Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

YMYLON Y FFOEDD-

News
Cite
Share

YMYLON Y FFOEDD- Nos Sadwrn, Awst 2il. PAN yn ysgrifenu ddiweddaf, yr oeddvrn yn dyweyd fy mod wedi bod am yckydig ddyddiau yn nbir deillduaeth allan o ferw y byd, ac yr oedd hyny i mi yn ameithyn mawr; Ond heno, yr wyf wedi dychvelyd gartref i dipyii o dawelwch, ar ol m o'r wythnosau mwyaf bywiog a chyuhyrfui i mi yn fy oes. Nid oedd dim yn annynunol ychwaith yn y cynhwrf, oblegid yr oeld yr heddwch a'r brawdgarwch mwyaf yn ffynu trwy y cwbl. Lluosogrwydd y cynulliad a brwdfrydedd y teimlad oedd yn peri r holl gyffroad Ni welwyd golwg mwy boddhaol ar YR UNDEB CYMREIG o!i" gyctiwyniad nag a welwyd yr wyfchnos hon yn Llanelli, ac ni chafwyd 01t deefi-euad gynulliadau mor lluosog. Yr oedd nifer y dyeithriaid, yn weinidogion a lleygwyr, yn fwy nag ar unrbyw achlysur o'r blaen. Yr oedd y cyn-lywyddion oil, sydd yn fyv, yn bresenol ond tri, ac un o'r cyfryw weoi ei luddias gan gystudd blin, a'r hwr. y datganwyd cydymdeimlad cyffredinol a hyd y gallaf yn awr gofio, nid oedd ond un o'r cyn-ysgrifenyddion yn absenol. Gwelid lIe dau neu dri yn wag, am bob un o'r rhai y gofynid gan rywrai paham na ddaeth efe i'r wyl ond yr oedd dau nen dri ereill, luddiwyd i ddyfod i rai o'r cyfarfodydd blaenorol, yno yn iach a ohryf, a llawen oedd pawb o'u gweled. Yn anffodus, trodd yr hin allan ddydd Jilun yn anffafriol iawn. Gwlawiai yn drwm trwy y dydd agos, ac yn enwedig felly y prydnawn a'r hwyr; ond er byny, dylifai y dyeithriaid i'r dref gyda'r ken o bob cyfeiriad, o'r Deheu gan mwyaf mae yn wir, ond o'r Gogledd hefyd nid ychydig. Ysgoldy y Tabernacl oedd y man i'r hwn y cyrchai pawb, oblegid yno yr oedd te a pbob danteithfwyd wedi ei ddarparu, a gwragedd y gweinidogion yn serchog yn gwasanaethu y byrddau, gyda nifer o fon- eddigesau hawddgar yn eu cynorthwyo. Yr oedd baner fawr ar ysgoldy y Tabernacl, ac arni mewn llythyrenau breision, Croesaw i'r Undeb," a nifer fawr o arwyddeiriau pwrpasol ereill ar y muriau oddiamgylch; ac y mae yn gystal i mi ei ddyweyd yma a'i adael hyd ryw adeg arall —nid oedd modd fod gwell trefniadau o'r dechreu i'r diwedd. Rhanwyd y dyeithr- iaid agos yn gyfartal i gael ciniaw a the y ddau ddiwrnod-Mawrth a Mercher-i Capel Als, y Tabernacl, ac Ysgoldy y Park, ac yr oedd muriau yr ysgoldai wedi eu britho ag arwyddeiriau croesawgar yn y ddau le arall fel yn y Tabernacl. Yr oedd yr arlwyadau yn gyffelyb yn yr boll leoedd, a'r oil o dan reolaeth yr un pwyllgor ond gofalai cyfeillion Capel Als am weini yn eu bysgoldy hwy, a chyfeillion y Tabernacl i weini yn eu hysgoldai hwythau, a chyfeillion Siloa, a'r Dock, ac Ebenezer yn Ysgoldy y Park, a'r gweinidogion a rhai o'r diaconiaid yn arolygu yn mbob He; ac y mae yn anmhosibl dyweyd yn mha le yr oedd y trefniadau berffeithiaf, oblegid hyd y clywais i, y mae y dyeithriaid a roesawyd oil yn credu mai yn y lie y buont hwy yr oedd pethau oreu. Ni chlywais neb yn beio ar yr ymborth, nac ar y gweini, nac ar ddim arall, ac y mae yn dra sicr genyf pe buasai cwyno, y daethai rywfodd i'm clustiau. Yr oedd Pregethau yr Undeb i'w tra- ddodi nos Lun, yr oedfa i ddechreu am saitb, ond rhwng gerwinder yr bin, ac awydd y bobl am eu clywed, yr oedd capel eang y Tabernacl yn llawn am haner awr wedi chwech. Bu taid i lawer o'r gwein- idogion a'r ymwelwyr oblegid hyny fyned yn mhell oddiwrth y pwlpud, oblegid fod llawr y capel wedi ei feddianu cyn iddynt ) ddyfod i mewn. Hyd y gellir, dylid sicrbau canol y capel yn mhob cyfarfod i'r dyeithr- iaid, oblegid y mae yn fantais mewn mwy nag un ystyr i'w cael gyda'u gilydd, a golygfa hardd ydyw gweled y penllwyd a'r oedranugyn amgylchu y pwlpud. Yr oedd y pregethwyr elelli yn ieuengach nag unrhyw ddau a osodwyd i gydbregethu o'r blaen, er eu bod hwythau yn anterth eu dydd ac ni chyflawnwyd dysgwyliadau uebel y bobl yn fwy gd.n unrhyw ddau bregethwr o'r dechreuad. "Hawliau Duw oddiwrth ei bobl" oedd mater pregeth gref, ddifrifol, zn hyawdl, ac apeliadol Mr Emlyn Jones, Treforris, 1TI sylfaenedig ar y geiriau Dy Dduw a orchymynodd dy nerth." Duw yn hawlio goreu yr Eglwys. Adnabyddiaeth o Dduw yn hanfodol i wneyd gwaith mawr drosto," oedd mater pregeth Mr Jenkins, Liverpool, seiliedig ar y geiriau "Eitbr y bobl a adwaenent eu Duw a fyddant gryfion, ac a ffynant," neu a wnant wronwaitb. Pregeth alluog a meistrolgar, yn gyfanwaith perffaitb, ac yn cael ei thraddodi gyda nerth mawr. Nis gall pwlpud sydd yn meddu y fath weinidogaeth golli ei afael ar ein cenedl; ac er y gwn nad yw y pregethau hyn yn engreifftiau o'r hyn yw gweinidog- aeth ein pwlpudau yn gyffredinol, eto y mae y ffaith fod genym weinidogion deugain mlwydd oed, ac o gylch hyny, yn alluog i draddodi y fath bregethau a'r rhai a gawsom eleni, yn gystal a'r rhai a gawsom mewn blynyddau blaenorol, yn peri i mi deimlo yn galonog am ddyfodol gweinidog- aeth ein Henwad. Papyr gwertbfawr- iawn oedd yr hwn a ddarllenwyd gan Mr Foulkes, Aberafon, yn y Gyfeillach ar Brofiad Crefyddol." Cymedrol iawn o ran syniadau, cyfan fel cyfansoddiad, ac o ysbryd rbagorol. Yr wyf wedi cwyno fwy nag unwaith oblegid byrder yr amser sydd i siarad ar y matevion a ddygir ger bron, ond yr wyf yn meddwl y gwnaed y goreu o'r ychydig amser a gafwyd gyda'r mater yma. Analluogwyd un a ddysgwylid i gymeryd rhan yn yr ym- ddyddan gan brofedigaeth chwerw yn ei deulu. Hwyrfrydig oedd pawb ar y dechreu. Dichon fod y rhan fwyaf yn dysgwyl i'r rhai hynaf gychwyn, a hwythau yn ddiau yn ymatal rhag rboddi achlysur i neb ddyweyd mai yr un rhai sydd yn dyweyd o hyd. Yr wyf yn myned yn fwy- fwy argyhoeddedig bob blwyddyn, ar ol pob Cyfeillach, na ddylid penodi neb i siarad ar y papyr, ond y dylid, ar ol ei ddarllen, ei gadael yn hollol agored, ac i ddeg neu ddwsin ddyweyd gair am dri neu bum' mynyd—neb am fwy na phum' mynyd. Sylwadau byrion gan amryw ar fater y papyr, ac nid areithiau, sydd yn ateb cyf- arfod o'r fath. Gwn fod llawer o hyn yn codi o natur dda yr Ysgrifenyddion a'r Pwyllgor, a'u hawydd i roddi pawb i wneyd rhywbeth ond y mae troi y cyfarfod i'r budd uchaf yn bwysicach na dim arall. Camp nad oes ychydig wedi ei dysgu ydyw dyweyd gair yn fyr; sylw bywiog, a'i ddyweyd yn glywadwy i bawb, ac eistedd i lawr wedi ei ddyweyd. A pha beth a ddywedaf am Anerchiad y Cadeirydd ? Am hwnw yr edrychir yn mlaen yn fwvaf awyddus, a llawer o ddyfalu sydd beth fydd y testyn. Cymerodd rhyw rai arnynt i ddyweyd yn mlaen Haw fod Anercbiad ardderchog i'w ddysgwyl o'r Gadair. Ni buaswn inaa yn petruso dyweyd hyny, ac ni buasai neb sydd yn adnabod Mr Roberts yn petruso ond nis gallasai neb ddyweyd felly oblegid ei fod yn gwybod neu wedi ei glywed, oblegid cadwodd ei gyfrinach iddo ei hun, ac nis gwn am neb y mae udganiadau felly o'i flaen yn fwy an- nerbyniol ganddo na'r Cadeirydd eleni, er yn ddiau eu bod yn cael eu gwneyd oddiar y dybenion goreu ac yn y teimladau mwyaf caredig. Dylaswn i fod yn gwybod gystal a'r rbau fwyaf beth fyddai ganddo, ond ni wyddwn yn sicr gymaint a geiriad ei destyn hyd nes y clywais ef yn ei ddyweyd yn Nghapel Als, er v gwyddwn er's tro y byddai rhywbeth am. bregethu, a'r lie ddylai y bregeth gael yn y gwasanaeth, yn sicr o ddyfod i fewn yn rhywle. Os oes rhywbeth yn cyffroi Mr Roberts yn fwy na dim arall, dyna ydyw, yr ymgais sydd y dyddiau hyn i ddirmygu y bregeth, a'i throi o'r neilldu, neu o leiaf ei gwasgu i'r lie cyfyngaf sydd yn bosibl. Felly, yr oedd "Ysbryd y Weinidogaeth y testyn mwyaf Daturiol iddo, a'i ymdriniad ag ef yn bob peth a allesid ddymuno-clir, diamwys, Ysgrythyrol, gyda tharawiad hapus yn achlysurol y fath ag a gadwai y gynulleidfa oil yn fywiog, a pheri nad ymddangosai yr Anerchiad mewn un modd yn faith. Profodd ei hun yn wyliedydd effro, yn deall arwydd- ion yr amserau, yn ddoeth i lefaru gair yn ei bryd, ac yn mhob ystyr yn deilwng o'r anrhydedd a osodwyd arno ac felly gall yr Undeb edrych ar ei etholiad i'r Gadair gyda'r fath unfrydedd, fel un o'r pethau mwyaf synwyrol a wnaeth o'r dechreuad. Darllenwyd papyr galluog a dysgedig gan Proff. Lewis, Bala, ar Arweddau diweddaraf Duwinyddiaeth." Nid oedd ugain mynyd yn ddigon i ddarllen papyr ar y fath destyn, a brvsiai yntau yn mlaen er rhoddi llawer mewn ychydig, yr hyn a ychwanegai yr anhawsder i'w ddilyn, gan fod y testyn yn un lied ddyrys. Bydd yn bapyr gwerthfawr i'w ddarllen yn bam- ddenol. Ni chafwyd fawr egwyl i siarad arno, er fod yno lawer yn teimloyn awyddus am hyny. Siaradodd Mr Morris, Pontygof, yn deg iawn, fel un wedi talu llawer o aylw i'r mater ac yr oedd yr ychydig eiriau a gafwyd gan Dr Morris, Aberhonddu, yn profi yn eglur ei fod yn gadarn yn y ffydd, ac yn glyuu wrth yr hen wirionedd. Arbed-