Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

IBETHESDA, BRYNMAWR.

News
Cite
Share

BETHESDA, BRYNMAWR. Yn y lie uchod, nos Fevcher, Gorpbenaf 9fed, cynal- iwyd cyfarfod i longyfarch y Parch E. D. Davies, y gweinido:, ar ei briodas, ae i gyflwyno anrheg o tea and coffee service i Mrs Evans ar ei dyfodiad i'r lie. Llywyddwycl yn ddoniol a uiedrusgar gan y Parch J. B. Williams, Rehoboth. Dywedai Mr Williams fod yn dda ganddo fod yn bresenol ar amgylchiad mor gysuru?. Methai a deall paham y rhoddai yr eglwys yr anrheg i Mrs Evans. Gwyddai fod Mr Evans yn haeddu gwneuthur o hyn iddo. Ond am Mrs Evans, nis gallai yn ei fyw ddeall paham y rhoddid y rhodd iddi hi, os nad fel arwydd o barch a diolchgarwch yr eglwys iddi am gymeryd Mr Evans. Wedi cann ton galwodd y cadeirydd ar y Parch T. Thomas (W.), Ebbw Vale, i siarad, yr hwn a ddywedai ei fod yn adnabod Mr Evans er'a blynydd- oedd, a'i fod wedi ei gael bob atnser yn ddyn cyflawn yn mhob ystyr o'i gair. Sylwai Mr Thomas fod tri chyf- nod yn hanes pob dyn cyn hyth y gellid ei ystyried yn ddyn perffaitb, sef earn. priodi, a byw; fod Mr Evans wedi myned trwy y ddau flaenaf, ac yn bresenol yn dechreu ar yr olaf. Am dano ef ei bun, dywedai nad oedd wedi dechreu caru, ac nad oedd ganddo o ganlyniad son am briodi, na gobaith chwaith i fyw cyhyd ag y buasai yn Mr Thomas, Ebbw Vale, ac yn dal yr un trolygiadau. Y Parch J. Morris, Pontygof, a ddywedai nas gall- asai efe ddywedyd fel ei frawd, Mr Thom.s, ei fod yn ddibrofiad. Gwyddai lawer am gysur a dedwyddwch y bywyd priodaaol. Yr oedd gandi'o brofiad, a hwnw yn brofiad melns iawn. Ba yn hir heb ei gael arosodd lawer yn rhosydd Moab, a methai yn lân a deall beth i'w wneyd. Ond o'r diwedd daeth ymwared croesodd yr Iorddouen, a chafod(i fynediad helaeth i mewn i'r Ganaan hyfryd, ae oddiar hyny hyd yn awr yr oedd wedi mwynhau bywyd o hapusrwydd a dedwyddweh. Dymunai bob llwyddiant i Mr a Mrs Evans. Dywedai fod gan wraig gweinidog lawer i'w wneyd i gynorth- wyo ei awr cafodd efe helpmate mown gwirionedd, a gobeithiai y profai Mrs Evans ei hun yn ymgeledd gymhwys i Mr Evans yn mhob ystyr. Yna cyflwynwyd yr anrheg i Mrs Evans gan Mrs Watkins, yr aeod hynaf yn yr eglwys. Diolchodd Mr Evans i'r eglwys ar ran ei hun a'i anwyl briod mewn ychydig o eiriau tyner a phwrpasol, a gweddiai am nerth iddo ef a Mrs Evans i gyflwyno eu bunain yn gyfangwbl i achos yr Emmanuel yn Bethesda. Wedi i'r cadeirydd ddywedyd ychydig o eiriau yn mhellacb, darl'enodd y gan a welir mewn colofn arall, a gyfansoddwyd gan gyfaill i Mr Evans erbyn yr am- gylchiad. Yn nesaf galwyd ar y Parch J. V. Stephens, Beau- fort, i siarad. Dywedai nad oedd wedi bwriadu dyweyd dim. Teimlii fod ei aefyllfa yn debyg i sefyllfa y dyn hwnw a ddaeth o ard d LLandilo i le ger lIaw Abertawy, a'r h n, wedi iddo ymuno a'r eglwys Annibynol yn y lie, a bod yno am ysbaid o amser, a wnaeth vmholiad ryw noson yn y gyfeillach o berthynas i sefyllfa arianol yr eglwys, a phethau cyffelyb. Ond cyii iddo gael amser i ddywedyd haner dwsiri o eiriau, dyma un o'r hen ddiaconiaid ar ei draed, ac yn dywedyd wrtho, Eistedd di i lawr; dyn dwad wyt ti-y dydd o'r b'aen y daethost yma. Yr ydym ni yma erioed, ac wedi gofalu am yr achos cyn dy wel'd di." Ac ofnai Mr Stephens, gan nad oedd wedi treulio ond wythnos yn en plith, y buasai rhywun yn barod i ddyweyd wrtho fel yr hen'frawd, Eistedd di i lawr; dyn dwad wyt ti." Modd bynag, teimlai Mr Stephens yn Ilawen fod ei maiden speech yn cael ei gwnoyd ar amgylchiad mor gysurus. Sylwai fod Hun cilon ar y llestri arian, a gobeithiai on bod yn amlygiad o'r parch pur oedd yn nghalon yr eglwys tuag at Mr Evans a'i briod hawdd- gar. Gobeithiai fod hir oes yn eu haros, a dymunai bob llwyddiant ar y gwaith da. Y Parch Mr Morton (B.), Brynmawr, a ddywedai fod gauddo barch mawr i Mr Evans, fel dyn cytiawn, Cristion, a gweinidog. Yr oedd yn dda ganddo fod yn bresenol i groesawu Mrs Evans i'n plith- Ilwyrach ei bod yn teimio dipyn yn odd ar y dechreu fel hyn, ond wedi iddi ymgydnabyddu a'r lie ac a'r bobl gwyddai ef y gwnai Mrs Evans deimlo ei hunan gartref yn y man. Wedi'r cyfan, nid dyfod yuo er mwyn y He, nac er mwyn y bobl chwaith, a wnai Mrs Evrns, ond er mwyn Mr Evans, a gobeithiai y byddent yn llawen a dedwydd gyda'u gilydd. Y Parch Mr Jones, Llanelli, a ddywedai nad oedd wedi dyfod yno gyda'r arncan o ganmol Mr a Mrs Evans. Gwyddai y gwnai Mrs Evans wraig dda. Yr oedd wedi dyfod yno o ardal dda, i amcan da, ac o gapel enwog y mac Capel Isa ic, sir Gaerfyrddin, wedi bod yn enwojr drwy'r blynyddoedd fel magwrfa gwein- idogion da i lesu Grist, a gobeithiai y byddai y gwrag- edd gweinidogiou sydd yn ciel eu codi yn Nghaptl Isaac y dyddiau hyn yn rejlectio cymaint o anrhydeid ar yr hen eglwys barchus a'r cewri a aethaut o'r blaen. Bydllai MIs Evans yn sicr o gael eglwys Bethesda yn eglwys garedíg-dyna ei hanes ac o ran hyny yr oedd cysylltiad Mrs Evans a'r eglwys yn cael ei selio yno y noson hono a charedigrwydd. Y Parch T. D. Evans, Cross Keys (brawd y priod- fab), a ddywedai ei fod yn teimlo yn llawen i gael bod yno i groesawu ei chwaer-yn nghyfraith i Brynmawr. Yr oedd yn llawen ganddo ddeall fod yr eglwys wedi meddwl dangos ei charedigrwydd tuag at Mrs Evans mewn modd sylweddol. Gobeitbiai y buasent yn hapus a dedwydd gyda'u gilydd, a dymunai hir oes iddynt yn y byd hwn ac yn yr hwn a ddaw. Yn nesaf galwyd ar y Parch W. Griffiths, Beiufort, i anerch y cyfarfod, Dywedodd Mr Griffiths fod yn dda gauddo fod yn y cyfarfod yn un peth am mai cyfarfod rhoddi ydoedd. Yr oedd y rhodd werthfawr a gyflwyn- wyd i Mrs Evans yn arddangosiad o deimladau cynes yr eglwys tuag ati hi a'i phriod. Pan fyddo Natur yn rhoddi, rhodria bob amser yn yr haf-yn ngbarol hin aynes a pberoriaeth felus. Trefn Daw o roddi ydyw honyna. Felly yma befyd. Yr oedd eglwys Bethesda, fel Awdwr ei bodolaeth, yn rhoddi nid am fod yna un rheidrwydd yn gorpbwys ami, ond am fod ei theimlad- au tuag at wrthddrych ei serch yn hafaidd, cynes, a dymunol. Yr oedd Mrs Evans, wrth ddyfod o Gapel Is itte i Brynmawr, yn dyfod i le llawer oerach yn anian- yddol, ond gobeithiai y cai y aiffyg hwnw ei wneyd i fyny gan wres cymdeithasol a chrefyddol pobl Dduw tuag ati. Yn ystod y cyfarfod cafwyd caneuon gan Misses M. A. Williams a Polly Lewis, Mri W. Morgan, W. Owen, ac ereill na chawsom eu henwau. Cafwvd cyfarfod gwir ddymunol, a da oedd genym weled yr hen achos yn Bethesda yn gwisgo gwedd mor lewyrchus o dan weinidogaeth ein brawd ieuaric. YMDKITHYDD.

LLWYDDIANT ADDYSGOL.

AT OLYGWYR Y "TYST A'R PYDD."

Family Notices