Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

UNDEB YR ANNIBYNWYRI .CYM…

News
Cite
Share

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYM EEIG. CYFARFODYDD BLYNYDDOL YN LLANELLI, GoEi'HBNAi' 28AM, 29AIN, A'R 30AIN, 1884. (Parhad o't- Rhifyn diweddaf.) Cafwyd gwlaw trwm prydnawn dydd L'un, yr hyn oedd yn diflasu yehydig, ond pur yehydig hefyd ar y mwynhad ond yr oedd brwdfrydedd y gynulleidfa fawr yn y Tabermcl, a rhagoroldeb a dylanwad Pregethau yr Undeb yn peri i bawb anghofio gwljrbaniaeth y tywydd a phob diflasdod arall. Teimlem yn falch o'n Henwad ac o'r pwlpud Cvmreig wrth wrmdo Mri Jones a Jenkins. Yr ydym wedi cael profiadau helaeth o wrando prif bregetlwyr cenedloedd ereill, a'u barn ddiysgog yw nac oes yr un ohonynt yn dyfod yn agos i'r pregithu yn y Tabernacl nos Lun. Yr oedd ardlull, cyfansoddiad, a dull traddodiad y naill yn hollol wahanol i'r llall, ond eto yr oedd y cdau yn eu goreufan, a gwyr y neb sydd yn gyfarwydd a hwy beth mae hyny yn olygu. Erbyn boreu dydd Mawrth, yr oedd y gvdaw wedi peidio, yr awel fywiog yn chwythu, yr haul yn tywynu, a'i belydrau, nid yn unig yn sychu y ffyrdd gwlyb, ond yn bywiogi ysb-yd pawb oedd yn yr Undeb. Daeth torf luosog am saith i'r Gyfeillach yn Ebenezer, a galfem feddwl fod ysbryd pawb mewn agwedd ddy- manol i addoli. Declireuwyd trwy ddarllen a J gweddio gan y Parcli J. N. Richards, Peny- groes. Drwg gan bawb wybod fod yr henafgvr parchus y Parch R Thomas, Hanover, wedi ai luddias gan wendicl a llesgedd i fodyn bresenol. Datganwyd mewn llawer dull a modd y cyd- ymdeimlad dyfnaf tuag ato, gan hyderu y caiff fwynhau cysuron erefydd yn helaeth yn mhryd- nawn ei fywyd wedi oes o lafur ffyddlon a llwyddianus. Dewiswyd y Parch T. Davies, Treforris, i lywyddu, yr hwn a draddododd anerchiad llawn o adgofion melus a dyddorol am gyfeillachau y dyddiau gynt, yr hwn oedd yn arweiniad i mewn naturiol i bapyr rhagorol y Parch J. Foulkes, Aberafon, ar "Brofiad Crefyddol." Hyderwl1 y gwna yr eglwysi fynu darllen hwn, canys y mae yn ymwneyd as; un o'r materion pwysicaf, ac y mae yn cynwys -syniadau gwerth eu meddwl yn ystyriol. Cymerwyd rhan yn yr ymddyddan canlynol gan y Parchn T. J. Morris, Aberteifi W. Nicholson, Liverpool; D. S. Davies, Bangor; ac O. Thomas, Brynmair, yr hwn hefyd a derfynodd trwy weddi. Cafwyd un o'r cyfeill- achau mwyaf dymunol, ac yr oedd yn rhoddi t6n ac ysbryd priodol at waith pwysig y dydd. Am haner awr wedi naw yr oedd Capel Als yn orlawn, ac yr oedd hyn yn ddigon o brawf fod yr Undeb yn cynyddu yn barhaus yn ei boblogrwydd. Declireuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch D. Williams, Blaenau, ac yr oedd ei gyfeiriadau at y dyddiau, ac iddo ef y lie cysegredig hwnw, canys yno y derbyniwyd ef yn aelod ac y dechreuodd bregethu, yn nodedig o eireithiol. Ar godiad y Cadeirydd— y Parch W. Roberts, Liverpool-i ddarllen ei anerchiad, cafodd y fath dderbyniad cynes ag a brofai ei fod yn ddwfn iawn yn serch y frawd- oliaeth. Yr oedd ei anerchiad ar "Ysbryd y vVeinidogaeth" yn finiog a gafaelgar, ac yn yr ystyrion goreu yn model address. Ymddangos- odd crynodeb ohoni yn ein rhifyn diweddaf, a bydd ei chael yn gyflawn yn yr Adroddiad" yn gaffaeliad anmhrisiadwy i weinidogion a gwyr lleyg. Dymunwn gyflwyno ein diolch- garwch diffuant i Mr Roberts am ddewis y pwnc yma yn destyn, a'i ymdrin mor feistrolgar. Wedi canu penill, cynygiodd y Parch Simon Evans, Hebron, ac eiliwyd ^an Proff'eswr Rowlands, B.A., Aberhonddu— Fod Undeb yr Anmbynwyr Cymveig, yn' wyneb marwolaeth gweillidogion enwog ae anwyl er yr ucbelwyl ddiweddaf, yn dymuoo datgan ei ymdeimlad dwys o golled a hiraeth am danynt; ei ddiolchgarweh i Ddnw am y gras mawr a ainlygwyd ynddynt a thrwyddynt; ei weddi daer ar ran y teuluoedd, yr eglwysi, a'r sefydliad a safai mewn pertbynas neillduol a hwy; a'i benderfyniad i ddilyn eu ffyrdd, "gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Enwau- Parchn Isaac Jones, Drefriewydd; W. Rees, D.D., Caer; vV. Williams, Abercarn W. B. Morgan, Maesleil; W. Morgan, Caerfyrddin a J. Waite, B.A., Caer,ty(id. Darllenodd y Cadeirydd lythyr oddiwrth y Parch W. Edwards, Aberdar, cyn-Gadeirydd yr Undeb, yn mynegi ei anallu i fod yn bresenol yn herwydd afiechyd, ac yn y llythyr amlygai ei ymlyniad ffyddlon wrth yr Undcb, gyda dymuniad ar fod hendith yr Arglwydd yn amlwg ar yr holl gyfarfodydd. Cynygiwyd gan y Parch W. Evans, Aber- aeron, ac eiliwyd gan y Parch D. Griffith, Dolgellau- Fol y cyfarfol bwn yn datgan ei ofid o gaol ar ddeall fod y Parch W. bldwards, Aberdar, wedi ei ddal gan gystudd trwm fel ag i'w analluogi i fod yn bresenol gyda in yn y cyfarfodvdd eleni, ac yn mawr obeithio y gwel yr Arglwydd yn dda ei arbed i ni, a'i adfer i'w nertb a'i ddefnyddioldeb blaenorol am flyn- yddau eto. Darllenodd y Proffeswr Lewis, B.A, Bala, bapyr llafurfawr a dihysbyddol ar "Arweddau presenol Duwinyddiaeth." Ni chafodd amser i'w ddarllen oil, er ei fod yn darllen yn gyflym. Bydd yn dda genym a chan luaws ereill i gael ei ddarllen yn bwyllog, canys y mae o ran ei arddull a'i athroniaeth yn bapyr i'w ddarllen a'i fyfyrio yn fwy na'i wrando. Athraw o nodwedd uchel yw Mr Lewis, ac y mae cynyrch ei feddwl yn gofyn amser i'w astudio yn fanwl er gwneyd cyfiawnder a'i awdwr. Dymunwn lougyfarch Mr Lewis ar y don efengylaidd oedd yn rhedeg trwy ei bapyr, ac yr ydym yn gobeithio na chollir y perl hwn o'r weinidog- aeth Gymreig. Cynygiodd y Parch J. Morris, l'ontygof- Fod y cyfarfod hwn yn dymnno datgan ei la,wenydd yn wyntb fod ein Henwad yn glynu mor ffyddlon wrth athrawiaeth bur ac iachus ar yr un pryd, dymuna gydnabod y pwysijjrwydd mawr i garedigion y gwir- ionedd fel y mae yn yr Iesll" fod yn fwy dyfal yn eu hymchwiliad iddo, fel y gallont roddi rheswsn am y gobaith sydd ynddynt ar y naill law, ac na byddont yn agoied i gymeryd eu cylcharwain a phob awel dysg- eidiaeth ar y Haw arall ac yn gobe'thio y bydd i bipyr rhagorol y Parch Proff. Lewis, B.A., ar "Arweddau presonol Duwinyddiaeth" fod yn loddion i'n deffroi ya y cyfeiriad hwn. Beth ydyw bod yn iach yn y ffydd ? Dibyna. yr ateb ar yr atebwr. Y mae genym y ffydd Rufeinig a'r ffydd Brotestanaidd. Mae awdur- dodau y ffydd Rufeinig yn rhoddi pen ar bob dadl 0 bwys, a'r hwn a feiddio amheu neu wahaniaethu bydded anathema," ac yn ofer y dadleuir am gymhwysiad o'r athrawiaeth apostolaidd—"Ben- dithiwch ac na felldithiwch, Yn ol yr Eglwys Ddiwygiedig, ffydd, neu esboniad y diwygwyr, sydd i fod yn safon ein ffydd ninau, a pha mor ddysgedig, pwyllus, ysbrydol, a gonest bynag y gall dyn fod, oni all berswadio ei hun i roi ei amen wrth holl erthyglau y ffydd bon, rhaid ei > alw yn heretic, ac nid brawd, a throi o'r ochr arall heibio iddo, rhag mewn un modd ein balogi gan ei wahanglwyf. "Fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly." Beth ydyw Cristionogaeth ? Y wedd uchaf ar dduwioldeb; a golyga hyny y syn- iadau uchaf am Dduw, a'r tebygolrwydd mwyaf iddo mewn buchedd. Duwioldeb Cristion ydyw ymarweddu fel Iesu Grist. Duwinyddiaetb Crist- ion ydyw meddwl am Dduw a'i berthynas a dyn fel y meddyliai Crist. Dyma'r oil a allwn yn gyf- reithlon ofyn am dano. Credaf fi fod darllen duw- inyddiaeth awduron galJn yn gynorthwy i ni ddeall meddwl yr Arglwydd i'r graddau y maent wedi gallu sylweddoli prif feddyliau a phrif am. can bywyd yr Arglwydd lesu. Gall duwinydd- iaeth y duwinyddion fod yn fwy o rwystr nag o gynorthwy i ddeall meddwl yr Arglwydd. Wrth lu mawr ohonynt, ac wrth yr oil i raddau mwy neu lai, y dywed efe, "Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi." Pren gwybodaeth da a drwg oedd ac a ydyw duwinyddiaeth yr eglwys fwyaf eang yn y byd Cristionogcl, a hwn a fu yn gwymp i filoedd, ac yn elfen lygriol barhaus yn yr Eden ein harweiniwyd iddi gan yr Ail Adda. Hyn a welodd y Diwygwyr, ac ymwrthasant ag ef. I newid y ifugyr, symudasant "yr hen derfynau." Troisant oddiwrth dduwinyddiaeth y canol-oesau at yr eiddo Crist, a cheisiasant osod "yr hen, hen stori" ar yr hen sylfaen a osodwyd gan ei sylfaen- wyr. A sylfaen arall nis gall neb ei gosod." onci ai ni ellir diwygio diiwinyddiaeth y Diwyg- wyr ? A oeddynt hwy yn anffaeledig ? A yw eu du winyddiaeth hwy yn berffaith ? ad felly, bydd y cyfnewidiad lleiaf a wneir ynddi er gwaeth ac nid er gwtjll. Ond y mae'r oes ddiorphwys hon am gael profi ei nerth a'i medr i wella pobpeth. Mae ganddi welliantau ar welliantau-prawf bob peth ac ni ddylai ddal dim ond y da. Diau mai y defnyddiau o ba raiy ceir ein dti winyddiaeth ydyw Ilenyddiaeth Feiblaidd, ac ni bu y defnyddiau hyny erioed mor gyflawn ac mor ddosbarthus. Yr ydym wedi croesi y gagendor oedd rhyngom a meddwl a bywyd dwyreiniol, nes bod yn alluog i'w ail welei a'i ail fyw. Credwn yn ddiysgog na bu cystal esbonio ar Lyfr yr Arglwydd o ddyddiau yr apostolion hyd yn awr, a chredwn mai deall y Llyfr ydyw deall Duw. Bu bywyd Crist yn wrth- ddrych yvngais y beirdd, yr arlunwyr, a'r duwin- yddion i'w esbonio, ac fe dybiwn fod awduron yr oes hon wedi deall ei ystyr, a d'od yn agosach i'w ysbryd nag unrhyw oes na chyfnod sydd wedi ei blaenori. Er nad ydyw ffydd y dysgawdwyr yn Israel mor gadarn mewn duwinyddiaeth gyfun- drefnol (systematic theology) ag y bu, eto prawf y derbyniad a ga awduron o fath Hodge, Dorner, a'r cyffelyb, fod lluaws mawr meddylwyr yr oes am gael duwinyddiaeth, fel pob aeth arall, wedi ei gosod yn drefnus, cyflawn, a chymesur-yn wyddoriaetb-yn science. Ond beiddiwn ni gredu fod cyfran o wirionedd yn sail i'r gwrthwyneb i'r peth a elwir yn dogmas; a dyna ydyw, y mae llawer o'r athrawiaeth yn ol duwioldeb yn beth ag y rbaid ei gosod allan mewn barddoniaetb, ac nid yn ffurf rhesymeg. Diau fod tuedd meddylwyr ag a dderbyniant bob peth trwy syllogism i feddwl y gallant fesur, pwyso, a mapio Duw a'i feddyliau, a tbriniant y Gorucbaf, ys dywed Mathew Arnold, fel y gwr sydd yn byw am y gongl a hwy. Fy ngeiriau i ysbryd ydynt a bywyd ydynt." Nid ydyw ysbryd a bywyd yn wrthddrychau i'w pwyso a'u mesur. Y mae genym wirioneddau y gellir eu rhoddi yn fiurf y llytbyr at y Rhufeiniaid, ond mae genym wirioneddau ereill nas gellir eu rboddi ond yn marddoniaeth Job, Esaiah, a'r Salmydd. Nid gwiw ceisio gosod Shakespeare mewn syllogism. Nid ydyw ei llinellau a'i bachau hi yn ei gyffwrdd. Gallwn feddwl mai dyna brofedigaeth a man gwan y gwr dysgedig a gallnog Joseph Cook,. o America. Ei nerth yw ei wendid. Y peth a achosodd i John Stuart Mill wrthod pob gronyn o dduwinyddiaeth a ddatguddid a bar i Mr Joseph Cook wrthod pob peth na ddaw yn ol y rheol hon," sef yw hyny, fod yn rhaid i bob peth ond a ellir ei roddi mewn syllogism gael ei wrthod. Dyna oedd addysgiaeth James Mill i'w fab, ac ar yr egwyddor yna y gweithredodd ef ar hyd ei oes. Fe dderbynir trwy ffydd fwy nag sydd brofadwy gan resymeg. Mae i grefydd ei "breuddwyd" a'i U gweledig- aeth." Mae gan feddwl a ddeffrowyd gan ysbryd i weled yr Anweledig," ond nid i'w fesur na'i bwyso. I feddwl meidrol mae ein myfyrion uchaf ni yn farddoniaeth, byny yw, yn anfesurol, ac yn anhraethadwy. Rhaid eu canfod trwy intuition -trwy welediad meddwl a'r anian dduwiol ynddo .-trwy ffydd. Gwrthod cydnabod yr elfen yna o du y duwinyddion, y rhai a gerir i eithafion gan eu bymarferiad parhaus a rhesymeg a beirniad- aeth, ydyw yr achos o'r gwrthwynebiad a deimlir yn fynych i'r peth a alwn yn dogma. Rhaid i feddylwyr pob oes gael dyweyd eu meddwl yn dretnus a chlir—galwer ef yn system, neu beth a fyner ond wrth wneyd hyny, bradwriaeth yn erbyn y gwirionedd sydd yn agor i'r anherfynol ydyw dyweyd ein bod wedi dyweyd pob petb. Mae eangder y lie y trown ynddo yn caniatau i ni wahaniaethu heb dd'od i wrthdarawiad, ac y mae cariad at Dduw ac at y gwirionedd, fel deddf dys- gyrchiad, yn ddigon o sicrwydd nad a yr eglwys rydd a'r duwinydd rhydd yn bell oddiwrth y canolbwnc sydd iddo yn haul—yn ffynonell nerth a goleuni ei fywyd. Mae llygaid duwinyddion yr oes hon yn cyniwair trwy yr holl ddaear, ac yn gweled goleuni gwyddoriaeth, ac y mae natur- iaethwyr ein dyddiau ni wedi llwyddo i'w gosod fel dinas ar fryn, yr hon nis gellir ei cbuddio." Ac y mae y dduwinyddiaeth a adawyd i ni gan y tadau fel pe byddai yn cael ambell i dwr bychan ar furiau ei dinas yn gogwyddo, ac fel pared ar ei ogwydd yn debyg o gwympo a mawr y twrw a wnaed gan ambell i Tobiah o wyddorydd a San- balat o anffyddiwr, nad oes codi mwy i fod ar furiau y ddinas. Beth ydyw ein dyledswydd? Cydnabod y gwirionedd—gwynebu yr amgylch- iadau fel y maent. Os oes rhyw dwr wedi ei osod ar y tywod, chwiliwn am y graig. Os rhaid symud y terfynau, symudwn bwynt; wedi eu profi a'u cael yn gryfion, na chiliwn fodfedd. A ydym ni yn Lloegr a Chymru yn barod i wneyd restatement, neu i docio yehydig ar rai conglau o'n credo a'i osod mewn ymadrodd nas gellir beio arno. Fe dyb- iodd Cynulleidfaolwyr yr Unol Dalaethau eu bod hwy yn barod. Mewn cynadledd fawr-gellid ei galw yn Gynghor, gan mor eang ydoedd—cynadl- edd oedd yn cynrychioli yr holl dalaethau, a gyfar- fyddodd yn St. Louis, fe beriderfynwyd tynu allan