Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Cynwysiad. I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cynwysiad. I Ymylon y Ffordd 3 Cyfundeb Gogleddol Morganwg—0 America—" Y Gw#r Ienainc" 4 Yr Etholfraint-Gorymdaith Arutbrol yn Llnndain 5 Colofn y Dad?ysylltiad—Y Golofn Wleidyddol 6 Pigion o Bapyrau America — Barddoniaeth — Maesteg 7 At ein Gobebwyr-Cyfarfodydd yr Undeb yn Llan- elli-Yr Wythnos 8 Y BItIF ERTHYGL- Ty yr Arglwyddi — Y Parch D. Saunders, D.D. —Priodi dyn er mwyn ei ddiwygio 9 Cofgolofn Jones, Llangollen—Caerlleon a'r Cyffiu- iau—Coleg y Brifysgol, Aberystwyth 10 Bethesda, Brynmawr — Gohebiaethau — Getiedig- aethau,Priodasau,&c.II Y Wers Bhyngwladwriaethol—Cyfarfodydd,&c. 12 Alltwen 13 Hysbysiadau 14. 15, 16
Advertising
Advertising
Cite
Share
CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. CCLASSES now reading for the UNIVERSITY Colleges, the J TRAINING and DENOMINATIONAL Colleges, the MEDICAL, LEGAL, and PHARMACEUTICAL Emmin ations, and for the CIVIL SERVICE and COMMERCIAL PURSUITS. DUTIES resumed on MONDAY, JULY 28th, 1881. For terms, &c., apply to R. G. LEVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff. {18,7.r ILLUMINATED WORK, Testimonials, Presentation Addresses, Sfc., executed in the purest styles, in gold and colours. TYSTEBAU AC ANERCHIADAU ANRHEGOL YN Gymraeg neti Saesoneg (gwaitli llaw), wedi eu gwycliu yn y dull mwyaf dillyn a Iiardd, a llythyrenau addurnedig a lliwiedig, ac ag arwyddluniati eyfaddas, mewn ymyi waith amryliw. RHAI A X E K C HIA L> A U A WNAED Mr D. Simons, Manager, Moss Bay Steel Works, Cumberland, late Manager of the Bessemer Steel Works, Rhymuey. Mr D. Phillips, New Tredegar, P.l'.G.M., presented by the Oddfellows of the Rhymney district. Mr J. Price, Manager, Treliarris, late Manager of the Clydacli Vale Colliery, Rhondda. Rev D. Silyn Evans, Aberdare. Rev W., Edwards, Aberdare, Chairman of the Welsh Congre- gational Union. 7.6.w. S. D. ROBERTS, Trcalaw, Pontypridd LLTFIAU CYHOEDDEDIG GAN T. GEE A'l FAB, DINBYCH. Y GWYDDONIADUR CYMREIG. Y Gwaith Cenedlaethol mwyaf a gyhoeddwyd yn Gymraeg. Dan olygiaeth y diweddar Barch Joiin Parry, D.D., Bala. Mewn deg o gyfrolau. Blown llian, pris £ ?10s. yn lianer rhwym, mewn Persian morocco, pris 18 8s. eto mewn rliwymiad llawn. pris £998. ac mewn lhwym- iad llawn, extra, £10 10s. Gellir ei gael yn gyfrolau os dew'isir, neu ar unwaith. ESBONIAD AR Y TESTAMENT NEWYDI). Gan y Paveli Albert Barnes. Mewn chweeh o gyfrolau. Mewn llian hardd, pris 8s. 6o. yn haner rhwym, pris 10s. ac mewn rhwymiad cyflawn, pris lis. y gyfrol. Gellir cael y Gwaitli hWII hefyd yn gyfrolau, neu yn gyflawn. TESTAMENT YR YSGOL SABBOTHOL. Gan amryw o Weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd, gyda, phump o Fapiau Cymreig rhagorol. Mewn dwy gyfrol, pris £ 1 mewn byrddau; £1 3s. yn haner rhwym £1 fls. rhwymiad llawn mewn Persian morocco, gydag ymylau aur, £ 1 12s. TESTAMENT Y MILOEDD. Gan v Parch J. O^wen Jones, Ji. A., Rhyl. Gyda, neu lieb y Cyfnewidiadau a wnaed yn nhestyn y Cyfieithiad Seisonig Diwygiedig. Pris 12s. 6c. mewn byrddau lianer "rowym, 13s. 6c. rliwymiad llawn, Us. 6c. Neu, heb y Cyfieithiad,' pris Is yn llai yn mhob rhwymiad. Os nad anfonir i'r gwrthwyneb, anfonir ef gyda'r Cyfieithiad Viwygiedig.' GEMAU 1)UWINYDDOL. Gan y Parch Robert Jones, Llanllyfni. Ail-argrafliad, gyda Nodiadaii ychwanegol helaeth. Pris 6s. mewn byrddau. PREGETHAU Y PARCH JOHN PARRY, D.D., BALA. Pris 3s. 6c. mewn byrddau. Y raae y gyfrol lion yn cynwys deuddeg-ar-hugain o Bregethau. Y mae Catalogue cyflawn newydd ei gyhoeddi o'r holl Lyfrau a argraffwyd gan T. GEE A'I FAB, yr hwn a anfonir ynrhad i'r neb a ddenfyn am dano. 4.f.84.r Hysbysiadau. Heb fod dros dair Uinell, Is. y tro; am bob llinell ychwanegol, 3c. Oriel ymddengys Hysbysiadau am yspaid o amser am brisiau llawer is. + Mae Yr Wythnos wedi bod yn cynyg gwobr o bum' punt i'r gwr fedr brofi cywirdeb rhyw sylw sydd yn jq-ghofiant Ap Vychan.
YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
YR WYTHNOS. DAMWAIN FAWR AR GLEDRFFORDD.— Dydd Llun wythnos i'r diweddaf dygwydd- odd datnwaiu ofnadwy ar y Gledrffordd rhwng Manchester a Sheffield. Fel yr oedd cerbydres gyflym yn dynesu at orsaf o'r enw Penistone torodd un o'r olwynion, ac achosodd hyny y fath sigliad cynhyrfus i'r cerbydau ereill nes iddynt neidio oddiar y cledrau, a disgyn dros arglawdd uebel, a chael eu chwalu yn ysgyrion yn y dyfnder obry. Nid oedd yn bosibl i ddygwyddiad felly gymeryd lie heb i fywydau lawer gael eu colli. Diangodd swyddogion y gerbyd- res hono megys yn wyrthiol, ond lladdwyd pedwar ar bymtheg o'r teithwyr. Pellebr- wyd y newydd trist i bob cyfeiriad-daeth meddygon a ebynortbwywyr ereill yno yn ddiaros, ac yr oedd yr olygfa a welsant tu- bwnt i bob darluniad. Gorweddai y treu yn grynswth chwaledig ar y maes. Rhyddha- wyd y clwyfedigion, ac yr oedd eu dolefau yn galon-rwygol. Cludwyd y meirw i fan- gre dawel, a gorweddent yn ochr eu gilydd i aros cael eu hadnabod gan eu perthynasau, yr hwn oedd un o'r amgylchiadau chwerwaf yn mywyd unrhyw ddyn. Gwneir ymchwil- iad manwl i achos y ddamwain, ond mae yn rhaid aros am y manylion cyn gwybod hyny gyda dim sicrwydd. Anfonodd y Frenines genadwri o gydymdeimlad a'r galarus a'r clwyfedig, ac y mae y eyfryw a orweddant yn ysbytai Manchester wedi dangos eu bod yn gwerthfawrogi hyny yn fawr. Gwelwn fod un Cymro, o leiaf, yn y tren pan ddy- gwyddodd y ddamwain, sef y Parch Venable Williams, Colwyn Bay, ond diangodd ef heb gael un niwed. MARWOLAETH Y BARNWR WILLIAMS.— Canol nos Iau diweddaf bu farw y Barnwr Watkin Williams yn Nottingham o glefyd y galon. Yr oedd wedi bod yn eistedd vn y llys byd bump o'r gloch dydd Iau i wrando achos dyrys a pbwysig iawn, a bwriadai gy- hoeddi y ddedfryd boreu dranoeth ond ar ganol nos cymerwyd ef gan angeu i bresen- oldeb Barnwr byw a meirw. Yr oedd yn fab i'r Parch Philip Williams, diweddar ,offeiriad Llansanan, sir Ddinbych. Cafodd addysg dda pan yn ieuanc, oblegid bu yn I r, Eton a Rliydychain. Bwriedid iddo fyned yn offeiriad, ond dewisodd ef fyned yn far- gyfreithiwr. Wedi dechreu ar ei waith nid hir y bu cyn cyrhaedd enwogrwydd fel gvVr dyogel a medrus iawn yn y gyfraith, yn neillduol felly mewn cysylltiad ag achosion masnacbol a llyngesol. Bu yn cynrychioli Dinbych am dymhor, ac wedi hyny sir Gaer- narfon a phan ffuvfiodd Mr Gladstone ei Weinyddiaeth yn 1880, dysgwyliai llawer y cawsai ei benodi yn Gyfreithiwr Cyffredinol ond ymddengys fod ereill yn henach ac yn fwy teilwng o'r anrbydedd bono. Ond caf- odd ei ddyrchafu i'r fainc farnol, ac yr oedd eisoes wedi enill cymeriad uchel iawn fel barnwr cyfiawn a theg. Bu yn briod ddwy- waith, a'i wraig ddiweddaf oedd merch y Barnwr Lush. Nid oedd iechyd y Barnwr Williams yn gryf er's rhai misoedd, ond wedi bod ary Cyfandir am dymhor dysgwyl- iai pawb ei fod wedi cael llwyr adferiad; ond yn hyn siomwyd ni, oblegid un twyll- odrus ac angeuol iawn yw clefyd y galon. Bellach mae wedi huno yn yr angeu, a tbeimlir colled ar ei ol, oblegid yr oedd yn dwyn mawr sel dros lwyddiant ein gwlad a'n cenedl. YMLADDFA GYDA THAI-DORWYR.—Boreu Gwener diweddaf, pan oedd dau heddgeid- wad yn rhodio un o ystrydoedd Hoxton yn Llundain, cyfarfuasant a thri o ladron pro- ffesedig y ddinas, a gwyddent eu bod yn bwriadu drwg. Ceisiasant eu dal, ond rhed- asant ymaitb a phan oedd y swyddogion yn ymyl eu dal, troisant arnynt gyda ffyrn- igrwydd ellyllon o'r pwll. Tynodd un o'r lladron lawddryll o'i logell, a saethodd at yr heddgeidwaid; tarawodd un ohonynt yn ei fraicb, a'r Hall yn ei ochr. Erbyn hyn yr oedd yno swyddogion ereill, a Iluaws mawr o bob! yn cynortbwyo. Daliwyd un, diang- odd y Hall, a rhedodd y trydydd fel gwiwer i ben tý cyfagos. Buwyd yn ei hela am ys- baid, gan daflu ceryg a pbriddfeini ato, ond yr oedd yntau yn cadw pawb draw gan fyg- wth saethu y cyntaf a ddaethai yn agos ato. Trwy ddyfais llwyddodd dau o'r heddgeid- waid i fyned tucefn iddo, a chawsant afael yn ei wàr, ond bu yno ymdrechfa galed ar nen y tý cyn ei sicrhau. Yr oedd golwg ddifrifol ar hwn pan ddaeth i'r llys, canys yr oedd wedi derbyn rhai niweidiau arwyn- ebol; ond gwaeth na'r cwbl, yr oedd wedi colli ei wallt a'i gernfarf twyllodrus. Adna- byddwyd y llall hefyd, a dysgwylir y bydd mewn dalfa yn fuan. CAMSYNIED YR ARGLWYDDI.—Yr ydym yn defnyddio gair tyner wrth gyfeirio at y camwri dybryd mae yr Arglwyddi wedi wneyd a'r wlad. Mae yn llawer hawddach cyfodi ysbrydion na'u gosod i lawr. Pe buasai Arglwydd Salisbury yn ddigon call ac yn llai nwydwyllt fel ag i basio Mesur yr Etholfraint, buasai wedi gwneyd mwy o gymwynas a'r Arglwyddi nag a'r ddwy filiwn sydd yn dysgwyl yn bryderus am fwynhau y rhagorfraint wleidyddol hon. Yr oedd gwrthodiad y mesur ynddo ei hunan yn ddigon, ond mae ei wrthod mewn dull mor sarhaus, ac am resymau mor wageddus, wedi gyru yr haiarn i galon y werin. Nid llawer sydd yn fyw wedi gweled cyfnod mor gynhyrfus, ac yr ydym yn gobeithio y llyw- odraetbir yr ysbryd cynhyrfus sydd wedi ei greu gan ddoethineb a phwyll. Yn mhob ardal trwy y deyrnas mae yr udgorn yn bloeddio i'r gad, ac y mae swn y miloedd yn ymfyddino yn mhob cyfeiriad. Nid yn unig mae Mesur yr Etholfraint wedi ei daflu allan, ond mae mesurau daionus ereill wedi eu llindagu. Cawsom olwg ar fonedd- iges haner cant oed yr wythnos ddiweddaf sydd wedi digio yn aruthr wrth yr Ar- glwyddi am hyn, oblegid fod y gwrthodiad hwn wedi achosi taflu allan y Deceased Wife Sister Bill, am y gobeithiai hi, mae'n debyg, gael priodi ei brawd-yn-nghyfraith—gwr ei chwaer-yr hwn sydd offeiriad cyfoethog mewn llanerch brydferth iawn. Bellach mae ei gobeithion wedi gwywo, ac y mae wedi ffyrnigo yn echryslawn wrth My Lords." Gwelir felly fod Arglwydd Salisbury wedi tynu tylwyth peryglus yn ei ben. Mae cyfnod cynhyrfus o'u blaen, ond trwy bwyll ac amynedd dygir barn a chyf- iawnder i fuddugoliaeth yn ddyogel. YMADAWIAD MR MOODY.—Am yr wyth mis diweddaf bu Mr Moody yn efengylu yn Llundain, ac yn y gwahanol gyfarfodydd
CYFARFODYDD YR UNDEB YN LLANELLI.
News
Cite
Share
CYFARFODYDD YR UNDEB YN LLANELLI. Bydd y ddau rifyn nesaf o'r TYST A'R DYDD yn cynwys adroddiad helaeth o gyfarfodydd yr Undeb. Bydded i bawb o'n Dosbarthwyr fyddo am gael nifer ychwanegol o'r papyr am y pythefnos nesaf anfon gair i'r Swyddfa erbyn boreu Mawrth o bellaf, gan y bwriedir myned i'r wasg ychydig yn gynarach yr wythnos nesaf.
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. W. L. Griffiths, D. R., a E. H. D.-Cafodd ereill y blaen arnocli y waith hon. Diolch i chwi, er hyny. Mewn Llaw.-Cyfarfod Chwarterol Arfon-Llandilo- Iorwe-rth- Dewi o'r Gad—Gobebydd — Beaufort- Caernarfon—Aberdar—Mvnyddislwyn—J. Evans— Athrofa Ffrwdvâl-Cyfarfodydd, &c. Gan y bydd llawer o'n gofod yn cael ei roi at wa;- auaeth yr Undeb yn y ddau neu dri rhi'yn nesaf, byddwn ddiolchgar i'n gobebwyr arferol am ddefnyddio mesur byr am dro nen rldan er gwneyd lie i faterion pwysig a dyddorol yr Undeb.