Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

COFGOLOFN JONES, LLANGOLLEN.

News
Cite
Share

COFGOLOFN JONES, LLANGOLLEN. Mae wyth mlynedd ar hugain ar gael eu cyfrif yn mblith y pethau a fa er pan roddwyd yr hyn oedd farwol o'r anfarwol Jones, Llangollen, i or- phwys yn nghladdfa Spring Grove, Cincinnati, 0. Dygwyddodd llawer tro ar fyd er hyny; ysgub- wyd miloedd o edmygwyr y duwinydd, y lienor, a'r bardd enwog i ffordd yr holl ddaear yn y cyf- amser, a phriodol y gellir dywedyd mai cenedl arall (ychydig ydynt yr eithriadau) sydd yn gwneuthur ei rhwysg a'i marc heddyw yn hanes- iaeth y ddaear. Bu holi yn awr ac yn y man drwy y blynyddau am gyflvvr bedd y gwr da uchod ond holi, a dim ond holi, fu y cwbl hyd yn ddiweddar. Tua blwyddyn a haner yn ol, cyfarchodd y Parch T. C. Edwards (Cynonfardd), ei gydgenedl yn America, yn neillduol Cymry Cincinnati, 0., trwy gyfrwng y Drych, yn mherthynas a sefyllfa bedd ein barwr. Atebwyd ef trwy yr un cyfrwng, gan roddi y manylion. Pan gofir fod Spring Grove yn un o'r mynwentydd mwyaf prydferth, a'i chof- golofnau celf-addurniadol mor lluosog, a'r nifer arutbrfawr sydd yno yn gorwedd, y mae yn ffaith i'w rhyfeddu fod neb a wyddai am orweddfan distadl a braidd angbofiedig y gwr a anfarwolodd yr enw Llangollen." Ond yr oedd yma on yn gwybod yn dda am yr ysmotyn, ac yn ymwelydd mynych a'r fan, a'r un hwnw ydyw y cenedlgarwr pur ac adnabyddus Mr John F. Jones. Anogodd Cynonfardd edmygwyr yr ymadawedig i ymffurfio yn bwyllgor er trefnu i gael cofgolofn. Hyny a fu, a cbaed addewidion baelfawr (y rhai a ddwbl-gyifawnwyd) gan y bardd o lanau Cynon, a'i gyfaill enwog Mr D. Edwards, Kingston, Pa. Ymaflodd y pwyllgor yn eu gwaith heb un bwriad at rodres, a buom dra llwyddianus, er i'r rhwystr- au anhyfryd godi trwy-annoethineb parch a chyf- 11 11 eillgarwch, ystryw taiogaidd a bradwrus cenfigen a malais, a diddimiaetb gwrth-arehwaethus claear edmygedd. O'r diwedd daeth y gwaith i ben, cwblhawyd ef yn anrhydeddus, ac y man yn adlewyrchu clodydd y rhai a gymerasant ran i'w ddwyn oddiamgylch. Derbyniwyd oddeutu 200 o ddoleri o danys- grifiadau (ceir manylion fuaned ag y gwastadheir y cyfrifon). Prynwyd lot gwerth 45 o ddoleri yn un o ranbarthau gogledd-orllewin y cemetery, yr hwn a fydd yn un o ranbarthau prydfertbaf y fynwent yn fuan. Rhaid oedd prynu lot, gan nad oedd lie, ac na chaniateid i godi maen na cholofn ar fedd sengl. Gwerth y gofgolofn ydyw 145 o ddoleri, a'i defnydd ydyw gray granite. Adeilad- wyd iddi sylfaen yn chwe' troedfedd o ddyfnder gofynir hyn gan awdurdodau y fynwent. Ei huchder o'r is-sylfaen (lower base), yr hwn a fesura 28 modfedd petryal, ydyw 8 troedfedd a 9 modfedd. Mesura pen isaf y paladr (shaft) 13 modfedd petryal, a'r ucbaf 8 modfedd. Arni y •ceir y bedd-argraff syml, ond hynod darawiadol a ganlyn | » | 5 ADGOF UWCH ANNGHOF. This monument was erected by voluntary contri- j butions of friends and admirers in the United States | I TO THE MEMORY J —OF— | REV. JOHN JONES (LLANGOLLEN), | Minister of the Gospel, Scliolar and Poet. ] Born in W-les. Died in Cincinnati, 0., < NOT. 18th, 1856, aged 55 years. | Wele fedd gwr duwiol fu,—o enaid | Daniai-filoedd Cymru Llangollen goeth llawn gallu—d lystawodd, S Yna a basiodd i wyneb Iesu. J CYNONFARDD. Ar yr is-sylfaen, mewn llythyrenau mawrion ac addurnol, mae yr enw S REV. J. JONES. ( < ( < Os na.d ydyw y golofn hon yn gyfartal mewn gwerth a gwychder i lawer o'r monuments a harddant Spring Grove, eto y mae y n6d cyfrin a'r englyn yn bethau newydd yn llenyddiaeth y fyn- V went, ac yn tynu llawer iawn o sylw, holi ac ym- chwil. Syml a dirodres hollol fu y dadorchudd- iad. Mehefin y 4ydd, aeth nifer o'r pwyllgor ac edmygwyr tua'r fan dan arweiniad Dr Jones. Nid oedd y gweinidogion Cymreig ereill yn dygwydd bod yn y ddinas ar y pryd. Ni chyflawnwyd un seremoni na defosiwn, ond cafodd yr ymwelwyr foddhad mawr wrth wrandaw hyawdledd dystaw y maen yn traethu am yr hwn, er wedi marw, sydd yn llefaru mor groew-ber ac effeithiol eto, a theim- lant yn ddedwydd am iddynt gymeryd rhan yn y gweithrediadau. Cyn dychwelyd, planwyd rhosyn ar y bedd gan y foneddiges haelfryd, Mrs John F. Jones. Rhosyn siriol yf yn helaeth 0 rinwt'ddau natur wiw Teg dy frig—yraffurfia'n dalaith Uwch gorweddfan plentyn Duw; Blasiur cyntaf cynar wanwyn Daeno wrid ar hyd dy wedd, Aros yn dy harddwch dillyn Hyd fin ganaf ar y bedd. Arwydd wyt, flodeuyn swynol, 0 gymeriad lladawl, mad, Fwriodd flagur blydd bythfywiol I lenoriaeth goeth ei wlad Erys hwn i berarogli, Er brad athrod gloesawl bla; Byw i buro a phrvdferthu Byth wna arogl enw da. Teg yw nodi mai pwyllgor cenedlaethol yn ystyr lawn y gair oedd y pwyllgor ac na ddarfu enwadaeth nac unrhyw aeth arall beti tram- gwydd yn un o'n cyfarfodydd. Llywyddwyd yri ddoeth a deheuig gan y Mri E. Bowen a S. Richards. Rhoddodd y Mri John F. Jones a R. C. Evans (Cyfeiliog), eu bamser a'u gwasanaeth yn ewyllysgar yn nglyn a phryniad y lot, dethol y gofgolofn, ac arolygu y cerfwaith a'r adeiladaeth. Bu y Parchn Dr Jones, M. A. Ellis, A.M., E. C. Evans, A.M., yn gefnogol i'r mudiad mewn gair a gweithred. Bu eu cyfarwyddiadau yn werthfawr, a'u hymlyniad yn mbob ystyr yn deilwng o fon- eddwyr Cristionogol. Haedda y Parch T. C. Edwards (Cynonfardd), a Mr Daniel Edwards, Kingston, Pa., barch mawr a chlodydd ucbel am gychwyn y gwaith da, a chymeryd rhan mor amlwg ynddo. Teimla y pwyllgor yn wir ddi- olchgar i'r Parch B. Williams, Abertawy, D.C., am y gwasanaath sylweddol a wnaeth erddom. Hefyd, dymuoem gydnabod yn barchus olygydd- ion y Wasg a'r Drych am roddi cyboeddusrwydd i'n gweithrediadau yn rhodd ac yn rhad, ac am eu cefnogaeth ddoeth a boneddigaidd, Dyma ni yn gadael ein harwr hyglodus a thra. yn gwybod nad yw yr haul yn ddifrychau, ac nad oes perffeithrwydd yn y fuchedd farwol hon, eto yr ydym yn credu ein bod wedi cael y fraint o dalu teyrnged fechan o barch diffuant i un a lafuriodd yn galed, yn helaeth, a Ilwyddianus, a'r llafur hwnw yn llafur o radd uchel, ac o duedd a dyben daionus a theilwng. Tra y gorphwys Jones, Llangollen, oddiwrth ei lafur, y mae ei weithredoedd yn prydferthu ei goffadwriaeth ar y ddaear, ac yn ei ganlyn i'r anfarwol fyd, lie y credwn yr eistedd gyda y doethion, y rhai a ddys- gleiriant a dysgleirdeb y ffurfafen, a cbyda y rhai a droant lawer i gyfiawnder, y rhai a fyddart fel y ser byth ac yn dragywydd. Wasg. —

CAERLLEON A'R CYFFINIAU.

OLEG Y BRIFYSGOL, ABERYSTWYTH.

Advertising