Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

YR ETHOLFRAINT — ARDDANGOS-…

News
Cite
Share

YR ETHOLFRAINT — ARDDANGOS- I IAD MAWREDDOG—GORYMDAITH j ARUTHEOL YN LLITNDAIN. E MAE gwaith Ty yr Arglwyddi yn taflu allan y Mesur o Helaethiad y Bleidlais, wedi cynhyrfu yr holl wlad drwyddi. Cynaliwyd yn ystod yr wythnos ddiweddaf luaws o gyfarfodydd mewn gwahanol drefi, yn mlia rai y pasiwyd pender- fyniadau cryfion yn datgan anghymeradwyaeth. i waith yr Arglwyddi, a chafwyd yn Llundain dydd Llun diweddaf un o'r demonstrations mwyaf mawreddog a welwyd yno erioed. Yr oedd pawb a phob peth wedi eu llyncu i fyny gan yr orymdaith, a gallesid meddwl fod hoil. drigolion Lloegr wedi crynho,-i yn Llundain. dydd Llun, gan mor lluosog yr ymddangosent, a hyny o bwrpas i gadarnhaa breichiau y Lly w- odraeth, ac i anghymeradwyo gwaith Ty yr' Arglwyddi 301 taflu allan lesur Helaethiad yr' etholfraint. Yr oedd trefniadau yr orymdaith agos yn berffaith. Yr oeddid wedi trefnu i'r I gwahanol gymdeithasau i gyfarfod mewajrianau neillduol, ac mor gyifeus i'w gilydd fel y gallas- ent mewn eiliad gychwyn yn un orymdaith ddi- dor. Ar adeg benodol gollyngwydf allari rocket, a dyna oedd yr arwydd i gychwyn ami Hyde Park. Cychwynwyd yn un fyddin gref, gyda banerau amryiiw, a lluaws o seindyrf pres. Yr oedd masnach a thrafnidaeth o bob math wedi eu llwyr atal—yr omnibuses\a.'v cabs, a phob rhyw fath bethau yn gorfod troi o'r neilldu, a rhoddi v prif heolydd yn llwyr at wasanaeth meibion llafur. Brithid yr orym- daith gyda banerau, ac arnynt arwyddeiriau neillduol, pa rai oedd yn arddangosiad lied cglur o feddyliau y bobl a'u cariai, megys, Will the Lords defy the Labourers ?" We demand the vote-our right." We claim the Franchise for two million fellow coun- trymen." Peers your days are numbered." We march to victory," "We have petitioned, we now demand," In memory of the House of Lords," &c., &c. Cymerai yr orymdaith dair awr o amser i basio unrhyw fan. Bernir fod ynddi rhwng 70,000 a 100,000. Yr oedd holl fawrion y ddinas wedi dyfod allan i gael golwg ar yr arddangosiad, ac yn eu plith yr oedd Tywysog a Thywysoges Cymru, tair o'u merched, lluaws o arglwyddi ac aelodau Seneddol, &c. Gan fod yr orymdaith yn myned heibio y Senedd-dai, ac yn eymeryd tair awr i basio, yr oedd Mr Gladstone mewn tipyn o bcnbleth pa fodd y cyrhaeddai y Ty, gan nad gwiw meddwl am wasanaeth cerbyd, felly gwnaeth ei lwybr goreu gallai ar draed; ond ni bu yn hir yn gwneyd ei ffordd drwy y dorf cyn i rywun ei adnabod, a dyma hi yn "Hwre" fawr nes dadseinio yr oil gymydogaeth, a. chwifio hetiau a neisedu. Gwnaed llwybr rhydd iddo, a chydgerddai a'r dorf, gan wenu a bowio hyd nes iddo gyrhaedd St. Stephen. Aeth yr orymdaith rhag ei blaen nes cyrhaedd Hyde Park tua phump o'r gloch. Yno yr oedd saith o esgynloriau wedi eu codi tua 200 llathen rhwng y naill a'r Hall, felly yr oedd saith o foneddigion yn siarad ar yr un adeg, a'r Daill heb fod yn rhwystr i'r llall. Gwasanaethai y boneddigion canlynol fel cadeirwyr:—Mri J. Collings, A.S., W. S. Caine, A.S., H. Broad. hurst, A.S., T. C. Clarke, A.S., S. Storey, A.S., Syr Wilfrid Lawson, A.S., a Thorold Rogers, A.S. Yn mhlith y siaradwyr oeddynt Mri John Moble, Alfred Simmons, Joseph Arch, Syr John Bennett, George Howell, Carvell Williams, Henry Spicer, Benjamin Lucroft, Proffeswr Beesley, &c. &c. Yr oedd y prif atdyniad o gylch esgynlawr Syr Wilfrid; cadwai y dorf aruthrol yn ferw gan ei hyawdl- cdd. Dywedai fod Syr Stafford Northcote yn %-ofyn ychydig amser yn ol pa brawf oedd fod y flsabl yn ymofyn y bleidlais. Pe buasai Syr Stafford yn bresenol y diwrnod hwnw yn ystrydoedd Llundain neu y pare, eawsai atebiad 4ilgansyniad i'w ofyniad. Ar fcl rhyw awr o areithio, pasiwyd pender- fyniad ,yr un amser oddiar y saith esgynlawr, ya nghancl brwdfrydedd ac unoliaeth, mewn iaith gref ye datgan anghymeradwyaeth hollol i waith yr Arglwyddi yn taflu allan y mesur, ac yn cymeradwye gwaith Mr Gladstone yn anog Ei Mawrhydi i w^hodd y Senedd i gyfarfod yn yr llydref, a'i bep^srfyQiad i anfon y mesur i fyny eta i Dy yr Arglwyddi. Datganai hefyd farn lied groew ar y gwrthuni fod Ty yr Ar- glwyddi yn meddu hawl i atal a rhwystro mesurau butldiol a phwyeig, y rhai y mae cynrychiolwjr y bobl wedi cytuno firnynt. Mae y demonstration hwn yn LIundain, dydd Lluu diweddai, yn sicr o wneyd ei 61 er'daioqi, a chyn y daw yr Hydref, dysgwyliwn y bydd pob pentref a thref trwy ein gwlad wedi siarad allan yn ddigamtsyniol yn ysbryd y pender- fyniad uchod.

[No title]

"Y GWYE 1EUAIN C."