Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
Pigion o Bapyrau Ameriea.
News
Cite
Share
Pigion o Bapyrau Ameriea. Yn ystod mis Mai anfonwyd 16,000 o dunelli o lo o Tacoma, W. T., y rhan fwyaf ohono i San Francisco. Am y deng mlynedd ar hugain diweddaf y mae Denmark wedi cynysgaeddu 1,500 o bobl ar gyfar- taledd blynyddol i'r Mormoniaid. Y mae California wedi codi mwy o wenith o 3,000,000 bwsiel nag unrhyw Dalaeth arall yn yr Undeb, ac yn ol y rhagolygon ceidw ar y blaen. Cyfrifir y bydd y cnwd peaches yn Delaware eleni yn cyrhaedd y swm arutbrol o ddeng miliwn o fasgedi. Bydd hyn yn llawer mwy na chnwd mawr 1875. Ar sail 3,000 o atebion i gylchlythyrau a dder- byniodd melinyddion oddiwrth brynwyr ac amaethwyr, dywed Ysgrifenydd Cymdeithas y Melinwyr, yr hon a gyfarfyddodd yn Milwaukie yn ddiweddar, y bydd y cnwd gwenith eleni yn hynod doreithiog, ac yn llawer mwy na chnwd 1882. Wrth gwrs, ni chymerir i ystyriaeth yn y cyfrifiad uchod yr anlIodion a ddichon etogymeryd He cyn y cynauaf. Teimlai llawer yn awr y dylai y Llywodr- aeth roddi maddeuant neu bardwn cyflawn i'r oil a gymerasant ran yn y Gwrthryfel Mawr, gan fod ugain mlynedd wedi myned heibio er ad- feriad heddwcb. Yn diweddar gofynwyd am bardwn i J. R. Waddy, William H. Parker, a Robert D. Thornburn, Virginia James D. John- son a Duncan L. Clinch o Georgia. Rhoddwyd caniatad i Mr. Garland weithio eu bachosion yn mlaeR yn ddioed. Dywedir mai yn Toronto, Canada, y perchir y Sabboth fwyaf o unrhyw ddinas yn y byd. Yr unig ystordai a agorir ydyw y rhai sydd yn gwerthu llaeth a. chyfferi, ac ni chaniateir iddynt hwy aros ya agored ond am awr neu ddwy yn y boreu a'r hwyr. Mae yn newydd da i'r Gwerinwyr, ac ynarwydd- ocaol o bethan da i ddyfod, pan y mae cynifer o newyddiaduron y De yn pleidio Blaine a Logad, yn enwedig yn Virginia. Yn y rhestr cawn yr hen newyddiadur enwog a gallog, y Richmond Whig. Y mae yn Utah yn bresenol 10,000 o dyddynod bychain, pob un ohonynt yn cynwys tua phum' erw ar hugain o dir. Nid oes ond un fferm fawr yn y diriogaeth, a pherchenogir hi gan gwmpeini. Dywed yr Henadur Cannon fod y Llyn HalQn Mawr yn cynwys digon o halen i ddiwallu America am ganrifoedd. Nid oes eisieu ond myned a throl at lan y llyn a gellir ei godi a rhaw. Y mae yn eithaf glan fel y mae, ac nid oes eisieu ond ei falu i'w wneyd yn barod i'w osod ar y bwrdd. Mae y New York Times, perchenog a golygydd yr hwn ydyw Sais o'r enw George Jones, yn gom- edd cefnogi Blaine. Y mae y Times wedi bod erioed, ac y mae yn awr, yn bleidiol i fasnach rydd, ac nid dyma y waith gyntaf iddo ddangos ei bengamrwydd. Mae Jones y fath bleidiwr gwresog i fasnach rydd fel y gwrthoda brynu peirianau argraffu Americanaidd, ac ni ddefnyddia ond rhai o wneuthuriad Seisonig yn ei swyddfa. Nid yw banlawr y Gwerinwyr yn foddhaol i Jones, gan hyny y mae yn nagu. Da iawn hyny. Nid oes rhan na chyfran i ryddfasnachwyr yn y rhengau Gwerinol. Y mae y, Parch. E. Herber Evans wedi derbyn llythyr oddiwrth Henry Ward Beecher. Ym- ddengys fod Mr. Evans wedi gwneuthur rbyw gymwynas iddo, a dyma fel y dywed :—" Every drop of Welsh blood in me thank you, for my great grandmother, Ann Roberts, was a Welsh women. Dygodd yr agerlong Arizona ar ei mordaith ddi- weddaf 506 o ddychweledigion Mormonaidd i'r wlad hon. Fel hyn y cedwir i fyny yr angenfil o amlwreiciaeth yn Nhiriogaeth Utah. Y mae y Senedd Werinol newydd basio mesur i geisio ei ddiwreiddio o'r tir, ond nid oes fawr gobaith y bydd i'r Ty Democrataidd gydsynio ynddo. Mae Dr. Evans (Trelech) yn bwriadu ym- sefydlu yn ein plith. Mae afiechyd ei briod yn gosod angenrhaid arno i symud o Plymouth, ac mae y Doctor o'r farn fod Providence yn lie hynod iachus. Gobeithio y bydd eu dyfodiad i'r lie yn fendith iddynt hwy fel teulu, ac yn fendith i ninau fel ardalwyr. Dywed awdurdodau cyfrifol y bydd i 200,000 o dda byw gael eu prynu yn Texas yn ystod y tym- hor a'u gyru i Colorado, heblaw 50,000 a sicrheir mewn Talaethan Gorllewinol ereill. Bydd iddynt 250,000 o loi, yr hyn a wna gyfanswm o 2,000,000 o wartheg yn Colorado. Cyfrifir y bydd i 750,000 o dda byw gael eu derbyn yn Wichita Falls, canol- fan y fasnach hono yn Ngogledd-ddwyrain Texas..
MR T. D. JONES, PONTYSTYLLOD.
News
Cite
Share
MR T. D. JONES, PONTYSTYLLOD. Daeth afiechyd i'th feichio,—Rhodwy hoff, Ond rhaid i hwn gilio Daw atat iechyd eto, A byddi'n frenin y fro. PEDROGWYSON.
HIR A THODDAID: ISLWYN.
News
Cite
Share
HIR A THODDAID: ISLWYN. Yn ei mawr alaeth, Cymru a wyla Yn brudd ei henaid—ei bardd a huna Ei ddawtMug-ylaidd a'i wen yn Ngwalia, Garai y genedl dan gur a gwyna 0 fardd "Y Nefoedd" i fawredd nofia c Heb arw alar y "Borau Ola' Pur o hyd, swynol parha awd) Islwyn- A'i don, wr addfwyn, pan dauia'r Wyddfa. CAEBONVVR.
PENILLIONj
News
Cite
Share
PENILLION Ar gyflwyniad tysteb i'r Parch E. D. Evans, Brynmawr. Mae ambell destyn liawdd gwncyd can Ar unrhyw fesur arno- Mae met o hvd i awen lau Yn disgyn oddiwrtho Mae blodau gwynion ar bob tu I lwybrau ambell destyn Un felly y w ein tcstyn ni, Yn llawn o flodau dillyn. Cyn d'od yn mlaen at bwnc y gan, Mae'n rhaid i'r awen sefyll, A thynu'i het i'r ddeuddyn glan, A chanu i jdynt benill; Os tei,mla'n swil, rhaid rlioi Hwre I ddal ei llais i fyoy, Ac er mwyn dechreu, dyma fe, Gwnewch chwithau bawb gydganu. I Evans fwyn a'i briod lan Boed hir oes a dedwyddyd, Ac id tynt boed yn ddiwahan Ewynhau cysuron bywyd Os byd i gwmwl dd'od uwehben, Boed ar ei frou er hyny, Fel llusern nef, rhyw soreu wen Yn gwasgar ei golenni. Mae ambell un, fel tynfaen pur, Yn tynu pobpeth ato- Mae aur ac arian, tai a thir, Bob amser ato'n treiglo Ac felly Mrs Evans Ion, Mae'n tynu serch pob ealon A thynodd Evans bach j'w bran, A thyna lie mae'r awrhon. Ar gamrau cyntaf newydd fyd Eich bywyd priodasol, Tra'r ydych fel yn siglo cryd Cysuron y dyfodol, Mae serch yn codi colofn ddrud 0 ddymuniachu calon, Fel gailoch ar eich tÙth drwy'r byd 'Nol ati droi'ch golygon. Pan ii'r cyfeillion mwyn i tfwrdd A roisant hyn o roddi on, Bydd rhai'n yn siarad ar y bwrdd I chwi gyfrolau llawnion Mae mwy nag arian yn mhob un, I chwi mae ynddynt galon, Ac nis gall neb wel'd fel eich hun Y rhoddwyr drwy y rhoddion. Ha, nid yn unig yfed te A choffi gewch drwy'r rhoddion, Ond yfed cysur yn ff, wd gre' A reda at eich calon Bydd hwnw yn ei flas-o hyd, Heb chwerwdcr ar ei donRu- Mwy melus ii o hyd o hyd, Mwy yfed wnewch o'i ffrydiau. Ond er mor dda yw'r rhoddion hyn, Maent ddigon bran i'w tori; Ond bydded braich eich serch yn dyn Am bawb fu yn eu rhoddi: Cydrwyfo wnewch eich dau yn un Dros diinau geirwon bywyd, Nes glanio ar draeth y Ganaan gun Hwnt i bob 'storm ac adfyd. Trecynon. G. GRIFFITHS. «
AGERLONGAU CAERDYDD.
News
Cite
Share
AGERLONGAU CAERDYDD. Gadawodd Owenllian Thomas, s.s., Caerdydd am Genoa, Gorphenaf 12fed, 1884. Gadawodd Iolo Morganwg, s.s., Tornea am Gaerdydd, Gorphenaf 18fv;d, 1884. Gadawodd Anne Thomas, s.s., Boston (Lincoln), am Gaerdydd, Gorphenaf 18fed, 1884. Gadawodd Kate Thomas, s.s., Savona am Constan- tinople, Gorphenaf 17cg, 1884. Cyrhaeddodd Wynnstay, s.s., Savona o Gaerdydd, Gorphenaf 14eg, 1884. Mae Walter Thomas, s.s., yn awr yn Port Said yn cael ei dadlwytho.
ACROSTIC \
News
Cite
Share
ACROSTIC I etifodd a chyntafanedig y I'arch L. James, Brynbanlc, Narberth. Cu faban tlws, hardd acr ei dad, Hoff falchder mam yw'r bachgen måd- Arweddion sy'n ei lygaid syw, Rhaid dyweyd mai ansel bychan yw Lion ydyw gwedd y plentyn bach— E rycha'n ffel, diniwed, iach, Swyn hudol sain ei delyn warn A syna'i dad, gwefreiddia'i fam- Mae fel rhyw angt 1 bach o'r nef, Bydd gofal mawr am dano ef Rhaid dywyd ei fod yn blentyn ffawd- Os da, caed eto chwaer a brawd, Swn tri fo'n adsain lie Effeith 101 sain "teir-rhes," on'teP Jehofa gaffo foliant rhad | Am nertbu'r fam i ymddwyn had; j Mae'r lain yn fyw, a'i baban hardd, Ei ruddiau teg fel rhosyn gardd, Syn drema'i tam, ac arno chwardd. OSSIAN LLAMBED.
MAESTEG.
News
Cite
Share
MAESTEG. Strike.-At yr ami droion ymaeyranfadbeth h wn wedi bod yn beichio y lie hwn, wele ei dalcen pros, a'i grafangau haiarnaidd unwaith eto yn y golwg, a'i roch oerllyd yn aflonyddu ac yn poeni y miloodd trigolion. Nid wyf yn clywed fod perch- enogion a meistri gweithfeydd, mewn lleoedd creill yn ymyryd dim a chyflogau teg eu gweith- wyr, ond yma bron o hyd, yr ydys yn ymhel ag enillion y gweithiwr glo, neu ynte y gweithiwr haiarn. Bydd rhyw section neu gilyddyn barhaua yn cael ei haflonyddu. Rhyw saith wythnos yn ol, rhoddwyd rhybudd fod pawb o'r gweithwyr haiarll yn rhydd ar ben y mis, a maes o law hys- byswyd mai yr amcan mewn golwg oedd gostyng- iad o 5 y cant yn y cyflogau. Pe buasai y gos. tyngiad hwn yn cymeryd lie mewn manau ereill. diau y buasid yn ei gymeryd yn dawel a diddig yma, ond gan nad oes yr un son am dano mewn un man arall, mae y gweithwyr wedi penderfynu sefyll yn ei erbyn doed a ddelo. Policy tlawd yw ceisio gwneyd gwaith i dalu trwy wasgu a llethu amgylchiadau y gweitbiwr, pa rai sydd yn wir isel a chyfyng yn barod. Mae amgylchiadau pawb yn y lie, yn deuluol, masnachol, a chrefydd- ol, yn enwedig y rhai sydd a beichiau trymion arnynt, yn gorfod dyoddef yn dost. Cyfarfod Ordeinio.—Nos Fawrth a dydd Mer- cher, Gorphenaf 15ed a'r 16eg, cynaliwyd cyfar- fodydd i ordeinio Mr W. R. Bowen, o Athrofa Caerfyrddin, yn weinidog i'r hen eglwys barchus yn Carmel. Dechreuwyd trwy weddi y nos gyntaf gan y ProfTeswr Jones, Caerfyrddin, a phregeth- wyd yn effeitbiol iawn. gan y Parch D. Evans, Heol Awst, a Dr Rees, Abertawy. Am ddeg dranoetb, anerchwyd gorseddfainc y gras gan yr Hybarch W. Thomas, Rock, a phregethwyd ar natur eglwys gan Proff. Jones. Yna fe roddwyd y gofyniadau arferol gan y Parch J. Jones, Soar, ac atebwyd hwynt yn glir a chryno, mewn arddull gwylaidd, sobr, a theimladwy iawn gan y gwein. idog ieuanc. Dyrchafwydyr urdd-weddi gan yr 11 y Hybarch Dr Rees yn eifeithiol dros ben, gan fyned a'r bobl yn 11 wyr gydag ef yn eu dymuniadau at y Pen mawr, a phregethwyd siars bwrpasol i'r gweinidog gan y Parch D. Evans, Heol Awst. Am ddau, dechreuwyd gan y Parch D. Williams, Cefncribwr, a phregethwyd gan y Parch D. Morgan, Resolven, ac ar ei ol pregethwyd siars ddifrifol i'r eglwys gan Dr Rees. Yn yr hwyr, dechreuwyd gan Mr Watcyn Wyn, a phregethwyd gan y Parchn D. Williams, Cefncribwr, a Jenkins, Blaenafan. Mae eglwys Carmel yn gryf a cha- ]onog, ac wedi dangos hyny yn amlwg ar ddydd y briodas. Ar y bwrdd yn y set fawr gwelsom rai degau o gyfrolau gwerthfawr-gwerth o .£15 i .£20, pa rai a gyflwynwyd yn gynes gan eglwys Carmel i'r Parch W. R. Bowen ar ddechreu ei wcinidogaeth. Nid pawb sydd a chalon i wneyd hyn, ac nid pawb sydd a llygad ganddynt i weled dim yn yr ymddygiad hwn yn deilwng o efelych- iad. Well done, Carmel, ti a wnaethost yn dda, ond paid ag aros fan yna, ond dos rhagot, ac yr wyt yn sicr o fod ar. dy enill. Wrth roddi set o dools mor rhagorol, yr wyt yn golygu i'r brawd i wneyd gwaith mawr, ac yn ol pob hanes y maeyn siwr o'i wneyd, ond iddo ef ar y naill law gofio siars y gwr eawog o Gaerfyrddin ac i tithau ar y Haw arall wneyd siars ddifrifol Cadeirydd Undeb mawr Lloegr a Chynnu. Boed felly. Galwad i Weinidog.—Deallwn fod y Parch W. Tibbot, gynt o'r Fochriw, wedi derbyn galwad daer ac unfrydol oddiwrth hen eglwys barchus Brynmenyn, ger Penybont. Ni raid i Mr Tibbot wrth lythyrau canmoliaeth, fel dyn, Cristion, na phregothwr. Hyderwn y bydd i feddwl y brawd gael ei gyfarwyddo i ateb yn gadarnhaol, ac y bydd i fendith y Nef fod ar yr undeb. 'GOHEBYDD.