Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

UNDEB YR ANNIBYNWYR CTMREIGr.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

UNDEB YR ANNIBYNWYR CTMREIGr. CYFARFODYDD BLYNYDDOL YN LLANELLI, Gorphenaf 28AIN, 29AIN, A'R 30AIN, 1884. HON yw y drydydd waith ar ddeg i'r Undeb gyfarfod, ac ymddengys yn hollol sicr ei fod yn cynyddu bob blwyddyn mewn poblogrwydd a dylanwad. Mae ei barhad a'i effeithioldeb wedi ateb yn derfynol lawer iawn o gwestiynau a gyfodent fel drychiolaethau byw a pheryglus cyn ei gychwyn. Ni fa erioed yn fwy cryf a lluosog na'r flwyddyn hon. Cynelir ef eleni mewn tref lie mae Annibyniaeth Gymreig nid yn unig yn iachus, ond yn ddylanwad nerthol iawn. Mae Annibyniaeth Llanelli yn an. wahanol gysylltiedig ag enw yr anfarwol David Rees, a phe yn gallu gadael cymanfaoedd y nefoedd, diau y buasai yn Jllawenyehu a Ilawen- ydd mawr i weled y fath ffrwyth godidog ar ei lafur hunan-ymwadol. Nid oes un lie yn Nghymru ag oedd yn fwy gweddus i'r Undeb dalu ymweliad ag ef, ac nid yw Llanelli yn ail i'r goreu am eu croesaw a'u lletygarweh. Cyn myned yn mlaen at gyfarfodydd neill- duol yr Undeb, nid anfuddiol fyddai cymeryd golwg frysiog ar GODIAD A CHYNYDD ANNIBYNIAETH YN Y DREF A'R GYMYDOGAETH. Yn flaenorol i'r flwyddyn 1770 nid oedd yr un eglwys Annibynol yn Llanelli. Y ty cwrdd agosaf i'r dref oedd LANEDI. Yr oedd amryw o aelodau yr eglwys hon yn byw yn Llanelli, pa rai a gerddent yn rheolaidd yno am flynyddau, y naill Sabboth ar ol y llall, i fwynhau moddion crefyddol. Cawn mai tua'r flwyddyn 1770 y gwnaed y cynyg cyntaf i bregethu yn Llanelli, gan Mr Thomas, Ffosyr- erail. gweinidog yn Llanedi, a chroesawyd ef yn fawr gan aelodau Llanedi oedd yn byw yn y lie. Tua'r adeg yma ordeiniwyd un Mr Evan Davies i fod yn gynorthwywr i Mr Thomas, ac yr oedd ei lygad ef ar Llanelli fel maes addfed i'r cvn- auaf, a thalodd sylw neillduol iddo. Unwaith bob dau fis y pregethid yma cyn hyny, ond yn raddol cafwyd pregeth bob mis. Wrth weled cynydd y boblogaeth, a'r derbyniad croesawgar roddid i Annibyniaeth, meddyliodd Mr Davies a rhai cyfeillion am godi capel bychan yma. Cafwyd darn <3 dir mewn man lie yr oedd ty wedi bod a elwid Ty Alice, a ffynon wrth gongl y tf a elwid yn Ffynon Alice. Yn y man lie yr oedd y ty, a thros y ffynon, y codwyd y capel, a ealwyd ef CAPEL ALS. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1780. Nid oedd ond ty bychan diaddurn, a helaethwyd ef drachefn yn 1797. Llafuriodd Mr Davies yma gyda graddau o lwyddiant hyd ei farwolaeth, yn 1806. Ar ei ol ef daeth yma yn weinidog un Thomas Edwards, yr hwn a fu yn achlysur i lawer iawn o niwed i'r achos. Aeth yr eglwysi i ymryson a ii. gilydd yn ei gylch, y naill drosto a'r Hall yn ei erbyn, a phob un yn benderfynol i gario y dydd. Yn yr ystorm aeth llawer iawn at y Bedyddwyr, y Methodistiaid, y Wesleyaid, a'r Eglwys Sefydledig. Yn mhen ychydig amser ymadawodd Edwards, ac yn ei ymadaw- iad datodwyd y cysylltiad rhwng Llanelli a Llanedi, ac i bob un drefnu ei achosion ei him. Yn mhen pedair blynedd rhoddodd yr eglwys hon alwad i un Howell Williams, myfyriwr o Athrofa Wrexham (Athrofa bresenol Aber- honddu). Urddwyd ef Ionawr 13eg, 1813. Bu yn weinidog diwyd a llafurus tra daliodd ei iechyd. Bu farw Ebrill 27ain, 1827, yn 38 oed. Helaethwyd y capel uchod ychydig cyn ei farwolaeth. Wedi bod am tua dwy flynedd heb un gweinidog, rhoddodd yr eglwys alwad unfrydol i Mr David Rees, myfyriwr ar y pryd yn Athrofa Drefnewydd. Cydsyniodd, ac urddwyd ef Gorphenaf 15fed, 1829. Rhifai yr eglwys ar y pryd 250 o aelodau. Yn fuan cafwyd arwyddion amlwg o foddlonrwydd y Nefoedd. Lluosogodd yr eglwys, ac ychwaneg- wyd y gynullcidfa, fel y gorfuwyd ail-adeiladu y capel yn llawer iawn mwy o faint, yr hyn a wnaed yn 1830. Costiodd hwn £800, yr hyn, o'i ychwanegu at y £300 o ddyled oedd yn aros ar yr helaethiad blaenorol a phryniad y fynwent, &c., a wnai y ddyled yn £1,150. Talwyd dros £500 o'r swm yna dydd agoriad y capel, Mai 31, 1831. Yr oedd ffydd dynion yn lied wan y pryd hwnw yn Llanelli. Dywedai agos pawb na lenwasid byth mo'r capel, ac na thalesid byth am dano. Ond ychydig oedd yn adnabod y gvvr oedd wrth y llyw. Llanwyd ef ar ddydd yr agoriad, ac y mae wedi bod yn llawn byth er hyny, a chyn pen pedair blynedd yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu. Hyd yn hyn nid oedd yma un ddarpariaeth i gyfarfod a'r Saeson, y rhai oedd yn lluosog yn y dref. Dechreuodd Mr Rees, gan hyny, gynal oedfa Seisonig ar y Sabboth, ac am cliwe' mlyne-dd yn olynol preg- ethodd ddwy bregeth bob boreu Sabboth cyn dyfod lawr o'r pwlpud-yr oedfa Gymreig yn dechreu am 10, ac yn parhau am rhyw awr a chwarter, a'r oedfa Seisonig yn dechreu am 11.30. Yn 1852, penderfynwyd ail-adeiladu y capel unwaith eto, a'i wneyd yn addoldy eang a hardd, ac agorwvd ef Mehefin 21ain, 1853. Eistedda ynddo fwy na mil o bersonau. Un o weithredoedd cyntaf y Parch David Rees i cangu Annibyniaeth yn y dref ydoedd cychwyn yr eglwys Seisonig, THE OLD PARK STREET CHAPEL. Costiodd y capel hwn £750. Agorwyd ef Mehefin 2ail, 1839, ac ar y 7fed o'r mis dilynol ffurfiwyd eglwys yn y capel newydd gan Mr Rees o bedwar-ar-hugain o aelodau a ollyng- wyd trwy lythyrau o Capel Als, ac yn eu plith wraig y gweinidog, gyda thri ereill a vchwan- egwyd atynt ar y pryd. Bu yr achos yn llwydd- ianus iawn dan ofal gwahanol weinidogion. Yn 1846, bu raid helaethu y capel. Costiodd hyny £300. Wedi bod yn pabellu yma am dros 20 mlynedd gyda Ilwyddiant helaeth, disgynodd arnynt ysbryd adeiladu addoldy ardderchocach a helaethach. Cymerwyd darn o dir mewn man cyfleus a chanolog yn Murray. street, ac yno, yn 1864, yr adeiladwyd yr addoldy ysblenydd, PARK CONGREGATIONAL CHURCH. Gosodwyd y maen coffadwriaethol ar y 26ain o Orphenaf gan Mr John Crossley, Halifax. Costiodd yr adeilad £2,200. Agorwyd y capel y flwyddyn ddilynol, pryd y gwasanaethwyd gan yr enwogion Binney, Llundain, Parsons, York, ac ereill. Codwyd i fyny yn yr eglwys hon rai dynion o nod fel pregethwyr, megys y diweddar Barch Thomas Lynch, Llundain. a'r presenol Dr Llewelyn Bevan, Llundain. Gweinidog presenol yr eglwys yw y Parch R. A. Bertram. Symudiad nesaf Mr Rees oedd cychwyn achos ar k\n y mor, ac yn 18-11 agorwyd CAPEL SILOA. Ffurfiwyd yno eglwys ar unwaith, a rhodd. wyd llythyrau gollyngdod i 116 o aelodau Capel Als, pa rai oedd yn byw yn nghymdogaeth Siloa, i aelodi ynddi. Costiodd y capel 9651. Bu yr eglwys dan ofal Mr Rees hyd ddiwedd y flwyddyn, pryd y rhoddodd alwad i'r Parck Thomas Rees, Aberdar (y presenol Dr Rees, Abertawy). Derbyniodd yr alwad, a dechreu- odd ei weinidogaeth yno gyda graddau helaeth o lwyddiant am saith mlynedd, pryd y symud. odd i Cendl. Canlynwyd ef gan Mr David Davies, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, yr hwn a fu yma am ddwy flynedd, pryd y symud- odd i Loegr. Yn niwedd 1853, rhoddwyd galwad i'r Parch Thomas Davies, Llansamlet, gweinidog presenol yr eglwys. Dechreuodd Mr Davies ei weinidogaeth yma Ionawr, 1854. Yn fuan ar ol dyfodiad Mr Davies i'r lie, dechreuodd yr eglwys a'r gynulleidfa gynyddu. Yn 1855, penderfynwyd helaethu y capel, yr hyn a gostiodd £1,100, ac yn 1864 gorphenwyd talu yr holl ddyled. Yn 1871, adeiladwyd yma ysgoldy hardd, yr bwn a gostiodd 9-370. illae golwg lewyrehus iawn ar yr achos dan weinid- ogaeth Mr Davies, Yn yr eglwys hon y codwyd i bregethu y gwr enwog o Lewisham, y Parch Mortals Jones, Cangen o Gapel Als eto yw I CAPEL Y BRYN. ir Saif y capel hwn tua dwy filldir o'r dref, yr ockr nesaf i Abertawy. Trwy lafur diflino ac ymdrechion y Parch David Rees y cychwyn- wyd yr achos yma. Agorwyd capel bychan yma yn 1842, yr hwn a gostiodd £ 241. Sef- ydlwyd eglwys yma yn cynwys 4') o aelodau Capel Als oedd yn byw yn y gymydogaeth, a rhoddasant alwad unol i Mr Rees, Capel Als, a Mr Rees, Siloa, i ofalu am danynt, a bu y ddau Rees yn gofalu am danynt gyda graddau helaeth o lwyddiant hyd 1844, pryd y rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Thomas Jones, myfyriwr yn Llanelli, yr hwn a ddaeth wedi hyny yn un o brif bregethwyr yr Enwad, sef Jones, Tre- forris, Llundain, Walter's-road, ac Australia. Yn mhen rhyw flwyddyn symudodd Mr Jones i Tabor, ac yn 1846 neillduwyd Mr John Rees yn weinidog yma (Rees, Canaan, wedi hyny). Rhyw ddeunaw mis y bu Mr Rees cyn symud i le arall. Canlynwyd ef gan un Mr Williams, myfyriwr, pregethwr melus, a gweinidog- gweithgar, ond gwanaidd o gorff, a bu farw yu g v,,el 28ain oed. Er y mynych symudiadau hyn, parhau i gynydduyr oedd yr eglwys. Yn 1854, rhoddodd alwad i'r Parch John Thomas, Graig, Rhymni, gweinidog presenol yr eglwys, a dechreuodd Mr Thomas ei weioidogaeth yn Mehefin yr un flwyddvn, a thaflodd fywyd newydd i mewn i'r eglwys ar unwaith. Cyn- yddodd yr eglwys a'r Ysgol Sabbothol fel y gorfuwyd dechreu parotoi at gapel newydd, yr hwn a agorwyd yn 1857. Costiodd £ 1,060, heblaw gwerth yr hen addoldy, yr hyn a gyfrif- wyd yn werth tua £ 250. Yn 1861, adeiladodd yr eglwys dy hardd i'r gweinidog, gwerth tua JE250, ac yn 1863 adeiladwyd yr ysgoldy i gynal ysgol ddyddiol yn y gymydogaeth, gwerth dros £350. Yn 1871, adeiladwyd capel bychan, o'r enw Berea, i gadw Ysgol Sul a chyfarfod gweddi yn yr wythnes, tua milldir o'r Bryn. Costiodd 1;120. Mae Mr Thomas wedi gweinidogaethu yma bellach e1"s mwy na 30 o flynyddau gyda graddau helaeth o lwyddiant. CAPEL Y DOCK, yw y nesaf ddaw dan ein sylw. Yn 1855, pen- derfynwyd cychwyn Ysgol Sabbothol yn nghymydogaeth y Dock Newydd yn nhy un William Williams, a phregethai Mr Rees, Capel Als, a Mr Davies, Siloa, yno yn yr wyth- nos, a bu y fath Iwyddiant ar eu gwaith, fel y penderfynasant yn 1858 i adeiladu ysgoldy gwerth E450. Yn 1867, ffurfiwyd yno eglwys, pryd y daeth 76 a'u llythyrau o Siloa, a 17 o Gapel Als-rhai oedd yn byw yn y gymydog- aeth. Yn fuan wedi hyn penderfynwyd adeil- adu capel, yr hwn a gostiodd dros £ 1,500. Ya 1868, urddwyd Mr Evans (Pontardulais yn awr) yn weinidog arnynt, ac agorwyd y capel yr uu dyddiau. Ymadawodd Mr Evans yn mhen dwy flynedd, a chanlynwyd ef gan Mr Lewis y gweinidog presenol, ac mae agwedd lewyrchus iawn ar yr achos dan ei ofal. Yn yr holl eglwysi yr ydym wedi sylwi arnynt, gwelir fod y llaw flaenaf yn y cychwyniad wedi bod gan y Parck David Rees. Ond yn y flwyddyn 1868 efe a fu farw yn 68 mlwydd oed, a bu galar mawr ar ei ol, a chanlynwyd ef yn Capel Als gan y gwein- idog gweithgar a llwyddianus y Parch Thomas Johns. Yr oedd yn gofyn cryn dipyn o wrol. deb mewn dyn ieuanc fel Mr Johns i dderbyn galwad i fod yn olynydd i weinidog o safle Mr Rees, Llanelli, a chlywsom ragor nag un yn sylwi ar y pryd, eu bod yn ofni ei fod yn gwneyd camsynied, ond ar ol 14 mlynedd o brawf, can- fyddir erbyn heddyw fod Mr Johns yn olynydd tcilwngo'i flaenorydd enwog. Y flwyddyn gyntaf ar ol sefydliad Mr Johns, adeiladwyd ysgoldy gwerth £ 558 wrth ochr y capel. Y flwyddyn ganlynol, gwariwyd dros JE350 i awyru a phaent- io y capel. Rhifai yr eglwys y pryd hwn dros fil o aelodau, a theimlid fod y capel yn rhy fychan i'r gynulleidfa i addoli yn gysurus, ac yn hytrach na thynu Capel Als i lawr, ac adeil- adu un mwy, rhoddodd Mr Johns i sylw yr eglwys y dymunoldeb a'r angenrhcidrwydd am ranu yr eglwys ac adeiladu capel newydd yn y pen arall o'r dref. Derbyniwyd yr awgrym yn ffafriol, a dyna fu cychwyniad EGLWYS Y TABERNACL. Cafwyd tir gan Syr John Cowell Stepney, A.S., yn ymyl y Public Park. Adeiladwyd