Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

YMYLON Y FrOEDD. ---------

News
Cite
Share

YMYLON Y FrOEDD. Nos Sadwrn, Awst Ofed. MAE yn anmhosibl i mi gymaint a chrybwy-11 am yr holl bethau sydd yn dyfod dan fy sylw, er yxbyddaf ar y pryd yn meddwl cyf- eirio atynt oil. Yr wyf yn meddwl fod rhifyn Awst o'r Diwygiwr yn well nag arfer. Ysgrif ragorol ydyw eiddo Mr Morris, Pont- ypridd, ar "Y Beibl a'r Oes." Dilyniad ydyw o ysgrif sydd wedi ymddangos o'r blaen ar Wrthwynebiad yr Oes i'r Beibl." Cymer i fyny yn hon rwymedigaeth yr oes i'r Beibl. Nis gall neb ei darllen heb deimlo ein dyled i'r Hen Lyfr. Ysgrif amserol 1 ydyw eiddo Mr Davies, Cwuiatnau, ar Ogwyddiadau yr Oes at arferion amheus, a rhwymedigaeth yr Eglwys yn wyneb byny ac y mae ysgrif Mr Williams, Hirwaun, ar Gadw y Sabboth" yn deilwng i fod wrth ochr y ddwy. Os cywir yr hysbyswyd fi am nifer derbynwyr y Diwygiwr, Did yw mewn un modd yn deilwng" obono, nac o'n bost o rif ein Henwad. Byddai yn dda i bawb a gaiff gyfle ddar- Ilen Hanes y Wers Gyffredinol," yn y Cijdymaith, gan Mr Jones, Pwllheli. Nis gellir ei gwthio ar ysgolion, ond y mae y rhagfarnau yn ei herbyn yn Ileihau, ac fel y cynefinir a hi hoffir hi yn fwy. Os mynir engraifft o ysgrif fer, glir, eglurhaol, yn rhoddi llawer mewn ycbydig, darllener Iesu Grist yn Samaritan," gan Mr Jones, Birkenhead. Nis gallaf gyfeirio at y gweddill o'r ysgrifau a rhaid. i mi adael y Dysgedydd a'r Oenad heb grybwyll am ddim sydd ynddynt, er eu bod yn llawn addysg. Llyfryn bychan gwerthfawr iawn ydyw yr Amlinelliad o'r HANES YSGRYTHYROL," gan Mr Charles Curtis, Prifathraw Coleg Boro' Road, Llundain, ac wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan H. R. Jones, Bethesda. Cynwysa dair-ar-ddeg o benodau yn dechreu gyda chreadigaeth y byd, ac yn terfynu gyda'r cyfnod apostolaidd. Ceir yma gronfa o wvbodaeth Ysgrythyrol, gydag amserydd- iaeth y prif ddygwyddiadau wedi eu dwyn i gylch bychan. Un o arwyddion goreu y dyddiau hyn ydyw y sylw helaeth a roddir i lenyddiaeth y Beibl. Nid oes gan neb esgus dros fod yn anwybodus ohono, oblegid y mae cyfryngau i'w egluro yn nghyrhaedd pawb. Mae Dr Hannay yn anfon cylchlythyrau er cael cyfrif cywir o EISTEDDLEOEDD EIN HENWAD. Y cwbl a ofynir ganddo ydyw enw y capel, a'r nifer a eistedda ynddo. Ni byddai hyn yn fawr i'w roddi; ond byddai meddu gwybodaeth gywir yn anmhrisiadwy werttN fawr ac ar bob eyfrif gadawer i ni ei chael yn gywir. Yr ydym ni yn amheu ac yn profi ystadegau yr Eglwyswyr, ac y maent hwyth- au yn sier o chwilio i'r eiddom ninau a mawr dda iddynt. Nid yw cyfrif ar antur yn werth dim ac wrth gyfrif yr eisteddle- oedd mewn capel neu eglwys, dylid cofio mai nid y nifer wthiwyd iddo ar ryw achlysur neillduol sydd i'w roddi, ond y nifer a eis. teddo yn gysurus ynddo. Rbaid rhoddi ryw 21 modfedd i bob un; ac ond mesur byd y seti, a chyfrif eu nifer, hawdd iawn gwneyd i fyny y nifer a eistedda yn mhob capel. Mae y cyfrif a geir yn y Dyddiadur y flwyddyn hon o'r nifer a all eistedd mewn rhai capeli yn chwerthingar, gan fod eu mesuriad yn cael eu rhoddi befyd. Mae un capel nad yw ond 28 troedfedd wrth 36 yn dal 500, tra nad eistedda mown capel arail sydd yn 57 troedfedd wrth 40 ond 450. Mae un capel nad yw ond 42 troedfedd ysgwar yn eistedd 750, pan nad yw capel arall sydd yn 72 troedfedd wrth 48-bron dau cymaint —yn rhoddi lie ond i 710. Bron na themtid dyn i feddwl lIiai pa leiaf fyddo capel, Imwyaf oil a eistedda ynddo. Mae y fath gyfrifon afresymol a roddir yn ddigon i ladd hyder dyn yn hollol yn mhob math o ystad- egaeth. Mae yn wir fod rhai capeli o'r un mesuriad wedi eu gwneyd i gynwys mwy nag ereill. Gwneir y seti a'r aliau yn gul- ach, ac ni chymer y lobbies gymaint o le ond anaml y gwna hyny fwy na deg y cant o wahaniaeth, fel y gellir gwybod yn lied sier, oud cael y mesuriad, pa nifer a ddeil y ca.pel. Mae camgymeriadau dybryd am y nifer ddeil eapeli, yn gystal ag am nifer cynulleidfaoedd. Yr wyf yn cofio yn dda y dratferth fawr a gafodd fy hen gyfaill Mr Roberts, Cwmafon, a minau flynyddoedd yn 01 i argyhocddi pregethwr doniol oedd yn son am gael oriel newydd yn ei gapel, nas gallesid rhoddi mwy o seti ynddi er rhoddi codiad ynddynt, oblegid fod yn rbaid i bob set gael gwaelod yn rhywle. Ond ni fynai ei argyboeddi, ac am wn i na buasai heb ei argyhoeddi eto, oni buasai i Mr Roberts fyned ag ef at y grisiau oedd yn rhedeg gyda'r mur, a dangos iddo, er fod pob gris yn codi, eto fod eu gwaelod oil yn cymeryd yn union yr un faint o le a phe buasent yn rhedeg yn wastad ar y llawr. Gwelodd y peth o'r diwedd, ac edrychai yn swil iawn. Ond i ba le y crwydrais? Dychwelad pawb y cyfrif i Dr Hannay gyda brys, gyda'r gofal mwyaf am gywirdeb. Bydd yn flin iawn gan filoedd glywed fod MR R. S. HUDSON, WEDI MARW a bydd colled, ddirfawr ar ei ol. Un o'r dynion mwyaf haelionus yn ein Henwad, os nad yn wir y mwyaf haelionus y blynydd- oedd diweddaf; ac yr oedd Cymru, yn enwedig Gogledd Cymru, yn cael cyfran helaeth o'i haelioni. Mab i hen weinidoc ydoedd, a gwnaeth ei gyfoeth trwy ei lafur, ei ddiwydrwydd, a'i fedrusrwydd personol, a'i ddyfais yr Hudson Soap," a fu yn brif ffynonell ei elw. Prynodd Bache Hall, ger Haw Caerlleon, flynyddoedd yn ol, ac yn yr adeg hono y daeth i gysylltiad neillduol a Chytnru. Efe oedd wrth gefn y symudiad at sefydlu Cymdeithas yr Achosion Seis- ooig yn y Gogledd, a chyfranai X200 bob blwyddyn i'w thrysorfa, heblaw cauoedd ereill a roddai bob blwyddyn at leoedd neillduol. Tanvsgrifiodd £20,000 at Dry- sorfa y Jubili. Anaml y troai unrhyw achos heibio. Bydd colled ar ei ol nas gellir mynegi ei maint. Nid oedd ei iechyd yn gryf er's blynyddau, ac ofnid am dano bob gauaf, ond ni feddyliodd neb yn y mis- oedd diweddaf fod ei ddiwedd wor agos. Bu farw yn Scarborough, Awst 5ed, yn 72 mlwydd oed. Mae nifer fawr o'r hen gyfranwyr hael- ionus wedi syrtbio yn y deng mlynedd di- weddaf Remington Mills, y Crossleys, George Hadfield, Syr Titus Salt, a dyma Mr Hudson eto wedi myned, ac nid oes neb o gyffelyb feddwl iddynt yn aros yn eu teulu- oedd ar eu hoi. Nid oes yn aros ond Mr Samuel Morley, o'r tywysogion fel rhodd- wyr, ac y mae efe yn parhau yn gryf, ac Did- yw wedi prinhau yn ei haelioni, er hwyracb, nad oes cymaint yn dyfod oddiwrtho i Gymru ag a ddeuai ar un adeg. Mae bylchau mawr ar ol rbai fel hyn, er nad yw achos yr Arglwydd yn sefyll er eu colli. Codir nifer o rai llai i wneyd eu symiau i fyny, ac felly y mae y baich yn gorphwys ar fwy o ysgwyddau. Ond pan y byddo baich mawr yn Ilethu, gwerthfawr ydyw cael ys- I gwydd gref ryw Hudson neu Morley dano. ac acbubasant ben llawer capel dyleclog; ond i gynaliaeth arferol yr achos nid ydynt mor angenrheidiol. Teimla achosion Seis- onig Gogledd Cymru yn ddirfawr oblegid colli Mr Hudson, a gelwir am gydweithred- iad cyffredinol er cau yr adwy fawr sydd wedi ei gwneyd. LLADMERYDD.

^ AT FIR OF A FFRWDVAL A'I…