Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Colofn y Dadgysylltiad.
News
Cite
Share
Colofn y Dadgysylltiad. Mae yn ofaus bellach na chaiff Mr Dillwyn gyfle y tymhor hwn i osod achos yr Eglwys yn Nghymru ger bron Ty y Cyffredin. Yr oedd wedi sicrhau y lie blaenaf nos Fawrth, y 29ain cyfisol, ond erbyn byn y mae y Llywodraeth wedi meddianu pob nos Fawrth a dydd Mercher hyd ddiwedd y tymbor. Oherwydd fod y rrorïaid yn rhwystro cymaint ar waith y Ty y mae Supply ar ol, ac nid oedd dim i'w wneyd ond amddifadu aelodau preifat o'u nosweithiau. Nid oes un lIe i feio yr aelod anrbydeddus dros Abertawy na buasai y mater wedi ei ddwyn yn mlaen yn mhell cyn hyn gwnaeth ef bob ymgais, ond yr oedd rheolau y Ty yn ei erbyn. Diau y bydd iddo gymeryd y cyfle cyntaf pan ymgyferfydd y tymhor nesaf. Yn y cyfamser y mae o'r pwys mwyaf na byddo y pwnc yn cael ei adael i gysgu yn y Dywysogaeth. Nid yw misoedd yr haf yn adeg i ddwyn mater fel hwn ger bron y cyhoedd, ond gofaler yn mhob ardal am fod yn barod erbyn yr Hydref i ail gychwyn yr ymgyreh gyda mwy o nerth nag hyd yn nod yn y gauaf diweddaf. Y mae yn sicr y cleddir pob peth arall i raddau am ryw ysbaid gan y cyffro yn nghylch mesur yr Etholfraint a Thy yr Arglwyddi ond bydd y eyffro hwn yn fantais i godi Dadgysylltiad i fwy o sylw, a dylid gwneyd defnydd llawn ohoni. Y mae Ty yr Arglwyddi ar ffordd eydraddoldeb gwleidyddol, fel y mae yr Eglwys Sefydledig ar ffordd eydraddoldeb cref- yddol, ac unwaith y coda y don yn ddigon ucbel i ysgubo ymaith y naill, ni raid aros yn hir i weled dymchweliad y liall. Yr unig gwestiwn yn awr ydyw cadw y dyfroedd yn ddigon byw, a diau y gwneir hyny. Ychydig amser yn ol bu Cymdeithas Amddiffynol yr Eglwys yn cynal ei chyfarfod blynyddol yn ystafelloedd y Gymdeithas Genedlaetbol. Llyw- yddid y gweithrediadau gan Iarll Powys. Cafodd sefyllfa yr Eglwys yn Nghymru gryn sylw. Cyfeiriodd Mr F. S. Powell ati yn yr adroddiad arianol, a dywedodd fod ei sefyllfa yn well allan na'u gobeithion a'u dysgwyliadau fod achos yr Eglwys yn Nghymru yn achos cynyddol, a bod barn y cyhoedd, yn lie rhedeg oddiwrthynt, yn troi yn eu ffafr. Y dylent gofio mai ar y rhan wanaf o'r amddiffynfa yr ymosodid gyntaf, ond fod yr Eglwys yn Nghymru yn rban o'r Eglwys yn Lloegr, a bod yn rhaid i Eglwyswyr Lloegr gyfranogi o lwyddiant a thrallodion eu brodyr Cymreig. Dywedai Iarll Egerton na fu yr ym- osodiad ar yr Eglwys erioed yn fwy ffyrnig nag yw yn awr, ac wrth amddiffyn yr Eglwys yn Ngbymru eu bod yn amddiffyn adran banfodol o Eglwys Loegr. Rhoddwyd mynegiad i syniadau tebyg gan y Cadeirydd a siaradwyr ereill. Yn awr y mae yn amlwg y teimla y gwyr hyn fod y sefydliad yn Nghymru mewn perygl, ac nid eu cariad at eu brodyr yn y Dywysogaeth sydd yn peri eu bod yn pryderu cymaint yn nghylch eu dyfodol. Na, gwybod y maent pe dadgysylltid yr Eglwys yn Nghymru na byddai oes y sefydliad yn Lloegr ond o fyr barhad. Beth barodd i Mr F. S. Powell freuddwydio fod y llanw yn troi o blaid y sefydliad yn Nghymru ? Ni fu y wlad erioed mor barod i Ddadgysylltiad ag yw heddyw, ac y mae yn myned yn gryfach bob dydd. Ai tybed ei fod yn casglu hyny oddiwrth y deisebau sgriw a an- fonwyd i'r Senedd ? Ond cyn pen ychydig fisoedd cto bydd sgriw sir Aberteifi a Llanelli yn rhy wan i symud un Y.mneillduwr oddiwrth ei egwydd- orion. Y mae Deon Edwards, yr unig un a allasai droi ycbydig ar y llanw dadgysylltiol, wedi myned, ac ni raid i neb heblaw Eglwyswyr bryderu am y dyfodol. Yr wythnos ddiweddaf bu farw Dr Jacobson, cyn-esgob Caer. Gwr gallmog a dysgedig, a chyfaill mawr i Mr Gladstone. Hwyrach na wyr pawb o'n darllenwyr mai hen Ymneillduwr ydoedd, ac iddo ddechreu pregethu gyda'l' Annibynvvyr. Bu yn fyfyriwr yn Ngholeg Homerton, os nad hefyd yn Mill Hill. Nid eiddilwch meddyliol, fel y mae yn dygwydd y rhan fynychaf, a barodd iddo ef fyned i gorlan yr Eglwys Lan Gatholig, oher. wvdd yr oedd yn mhob ystyr yn un a fuasai yn an. rhydedd i unrhyw enwad. Gadawodd ef Ymneill- duaeth oherwydd trahausder ac angharedigrwydd un o ddiaconiaid rhyw gapel y pregethai ynddo pan yn fyfyriwr. Ymddengys y byddai Dr Jacobson yn arfer darllen ei bregethau, a gwnaeth byny y tro hwnw. Er fod ganddo bregeth orchestol, digiodd y diacon wrtho yn erwin am na buasai wedi ei dysgu allan, ac ar y diwedd ym- osododd ar y pregethwr ieuanc yn y modd mwyaf anheilwng o swyddog a Christion ac oherwydd yr ymddygiad anfoneddigaidd hwn, collodd Anni- byniaeth yn Lloegr un a fuasai yn sefyll ocbr yn ochr a'i meibion galluocaf. Yn awr nid ydym yn dadleu o blaid darllen pregethau, nac yn bwriadu amddiffyn Dr Jacobson am adael i'w dymher ei lywodraethu, ond yr ydym yn galw sylw at y ffaith er mwyn gosod yr Eglwysi Rhyddion ar eu gwyliadwriaeth rhag i drabausder a hyfder hollbwysig fod yn achlysur i beri colled iddynt. Nid ydym am foment yn tybio fod pregethu uwchlaw beirniadaeth, na bod pregeth- wyr uwchlaw yr angen am gynghor, ond yr ydym yn tybio nad oes gan un swyddog nac aelod mewn Eglwys Rydd bawl i osod ei hunan yn oracl, a gwrando pob pregethwr, nid fel pechadur, ond fel beirniad, ac ar y diwedd cyboeddi condemniad ar bob un fyddheb fod i fyny &'i safon ef. Nid oes ond y profiadol wyr gymaint y mae pregethwyr ieuainc yn orfod ddyoddef oddiwrth yr oraclau hyn, ac ni buasai yn syndod mawr pe yr aethai rbagor o'u gwyr galluog a meddylgar ar hyd yr un llwybr a Dr Jacobson. NONCON.
Y Golofn Wleidyddol. ----.------
News
Cite
Share
Y Golofn Wleidyddol. Methiant fu yr ymdrech i gael yr Arglwyddi Toriaidd a mwyafrif Ty y Cyffredin i gymod â'u gilydd. Yn ei araeth i'w gefnogwyr yn y Swyddfa Dramor, gollyngodd Mr Gladstone gyfrinach allan, a mawr fu yr helynt mewn canlyniad. Dywedodd fod Iarll Granville, ar ran y Weinyddiaeth, ar noson olaf y ddadl ar Fesur yr Etholfraint, wedi cynyg i'r Toriaid- o leiaf i'r arweinwyr-ffordd o'r dyryswch drwy gael awdurdod y Goron i sicrhau y byddai Senedd yn eyfarfod yn yr Hydref i ddwyn Mesur Ad-drefniad yr Eisteddleoedd ger bron. Cwyn y Toriaid yn y ddau Dy ydyw fod Mesur yr Etholfraint yn cael ei basio cyn gweled Mesur yr Ad-drefniad. Gwyr y cyfarwydd mai rhagrith i gyd yw hyn. Y gwir ydyw eu bod yn erbyn reform yn gyfarigwbl, ac yn ben- derfynol, os gallant, o fynu un etholiad eto o leiaf ar yr hen gofrestr. Ond os oedd cwyn gwirioneddol ganddynt, cynygiodd Mr Glad- stone, fel sicrwydd o wir fwriad y Weinydd- iaeth ar y mater, i gael eisteddiad yn yr Hydref 1 gymeryd Ad-drefniad yr Eisteddleoedd o dan sylw. Gwrthodwyd y cynygiad gan Salisbury a Cairns, ac ni fynegasant i'w plaid fod y fath gynygiad wedi ei roddi iddynt. Pan ddaeth y peth yn hysbys, teimlai llawer o'r Toriaid yn anfoddlon iawn fod yr arweinwyr wedi cadw y cynygiad yn ddirgel iddynt eu hunain, oblegid pe gwybuasai amryw am dano buasai eu pleid- lais o blaid ail-ddarlleniad y mesur. Gwnaeth y dynoethiad hwn o eiddo Mr Gladstone i Ardalydd Salisbury deimlo yn gynddeiriog, ac ymosododd dranoeth yn Nhy yr Arglwyddi ar Iarll Granville a'r Weinyddiaeth am ddatguddio cyfrinach. Gwnaed yr un peth ar Mr Glad- stone, yn y Ty Cyffredin, gan Arglwydd Ran- dolph Churchill; ond atebiad y Prifweinidog i'r cwbl ydoedd mai nid cyfrinachol oedd y cynyg- iad. Nis gallasai dim fod yn fwy niweidiol i'r Toriaid yn ngolwg y wlad, a llawer o'u plaid eu hunain. Dyma gyfleusdra ar yr awr olaf yn cael ei roddi iddynt, a hwythau yn ei wrthod. O'r ochr arall, nis gallai dim fod yn well i Mr Gladstone a'i Weinyddiaeth yn ngolwg y wlad na'u bod wedi ceisio yn mhob ffordd deg a chyf- reithlon atal y gwrthdarawiad annymunol sydd wedi eymeryd lie rhwng y ddau Dy. Yn yr ymdrech yn awr sydd yn rhwym o gymeryd lie, bydd hyn yn fantais i'r Rhyddfrydwyr. Ar ol i hyn ddyfod i'r golwg dyfeisiodd Ar- glwydd Wemyss lwybr arall i'r Toriaid ddyfod o'r trybini yr aethant iddo. Cynygiodd eu bod i fyned yn mlaen a Mesur yr Etholfraint, a bod eais yn cael ei wneyd at ei Mawrhydi yn dy- muno arni alw y Senedd yn nghyd yn gynar yn yr Hydref i gymeryd dan ystyriaeth Ad-drefn- iad yr Eisteddleoedd. Boddlonodd Arglwydd Granville, ar ran y Weinyddiaeth, i dderbyn y cynygiad, ond gwrthwynebwyd ef i'r eithaf gan Salisbury ac ereill. Bu cyfarfod yn y Carlton Club gan y Toriaid ddydd Mawrth i ystyried pa lwybr i'w gymeryd ar y cynygiad. Yr oedd Wemyss yno, ac wrth bob tebyg yn unig ar y mater, ond teimlai llawer y buasai yn dda ganddynt gael llwybr anrhydeddus i ddyfod I allan o'r perygl. Safai Salisbury yn dyn dros ei gynllun gwreiddiol-gwrthod y mesur allan I ac allan. Hwyrach y buasai gwell mantais gan y cynygiad pe buasai rhywun heblaw Wemyss fe yn ei ddwyn yn mlaen. Nid yw efe yn boblog- aidd o gwbl; un o aelodau y meinciau croesion yw efe, ac y mae ganddo cross bench mind." Yn ddiweddar yr aeth i Dy yr Arglwyddi, pan fu farw ei dad. Bu am flynyddoedd yn aelod o'r Ty Cyffredin, ac adnabyddid ef wrth yr enw Arglwydd Elcho. Medda allu, ond y mae yn bur ddiddal. Proffesai am dymhor fod yn Rhyddfrydwr; cafodd ei siomi am swydd, ac aeth i'r ochr arall. Nid yw bob amser yn ffyddlon iddynt hwy, ac yn herwydd ei anwad. alweh a phethau ereill prin y ceir neb i'w ganlyn hyd yn nod pan fyddo ar yr iawn. Dydd Iau y dygodd ei gynygiad yn mlaen, ac eiliwyd ef gan Arglwydd Shaftesbury, yr hwn, oddiar ei wybodaeth o'r bobl yn gyffredin, a geisiodd berswadio y Ty i beidio a dyfod i wrthdarawiad a'r werin, neu buasent yn sicr o gael y gwaethaf. Ni wrandawai Salisbury ac ereill ar na rhybudd na chyngor. Aed i bleidlais, a chaed 132 dros, ac 182 yn erbyn y cynygiad-50 o fwyafrif yn erbyn. Gwelir fod y mwyafrif yn myned yn llai o hyd. Yr oedd 59 o fwyafrif ar yr ail. ddarlleniad, ac yr oedd hwnw yn llawer llai nag a arferai fod yn erbyn y Weinyddiaeth yn Nhy yr Arglwyddi. Yr oedd nifer yr esgobion yn llai y tro diweddaf (8 yn unig a bleidleisiodd- 7 dros, ac 1 yn erbyn). Paham y bu hyn, tybed P Un esboniad a roddid oedd, fod y mater yn bwnc plaid bellach, ac nid oedd yr esgobion am ei gymeryd i fyny fel pwnc plaid. Gwell fuasai iddynt ychwanegu eu nifer yn hytrach na'i leihau. Rhaid iddynt hwythau fyned o dan yr oruchwyliaeth pan ddaw reform y Ty dan sylw. I: Bellach, nid oes dim ond aros hyd yr Hydref. Anfonir y mesur i fyny drachefn i'r Arglwyddi, a phur debyg y derbynir ef ganddynt. Cymer amryw bethau le cyn hyny. Rhoddir mynegiad clir a diamwys i farn y wlad, a cheir gweled pwy sydd drechaf. Teimla llawer o Rydd- frydwyr mai gwell i'w hachos hwy fyddai i'r Arglwyddi daflu y mesur allan eto, a hyny a obeithiant, am y bydd hyny yn prysuro cwymp y Ty sydd yn gymaint o rwystr ar ffordd pob gwelliant. Mae Ty yr Arglwyddi yn cyfyngu ar fesurau o'u cychwyniad. Pan fyddo Cabinet Ryddfiydig yn ystyried mesur, rhaid iddynt ofyn, nid beth sydd yn iawn, na pheth sydd ar y tolad eisieu, ond beth ellir basio trwy Dy yr Arglwyddi. Onid yw hyn yn warthus mewn gwlad fod hon ? Pa hyd y goddefir byn mwyach ? Diolch i'r 'Arglwyddi am alw sylw at yr achos yn awr. Gwneir v Ty i fyny o bendefigion anghyfrifol, a rhoddir iddynt allu i atal pob mesur a basia cynrychiolwyr y bobl. Pan ddaw etholiad cyffredinol, bydd Ty yr Arglwyddi yn sicr o gael sylw yn mhob man, ac ni ddylid gadael yr un Rhyddfrydwr fyned o Gymru heb gael addewid bendant ganddo ei fod yn barod, ac y gwna ei oreu i gael diwygiad yn y Ty hwnw yn ddioedi. Mae mawr angen am welliant eto yn rheolau y Ty Cyffredin. Traddododd Mr Gladstone araeth yn yr Eighty Club, nos Wener wythnos i'r diweddaf, yn yr hon y gosodai bwys neillduol ar yr angenrheid. rwydd am ddiwygiad yn rheolau gwaith y Ty. Dywedai fod yr hen reolau oedd wedi bod yn ddigonol pan \geid dynion anrhydeddus i'w defnyddio wedi myned yn allu yn nwylaw aelodau distadlaf y Ty i rwystro gwaith. Yr oedd yr araeth hono yn manifesto i'r wlad, yn gystal ag yn araeth i aelodau y clwb. Yr oedd efe yn llawn yni a bywyd, ac yn barod i waith, a thcimlai eiddigedd sanctaidd dros urddas ac anrhydedd y Ty y mae efe wedi bod yn brif addurn iddo am flynyddoedd lawer. Dirwynir y Senedd-dymhor eleni i fyny tua dechreu Awst ar ol pasio votes y Supply, ond ofnir y gwna y rhwystro a'r dadleu beri i'r tymhor fod yn ddiweddarach. Gresyn fod cynifer o fesurau gwerthfawr wedi eu taflu dros y bwrdd- mesurau ag y mae y fath angen am danynt; ond nid oedd dim i'w wneyd o dan yr amgylch- iadau, ac mae yn bosibl y try y golled yn enill yn y pen draw. Mae yn anhawdd meddwl am unrhyw aberth yn ormod i'w wneyd os bydd diddymiad Ty yr Arglwyddi yn ei ffurf bresenol yn ganlyniad iddo. GWLEIDYDDWB.