Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

ABERDAR. !

News
Cite
Share

ABERDAR. Mae yma lawer o siarad am waitb yr Arglwyddi wedi gwrthod pasio bill diwygiid yr oes, set rboddi pleidlais i holl weithwyr y siroedd. Haid o Doriaid ydyw yr Arglwyddi gan mwyaf, ac y mae ofn y werin Ryddfrydig arnynt, gan wybod y llwybr a gymerent i bleidleisio yn yr etholiadau, ac mai gwae fyddai i'r Ceidwndwyr. Mae yma lawer yn dywedyd y dylai Mr Gladstone droi eu haner allan o Dy yr Arglwyddi, a chreu Arglwyddi newyddion Rhyddfrydol, os oes eisieu arglwyddi ac esgobion o gwbl. Gallem feddw], wrth siarad Arglwydd Salisbury, mai wIth ei oriawr ef mae yr haul i gyfodi. Fel y gwelais on gwr hpnanol a ffol, wedi ciel oriawr newydd unwaith, yr oedd ef, a rhai o'i gyfeillion gydag ef, yn gwylio cyfodiad yr haul, ac yr oedd yn dal ei watch yn ei law gerfydd ei chynffon, a chan edrych tua'r dwyrain, dywedodd yn awdurdodol, "Os na fydd ef wedi dyfod i'r golwg yn mhen dwy fynyd, fe fydd ar ol ei amser heddyw I" Fel yna y mae bi heddyw. Edryched Gladstone ati, onite fe fydd ar ol ei amser, yn ol oriawr anffaeledig Salisbury. Byddai yn dda genym ni yma weled y Parcb B. Davies, Treorci, yn dychwelyd adref o'r America yn fuan, buan, rhag i'r binsawdd effeithio arno nes ei wneyd fel y Negroaid. Yr ydym wedi clywed fod ei liw yn dechreu troi, ac er nad ydyw mor dal-ucbel o gorffolaeth a'r gwr hwnw aeth yn black mewnpymtheg mlynedd, er hyny ni ddiangai yntau heb i ni ei weled, a chanfod, er ein galar, fod ein doctor bach, anwyl, a hardd wedi myned yn ddyn du. Dychweled yn fuan yw ein dymun- iad ni yn y lie hwn. Y Sabboth a'r Llun diweddaf, cynaliodd yr eglwys Annibynol yn Abercwmboy ei chyfarfod- ydd pregethu blynyddol, pryd y pregethwyd gan y Parchn J. Thomas, Bryn, Llanelli; J. Rogers, Pembre; a D. Silyn Evans, Aberdar. Dechreu- wyd y cyfarfodydd dydd Llun gan y Parch J. Morgan, Cwmbacb, ac R. Thomas, Penrbiwceibr. Mae gwedd lewyrcbus ar yr achos yn Abercwm- boy-beddwch, gweithgarwch, a llwyddiant yn y lie, a'r ddyled yn cael tori ei ben o flwyddyn i flwyddyn. Gwawrio wnelo boreu byfryd Jubili." Nos Iau diweddaf, cynaliwyd cyngerdd mawr- eddog yn Brynseion, Cwmbach, dan arweiniad Mr William Lewis, arweinydd y Cwmbach Glee Society. Yr oeddynt wedi siorhau gwasanaeth yr enwog Eos Morlais, Llinos Morganwg, a Mrs Lee Jones gyda y berdones ac offerynau ereill. Can- wyd solos gan Mri Tom Bowen, J. Daniel, E. Williams, a J. Llewelyn. Llywyddwyd gan y Parch J. Morgan. Dylai Dowlais fod yn falch iddynt gael y fraint o fagu Eos Morlais. Cyngerdd rhagorol ydoedd, yn ol barn y canoedd ydoedd yn bresenol. Blin genyf hysbysu fod iechyd y Parch W. Edwards yn wanaidd iawa y dyddiau hyn, ond mae ei ysbryd a'i hyder yn ei Dduw yn gryf. Yr oedd yn dywedyd wrthyf nad oedd dim ofn marw arno; ei fod, er yn bleutyo, yn ngwasanaeth Iesu Grist, a'i fod wedi eael llawer o'i bresenoldeb trwy ei oes, ac y buasai yn sarhad ar yr Efengyl iddo ofni myned ato i fyw—"I gyfarfod a'm cynllun- iau bycbain i, caraswn aros gyda cfawi yma am ychydig, ond ei ewyllys Ef a wneler." Gwir nad oes i ni yma ddinas barhaus, a goreu oil i ni beidio gwneuthur ein cartref yn y byd hwn. Nid oeddwn yn meddwl, wrth ddywedyd fod y Parch T. Llewelyn, Mountain Ash, yn pregethu yr Efengyl, nad ydyw y gweinidogion ereill yn pregethu yr Efengyl; ac ddim yn meddwl nad oedd Mr Llewelyn yn arfer pregethu yr Efengyl o'r blaen, dim ond ei fod wedi gwella cystal fel i allu pregethu yr Efengyl. GOHEBYDD.

CAERNARFON.

Advertising

YR APOSTOL PAUL YN NGHYMRU!

TYWALLT GWAED YN NGHYMRU.

Advertising