Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

LLOFFION 0 ABERTAWY.

BEAUFORT,'.

WYDDGrRUGr.I

CWM RHONDDA.

YR ARGYFWNG GWLEIDYDDOL.

News
Cite
Share

-mae Manchester, Birmingham, a'r trefydd mawrion ereill yn dilyn. Mae Mr Gladstone yn myned i Midlothian diwedd Awst, a gellir dysgwyl ganddo ddwy araeth wna angerddoli y teimlad dros y mesur. Nid yw y Toriaid wedi anghofio ei areithiau yn Midlothian yn 1880, ac nid oes arnynt fawr awydd i'w weled yn myned yno drachefn. Mae yr hen arwr, John Bright, wedi aroglu brwydr o bell, ac yn barod i ym- daflu iddi. Hyd yn hyn nid yw y cyffroad wedi lliniaru dim ar gynddaredd Arglwydd Salisbury -mae mor chwerw, dygasog, a herfeiddiol ag erioed; ond dygir yntau i'w synwyr, a bydd yn edifar ganddo godi y fath ysbrydion. Tra mae Lloegr yn cyuhyrfu, atolwg, pa beth mae Cymru yn myned i wneyd ? A ydyw Cymru yn myned i oddef y gwaradwydd hwn heb wrthdystio ? Digrif yw clywed ambell gorachyn o Dori yn dyweyd y gwna yr oil ddibenu mewn mwg; ond byddai yn burion iddo gofio nad oes byth fwg heb fod tan mewn cysylltiad ag ef, ae y mae y tan hwn, cyn y diffoddir ef, yn sicr o losgi hen draddodiadau Ty yr Arglwyddi, nes ei gael i fod o wasanaeth i'r wlad, ac nid yn atalfa i ddeddf- wriaeth oleuedig.