Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

YR YSUOL SABBOTIIOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSUOL SABBOTIIOL. Y WEltS BlIYHGWLADWEIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PAECH. D. OLIVER, TEEFFYNON. AWST 3.—Edifeirwch Dafydd.—Sa!m Ii. 1-19. Testyx EurAIDD.-—" Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau a'm pechod isydd yn wastad ger fy mron.Adnod 3. Ehagakweiniol. CYFANSODDWYD y Salm hon gan Dafydd pan dan ddylanwad gofid ac edifeirwch oherwydd ei ymddygiad creulawn at Urias, a'i odiueb gvda Bathseba. Y mae yn ymddangos m&i dameg Nathan am yr oenig: a ddyg- odd y pechod adref i gydwybod y brenin, ac a agorodd ei lygaid i'w weled Ylil ei liw priodol. Ceir hanes ei bechod yn 2 Sltm. xi., a'r rnorid y ceryddwyd ef gan Nathan yn 2 S-im. xii. Rhaid ei fod cyn hyn wedi teimlo anesmwythdra meddwl wrth eefio am ei ym- ddygiad, oblegifl dyn tyner-galon ydoedd ond yr oedd yn l!*yddo i dawelu ei gydwybod ac i anghofio ei bechod, hyd nes y mae Nathan, yrhwn a anfonwyd gan Dduw i'w argyhoeddi, yn ei gybuddo yn bersonol trwy ddywedyd wrtho, Ti yw y gwr." Saethodd y cyhudd- iad i ddyfnderoedd ei galon, ac mewn ing a gofid yr ydym yn ei glywed yn llefain, "Pechais yn erbyn yr Arglwydd." Nid ydyw y Salm hon ond mynegiant helaethach o'r un teimlad edifeiriol. Edrychir arni fel yr un tWYllf godidog o'r Salman edifeiriol, ac yn ddar- luniad cywir oofalon a dymnniadau pe^hadur e lifeir- iol. Mor ddwfn ydyw yr argyhoeddiad o bechod mor ddiffaant ydyw y teimlad edifeiriol ac mor agored yw y cyfaddeflad Mor hyderus ei ffydd mor ymlyniadol ei obaith ac mor hollol y mae yn tywallt ei enaid at Ddaw am drugaredd a gras Gdwir y Salm weithiau arweinvdd y pechadur." Ynddi cawn olwg arnatur gwir edifeirwch, yr hwn sydd yn gynwysedig o argy- hoeddiad, cyfaddefiad, tristwch, gweddi am drugaredd, a phenderfyniad o ddiwygiad. Gwneir hi i fyny o dair rban. Adnodau 1-8 vn cynwys gweddi daer am fadd- euant. 9-12, gweddi am adnewyddi&d. 13-19, yu cynwys penderfyniad un wedi profi maddeuol r'as, a di- wedda gyda gweddi dros Seion a Jerusalem. ESBONIADOL. Adnod 1.—" Trugarha wrthyf, 0 Dduw, yn ol dy drugarowgrwydd; yn ol lluaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau." Y mae y Salmydd wedi ei lethu san yr ymdeimlad o'i euogrwydd, ac nid oes ganddo ddim i wneyd ond syrthio yn hollol ar drugaredd Duw. Yn ol dy drugarowgnvydd. Nid ydyw wedi colli ei obaith. Y mae y gwir edifeiriol yn dal i obeithio yn nhrugaredd Dnw hyd yn nod pan yn cael ei ddirwasgu gan dristweh oherwydd ei bechod. Dywed "fy Nhad pan yn cydesu nad ydyw yn deilwng i gael ei alw yn fab. Yn ol lluaws dy dosturiaethau. Dyma sail ei byder. Yr oedd yn ymwybodol o fawredd ei bechod ond teimlai fod yn Nuw nid yn unig drugarowgrwydd a thostnriaetbau, ond helaethrwydd ohonynt. Lluaws o dosturiaethau er maddeuant i becha'duriaid lawer-i luosogi maddeuant fel yr ydym ni yn lluosogi trosedd- an. Dilea fy anwireddau. Edrychir ar bechod fel dyled, ac erfynir am iddo gael ei ddileu, neu ei groesi allan (Exod. xxxii. 32, 33), neu hwyrach ei fod i'w gy- meryd mewn ystyr mwy eang. Defnyddir yr un gair yn 2 Bren. xxi. 13 i osod allan llwyr ddileu-dileu fel y dileir ysgrifen oddiar lechen. Ceir yr un syniad yn Esaiah xliv. 22: "Dileais dy gamweddau fel cwmwl, a'th bechodau fel niw1." Fy anwireddau. Y mae y gair yn cynwys y drychfeddwl o wrthryfel, ac yn y rhif luosog. Nid oes yr un trosedd vn sefyll ar ei ben ei bun v mae y naili yn arwain i'r llall. FlI-cyfaddefa ei gyfrifoldeb personal Nid ydyw am daflu y bai ar neb arall; ond, fel y publican, y mae yn cyfaddcf ei becbod fel ei eiddo ei hun—" 0 Dduw, bydd drugarog wrtbyf beehadur." Adnod 2.—"Golch.fi yn llwyrddwys oddiwrth fv anwiredd, a glanha fi oddiwrth fy mhechod." Golch fi yn drwyadi. Yn Jlythyrenol, Amlha i fy ngolehi. Cyfeirir at halogrwydd pechod. Yr oedd yn foddlawu dyoddef uiirhyw driniaeth er cael ei lanhau. Anwir- edd. Nid yr un gair a ddefnyddir yma a'r gair a gyf- ieithir anwireddau yn adn. 1. Ystyr y gair a ddefnyddir yma ydyw peth wedi ei gamn. A glanha. Y mae hwn yn air mwy cyffredinol. Fel pe dywedasai y Salmydd, Os na fydd goichi yn ddigon, yr wyfyn foddlawn i un- rhyw oruchwyliaeth ond dyfod yn Jân. Fy mhechod. Ystyr y gair a gyfieithir pechod ydyw mcthu y nod. Adnod 3.—"Canys yr wyf yn cydnabod fy ngham- weddau a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron." Yfna y mae y Salmydd yn egluro y rheswm paham y mae yn gofyn. Y mae wedi dyfod i weled ei bechod, ac y mae yn ei gydnabod. Yn cydnabod-yn llythyrenol, adnabyddaf. Aldefais fy mhechod wrihyt, a'm ban- wiredd ni chuddiais (Salm xxxii. 5). A'm pechod sydd yn wastad ger fy bron. Cyn hyn yr oedd yn gallu ei ang-hofio, ae yr oedd wedi cadw yo ddystaw, ond wedi ei argyhoeildiad trwy Nathan yr oedd ei be hod yn wastad o flaen ei olwg. Adnod 4.—" Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pech- ais. ac y gwnenthum y drwg hwn yn dy olwg fel y'th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech." Edrychir ar bechod yn ei nod ac yn ei SynoneII. Mae yn taro yn erbyn Daw, ac yn tarddu o natur lygredig. Yr oedd Dafydd wedi pechu yn erbyn ei gymydog ac yn erbyn y wladwriaeth; ond y mae yo ymgolli with feddwl ei fod wedi pechu yn erbyn Duw.. Yr ydym yn anrhydeddu neu yn rlianrhydeddu Duw yn ein hym- ddyyiadau at ei ereaduriaid. Cyrchodd Joseph ei reswm cadarn yn erbyn pechod o'r syniad yma (Gpn. xxxix. 9). Yr oedd y ffaith ei-fod wedi ei wneyd yn ngolwg Dnw yn ei wnevd yn dra phe hadurus. Fel y'th gyfiawnhaer pan leferych. Yr wyf yn gwneyd y cyfaddeflad cyfiawnaf o fy mhechod fel y byddo y eweinyddiad o gosbedigaeth yn ymddangos yn gyfiawn pan y llefarech fel barnwr. Ac y byddU bur pan farnech-fel yr ymddangoso dy farnedigaethau yn gyfiawn a daionus. Adnod 5.—"Wele, mewn anwiredd y'm Iluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf." Nodir yma ffynonell y drwz. Nid taflu peth o'i gyfritoldeb ar bechod gwreiddiol ydyw ei amcan, ond dangos dyfn- der ei drueni. Mewn anwiredd y'm lluniwyd, ac an- wiredd wela.f fi byth wedi hyny pechod yn fy am- gylchynu. Nid yn nnig y mae wedi cyflawni gweith- red ddrwg, ond y mae ganddo galon ddrwg. Y mae gelyniaeth dyn at Dduw yn cael ei ddangos yn ei wrthryfel yn erbyn deddf Duw. Nis gall ddarostwng ei hun i ddeddf Duw, obiegid nas gall ymryddhau oddiwrtho ei hun-dyna ydyw ei natur. Adnod 6.—" Wele, ceraist wirionedd oddimewn: a pberi i mi wybod doethineb yn y dirgel Mae yr adnod hon mewn gwrtbgyferbyniad i'r adnod flaenorol. Ewyllys Duw ydyw cael pawb yn onest ac yn Hdidwyll, a hyny o'r galon. Mae Duw yn hawlio nid yn unig burdeb allanol, orid purdeb mewnol hefyd. Os bydd y galon yn uniawn, bydd y bywvd yn uniawn. Adnod 7.—" Glanha fi Az isop a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynach na'r eira." Neu, Ti a'm glanhei. Mae v Salmydd yn dangos ei hyder yn addewidion Duw y caiff ei Iwyr lanhau. Cyfieithia Docne yr ymadrodd, Thon shalt unsin me." Diau fod yma gyfeiriad at gyfraith Moses yn ei pherthynas a glanhad y gwahan- glwyf (Lef. xiv. 4). Golch fi, a byddaf ivyna h na'r eira. Ymadrodd cryfach I osod allan yr un svniad (Esaiah i. 18). Golchi trwodd-golchi yn hollol, ac nid yn nnig glanhau yn arwynebol. Adnod 8. Par i mi glywed gorfoledd a llawerydd fel.y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaiat." Mae am .irofi ymwybyddiafth o faddeuant Duw, fel y aallasai eto gael nerth i folianu Dnw. Yr oedd ymwybyddiaeth o'i bechod wedi ei Iwyr ddryllio. Adnod 9.—" Cuddia dy wyneb oddiwrth fy irhechod, a dilea fy holl anwireddau." Golyga y ferf yn llythyr- enol cuddio a gorcbudd. Mae am faddeuant cyflawn, fel na chynhyrfer Duw gan ei bechodau i ymdrin ag ef fel yr oedd yn haeddu. Ail adroddir deisyfiad yr adnod gyntaf gyda'r ychwanegiad o'r gair holl. Adnod 10.—" Crea galon lan ynof, 0 Dduw; ac adnew- ydda ysbryd uniawn o'm mewn." Crea. Defo yddir y gair hwn bob amser am alln creadigol Duw. Maey Salmydd yn gweddïo am burdeb, ganei bod yn anmhosibl dal cymundeb â Dow heb purdeb. Mae holl natur dyn wedi myned yn chaos; rhaid creu y dyn newvdd mewn cyfiawnder yn ol Duw. Ac adnewydda ysbryd un- iawn o'm mewn-ueu ysbryd dianwadal, fel na byddo iddo syrthio i bechod. Meddwl sefydlog ar Dduw. Adnod 11.—" Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddiwrthyf." Yma y mae y Salmydd yn gofyn am barhad ewyllys da Duw iddo. Deisyfa na fyddai iddo gael ei fwrw ymaith fel un anheilwng o ymddiriedaeth. Ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddiwrthyf. Diau nad oedd Dafydd ar y pryd yn galla sylweddoli gwir ystyr yr ymadrodd hwn ond gwyddai mai ysbryd yr Arglwydd oedd wedi ei alw ef, ac wediei gymhwyso i lywodraethu ar Israel. Gwyddai hefvd i'r Arglwydd gymeryd ymaith ei ys- bryd oddiwrth Saul, ac arswydai y fath dynged. Gwel 1 Sam. xvi. 13, 14. Teimlai Dafydd fod aawredd ei bechod yn haeddu hyn. Adnod 12.—" Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth ac a'th hael ysbryd cynal fl." Dyro drachefn. Y mae yr ymadrodd yn cynwys y syniad, dyro yn barhans. Ynddo ei bun teimlai Dafydd nad oedd ynddo y sefydlogrwydd hwnw i allu mwynhau gorfoledd yr iachawdwriaeth. Y mae am gael adferiad o gysuron Dwyfol, ac am i'w ysbryd deitnlo yn rhydd wrth wasaMaetbu ei Dduw. Ac a'th hael ysbryd cynal fi, neu cynal fi ag ysbryd hael—ysbryd ewyllysgar, parod i wasanaeth Duw. Adnod 13.—" Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat." Yna y dysgaf. Mae y gwreiddiol yn cynwys y syniad o ddymuniad i ddysgn -yna y dymunwn ddysg-u dy fiyrdd, &c. Nid yn unig y mae am brofi y bendithion hyn er ei fwyn ei hun, ond er mwyn ereill hefyd. Mae hyn yn nodweddu y gwir edifeiriol bob amser. Adnod Lt. Gwared fi oddiwrth waed, o Dduw, Duw fy iachawdwriaeth a'm tafod a gan yn llafar am dy gyfiawnder." Odd wrth ifiaed. Yn y rhif llnosog, ac yn golygn IIofruddiaeth. Yr oedd wedi lladd Urias tL chleddyf meibion Ammon. Mae am gael ei waredu rhag canlyniadau y weithred anfad hono. Wedi derbyn maddeuant, yr oedd i offrymu offrwm diolch. Adnod 15.—" Arglwydd agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant." Yr oedd ei deimlad o euogrwydd wedi cau ei wefusau fel nas gallasai folianu. Adnodau 16, 17-—"Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a'i rhoddwn; poeth-ottrwm ni fyni. Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig calon ddrylliog gystuddiedig, 0 Dduw, ni ddirmygi." Gwel Salm xl. 6-8. Nid rhoddion y llaw, ond cyflwyniad y galon sydd gymeradwy gyda Duw. Pan y byddom eiddo Duw y bydd Efe yn foddlawn i'n rhoddion fel prawf o'n cariad a'n serch ato Ef ac at ei achos. Adnodau 18, 19.—" Gwna ddaioni yn dy ewyllys- garwch i Seion; adeilada furiau Jerusalem. Yna y byddi foddlawn i ebyrfch cyfiawnder, i boeth-offrwm ac aberth llosg; yna yr offrymant fustych ar dy allor." Diwedda y Salm mewn gweddi gyffredinol dros amddiffyniad Duw ar Israel, a thybia rhai fod yr adnodau hyn wedi eu bychwanegu at y Salm gan y proffwyd Zechariah i symbyln set y bobl i adeiladu y deml ar ol dychwelyd o Babilon. Tybia ereill mai dymuniad Dafydd sydd yma a'r i'r Arglwydd beidio tynu ymaith ei ffafr oddiwrthynt oherwydd ei bechodau ef. GWERSI. Edrychwn ar y darluniad a gawn ni o bechod yn y Salm hon. Defnyddir yma dri gair-anwireddau, anwiredd (gair gwahanol), pechod. Mae yn llefaru am ei bechod fel anwireddau ac fel pechod. Arfera y rhif lluosog yn gyntaf, ac yna y rhif unigol. Mae ei weithredoedd pechadurus yn pasio o flaen ei feddwl, ac mor lluosog ydynt ond y maent oil yn tarddu oddiar un gwreiddyn, sef calon ddrwg. Mae yna ystyr gwahanol i'r geiriau a ddefnyddia y Salmydd. An- wireddau, yn cynwys y syniad o wrthryfel. Anwiredd, peth wedi ei gamu-wedi ei dwistio o'i le priodol. Pechod, methu y ndd. Teimla y Salmydd bwysig- rwydd bywyd a'i gyfrifoldeb personol. Y mae yn cyfaddef ei bechod fel ei eiddo ef. Y mae wedi dyfod i deimlo cymeriad unigol pechod. Gweddi y Salmydd am faddeuant. Dilea fy an. wireddau." "Glaoha fl." Golch fl." Nid yn unig y mae am faddenant o'r pechodau oedd wedi ei gyflawni, ond y mae am gael ei wneyd yn lan, fel na. phecho mwyach. Crea galon lân ynof." Y mae am gael ymwybyddiaeth bersonol o'r maddeuant hwn. Dyro drachefn i mi orfoledd," &c. Seilia ei obeithion am wrandawiad ar drugaredd Duw. Yn ot lluaws dy dosturiaethau." Cawn benderfyniad y Salmydd i fod yn ddefnyddiol dros Ddaw. Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir," &c. Y rhai hyny a brofasant flas maddeuant y maent yn awyddus i ddwyn ereill i brofi yr un fath. Gofyniadatj AR Y Wees. 1. Pwy gyfansoddodd y Salm hon? 0 dan ba am. gylchiadau y cyfansoddwyd hi. 2. Pa fodd y dosrenir y Salm yn gyffredin ? 3. Pa sail oedd gan Dafydd dros obeithio am drugaredd P 4. Pa fodd yr edrycha ar ei bechod ? Esboniwch ystyron gwahanol y geiriau anwireddau, anwiredd, a pechod. 5. Yo mha ystyr yr oedd Dafydd yn galla edrych ar ei bechod yn erbyn Daw ei hunan (adnod 4) ? Esbon- iwch yr ymadrodd, Fel y'th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech." 6. Pa fendithion neillduol y mae Dafydd yn ei ddeisyf yn adnodau 7-12 ? 7. Esboniwch y cyfeiriad sydd yn adnod 7 at gyfraith Mos s. 8. Pa athrawiaeth neillduol a ddysgir yn adnodan 16, 17 P 9. Beth ydyw ystyr neillduol y deisyfiad sydd yn niwedd y Salm, adnodau 18-19 ?

[No title]

PONTLOTYN.