Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y DDUWIFYJODIAETH DDIWEDDARAF-

News
Cite
Share

Y DDUWIFYJODIAETH DDIWEDDARAF- YN mhlith yr amrywiol faterion dyddorol a ddygwyd ger bron cyfarfodydd yr J ndeb Cymreig yn Llanelli, nid oes un o'r fath y C, bwysigrwydd i ni fel Enwad a'r miter y darllenwyd y Papyr rhagorol arno ganProff. LEWIS, B.A. Mae y ffurfiau diweddtraf y mae duwinyddiaeth yn ei gymerydyn bteddu ein sylw mwyaf difrifol. Symudir y ben derfynau, ac y mae difrawder mavr, a dyweyd y lleiaf, wedi meddianu IlawEr, yn nghylch y gwirioneddau a gyfrifid gytt yn rhai sylfaenol. Nid yw ond ofer i nigau ein llygaid rhag gweled y don gref o am- heuaeth a llacrwydd sydd ar ddyfod dros ein gwlad. Ni wna hyny ddim ond ein tabu i fwy o berygl pan y delo. Yr oedd y Papyr a ddarllenwyd gan Protf. LEWIS yn un eang a chwmpasog, ac yn cy- meryd golwg lawn—yn ol yr amser a gania- tawyd iddo-ar arweddau presenol duwin- yddiaetb. Ymagorai i wahanol gyfeiriadau, ac nid gormod fuasai cael ychydig oriau o rydd-ymddyddan ar y pynciau a awgrym- wyd ganddo, ac yn ddiau yr oedd yno barod- rwydd mawr i hyny, pe buasai amser, Nid ydym yn tybied ein bod i aros lie yr aroeodd y tadau, na'n bod i gymeryd pob gwirionedd yn y ffurf y gosodwyd ef ganddynt hwy. Mae y gwirionedd yr un bob amser, ond y mae y ffurf y gosodir y gwirionedd hwnw allan yn gwahaniaethu ac nid ydym yn tybied ein bod wrth newid y ffurf o osod gwirionedd allan yn symud yterfynau. Cyf- eiriodd Mr MORRIS, Pontygof, yn bapus at y datganiad duwinyddol diweddaf sydd wedi ei wneyd gan weinidogion dysgedicaf ein Heuwad yn America, ar gais y Gynadl- edd fawr a fu yn St. Louis. Nid ydyw mewn un modd wedi encilio oddiwrth han- fod y datganiadau blaenorol a wnaed, er fod rbai ymadroddion a ystyrid yn banfodol gynt i uniongredaeth wedi eu gadael allan; ond y mae yn bur sicr eu bod yn eu ffurf ddiweddaraf yn ddatganiad cywiracb o'r hyn ydyw golygiadau mwyafrif mawr ein Henwad yn America yn gystal ag yn y wlad bon. Ond fel y dywedwyd yn briodol iawn gan Dr MORRIS, Aberhonddu, y mae genym ryw wirioneddau nad ydynt i fod yn ddadl- euadwy. Yn ol dysgeidiaeth y dduwinydd- iaeth newydd, fel ei gelwir, y mae pob cwestiwn yn agored. Nid oes genym sicr- wydd am ddim. Mae y Drindod, yr Ym- gnawdoliad, y Gwyrthiau, yr Adgyfodiad, oil yn gwestiynau agored. Nid oes genym ddim yn bendant arnynt. Fel y dywedodd Dr MORRIS, y mae genym destynau agored, a bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei bun arnynt. Yr oedd ef yn barod i adael y "pum' pwnc" felly, er drosto ei hun, cy-I merai ef yr ocbr Galfinaidd arnynt; ond ni ddylai y rhai byny ein rhanu fel Enwad. Ond y mae pynciau ereill nas gellir eu gadael yn agored. Cy merer er engraifft, pa un ai Enwad Trindodaidd, ai Enwad Un- dodaidd ydym ? Ai cwestiwn agored yn ein plith fel Enwad ydyw atbrawiaeth y Drin- dod? A ydyw Duwdod Crist i'w dderbyn neu ei wrthod, fel y barno pob un oreu, ac eto cadw ei le yn yr Enwad ? Onid yw yn ddealledig yn ein plith o'r dechreuad mai Trindodiaid ydym, a bod Duwdod Crist yn un o ertbyglau sylfaenol ein credo ? Acnis gall neb yn onest, beb son am anrbydeddus, gadw ei safle yn yr Enwad os nad yw yn credu y gwirioneddau sylfaenol byn. Mae yr Undodiaid eu bunain yn dysgwyl fod n pawb a ymuno a hwy yn Undodwyr, ac nid oes dim yn fwy rhesymol. Gvvyr pawb nad rhyw bwys mawr a roddir ganddynt hwy ar athrawiaeth a chredo; ond y mae y syniad o degwch yn gryf ynddynt, a dichon fod y ZD ffaith nad yw eu hargyhoeddiadau yn gryf- ion iawn ar gredo ac athrawiaetb, yn help iddynt i edrych yn anmbleidiol ar y mater. Yn y Christian Life-cyboeddiad Undod- aidd-ceir sylwadau teg iawn yn nglyn ag ymadawiad y Parch JOSEPH WOODS a'r Annibynwyr, a'i ymuniad a'r Undodiaid, a'r ohebiaeth fu rhyngddo a Dr HANNAY. Ym- ffrostiai Mr WOODS mai Undodwr ydoedd o ran credo yr holl flynyddau y bu yn wein- idog i'r Annibynwyr yn Leicester, a'i fod yn myned yn mhellach yn ei olygiadau na llawer o'r Undodiaid, a bod hyny yn wy- byddus i'r Undeb Cynulleidfaol. Atebodd Dr HANNAY ef nad oedd ei Undodiaetb yn wybyddus i'r Undeb Cynulleidfaol fel y cyfryw, oblegid na bu ei gredo erioed ger ei fron ac ychwanegai fod ei waith yn aros mewn Enwad yr oedd ei boll banes a'i draddodiadau yn Drindodaidd, ac yntau yn Undodaidd, yn mhell o fod vn anrhydeddus a dyweyd y lleiaf. Ar hyn dywed Golygydd y Christian Life fel y canlyn Mae yr ohebiaeth yma yn dangos mor ofer ydyw tybied y gellir sicrhau heddwch ac undeb unrhyw gorff crefyddol trwy fab- wysiadu, na tbrwy wrthod credoau. Mae yr Undeb Cynulleidfaol yn gwrthdystio yn erbyn tanysgrifio i unrbyw ffurf ddynol fel amod cymundeb. Nid oes ganddo unrhyw safon mewn athrawiaeth a'r hon y mae cyd- syniad ysgrifenedig yn cael ei ofyn. Ac eto er gwaethaf yr absenoldeb yma o danysgrif- iad, dywed Mr WOODS wrtbym ei fod ef am flynyddoedd wedi goddef oerfelgarwch, a dirmyg, a rhyw fath o erlidigaetb. O'r pethau hyn, medd efe, y mae ei gwpan wedi bod yn llawn. Mae yn eglur gan hyuy er nad oes unrhyw gytundeb i'w dori, eto fod yn rhaid fod nifer o'r Cynulleidfaolwyr er's bir amser yn ystyried-pa un ai yn deg ai yn annbeg, nid ydytn yn cymeryd arnom i ddyweyd-fod Mr WOODS yn euog o dori rhyw gytundeb oedd yn ddealldwriaeth an- rhydeddus.. Rhaid eu bod yn ystyried er ei fod gyda hwy, nad oedd ohonynt hwy, a rhaid eu bod lawer gwaith wedi awgrymu byny iddo, os nad trwy ymadrodd, eto trwy ymddygiad, ac mai eu barn ydoedd y dylas- ai ohouo ei bun roddi i fyny ei gysylltiad a'r corff Cynulleidfaol. Wrth reswm, yr oedd gan Mr WOOD berffaith bawl gan ei fod yn cael ei gefnogi gan fawrygiad a serch ei gynulleidfa i gymeryd y cwrs a gymer- adwyai ei hun i'w farn a'i deimlad. Ond yr byn sydd genym ni i'w ddyweyd ar y mater ydyw, nior belled ag yr oedd a fynai Mr WOODS a theimlo ei sefyllfa yn anghysurus a phoenus, nid oedd y bai yn gorphwys ar danysgrifiad i gredo. Ac yr ydym yn cyf- lwyno y ffaith i sylw y dynion sydd yn cwyno yn barhaus yn erbyn drygedd credoau Nid yw y cwestiwn sydd wedi codi rhwng Mr WOODS a Dr HANNAY yn gwestiwn o gredo, yn gyma'int ag a ydyw yn gwestiwn, A oes y fath enciliad wedi bod ar ran y blaenaf oddiwrth y llinell ag sydd yn an- nghydweddol ag ymddygiad unplyg ac an- rhydeddus ? Mewn gwirionedd, cwestiwn o onestrwydd moesolydyw. Y gwirionedd yw, y mae credoau wedi cael enw drwg, nid oblegid eu bod yn ddrwg ynddynt eu hun- ain, ond oblegid y camddefnydd sydd wedi ei wneyd ohonynt. Nid yw credo yn ddim ond datganiad cyfundrefnol, o'r byn a gredir ar destynau cysegredig, ac nid oes unrhyw reswm paham na ddylai unrhyw gorff o Gristionogion wneyd derbyniad o'r fath ddatganiad, os dewisant, yn un o amodau derbyniad i'w cymundeb. Gall fod yn gwestiwn o ddadl, A oedd yn ddoeth yu- ddyut i ddewis gwneyd hyny ond byddai eu hatal i wneyd hyny yn gyfyngiad ar eu rbyddid. Ond byddai yn gyfyngiad cyfar- tal ar ryddid dynol, pe byddai yr un corff o Gristionogion wedi iddynt fabwysiadu credo iddynt eu hunain, i geisio atal y rbai sydd yn meddwl yn wabanol, rbag mabwysiadu credo wahanol iddynt eu bunain. Yn awr y peth anffodus ydyw, nad ydyw llawer o eglwysi wedi boddloni ar fabwysiadu credo- au iddynt eu bunain, ond tybiant eu bod yn gwneyd gwasanaeth i Dduw wrth geisio eu gwthio ar holl wledydd cred, neu dros y rhanau byny ohonynt sydd o dau eu dylan- wad. Beth by nag y meddyliant hwy y dylai dynion fod neu wneyd, credant y dylent eu gorfodi i fod neu wneyd felly, ac o'r camgymeriad sylfaenol yma y cyfododd yr boll anoddefgarwch a'r erledigaeth sydd wedi gwaradwyddo hanesiaeth eglwysig. Mae byny wedi peri fod" hyd yn nod cry- bwyll am gredoau yn gas gan lawer. Ond nid yw hyn mewn un modd yn profi fod credoau wedi gweled eu dydd. Gall dynion fel Mr PICTON, sydd yn cael mewn Cristion- ogaeth deimladol a chyffroadol ddigon i ddiwallu eu hangenion ysbrydol, ddirmygu credoau. Ond ni bydd Cristionogaeth gyffioadol yn ddigonol i bawb. Bydd i'r mwyafrif o ddynion bob amser ofyn am Gristionogaetb, A ddiwalla y deall yn gystal a'r galon ? Gofynant am atbrawiaeth yn gys- tal a synied, a bydd angen aruynt am wyb- odaeth yn gystal ag ysbrydiaetb. Oblegid hyny yr ydym yn honi y bydd i gredoau lenwi lie pwysig mewn banesiaeth eglwysig ddyfodol, fel y maent wedi gwneyd yn y gorphenol. Ond deuant yn fwy syml, yn fwy rhesymol, ac yn fwy Ysgrytbyrol, ac yn raddol peidia y meddwl cyffredin a chysylltu a bwy y synied o ormes Eglwysig." Nis gall fod dim yn decach, a dichon y bydd y ffaith ei fod wedi ei ysgrifenu gan Undodwr, a'i gyhoeddi mewn papyr Undod- aidd, yn peri i rai roddi mwy o bwys arno. Nid ydym ar un cyfrif am gyfyngu neb o fewn hualau trymion hen dermau celyd na'u batal i draethu eu syniadau mewn ffurfiau symlach ac eglurach, ond y mae gwirioneddau mawrion sydd yn cynwys mwy na thermau duwinyddol, a ffurfiau ymad- roddion, a gwell o lawer i'r rhai sydd yn gwadu y cyfryw ymuno gyda rhywrai cyd- ffurf a hwy yn eu golygiadau ac nid aros i geisio llygru, a lefeinio, a gwenwyno Enwad y mae ei boll banes a'i draddodiadau yn profi ei fod "yn dal dirgelwch y ffydd gyda cbydwybod bur."

Advertising

YR WYTHNOS.