Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

CYNADLEDD ESGOBAETH BANGOR.,

News
Cite
Share

CYNADLEDD ESGOBAETH BANGOR. MAE pob arwyddion o fywyd a deffroad, o ba gyfeiriad bynag y delo, ac o ba ysbryd bynag y byddo, yn well na'r difaterwch a'r marweidd-dra sydd yn esgeuluso pob peth. Nid oes dim yn eglurach na bod yr Eglwys yn Ngbymru yn deffroi o gysgu-a hir a thrwmgwsg a fu-ond y mae er deffro, mewn penbleth heb wybod pa beth i'w wneyd. Mae yn gweled y bobl wedi myned o'u gafael, ond nid yw er hyny yn ddiobaith na all eto ddyfod o hyd iddynt, a'u cael o'u crwydriadau i'r LIanau i dderbyn eu haddysg grefyddol gan weinidogion awdur- dodedig y Llywodraeth. Difyrus ydyw eu clywed yn son am gael y genedl yn ol i'r Eglwys, a'r cynlluniau rhyfedd sydd gan- ddynt er sicrhau hyny. Yn ol i'r Eglwys, yn wir! Ni bu y bobl erioed yn yr Eglwys. Nid yno y cafodd ein tadau y bobl. Ond fel defaid ar y mynyddoedd, beb fugail yn gofalu am danynt, ac yn ymbleseru gyda'u hofer-gampau a'u chwareuon, ac oddiyno y casglwyd hwy i gorlanau Ymneillduaetb, ac yno y maent wedi bod, ac yn ol yr argoelion presenol, yno y maent am aros. Ond nid yw nifer fawr o'r to presenol o glerigwyr yn foddlawn i hyny, ac ymddangosant fel rhai wedi rhwyrnd eu hunain a diofryd, na wnant na bwyta nac yfed nes dychwelyd y bobl o'u crwydriadau i'r wir gorlan. Dydd Iau, yr wythnos ddiweddaf, cynal- iwyd cynadledd o glerigwyr a lleygwyr Esgobaeth Bangor, o dan lywyddiaeth yr Esgob, yn y ddinas bono. Gwelid llu mawr o wyr Eglwysig Mon ac Arfon yn cyrchu i'r ddinas Esgobol, ac yr oedd y pryder a welid yn wynebau llawer ohonynt yn profi mai nid dibwys oedd acblysur eu cynulliad. Mae dynion yn ddifrifol iawn pan y mae eu budd- ianau personol ganddynt i'w hamddiffyn, a phan yr ofnant fod gobaith eu belw hwy mewn perygl. Yr oedd y nifer fawr o leyg- wyr befyd oeddynt yn bresenol yn profi eu bod hwytbau yn gweled fod yn bryd iddynt ymysgwyd. Mae y cynadleddau hyn yn ben sefydliadau Eglwysig, ond yn ami yn cael eu hir esgeuluso, a phan y cynelid bwy ychydig oedd nifer y rbai a gyrchent iddynt, ac yr oedd y lleygwyr bron wedi eu llwyr wadu. Nid yw y cynadleddau hyn yn meddu unrhyw awdurdod fel llysoedd Eglwysig. Nis gallant newid un iod yn ngbredo yr Eglwys na'i ffurf-wasanaeth. Mae yr aw- durdod i hyny yn gwbl yn y Senedd ond fel pob cynadledd rydd gallant ddadleu cwestiynau ac addfedu y farn gyhoedd arnynt i'w dwyn yn derfynol o flaen y Sen- edd. Mae presenoldeb lleygwyr yn y cynad- r, y leddau hyn yn help i'w rhyddfrydedd." Mae pob cy fun deb sydd yn cau yr elfen leygol allan, yn Donaidd ac yn ol nerth yr elfen leygol y bydd eu rhyddfrydedd. Mae urdd a Thoriaeth bob amser yn dilyn eu gilydd. Yr elfen leygol gref sydd wedi ei dwyn i mewn i Gynadledd y Wesleyaid, sydd yn cyfrif am ei bysbryd rhyddfrydol y blynydd- oedd diweddaf; ac y mae yr Eglwys Wladol yn rhwym o ddyfod yn fwy rhyddfrydol, fel y daw y lleygwyr yn allu cryfach yn ei chynghorau. Y gwir ydyw, mai o blaid gorthrwm ac yn erbyn rbyddid y mae y clerigwyr wedi bod bob amser. Nid Esgob- ion na chlerigwyr yr Eglwys a sierbaodd i'r wlad hou y Diwygiad Protestanaidd, ond yr elfen leygol fel y corfforid hi yn Nby y Cyffredin, ac argoel dda i ryddid yr Eglwys yn Nghymru ydyw y rhan y mae lleygwyr yn ei gymeryd yn ei chynadleddau. Yr Eglwys a'r Lleygwyr," oedd un tes- tyn y darllenwyd papyrau arno yn v gynadl- edd yn Mangor. "Hawliau a dyledswydd- au y lleygwyr yn lledaeniad gwaith yr Eglwys yn Nghymru yr amser presenol, ac o dan yr amgylchiadau presenol." Penawd hir ac afrosgo, ond testvn bollol amserol. Yr oeddynt yn mhell o fod yn unfarn pa beth oedd eu gwaith, ond teimlai pawb y dylesid yn rhywfodd sicrbau eu gwasanaetb. Gwelent fod gwasanaeth lleygol wedi bod o help mawr i Ymneillduaetb, ond buasai cy- meryd dalen gyfan o'u llyfr yn ddinystr i'r syniad oedd gan lawer ohonynt am urdd. Elai rbai mor bell a dadleu dros iddynt bregethu, ac o dan ryw amgylchiadau i gario y gwasanaetb yn mlaen yn yr Eglwys. Llefarai rhai yn gryf yn erbyn gorfaeliaeth y clerigwyr, a chwynai un lleygwr fod yr holl gydymdeimlad a d'dangosid gan y cler- igwyr a'r lleygwyr yn y cynadleddau byn jn cael ei lwyr anghofio pan ddychwelent i'w plwyfi. Dadleuai Mr CONSTABLE ELLIS y buasai yr anhrefn yn llawer mwy, a'r rhwyg yn yr Eglwys yn llawer lletach os caniateid i'r lleygwyr bregethu. Mae gweitbio yr Eglwys Scfydledig a'r moddion y llwyddodd Ymneillduaetb yn anmhosibl, ac nid ywond ofer dysgwyl cael holl fanteision eglwysi rhyddion mewn sefydliad sydd yn rhwym draed a dwylaw gan rwymau urdd, a hualau cyfraitb. Ond y cwestiwn mawr am yr hwn yroedd mwyaf o ddysgwyliad oedd sefyllfa bresenol yr Eglwys yn Nghymru, a pba beth oedd eu dyledswydd yn wyneb byny. Darllenwyd papyrau gan y Parchn E. HUGHES, Llan- fairfechan, a T. EDWARDS, Llanfibangel, ar "Yr Eglwys a Chymdeithas Rhyddhad Crefydd," a'r prif ymofyniad oedd, Pa fodd- ion yw y cyfaddasaf i'w defnyddio yn ngwahanol blwyfi yr Esgobaeth er cyfarfod ymosodiadau y Dadgysylltwyr, ac i osod o flaen y bobl resymau er auiddiffyn yr Eglwys ? Cymeradwyid sefydlu cymdeith- as amddiffynol i'r Eglwys yn yr Esgobaeth, gyda'r Esgob yn Gadeirydd. Dadleuent na buasent mewn un modd yn gwneyd yn iawn wrth fod yn ddystaw a dyoddefgar. Maent yn penderfynu gwasgaru traetbodau, cynal cyfarfodydd, anfon darlitbwyr allan, ac yn mbob modd i gyfarfod y Dadgysylltwyr a'u gwrthsefyll. Nis gallwn ddymuno dim yn well. Nid oes genym ddim i'w ofni ar faes agored gyda gwirionedd, rbyddid llafar, a gwasg rydd. Ond rbaid cael rhywbeth amgen na dim a gafwyd yn Nghynadledd Bangor, onide ni wnant fawr ohoni. Dadleu- ai Mr HUGHES, Llanfairfechan, dros greu barn gyboeddus iacbus, i wrthweitbio y syn- iadau gwenwynig a blenir gan Gymdeitbas, Rhyddhad Crefydd ac i addysgu meddwl y cyboedd mewn hanesiaeth wirioneddol, a'i lenwi a'r hyn oedd y gwir ffeitbiau, ac nid y camhysbysiadau a gyhoeddid gan eu gwrth- wynebwyr." Dyna ddigon o baeriadau i ddechreu beth bynag, ond nid yw ond dechreu. Haera yn mbellacb, Fod cynyg- iad Mr DILLWYN, yr hwn sydd yn cynwys fod yr Eglwys yn Ngbymru yn fethiant, mor ddisail ag ydyw o ddrygionus ac ych- wanega fod gan yr Eglwys fwy i'w ddangos fel cynyrch ei gwaitb, nag unrhyw un sect, ac nalr holl sectau yn nghyd." Derbyniwyd hyn gyda bloeddiadau uchel. Nid ydym yn adnabod Mr HUGHES, ac ni cblywsom am ei enw erioed o'r blaen ond diau ei fod of yn rhywun," cyny gosodasid I ef yn y fath gynadledd i ddarllen papyr ary fath destyn. Ond os anwybodus ydyw Mr HUGHES am yr hyn a wnaeth yr Eglwys, ac a wnaeth yr enwadau yn Nghymru, y mae yn ddiau yn wrthddrych i dosturio wrtho, ond pabam, yn enw pob synwyr yrymddir- iedwyd y fath orchwyl i ddyn mor anwy- bodus. Ond os gwyr Mr HUGHES ryw ychydig am banes crefydd yn Nghymru, mae yn rhaid fod ei ddibrisdod o'r gwirion- edd wedi myned dros ben pob terfynau,pan y beiddiai wneyd y fath haeriadau sydd yn uniongyrchol yn myned i ddanedd y ffeith- iau synilaf ac egluraf. Mae pob hanesydd Eglwysig gonest, yn cydnabod beth bynag ydyw hawliau yr Eglwys, mai Ymneilldu- aeth a wnaeth waith efengylwr yn Nghymru. Clywsom lawer o baeriadau gwallgof o bryd i lbryd am wasanaetb yr Eglwys i'n gwlad, ond yr oedd yn rhaid wrth feiddgarwch Mr HUGHES, Llanfairfechan, i hyf gyhoeddi- fed gan yr Eglwys yn Nghymru fwy i'w ddangos fel cynyrch ei gwaith nag unrhyw un sect, ac na'r holl sectau yn nghyd." Os a'r fatb arfau y maent yn myned i amddi- ffyn yr Eglwys, ofer hollol fydd eu gwaitb. A dyma y gwr i son am wir ffeithiau a hanesiaeth .wirioneddol," ac am greu barn gyhoeddus iachus, i wrthweitbio syn- iadau gwenwynig y Dadgysylltwyr. Mae eu gwaith yn gwncyd y fath haeriadau yn barbaus, yn ein gorfodi i ail ddyweyd yr un ffeithiau er dangos esgeulusdra truenus yr Eglwys, a'i bod wedi canoedd o flynyddoedd o brawf gyda chjflawnder o gyfoeth at ei gwasanaeth, wedi profi yn fethiant gwarad- wyddus i atcb holl amcanion Eglwys mewn gwlad.

<»——.— ICWMAFON. '

. Telerau y Tyst a'r Dydd.