Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

'TY YR ARGLWYDDI.

News
Cite
Share

TY YR ARGLWYDDI. NID oes ond un cwestiwn yn awr yn cynhyrfu yr holl wlad--Beth a wneir i Dy yr Arglwyddi? Yn yr holl gyfarfodydd mawrion sydd wedi eu cyual, yn gystal ag yn rhagleuau y rhai mwy sydd i'w cynal, nid Helaetbiad yr Etholfraint, nac Ad- drefniad y Corfforaethau Etholiadol ydyw y cwestiwn bellach, und, Beth a wneir i Dý yr Arglwyddi ? Yn ystod yr holl ddadl ar yr Etholfraint, mynai y Toriaid nad oedd y wlad yn addfed iddo, nac yn galw am dano a gofynent pa le yr oedd y cyfarfodydd mawrion yn Hyde Park, a manau ereill, a arferid gynal gan y bobl pan y byddai unrhyw gwestiwn ger bron yn y rhai y teimlent ddyddordeb rnawr. Nid oedd y bobl yn gweled fod angen iddynt gynhyrfu mewn un modd, gan fod eu cynrychiolwyr yn gwneyd y gwaith gyda'r prysurdeb mwyaf a allent yn wyueb y rhwystrau a deflid i'w ffordd ond gan fod y cwestiwn pa le yr oeddynt wedi ei ofyn, yr oeddyat yn barod i ddangos eu hunain, a pheri clywed eu llais. Mae eisoes ugeiniau o n gyfarfodydd wedi eu cynal yn y treii ac yn y siroedd gan.y rhai sydd eisoes yn meddu pleidlais, a chan y rhai sydd hebddi, ac y mae yr olaf yn llawn mor benderfynol i'w chael ag yw y blacnaf i'w rhoddi iddynt. Nid oes dadl i fod yn nghylch ewyllys y wlad yn y mater. Mae y Toriaid erbyn hyn yn gorfod cydnabod hyny. Ni feiddiodd yr Arglwyddi, er eu boll drabausder, wrtb- wynebu egwyddor y mesur, er y gwyr pawb mai i hyny mewn gwirionedd y mae eu gwrthwynebiad mawr. Nid yw dadleu dros gael ad-drefniad yr eisteddleoedd ger bron yr un pryd yn ddim ond dichell er ceisio dallu y wlad, oblegid gan fod cynifero anhawsderau Y11 nglyn ag ad-drefnu y seddau, y maent yn gweled gobaith i hyny ddyrysu mesur y bleidlais. Bydd yn rh aid cymeryd seddau oddiar rai lleoedd, a diau y bydd llawer o'r Rhyddfrydwyr mewn lleoedd bychain yn cael eu hamddifadu o'u cynrych- iolwyr, o leiaf, yn y ffurf bresenol, a gwyr pawb mai gorchwvl anhawdd ydyw cymeryd dim oddiar neb heb beryglu eu hanfoddloni. Mae gan ad-drefniad yr eisteddleoedd gynifer o greigiau peryglus i hwylio rhyng- ddynt, a cbynifer o fuddianau i'w colli, ac oblegid hyny y mae Mr GLADSTONE am benderfynu helaethiad y bleidlais yn gyntaf, fel na byddo i hyny gael ei beryglu gan ddim arall; ond y mae y Toriaid am ohirio Mesur Helaethiad y Bleidlais nes y byddo Ad-drefniad yr Eisteddleoedd wedi ei ddwyn i mewn hefyd, nid am eu bod dros y naill na'r llall, ond am eu bod yn gweled mai wrth daro yn erbyn yr olaf y mae yr unig obaith am weled y blaenaf yn myned yn ddrylliau. Ond y mae y bobl yn benderfynol o fynu y bleidlais. Nid oes dim atal arnynt. Nid yw gwrtbwynebiad yr Arglwyddi yn gwneyd dim ond eu cynhyrfu yn fwy, ac y mae gwaith y Ty Ucbaf yn taflu y mesur allan ar ol cael dau gynyg wedi dihuno y wlad i bwynt ucbaf ei digllonedd. Ni welodd y geuedlaeth bresenol gynhyrfiadau ar raddfa mor eang. Maent yn dwyn i gof yr ychydig weddill sydd yn aros gyffroadau Mesur y Diwygiad yn 1832, a diddymiad Deddfau yr Yd cyn y flwyddyn 1846; ac os nad ydynt yn llawn mor derfysglyd a rhai cyffroadau welwyd, hyny sydd am fod y bobl wedi dyfod i ddeall yn well pa fodd i ddadleu eu hawliau, ac am fod dynion o safle uwch yn awr yn cymeryd yr arweiniad. Ond, fel y dywedasom, yn yr holl gyf- arfodydd a fu, y mae cwestiwn yr etholfraint mewn rban fawr wedi ei droi o'r neilldu er gwneyd lie i'r cwestiwn, Pa beth a wneir i Dy yr Arglwyddi sydd fel hyn yn troi heibio fesur y mae cynrychiolwyr y bobl gyda'r fath fwyafrif wedi cytuno arno ? Mae pob deddfwriaeth a wneir gan gyn- rychiolwyr y bobl yn myned yn ofer hollol, os oes gan Dy yr Arglwyddi hawl i roddi ei dedfryd arno, a'i droi o'r neilldu. Mae Mr JOHN BRIGHT wedi rhoddi yr achos yn y modd egluraf mewn llythyr byr a ysgrif- enodd at Mr J. P. HARTLEY, ysgrifenydd y cyfarfod mawr a gynaliwyd yn Accrington, ddydd Sadwrn diweddaf, a'r hwn, pan y darllenwyd ef, a dderbyniwyd gydag ucbel gymeradwyaeth. Wedi datgan ei lawenydd fod y fath gyfarfod o bobl Accrington a'r amgylchoedd i gael ei gynal, dywed—" Y cwestiwn ydyw, nid yr un am estyniad y bleidlais yn unig. Nis gall y mesur hwnw gael ei orchfygu na'i oedi yn hir. Mae cwestiwn arall, mwy pwysig, wedi codi-A gaiff Tyyr Arglwyddi ddarostwng i'w ewyllys y Weinyddiaeth sydd yn cynrychioli y Goron, a Thy y Cyffredin sydd yn cynrych- ioli y genedl? A gaiff gwladweiniaeth gwlad fawr, rydd, ei gwneyd yn ofer gan ddynion sydd yn eistedd yn eu hystafell etifeddol, y rhai nad ydynt yno trwy bleid- leisiau wedi eu rhoddi iddynt, a thrwy y rhai nad yw llais miliynau y Deyrnas Gyfunol i'w glywed? Mae eu dedfryd wrthwynebol yn sarhad parhaus ar Dy y Cyffredin; ac os ydyw rbyddid y bobl i fod yn rbywbeth heblaw Bug ac ymddaugosiad, y mae rhyw derfynau i'w roddi i'w gallu, yr hwn a amlygir yn benaf yn eu gwrthwyneb- I iad i wir fuddianau y genedl. Nid yw Senedd yn cael ei rheoli gan bendefigaeth etifeddol yn ddim gwell-hwyrach, yn wir, ei bod yn waeth-na Senedd yn cael ei dylanwadu a'i rheoli gan ormesdeyrn un- benaethol. Gofynwch i'ch cyfeillion i ystyried y cwestiwn yn ddifrifol. Bydded iddynt ymuno a'u cydwladwyr mewn hawlio y fath gyfnewidiad ag a ryddhao D^ y Cyffredin oddiwrth rwymau sydd mor ddarostyngedig iddo ef ag ydyw o niweidiol i'r wlad." Dyna eiriau teilwng o ystyriaeth ac nid geiriau chwildroadur gwyllt ydynt, ond eiddo gwladweinydd doeth a phwyllog sydd wedi cael bir brofiad yn amgylchiadau ei wlad. Ni buasai dyn o oedran a saffe Mr Bright yn ymgymeryd a bod yn gadeirydd y cyfarfod mawr sydd i'w gynal yn Man- chester, ddydd Sadwrn nesaf, er rhoddi eyfle i'r rhanbarth hwnw o swydd Lancaster i draethu ei farn, oni bai ei fod yn llwyr argyhoeddedig fod ymddygiadau yr Ar- glwyddi wedi myned dros ben terfynau pob goddefgarwch, a bod yn rhaid cael y Ucbaf i'r fath seiyllfa ag a'i dygo i gydolyg- iad a chydymdeimlad a mwyafrif cynrych- iolwyr y bobl; ac oni ellir ei gael felly, mae yn fwy o rwystr nag o help i ddeddfwriaeth deg a dibartiaetb. Nid oes ganddynt le i feio neb am fod pethau wedi eu dwyn i'r fan yna, oblegid y maent wedi eu dwyn yn hollol trwy eu cyndynrwydd a'u trahausder hwy eu hunain. Gan eu bod wedi gofyn am lais y wlad, rhoddir iddynt ei glywed; ac oni wrandawant arno, rhaid iddynt gy- meryd y canlyniadau.

Y PARCH D. SAUNDERS, D.D.

PRIODI DYN E R MWY N EI DDIWYGIO

YR WYTHNOS.