Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

"Y GWYE 1EUAIN C."

♦ CYFUNDEB GOGLEDDOL MORGANWG.

0 AMERICA. -

News
Cite
Share

0 AMERICA. GAN Y PARCH. D. JONES, B.A., ABERTAWY. Yn nghymydogaethau y chwareli yn Vermont a Washington teimlais fel pe buaswn yn Ffestiniog nen Bethesda, yn Arfon, oblegid Cymry oidiyno sydd gan arnlaf yn y lleoedd hyny. Ni chyfar- fyddais ond ag un Hwntw (Southmah) yn yr holl gylch. Yr oedd hwn o Ddinas Powys, ger Caer- dydd. Daeth i'r wlad hon tuag ugain mlynedd yn ol, ac ymsefydlodd yn Goldsmith, ger Fair Haven. Llonwyd fy ysbryd wrth gyfarfod ag ami un a adwaenwn yn Bethesda, a lluaws o blant ac wyrion i ben bobl dduwiol a adwaenwn yn dda. Mae'r olwg arnynt, ar eu capeli, ac ar eu tai a'u byrddau arlwyedig yn brawf eu bod mown am- gylchiadau cysurus. Nid wyf yn dyweyd eu bod oil yn gyfoethog, ond credwyf eu bod oil yn well eu hamgylchiadan nag- oeddynt yn Nghymru, ac yn well o bosibl nag y buasent pe wedi aros yno; tra y mae rhai wedi llwyddo yn dda, nes gallu byw mewn palasau, a myned o gwmpas yn eu cerbydau, ond heb anghofio eu hiaith, eu crefydd, na'u i lletygarwcb. Derbyniais yn Vermont a Washing- ton garedigrwydd tahwot i'm dysgwyliad, a chefais groesaw o teilwng dywysog. Dyma fi yn fy ol i Utica. Teimlad chwithig i mi cedd myned i'r capel i bregethu am un o'r gloch y Sabboth, a thrachefn am saith yn yr hwyr. Mae tablet o farmor gwyn, ac arysgrifen o lythyr- enau euraidd, yn goffadwriaeth am yr anwyl a'r diweddar Barch W. B. Joseph, wedi ei gosod i fyny yn y capel. Telais ymweliad a'r gladdfa, yr hon yw yr ardderchocaf a welais erioed, a chefais y boddhad pruddaidd o sefyll ar fan fec'nan ei fedd ac er fod y blodau a ddygaswn oddiwrth ei weddw alarus i'w gosod ar ei fedd wedi gwywo, yr oeddent ar y bedd yn ddynodiadol o'r hyn oedd oddifewn. Pan yn sefyll yn y fan gysegredig hono, toddodd fy natur yn llymaid, ac nis gallaswn atal dagrau galar a hiraeth. Mae Dr Gwesyn Jones wedi gwella yn rhagorol, ac yn edrych mor debyg i'r hyn ydoedd yn Merthyr, fel peyr elai yno am dro ni, chawsui ei gyfeillion un drafferth i'w adnabod. Y mae yn ddedwydd a llwyddianus iawn yn ei waith. Wrth ddisgyn o'r tren yn West Winfield pwy a'm cyffarfyddai, gyda gwen a sirioldeb perfehynol i'r teulu, ond John Stephens, mab i'm hen gyfaill y diweddar Barch J. Stephens, Brychgoed, D.C. Da genyf oedd ei weled mewn cartref mor glyd, gyaa'i wraig newydd spon, ac mor siriol a phe buasai yn Gymra.es. Mae ef yn cael byd da yma trwy ganu. Efe sydd yn arwain y canu yn y capel yma, ac y maent yn canu yn dda. Peth dyeithr i mi oedd cael cyhoeddiad i bregethu mown capel Seisonig ar noson waith, ond mwyn- heais fy htm yn fawr yn mysg y Saeson. Ar y ffordd o West Winfield i Plainfield, gwelais am y tro cyntaf deulu o American Indians. Yr oedd yr olwg arnynt, ac ar bobpeth o gwmpas eu caban llwm, yn awgrymu i mi nad oedd ganddynt syniad uwch am gysuron bywyd na cheisio dal corlf ac enaid wrth eu gilydd rywsut. Boddhad i gywrein- rwydd, er hyny, oedd ciel golwg ar deulu o Indi- aid Americanaidd. Drwg oedd genyf ddeall fod y Parch. H. R. Williams yn gorfod rhoddi eglwys Plainfield i fyny oherwydd gwaeledd iechyd. Yr oeddwn weli clywed llawero son am Water- ville, ac ymawyddwn i gael golwg arno. Gyda'm bod yn disgyn o'r tren, dyma las Cymro yn fy- nghyfarch ya Gymraeg wrth fy enw, fel pe yr ad- waenasai ft er's blynyddoedd, ac ya fy- ngbymeryd i'w gartref. Pwy oedd ond Mr H. R. Thomas, brawd i'm bauwyJ gyfaill y Parch R. Thomas, Glandwr, i\i>ertawy. Mae Mr Thomas yn un o fasrraehwyr mwyaf cyfrifol a llwyddianus y lie, ac etc a'i briod yn gorfforiad caredigrwydd. Nid yn futwa yr anghofiaf y prydnawn dedwydd dreuliodd fty hen gyfaill dyddan y Parch T. Jenkins, WateBi- ville (Salem, Mertbyr, gynt), ei briod, a minau, yn nhy Mr Thomas. Dyma un o'r lleoedd tly 00 f\' a welais erioed, a llawenydd oedd genyf weled Mr Jenkins a'i linynau wedi syrthio mewn lie mor hyfryd, a'i fod wedi cael etifeddiaeth mor deg i orphen ei ddyddiau. Mae Mrs Jenkins yn son am dalu ymweliad a'r Hen WJad yn yr Hydref. Paa gyrhaeddais Holland Patent, pwy oedd yno yn fy ngbyfarfod ond Idrisyn, mab fy hen gyfaill a'm cydfyfyriwr y Parch Josiah Jones, Machyn- lletb. Y mae yn a wr yn Yale College, ac yn treulio gwyliau yr haf i supplyo eglwysi Teuton a Holland Patent. Yn New York Mills gwelais beth Badoes ond ycbydig iawn yn y byd, ehwaethach America, ond fy hunan, wedi ei weled, sef peiriani i lispK) papyr am oranges. Cymro o'r enw T. Williams, o gyniydogaethpwllbeli,yw ei gynlliinydd a'i wn,-mth-- urwr. Yr oeddwn yn aros yn ei dy dros nos, a, boreu dranoeth dangosodd i mi y peiriant yra gweithio gydag hwylusdod. Y mae yn gywrain dros ben, ac eto yn syml anarferol yn ei weith- rediad. Saer coed yn y felin gotwm yw T. Wil- liams, ond, os na ddygwyddiddoryw anffawdd neu anghyfiawnder, bydd y peiriant bychan hwn yn fortune iddo. Treuliais foreu Sabboth dedwydd gyda'r hen frawd difyrus y Parch W. D. Williams, Deerfield, yr hwn a dalodd ymweliad a'r Hen Wlad 1R mlynedd yn ol. Brodor ydyw o Troedrhiwdalar, ond, erbyn hyn, y mae yn Yankee trwyadl. Wedi treulio gweddill y Sabboth yn Utica, aethum i Remsen, Bethel, ac i'r Cyfarfod Chwar- terol yn Trenton. Yno cefais y pleser o weled y brodyr a berthynant i gyfarfod chwarterol Oneida, ac yr wyf yn meddwl eu bod oil yn bresenol,. beb un yn eisieu. Yn en plith yr oedd Mr Sand, brook, myfyriwr yn Ngholeg Yale, mab i fy heir gyfeillion James a Mary Sandbrook, a brawd i ar- weinydd y gan yn bresenol yn Soar, Merthyr. Derbynied y fravvdoliaeth yn Oneida fy niolch- garwch am eu sirioldeb a'u caredigrwydd. Yr wythnos ddilynol aeth fy hen gyfaill Dr Gwesyn Jones a minau i gynal cyfaefodydd pregethu ya Fairview aSiloam, Catarangus. Yn foreu dranoeth cychwynodd fy hen gyfaill Gwesyn a minau am y Niagara. Falls. Wedi teithio am saith o oriau cyrbaeddasom y fan, a chefais yr olygfa. yr- hiraetbais am dani dros lawer o flynyddoedd.. Ni cheisiaf ei desgrifio, canys y mae i mi, beth bynag, yn annesgrifiadwy, ond nis gallaf byth ei hanghofio. Yno bu raid i ni ganu yn iach i'n gilydd, Gwesyn yn cymeryd un cyfeiriad tuag Utica, a niinau tuag Hyde Park, ac wedi teithio ar byd y nos cyrhaeddais dy fy nai, T. W. Davies, erbyn 8 o'r gloch y boreu, ac wele fi yn y Wyoming Valley, neu Gwm Rhondda A-merica.

YMYLON Y ITORDD. -