Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
ATHROFA PFRWDVAL I A'l HANESION.
News
Cite
Share
ATHROFA PFRWDVAL I A'l HANESION. 6an SILURYDD. PENOD XII. Ya oedd rhai o'r myfyrwyr, os byddent yn breg-ethwyr yn arrer myned i Carmel, capel yr Annibynwyr yn mhlwyf Llansadwrn, i bregethu un Sul yn y mis. Pregethent yno ar y dydd hwnw foreu a hwyr, ac ni chaent am hyny ond swm rhy fychan i'w grybwyll. Penderfynodd y myfyrwyr bob un i wneyd strike a gwyr Carmel oblegid y pris a roddent. Parhaodd y strike hon tua dau fis, ac fel dyddiau pob strike, dyddiau blin oedd y rhai hyn i bobl Carmel. Yr oedd yn amser tebyg arnynt i'r amser y sonia y proffwyd Amos am dano yn yr wythfed benod, sef "nid newyn am fara, ac nid newyn am ddwfr, ond newyn am air yr Arglwydd." Bu y Doctor yn gofyn iddynt paham nad aent i bregethu ar y Suliau i Carmel. Atebasant ef fod y tal yn rhy fach i dalu am draul yr esgidiau a'r dillad. Pa faint roddant i chwi am Sabboth P "Y mae arnom gywilydd i enwi; ond pan ddywedasant mai deunaw ceiniog, efe a synodd wrth yr hanea. Daeth un o lords Carmel i'r Athrofa i gael gwybod yr achos na ddeuai y myfyrwyr yn eu tro i Carmel, a dywedodd fod eu heisieu yn fawr yno, a bod y bobl yn eu hoffl fel pregeth- wyr Atebodd y Doctor yn eofn drostynt nad oeddynt yn cael eu eydnabod yn briodol am eu llafur, ac mai deunaw ceiniog dderbynient gan gludydd y god. Dywedodd y lord ei fod yn meddwl yn dra sicr fod yr eglwys yn arfer tain mwy na hyny, a bod bai yn gorwedd yn rhywle, ac y mynasai edrych i'r mater yn fuan. • Ei fod am i'r myfyrwyr ddyfod yno i bregethu o hyny allan megys gynt, a sicrhaodd y cawsent eu talu lawer yn well o hyny allan. Edrychwyd i mewn i helynt y dyddiau gynt, a chafwyd fod y trysorydd wedi gwneyd eamsyniadau rywfodd neu gilydd, ac aeth yn amser twymn arno yn y capel. Newidiwyd y trysorydd, fel na fyddai mwy o gamsyniadau o'r fath hyn. Daeth David Williams, y cigydd cloff, i'r ffrynt yn y dyddiau hynod hyn, canys efe oedd pen-rhyfelwr Carmel yn yr amseroedd enbyd. Nid oedd newid y trysorydd yn ddigon o gosb yn ngolwg Dafydd, ond yr oedd efe am iddo ddyweyd Peccavi" mewn dagrau o edifeirwch, a thalu i'r myfyrwyr y gweddill oedd heb ei dalu iddynt. Trodd y trysorydd yn ystyfnig ac anedifeiriol, a mynodd Dafydd, yn nghlyw yr eglwys, afael yn llyfr-enwau yr aelodau, ac a'r pin a'r inc tynodd stroke ddu, fawr, trwy enw y trysorydd, gan ddyweyd fod yn rhaid tori ei ben i ffwrdd fel tori pen Seba fab Bichri gynt, a'i daflu dros y mur, fel y byddai dinas Carmel yn ddyogel rhag myned i bechu yn rhyfygus—gwel 2 Sam. xx. 21, 22. Yr oedd cymaint o ofn y Dafydd hwn ar wyr Carmel ag oedd o ofn Oliver Cromwell ar y Gwyddelod gynt ar ol cyflafan Drogheda. Wedi colli y swydd o gario y g6d, darfu i'r trysorydd bwdu, a chollodd ei dipyn crefydd, o'r fath ag oedd ganddo, ac ni chroesodd drothwy Carmel am ei oes o hyny allan, eithr efe a aeth i'w le ei hun fel Judas Iscariot. Cafodd y myfyrwyr, ar ol y mwstwr mawr fu yn Carmel, eu talu yn well, a daethant yn hoff iawn o'r aelodau a'r gwrandawyr. Yr oedd Carmel yn le pur gyfleus iddynt, oblegid nid oedd fwy na phedair milltir o'r Athrofa. Heblaw hyny, yr oedd y daith i fyned yno yn swynol iawn ei golygfeydd, yn enwedig ar ben pegyn Shon Nicholas Williams, o Rhydodyn. Cyfododd ef dwr ac ystablan yma unwaith er mwyn dyfod i fyny i ymbleseru ar ben y pegyn ddyddiau yr haf, a gwelid ef yn edrych trwy opera glasses oddiamgylch o gylch ar y wlad. Darfu i'r mellt friwio y twr, a darfu iddo yntau farw, ac aeth yr adeiladoedd i bwll. a chludodd y meini ymaith; ond er y cyfnewidiadau hyn, y mae'r olygfa yn. werth i'w gweled ar unrhyw ddydd teg a chlir. Oddiar ben y pegyn uehod, pan yn edrych tua'r gogledd-orllewri, gwelid pentrefi prydfertli Llansawel, Pumpsaint, a dyffrynoedd lieirdd y Cothi, y Twreh, a'r Annell, palasau Dolaucothi, Ffrwdval, Glanyranell, a Rhydodyn ac wrth droi yr olwg tua'r gogledd-ddwyrain, gwelid pentref Caio, y cloehdy a'r eglwys am yr hwn y dywedodd Mr Evans, y Pob, fod mwy o jackadaws i'w gweled ar ei ben nac oedd o aelodau yn yr eglwys bono ac wrth edrych tua de.ddwyrain, gwelid dyffryn llydan a bras y Towy, plwyfi Myddfai. Handdeusant, Llan- gadog, a Llatidilo; palasau gwych wedi eu hadeiladu, megys Penrhock, Dollgareg, Glan- sevin, Manoravon, Gelliaur, a Chastell Dynefwr. Caofyddid hefyd oddiar ei ben gastell mawr- eddog Caregcenen, coedwigoedd mawrion ac amryliw, bryniau o bob ff'urf a maintioli, o'r dwarf i'r giant. Yr oedd ehecliaicl yr awyr yn lluosog yn gweu trwy eu gilydd ar eu hadenydd. Yr oedd yr olygfa, debygem, yn ddigon i danio enaid bardd. Ychydig islaw i ni, o du y gogledd orllewin, yr oedd Cwmgogerddan, llety y gwr cnwog Dafydd Jones, cyfieithydd emynau a Salmau Dr I. Watts, a gwelcm y cae lie bu gwenith ganddo yn tyfu ynddo, pan ddaeth offeiriad Caio heibio, gan geisio ganddo wneyd penill i'r cae gwenith. Gwnaeth yntau ef fel yma—■ Dyma gae o weiiith gwrol Sy'n tyfu i fyny'n raddol, Mae'r ddegfed ran yn myn'd i ma's I borthi gwas y diafol. Ar hyn dyma'r oífeiriad yn rlioi spardyn i'w geffyl, ac yn gyru ymaith. Galwai Mr Jones ar ei ol, gan ddvweyd fod mwy i ganlyn. Atebodd yutan, Dyna ddigon." Gorfu i'r pregethwr, ar ol ychydig ymdroi a syllu ar y wlad, i frysio i Carmel at ei waitli. Erbyn iddo fyned yno yr oedd yr amser i fyny, a'r bobl o bob cyfeiriad yn cyrchu i mewn. Aed trwy y gwasanaeth yn hwylus, ac yr oedd y bobl mewn ysbryd da i wrando, ac a'r llaw bu yno lawer o ysgwyd dwylaw. Gofynai y Doctor yn ami iddynt pa fodd yr oeddynt yn myned yn mlaen yn Carmel. Atebai y myfyrwyr fod y bobl yn ddynion serchog a charedig iawn, ac yn talu iddynt fel manau ereill. Yr oeddwn yn meddwl," meddai yntau, mai pobl felly oeddynt, ond y mae un Achan yn ddigon i wneyd llawer o ofid." Adroddwyd iddo hanes gwrhydri Dafydd, y cigydd cloff, ddarfod iddo dori pen y trysorydd i ffwrdd fel y torwyd pen Seba fab Bichri gynt am godi gwrthryfel yn erbyn y brenin Dafydd, &c. Chwarddodd yn hwylus am ben y gwaith, a dywedodd fod hyny yn weithred arbitrary iawn, a bod y Dafydd yna yn debyg i Ishmael, yn ddyn gvvyllt, ae â'i law yn erbyn pawb, a phawb â'u dwylaw yn ei erbyn yntau. Parhaodd y myfyrwyr i fyned i Carmel yn galonog tra fu drysau yr Athrofa yn agored, ac ymadawyd a'r lie mewn heddwch a dymuniadau da, a gorchymynasant hwy, fel Paul wyr Ephesus, "Ac yr awrhon, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth yn mhlith yr oil rai a sancteidd- iwyd "-gwêl Act. xx. 31.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Y mae y Dandelion Extract a gynwysir yn Mhelcni -Or King', drwy ei wcithrcdiad tra adnabyddus ar yr Ysgyfaint (y cilehweryn pwysicaf yn yr holl gorff), yn aohosi i'r didoliadau eorfforol i redeg mewn tiefn rcolaidd, ae mewn cysyllt- iad n'vTouic fnr/redients, yn evyfliau yn ddiffawr, ac oflly vn cyii^l py rth mawrion y cort't' mewncytlwr add as i sicrhau iecliyd da. Gwertlur nwy gan vinvhyvv Gyffyrydd rnewn tilychau is. ljo.i Is. 9c- yr un. ls.9c.yrun.
CYPARFOD CHWARTEROL ARFON.
News
Cite
Share
CYPARFOD CHWARTEROL ARFON. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn Ebenezer, Bangor, Llun a Mawrth, Gorphenaf 14eg a'r 15fed; y Gynadledd am ]0 o'r gloch yr ail ddydd. Cadeirydd, y Parch W. Griffith, Amana; ac yr oedd yn bresenol y Parchn Herber Evans, Caernarfon; Lloyd Roberts, Caernarfon; Williams, Bethesda; Williams, Bangor; Davies, Bangor; Parry, Chwarel Goch; Williams, Bontnewydd; Williams, Ebenezer; Jones, Maesydre; Owens, Llan- beris Griffiths, Upper Bangor; Thomas, Geri- zim Evans, Henryd; Jones, Llandderfel; S. Roberts, Conwy Williams, Waunfawr; Roberts, y Bont; Jones, Pentir; a R. W. Griffith, Bethel. Pregethwyr Mri D. Hughes, Caernarfon R. D. Green, Caernarfon; J. Thomas (Eifionydd), Thos. Jones, Ebenezer; a Thomas H. Jones, Ebenezer. Diaconiaid ac ymwetwyr :—Mri J. Evans, Bangor H. Davies, Bangor; W. J. Parry, Coetmor Hall; Ellis Jones, Ty'nymaes G. Edwards, Bethesda; H. Hughes, Bethesda; David Evans, Porth- dinorwig; E. Evans, Bryn Adda; W. J. Williams, Caernarfon J. R. Pritchard, Caer- narfon; E.- Williams, Caernarfon; A. Fraser, Caernarfon; D. Prosser, Bozra; R. Kenyston, Beulah; T. Millward, Bangor; J. Williams, Bangor; E. Jones, Hirael J. Williams, Pentir; E. Evans, Penmaenmawr; R. Spooner, Bangor; H. Williams, Bangor, &c., &c. ]. Davllenwyd cofnodion y cyfarfod blaeno:o', a chaiiarnhawyd hwynt. 2. Hysbyswyd y bydd trefnlen y Cyfarfod Chwarlerol ar gyfer y deng mlyiiedd dyfod A yn barod erbyn y cyfarfod nesaf. 3. Pasiwyd penderfyniad yn calonog gymeradwyo yr amcan o gael cymanfa gerddorol gyffredinoi yn y Pavilion, Caeriiarfon, yn haf 1885, ac yn anog holl gynulleidfaoedd y Cyfundeb i roddi iddi gefnogaeth unol a gwresog, fel y byddo ei Uwyddiant yn fawr, a'r dylanwad yn helaeth. 4. Darllenwyd llytliyr cyflwyniad Mr Richard Joups, Berea, o Gyfundeb Mon, a rhoddwyd iddo dderbyniad serchog i gylch y Irawdoliaeth, sryda'r dymuniadau goi eu, ar ei waith yn cymeryd gofal bugeiliol yr eglwys yn Pentir. 5. Pasiwyd penderfyniad nnol, brwdfrydig, a chryf, yn cymeradwyo gwaitli y Llywodråeth yn yr ymdrech- ion gorchestol a wneir ganddi i basio Mesur Helaethiad yr Etliolfraint, ac yn condemnio yn ddiarbed waith yr Arglwyddi yn gwrthod ac yn taflu allan yr byn a ystyiiai y cyfarfod yn brif fesur y ganrif bresenol, a bod copi o'r ponderfyniad i'w anfon y dydd canlynol i brif arweinwyr y ddwy blaid boliticaidd yn y Senedd. 6. Y cvfarfod nesaf i fod yn Pentir, yn rnis Hydref, Mr Davies, Bangor, i bregethu yno ar ''Gylch Gwaith yr Eglwys yn y Byd 7. Derbyniwyd casgliadau yr eglwysi, £ 3 83 6a; C'isgliad cyhoeddus yn Bangor, 13s; cyfanswm, X4 Is 60. Pregethwyd gan y Mri Thomas, Gerizim; Jones, Liandderfel Williams, Waunfawr Roberts, Caernarfon; a Williams, Bethesda. Pwne yr ymddyddan crefyddol yn y Gynadledd oedd, "Cwbl Ymroddiad gyda Gwaith Crefydd," a siaradodd amryw frodyr arno yn dra phwr- pasol. Cafwyd cyfarfod rhagorol. R. W. GRIFFITH, Ysg.
ATHROFA ANNIBYNOL Y BALA.
News
Cite
Share
ATHROFA ANNIBYNOL Y BALA. Llawen genym hysbysu fod y Parch W. Daniel, Knaresboro' (brawd Mr E. Daniel, Wern, Minera) wedi anfon yn anrheg tua chant o gyfrolau Cym- raeg a Saesoneg at wasanaeth llyfrgell y Coleg uchod. Dro yn ol cawsom tua haner llyfrgell y diwedd- ar Hybarch W. Griffith, Caergybi, a rhan belaeth o eiddo y diweddar loan Pedr. Diau yr una car- edigiou y sefydliad a'r Proff T. Lewis, B.A., a'r myfyrwyr, yn eu diolchgarwch i'r boneddwr hael- ionus am y caredigrwydd aniserol, a'r anrhydedd hon a roddes a.rnom. ELWTNi