o dan lywyddiaeth y Parch J. Griffiths, Casnewydd. Dywedai fod hen eglwys barcbus Penmain yn uchel yn ei olwg, na wyddai end am ddwy eglwys ag oedd yn nes at ei galon-yr eglwys y magwyd ef ynddi, a'r eglwys y meddai yr anrhydedd o fod yn weinidog arni yn bresenol. Honai ben gydnabyddiaeth a Mr Evans befyd, fel un a fu yn gyd-fyfyriwr ag ef yn yr athrofa, dygai y dystiolaeth uchaf iddo fel person nad oedd adnabyddiaeth gywir ohono ddim yn creu awydd ymbellhau oddiwrtho, a tbeimlai yn 11awen i'w roesawu ar ei ddyfodiad i'r un sir ag ef i lafurio. Dywedai Mr R. Morgans, Troedyrbiw, ei fod yn teimlo yn wylaidd i anerch y gynujjeidfa, ond fod yn dda ganddo i fod yn bresenol er dwyn tystiol- aeth o'i edmygedd personol o Mr Evans, a'i hiraeth with feddwl am ei gdlli o'u plith. Teimlai mai diffyg Mr Evans, os gallesid ei alw yn ddiffyg hefyd-oedd ei fod ar y mwyaf touchy-yn un lied hawdd ei gyffwrdd, ond y gallai y rhai a'i had- waenent oreu ei esgusodi yn rhwydd, a'i fod ef yn ystyried y saith mlynedd y bu o dan ei weinidog- aeth fel y cyfnod mwyaf hapus a dysglaer yn hanes ei brofiad crefyddol. Ystyriai y Parch W. Griffiths, Bargoed, fod eglwys Penmain wedi bod yn ddoeth yn ei dewis- iad, ond fod y Cyfundeb y perthynai efe iddo wedi dyoddef colled trwy ymadawiad Mr Evans, ond gan mai newid cyfundeb ac nid newid gwaith yr ydoedd, ei fod yn dymuno llwyddiant mawr iddo yn ei faes newydd. Dywedai y Parch T. Rees, Sirbowi, er nad oedd efe wedi byw mewn cysylltiad agos iawn a Mr Evans, eto eu bod yn croesi llwybrau eu gilydd yn achlysurol er's amryw flynyddau, a'i fod wedi arfer coleddu y syniadau mwyaf parchus am dano. Anogai yr eglwys yn Penmain i siarad yn uchel am bethau crefyddol, ac am y gweinidog ar eu haelwydydd. Mai y ffordd fwyaf sier i ladd dylanwad y weinidogaetb, ac i feithrin y plant i annuwioldeb oedd siarad yn ddirmygus am y gweinidog yn e ) elyw, a thrin y rhai fyddo yn amcanu cario dylanwad dyrchafol arnynt. Y peth nesaf oedd anerchiad Saesoneg gan y Parch T. James, Bethesda'r Fro. Edrychai ar Mr Evans fel ei dad yn y weinidogaetb, a theimlai ei hun yn ddyledus iddo am lawer o addysg a char- edigrwydd, ac am ei gymhell i ddechreu pregethu, a'i gyfarwyddo i'r amcan hwnw. Ystyriai dy Mr Evans fel cartref iddo. Cafwyd ycbydig syl wadau pwrpasoI i'r un cyfeir- iad hefyd gan Mr Evan Williams, bachgen ieuanc yn dechreu pregethu yn eglwys Saron, Troed- yrhiw. Cawsom wedi hyn grynodeb o hanes yr achos yn Penmain, gan yr hen frawd doniol Mr John Jones. Dywedai fod yr eglwys wedi ei eborffoli er's 244 o flynyddau, ac mai Mr Evans oedd y deuddegfed gweinidog yoo. Teimlai yn llawen fod yr eglwys wedi arfer ymddwyn yn dyner at ei gweinidogion, a bod eu harosiad hir yno yn brawf o hyny. Bu Mr David Williams yno naw mlynedd a deugain Mr Phillip Dafydd wyth mlynedd a deugain Mr David Thomas haner can' mlynedd a Mr Ellis Hughes dair ar ddeg ar hugain o flynyddau. Gallesid meddwl fod yr ben frawd John Jones wedi byw yn eglwys Penmain er adeg ei ehorffol- iad, gan gymaint ei ddebeurwydd yn adrodd ei hanes. Yna cafwyd anerchiadau bywiog gan y Parchn R. O. Jones, Bedlinog L. P. Humphreys, Aber- canaid; a W. James, Porth. Adroddwyd hanes x yr alwad gan Mr Edmund Elwards, Penmain, a chododd Mr Evans i anerch y cyfarfod. Dywedii fod yn dda iawn ganddo weled cynifer yno o Saron, Troedyrhiw. Fod cyfeiriad wedi cael ei wneyd ato fel un touchy, a bod hyny i raddau pell yn wirionedd am dano. Nad oedd dim yn ei gy- ffwrdd yn gynt na gweled bywyd anheilwng o'r Efengyl, ac y gallai pobl Penmain benderfynu os buasai arogl diod arnynt yn y cyfarfodydd gweddi a'r cyfeillachau crefyddol, y buasai efe yn cael ei gyff wrdd ganddynt i'r byw; ond ei fod yn cael ei gyffwrdd yr un mor effeithiol or tu arall pan yn gweled dynion mewn caledi ac ansren. Dibenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Cadeirydd. Yn yr hwyr, pregethwyd gan y Parchn T. Rees, Sir- bowi T. James, Bethesda'i Fro a W. James, Portb. Hir oes i Mr a Mrs Evans, a'u teulu caredig i wasanaethu achos Duw yn ardal Pen- main. BEODOR.

^ CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH…

Advertising