Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

* DYDD MAWKTH.

News
Cite
Share

DYDD MAWKTH. Boreu dydd Mawrth. am 7 o'r gloch cynal- iwyd Cyfeillach Grefyddol yn Ebenezer. Yr oeddid wedi trefnu i'r Parch R. Thomas, Llan- ofer, i lywyddu, ond yn hcrwydd afiechyd, methodd a bod yn bresenol. Llywyddwyd gan y Parch T. Davies, Treforris. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parchn J. N. Richards, Penygroes. Ar ol anerchiad agoriadol gan y llywydd, galwodd ar y Parch J. Foulkes, Aberafon, i ddarllen Papyr ar "BROFIAD CREFYDDOL." Canlynwyd darlleniad y Papyr gwir ragorol hwn gydag anerchiadau gan y Parchn Morris, Aberteifi; Nicholson, Liverpool; a Davies, Bangor. Am haner awr wedi naw o'r gloch cyfarfydd- wyd yn Capel Als, ac yr oedd yn falch genym weled y capel eang a phrydferth hwn wedi ei orlenwi. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch D. "Williams, Blaenau. Wedi canu penill esgynodd y Parch W. Roberts, Liverpool, Cadeirydd yr Undeb am y flwyddyn i'r areithfa i draddodi ei Anerchiad Blynyddol. Y mae a ganlyn yn grynodeb o'i sylwadau. Testyn ei Anerchiad oedd "YSBRYD Y WEINIDOGAETH." Wedi cyfareh y frawdoliacth, gan erfyn cu hynawaedd, a ehyfeirio at farwolaeth Dr W. liees, Cadeirydd cyfarfod cyntaf yr Undeb, efe a ymafiodd yn y testyn, a dywodai Pan y galwai yr Arglwydd ddynion. at ryw waith neillduol yn yr oesoedd gynt, efe a roddai ysbryd y gwaith hwnw ynddynt, er eu cymhwyso i'w gyflawni; ac y mae Efe eto yn rhoddi ysbryd y weinidogaeth i bob un a elwir ganddo i'r swydd, ac nid oes neb yn gymhwys iddi oni bydd wedi ei Ienwia.'i hysbryd. Ofnai nas gallai roddi darlun- iad cywir o'r ysbryd hwn. Nid oedd Eliphas yn "adnabod agwedd" yr Ysbryd a welwyd ganddo, er ei fod wedi teimlo dylanwad ei bresenoldeb. Efe "a wnaeth i flew ei gnawd sefyll," ac a gyffrodd ei holl natur. Credai fod yno ganoedd o frodyr wedi teimlo dylanwad ysbryd y weinidog- aeth yn eyffroi eu heneidiau i'w dyfnderoedd, ac yn cymeryd meddiant llwyr o'u holl natur. Mae yr ysbryd hwn yn cael ei gynyrchu gan deimlad crefyddol o radd uchel, ac yn cael ei nodweddu gan gariad angerddol at Grist, a sel danllyd dros achub eneidiau. Nid ysbrydoliaeth o'r un natur ag oedd yn y proffwydi a'r apostolion ydyw, ond anian, neu awyddfryd i ymbyfrydu mewn gwir- ioneddau a gwaith ysbrydol. Nid yw yn gwahaniaethu yn ei natur, ond yn unig mewn graddau, oddiwrth yr hyn a brofir gan bob dyn ysbrydol. Y mae Ysbryd Duw yn preswylio yn nghalon pob dyn duwiol, ac y mae teimlad ysbrydol tanbaid yn troi yn ysbryd pregethu, ac y p mae yr ysbryd hwn yn' cymhell dynion i chwenych y gwaitb, ac i'w gyflawni yn effeitbiol beb gymhorth cymhellion allanol. Mae meddu yr ysbryd hwn yn gymhwysder hanfodol i'r wein- idogactb. Mac cymhwysderau naturiol yn angenrheidiol, ac i'r Deb y rhoddes yr Arglwydd y cymhwysderau naturiol y mae Efe yn rhoddi y cymhwysder ysbrydol hefyd; ac yn nghyfuniad y naturiol a'r ysbrydol y dyogelir y cymbwysder uchaf i'r weinidogaeth. Dywedir weithiau fod dynion mwy galluog yn yr eisteddleoedd nag sydd yn y pwlpud, a gall hyny fod yn wir, er mai yn y pwlpud y mae talentau dysgleiriaf y genedl Gymrtfig wedi bod yn llewyrcbu byd yn hyn eto gall fod ambell un yn mysg y gwrandawyr yn fwy galluog na'l' hwn a fydd yn pregethu; ond y cwestiwn yw, Pa ysbryd sydd yn y gwrandawr talentog ? Mae yn bur amlwg nad yw ysbryd y weinidogaeth ddim ynddo, ac onide buasai yr Ysbryd Glan wedi ei arwain ef i'r pwlpud ac yn mysS y gwrandawyr y bydd goreu iddo aros hyd oni bydd ei dalentau wedi eu bedyddio i Grist. Mae arnom eisieu talent, a dysg, a hyawdledd i'r weinidogaeth, ond y mae arnom angen am ei hysbryd uwchlaw pob dim. Mae dynion o alluoedd cyffredin wedi bod yn offerynol i wneyd gwaith mawr yn y weinidogaeth pan wedi eu donio a'i hysbryd, tra y mae rhai ereill gwir dalentog, o ddiffyg meddu ei hysbryd, wedi bod yn fethiant gwaradwyddus ynddi. Mae yr ysbryd hwn yn angenrheidiol yn- I.-ER DWYN DYN I YMSYNIAD YN BRIODOL AM URDDAS Y WEINIDOGAETH. Gall rhai amddifad o'i hysbryd ymwthio i'r weinidogaeth oddiar gau-ddybeoion, ond syniadau isel sydd gan y cyfryw rai am ei hurddas a'i chyfrifoldeb. "Bywioliaeth" y gelwir hi yn yr Eglwys Sefydledig, ac y mae yn bosibl fod rhai yn mysg yr Ymneillduwyr heb synied yn ddim uwch am dani; ond y mae yr ysbryd sydd yn briodol iddi yn dyrchafu syniadau dyn am dani, gan beri iddo "fawrhau ei swydd." Llefarai Paul am dani gyda mynwes yn ymchwyddo mewn mawrygiad sanctaidd ohoni, gan ddywedyd, Y weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd lesu Cyfrifai hi y swydd fwyaf pwysig ac urddasol a ymddiriedodd Duw erioed i ddyn, ac yr oedd ynddi fwy o swyn iddo ef na'r orsedd uchaf ac na'r goron ddysgleiriaf ar y ddaear. Y mae holl wir weinidogion Crist yn derbyn eu swydd ganddo, ac y mae yr ystyriaeth o hyny yn eu cymhell i ymddwyn yn deilwng ohoni. Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth eithr gan ddangos eu hunain yn mhob peth fel gweinidogion Duw." Gwedir awdurdod gweinidogion Ymneillduol i bregethu a gweinyddu yr ordinbadau, am nad ydynt yn olynwyr yr apostolion ond y mae y syniad o hawl Ddwyfol Esgobyddiaeth wedi ei daro yn farwol, megys ag ergyd yr haul, gan oleuni llachar beirniadaeth Feiblaidd rhai o wyr mwyaf urddasol a dysgedig ei chyfundeb ei hun. Ac os yw yr olyniaeth y dadleua rhai drosti yn hanfodol i'r weinidogaeth, yna y maent hwy eu hunain yn weinidogion diawrdurdod. Mynwn wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo" trwy lyncu yr olyniaeth, ond eu gallu." Mae honiadau uchel dynion diallu yn ddirmygus. Y mae hyd yn nod yr ysbryd drwg yn dirmygu ffug. ymhonwyr diallu, ac yn gofyn iddynt yn wawdlym, mcgys ag i feibion Scefa, Pwy ydych chwiH" A phe byddai iddo yr un rhyddid yn awr ag oedd iddo gynt, efe a rwygai eu gwisgoedd. rhodresgar yn gareiau, ac a'u gyrai hwythau i ffoi yn noethion ac yn archolledig." Gallu Dwyfol yw y weinidogaeth sydd yn gorchfygu y diafol, ac yn argyhoeddi dynion. Dywedai y diweddar Barch Ishmael Jones mai am ddynion yn medrn gwneyd gwaith y bydd amaethwyr Mon yn ymofyn wrth gyflogi gweithwyr i'r cynhauaf yn Ffair Llangefni. Ofer fyddai i ddyn ymffrostio yn I y ei achau a'i fedr mewn ieithoedd, oblegid rhoddai yr amaethwr daw buan arno gyda'r gofyniad syml, A fedri di ladd gwair ? Ac felly, tra y mae ambell un yn ymffrostio yn ei ddysg, a'i olyniaeth, a'i urddau esgobyddol, y mae llais y bobl yn ei gyfarch &'r gofyniad pwysig, A fedi-i di bregethu? A ydyw ysbryd yr apostolion ynot? A ydyw athrawiaeth yr apostolion genyt ? A wyt ti yn gwneyd gwaith apostol ? Trwy ei waith yr oedd Paul yn profi ei apostoliaeth—" Self y apostoliaeth i ydych chwi;" ac yr ydym yn foddlawn i gymeryd yr un rheol i brofi Dwyfol anfoniad gweinidogion Ymneillduol Cymru. Profer hwy wrth eu gwaith. Pwy a ddeffrodd y genedl o'i chysgadrwydd ? Pwy a roddodd y Beibl yn eu dwylaw, ac a ddysgodd ei phlant i'w ddarlten ? Gan bwy y llanwyd y wlad ag addoldai ac ag Efengyl Crist ? A chan bwy y dyrcbafwyd y bobl mewn gwybodaeth Ysgrythyrol, moesoldeb, a cbrefydd mor uchel, a dyweyd y lleiaf, a'r un genedl arall yo yr holl fyd? Onid trwy y gwein- idogion Ymneillduol o wahanol enwadau y gwnaed hyn, gyda chynorthwy pobl eu gofal ? Iii, yn ddiau; ac nis gallasent wneuthur y gwaith a wnaothant "oni bai fod Duw gyda hwynt." Mae gwrando ar ddynionach diddim yn gwadu Dwyfol awdurdod y fath rai yn ormod i gnawd ei ddyoddef. II.-ER DWYN DYN I YMHOFFI YN NHESTYN Y WEINIDOGAETH. Y testyn ydyw Efengyl gras Duw," a thestyn bendigedig ydyw hefyd. Mae ynddo olud anchwiliadwy, amrywiaeth diderfyn, a newydd- deb parhaus. Ar y testyn hwn y pregethai Paul yn mhob man-yn Athen ddysgedig, yn Rhufain foethus, yn Corinth lygredig, ac yn Mileta farbaraidd; ar hwn y pregethai i'r Iuddewon, ae i'r Groegiaid, ac i'r barbariaid, ac i'r doethion, ao i'r annoethion hefyd, a gwelai ei fod yn cyffwrdd

UNDEB YR ANNIBYNWYR CTMREIGr.