Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

[No title]

CTMDEITHAS RYDDFRYDIG PLWYP…

Advertising

YMYLON Y FFOEDD-

News
Cite
Share

asid yn agos i haner awr o amser pe gadewsid y penderfyniadau ereill a ddygwyd ger bron hyd y Gynadledd boreu dranoeth, yr hon ar bob cyfrif yw y gymhwysaf i ymdrin a phethau o'r fath. Mae yn hen bryd hefyd gosod terfyn ar gyhoeddi rhestr y gweinidogion a fuont feirw. Nid yw yn perthyn i'r Undeb o gwbl. Mae rbyw ystyr yn Nghynadledd y Wesleyaid i ddarllen rhestr enwau y gweinidogion a fuont feirw yn ystod y flwyddyn, ond nid oes ystyr o gwbl yn Nghyfarfodydd yr Undeb Cymreig i ddwyn enwau yr holl weinidogion ger bron, llawer o ba rai na buont erioed yn yr un o Gyfarfodydd yr Undeb, a rhai o bosibl heb gydymdeimlad ag ef. Nid ydym mewn un modd yn cynrychioli yr eglwysi-nid Undeb o weinidogion yn unig ychwaith ydym, oblegid y mae yn ein plith nifer fawr o leygwyr, ac y mae yn llawn mor briodol cyfeirio at farwolaeth rhai o'r cyfryw ag amryw o'r gweinidogion, oblegid y mae eu perthynas yn nes a'r Undeb. Mae hyn wedi peri trafferth lawer gwaith, ac y mae yn sicr o beri cyhyd ag y parheir ef. Bydd rhywun yn cael ei adael allan, a gallrhywun fod wedi marw y bydd yn ddadl a ydoedd yn weinidog ai nid ydoedd. Gadawer yr enwau allan oil; ac os bydd rhyw enwau, gweinidogion neu leygwyr, y rbai y tybir, oblegid eu eysylltiad arbenig a'r Undeb, y dylid gwneyd crybwylliad neillduol atynt, gwneler hyny gan y Pwyllgor yn ei Adrodd- iad, neu, os mynir, trwy benderfyniad uniongyrchol ond gwneler ef yn y gynadledd sydd wedi ei bwriadu yn arbenig at bethau felly. Arbedir amser trwy hyny, a'r hyn sydd bwysicacb, dyogelir rhag yr hyn a all beri blinder. Llawen oedd gan bawb weled Mr Herber Evans, ar ol ei golli am rai blynyddoedd o gyfarfodydd yr Undeb, a'i glywed yn darllen gyda'r fath fywiogrwydd bapyr mor rhag- orol ar fater yr oedd yn ofynol wrth fedrus- rwydd mawr i'w drin yn briodol; ond unol farn pawb ydoedd, nas gallesid ei ymddiried mewn gwell dwylaw. Mae Ein dyledswydd fel Enwad yn wyneb cynydd Addysg Uwch- raddol yn fater pwysig, ac yn enwedig beth a wnawn i'n Colegau Enwadol. Nid oes He yma i ddadleu y mater, ac nis gallaf ddyweyd fy mod yn gweled ein llwybr yn glir ond yr wyf yn cyduno yn galonog a'r syniadau a draethodd Mr Evans ac nid oes achos i neb ofni i ni fyned yn mlaen yn rhy frysiog. Nid hyny ydyw ein perygl. Yr ydym fel Enwad trwy holl ystod ein hanes wedi colli mwy trwy ein bwyrfrydigrwydd i symud, na tbrwy ein brys. Byddai yn dda genyf i'r brawddegau canlynol o eiddo Mr Evans gael sylw yr boll eglwysi" Yr wyf yn credu nas gallwn wneyd dim yn ddoeth- ach na dwyn ein Colegau Enwadol i'r cji- sylltiad agosaf sydd yn bosibl a'r Colegau Cenedlaethol. Yr wyf yn sier y byddai yn enill ddirfawr i ni fel Enwad pe gellid symud ein Colegau yn gystal a'n myfyrwvr i drefydd y Colegau Cenedlaethol." Wedi cyfeirio at y manteision a gynygir yn Aber- ystwyth, a Chaerdydd, a Bangor mewn ys- goloriaethau ac exhibitions, gofyna, "Ai tybed, gyda'r holl fanteision hyn, a'r hyn a ddygir eto trwy yr Ysgolion Candraddol, nad yw yr amser ger Haw pan y bydd pob myfyriwr gwerth ei gael yn abl i enill ei addysg fydol gydag ychydig gynorthwy, ac yna ni bydd raid i'r eglwysi ddarpaf u ond yn unig ar gyfer ei addysg dduwinyddol ? Mae ein cynllun presenol yn sicr o fod yn gwneyd y ffordd yn rhy rwydd i ddynion difedr a didalent i'r weinidogaeth." Byddai yn dda genyf weled pob eglwys, gyda chy- northwy eglwysi cymydogaethol, yn barod i gynal y gwr ieuanc a gyfodo i bregethu yn yr hyn y byddo yn fyr o allu i wneyd hyny ei hun. Byddai trefn felly yn sicr o beri i'r eglwysi beidio codi neb ond rhai gwerth eu cynal, a rhai gwerth i'r Enwad a clrefydd eu cael." Y neb a ddarlleno ystyried." Dyna eiriau gwerth i'r eglwysi oil eu gosod at eu calon. Yr oedd y Cyfarfod Cyhoeddus yn llwydd- iant hollol yn mhob ystyr. Yr oedd y Tabernacl yn Ilawn cyn chwech o'r gloch, er nad oedd y cyfarfod i ddechreu cyn haner awr wedi chwech. Yr oedd awydd cyffred- inol am weled a chlywed Mr Henry Richard. Buwyd yn petruso yn hir pa beth i'w wneyd. Bwriedid rhoi dau i bregethu mewn capel arall, fel y gwnaed y noson cyn hyny, ond am y cyfarfod cyhoeddus yr oedd y lluaws. Mynai rhai ranu yr areithwyr-dau i bob capel, a Mr H. Richard i lywyddu yn y naill, a Syr J. Jones Jenkins yn y Hall, ond nid oedd fawr hwyl at hyny. Yr oedd y rhai oedd i fewn am glywed y cwbl. Penderfyn- wyd o'r diwedd gynal dau gyfarfod, ac i'r areithwyr fyned o'r naill gapel i'r llall, a thraddodi eu hareithiau ddwywaith, a'r Cadeirwyr yr un modd. Gwnaeth Mr Thomas, Glandwr (yr ysgrifenydd hynaf), a Mr Johns, Capel Als, eu gwaith yn deilwng tra yn myned trwy yr holl drefniad- au hyn cadwent eu hunain yn hollol bwyll- og a hamddenol. Yn ngbanol pob cyffro nid oeddynt mewn un modd yn colli arnynt eu hunain. Oni bai mai gwyr am heddwch ydynt, gwnaethant ddau gadfridog rhyfel ardderchog ac yr oedd eu hyd a chlirder eu lleisiau yn fantais iddynt. Yr oedd yr ysgrifenyddion ereill wrth eu gwaith, er nad yn llawn mor gyhoedd. Cafwyd araeth ragorol o'r gadair yn y Tabernacl gan Mr Henry Richard—araeth i'r amserau pres- enol. Dilynwyd ef gan Mr Rowlands, Aber- aman, a Mr Williams, Bethesda. Yr oedd y blaenaf yn dyner ac effeithiol, a'i genad- wri at bobl ieuainc ar iddynt ymgysegru i grefydd a'r olaf yn rymus a nerthol ar sefydliadau gwladol o grefydd, fel y maent yn rhwystr i gydweithrediad crefyddol. Yna aethant hwy a Mr Richard i gapel [ Moriah, yn ymyl, i ail draddodi eu hareith- iau, a daeth Mr Nicholson, Dinbych, a Dr Rees, Abertawy, gyda Syr J. J. Jenkins, o Moriah. Cafwyd araeth wir hyawdl gan Mr Nicholson ar ein trueni cymdeitbasol, a'r feddyginiaeth ysgubai y cwbl o'i flaen. Dilynwyd ef gan Dr Rees yn ei ffordd briodol ac effeithiol ei hun, ar y Cymry a'r Genadaeth, a chyfeiriodd yn darawiadol at amryw o'r rhai a fu yn llwyddianus ar y maes. Parhaodd y cyfarfod am fwy na tbair awr, ac yr oedd yno ganoedd wedi bod yn y lie mewn gwres dirfawr am fwy na phedair awr ond nid" ymddangosai neb eu bod yn blino. Yr oedd y cyfarfodydd oil yn llwyddiant mawr. Nid oes genyf le i gyfeirio at y gwahanol faterion ereill a ddygwyd ger bron y cynadleddau, na'1' cynulliadau mawrion oedd yn gwrando y pregethau ddydd Mercher. Nid ym- ddangosai fod angerddoldeb y bobl yn lleihau hyd yr awr ddiweddaf. Cytunwyd fod y cyf- arfod y flwyddyn nesaf i fod yn Aberystwyth, ac etbolwyd yr Hybarch Owen Thomas, Brynmair, i fod yn Gadeirydd ac y mae ei oedran, ei gyineriad, a'i ffyddlondeb v fath fel y mae yn sicr nad oes neb yn gwarafun iddo yr anrbydedd. LLADMERYDD.