Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
"Y GWYE 1EUAIN C."
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
"Y GWYE 1EUAIN C." GAN Y PARCH. E ROBERTS, BESRIEW. Y gwyr ieuaine yr un ffunud cynghora i fod yn sobr."—^Titus ii. 6. BODOLA Cristionogaeth yn y byd i amcan neill- duol. Nid yw yn gymdeithas y gellir ei hebgor heb effeithio i raddau helaeth iawn ar sefyllfa y wladwriaeth. Y mae yn angenrhaid gwirioneddol ac hanfodol. Crefydd gymdeithaaol ydyw, ac o ganlyniad y mae yn rhwym o effeithio ar gym- deithas er daioni. Gwnaeth hyn yn y gorphenol, gwna hyn yn y presenol, a bydd iddi wneyd hyn yn y dyfodol. Yr hyn ydyw yr ager i'r peiriant, dyna ydyw Cristionogaeth i gymdeitbas. Gallu rhyfeddol yr ager sydd yn symud gwahanol aelod- au y peiriant, ac yn achosi iddynt gyflawni en gwaith gosodedig gyda manyldra a chywirdeb; felly, pan y bydd yabryd ac egwyddorion y gref- ydd hon wedi trwytho y teulu dynol yn drwyadl, bydd ei wahanol aelodau yn cyflawni eu dyled- swyddau er gogoniant i Dduw, er lleshad eu cyd- greaduriaid, ac er anrhydedd iddynt eu hunaiu. Fel crefydd gymdeithasol, y mae Cristionogaeth yn argymbell dyledswyddau cymdeithasol. Amcan mawr y grefydd hon ydyw, dwyn dynion i gydna- bod ac i gyflawni eu dyledswyddau tuag at Dduw, a thuag at eu cyd-greaduriaid. Ceir fod yr ath- rawiaeth iachus y mae Paul yn cymhell Titus i'w llefaru yn dysgu eu gwahanol ddyledswyddau i
♦ CYFUNDEB GOGLEDDOL MORGANWG.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
♦ CYFUNDEB GOGLEDDOL MORGANWG. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfuudeb uehod yn y Gwernllwyn, Dowlais, nos Lun a dydd Mawrth, Gorphenaf Meg a'r 15fed. Pregethwyd y nos gyntaf gan Mri Thomas, Penrhiwceibr, a Williams, Nebo, Hirwaun. Dydd Mawrth, am 10.30, cynaliwyd y Gy- nadledd, pryd yr oedd yn bresenol Mri D. E. Williams, Hirwaun, yn y gadair; J. Thomas, Merthyr, Ysgrifenydd; J. Morgan, Cwmbach; B. Griffiths, Cefn R. Evans, Troedyrhiw; T. Williams, Gwaelodygarth; T. Jenkins, America!; D. C. Jones, Bethesda; P. W. Hough, Ynys- gau; W. Griffiths, Bargoed; J. T. Jones, Gwernllwyn; T. Morris, Brynseion; H. A. Davies, Cwmaman; J. II. Williams, Dowlais T. R. Williams, Bethania; R. Thomas, Pen- rhiwceibr; D. G. Williams, Salem D. Morgan, Llanedi: L. Thomas, Merthyr Vale L. P. Humphreys, Abercanaid; G. B. Williams, Quaker's Yard W. J. Richards, Penywern M. Richards, Gellideg; D. R. Jones, Cefn; I. J. Evans, Heolgeryg J. H. Davies, Dowlais a J. Davies. Abercwmboy. Yr oedd yn bresenol hefyd luaws o frodyr a rhai ehwiorydd o eglwys y Gwernllwyn a'r cylch. Ar ol dechreu trwy weddi gan Mr Griffiths, Cefn, aed yn mlaen yn y drefn ganlynol: — 1. Darllenodd yr Ysgrifenydd gofnodion y cyfarfod o'r blaen, a chadarnhawyd hwynt. 2. Mynegodd Mr T. Williams, Gwaelodygarth, ei fod wedi cyflawni cais y Gynadledd yn y Bargoed drwy osod ger bron Cyfarwyddwyr y Gymdeithas Genadol y dymuniad am fisolyn Cymreig i adrodd ei gweithred- iadau hi. 3. Rhoddwyd adroddiad o weithrediadau y pwyilgor a benodwyd yn y Bargoed i gymeryd i ystyriaeth achos yr Ysgol Sul yn y Cyfundeb, a phasiwyd y pendertyniad canlynol Fod yr un personan i barhau yn bwyllgor am y chwarter nesaf, i roi ystyriaeth pellach i'r mater." 4. Rhoddodd Mr T. Williams, Gwaelodygarth, adroddiad o weithrediadau Pwyllgor y Jubili yn y Cyfundeb am y flwyddyn ddiweddaf. 5. Penderfynwyd fod llythyrau cymeradwyaeth i trael eu rhoddi i Mri Evans, Troedyrhiw, a Williams, Bethania, Dowlais—i Mr Evans ar ei waith yn symud i Gyfnndeb Mynwy i gymeryd yofal eglwys Penmain, ac i Mr Williams ar ei waith yn symu i i'r Cyfundeb Seisonig i gymeryd gofal eglwys Seisonig Castelloedd. Teimlid ehwithdod mawr wrth leddwl fod y ddau frawd anwyl hyn yn ymadael a'r Cyfundeb, aa atnlygiil dymuniad cyffredinol am eu llwyddiant yn y dyfodol. 6. Galwyd sylw at bresenoldeb Mr T. Jenkins, o Kansas, America, yn y Gynadledd. Darllenwyd llythvr yn dangos ei fod yn bregethwr rheolai id ao o gymeriad teilwng, a chafwyd ychydig eirian o anerch- iad ganddo. 7. Galwyd sylw nnwaith eto at Fesnr Can y Tafarn- dai ar y Sabboth, a'r ymdrechion sydd i'w wneyd yn aneffeithiol. Siaradodd amryw frodyr at hyn, a phasiwyd y penderfyniad canlynol, gydag awgrym ar iddo gael ei anfon i wahanol newyddiaduron y cylch— II Ein bod o'r farn y dylid cynal cyfatfodydd cyhoeddus yn mhob cymydogaeth i ddadieni twyll torwyr de hlf Cau y Tafarndai ar y Sabboth, ein bod yn mheilaeh yn dymuno amlygu ein diolchgarwch i'r rhai hyny o'n Jiynadon heddwch sydd eisoes wedi daugos awydd i wneyd y mesur yn effeithiol, ac yn mheilaeh yn tier erfyn ar yr oil ohonynt i gario allan ysbryd y ddeddf yn mhob man." 8. Fod pwyilgor o bump o bersonau i gael ei nodi i drefnn materion i bregethu arnynt yn y Cyfarfodydd Chwarterol, y pwyllgor i gad ei newid bob blwyddyn. Enwyd y personsm cantynol am y flwyddyn bresenol: — Mri D. C. Jones, Bethesda J. R. W illiams, Hirwaun II. A. Davies, Cwmaman D. G. Williams, Salem ac R. O. Jones, Bedlinog. 9. Fod yr Y sgrifenydd i ohebu ag eglwys Salem, Aberdar, yo og-hylch eyoaliad y Cyfarfod Chwarterol nesat, a bod Mr Jones, Gwernllwyn, i bregtthu yn y cyfarfod nesaf ar "Iesu Grist fel Barnwr." 10. Fod yr Ysgrifinydd i barotoi penderfyniad yn cynwys datganiad o ymddiriedaeth yn y Weinyddiaeth bresenol, a protest yn erbyn ymddygiad. Ty yr Arglwyddi at Fesur einzin(i vr Etholfraint a'i anfon i Mr Gladstone ac Ardalydd Salisbury. Dyna yr oil o benderfyniadau y Gynadledd. Wedi gorphen a'r penderfyniadau, cafwyd anerchiadau crefyddol gan amryw o weinidog- ion a d aconiaid. Teimlcm yn llawen wrth eu clywed yn siarad mor gynes a brwdfrydig. Am 2 a 7, pregethwyd gan Mri Jones, Bedlinog, ar y pwnc a roddwyd iddo. sef "Heddwch;" Morgan, Cwmbach; Griffiths, Bargoed a Williams, Quaker's Yard. Derbyniwyd y Cwrdd Chwarter gan bobl y Gwernllwyn a'i gweinidog gyda sirioldeb a chroesaw mawr. Taled yr Arglwydd yn helaeth iddynt. THOMAS, Ysg. :—
0 AMERICA. -
News
Cite
Share
0 AMERICA. GAN Y PARCH. D. JONES, B.A., ABERTAWY. Yn nghymydogaethau y chwareli yn Vermont a Washington teimlais fel pe buaswn yn Ffestiniog nen Bethesda, yn Arfon, oblegid Cymry oidiyno sydd gan arnlaf yn y lleoedd hyny. Ni chyfar- fyddais ond ag un Hwntw (Southmah) yn yr holl gylch. Yr oedd hwn o Ddinas Powys, ger Caer- dydd. Daeth i'r wlad hon tuag ugain mlynedd yn ol, ac ymsefydlodd yn Goldsmith, ger Fair Haven. Llonwyd fy ysbryd wrth gyfarfod ag ami un a adwaenwn yn Bethesda, a lluaws o blant ac wyrion i ben bobl dduwiol a adwaenwn yn dda. Mae'r olwg arnynt, ar eu capeli, ac ar eu tai a'u byrddau arlwyedig yn brawf eu bod mown am- gylchiadau cysurus. Nid wyf yn dyweyd eu bod oil yn gyfoethog, ond credwyf eu bod oil yn well eu hamgylchiadan nag- oeddynt yn Nghymru, ac yn well o bosibl nag y buasent pe wedi aros yno; tra y mae rhai wedi llwyddo yn dda, nes gallu byw mewn palasau, a myned o gwmpas yn eu cerbydau, ond heb anghofio eu hiaith, eu crefydd, na'u i lletygarwcb. Derbyniais yn Vermont a Washing- ton garedigrwydd tahwot i'm dysgwyliad, a chefais groesaw o teilwng dywysog. Dyma fi yn fy ol i Utica. Teimlad chwithig i mi cedd myned i'r capel i bregethu am un o'r gloch y Sabboth, a thrachefn am saith yn yr hwyr. Mae tablet o farmor gwyn, ac arysgrifen o lythyr- enau euraidd, yn goffadwriaeth am yr anwyl a'r diweddar Barch W. B. Joseph, wedi ei gosod i fyny yn y capel. Telais ymweliad a'r gladdfa, yr hon yw yr ardderchocaf a welais erioed, a chefais y boddhad pruddaidd o sefyll ar fan fec'nan ei fedd ac er fod y blodau a ddygaswn oddiwrth ei weddw alarus i'w gosod ar ei fedd wedi gwywo, yr oeddent ar y bedd yn ddynodiadol o'r hyn oedd oddifewn. Pan yn sefyll yn y fan gysegredig hono, toddodd fy natur yn llymaid, ac nis gallaswn atal dagrau galar a hiraeth. Mae Dr Gwesyn Jones wedi gwella yn rhagorol, ac yn edrych mor debyg i'r hyn ydoedd yn Merthyr, fel peyr elai yno am dro ni, chawsui ei gyfeillion un drafferth i'w adnabod. Y mae yn ddedwydd a llwyddianus iawn yn ei waith. Wrth ddisgyn o'r tren yn West Winfield pwy a'm cyffarfyddai, gyda gwen a sirioldeb perfehynol i'r teulu, ond John Stephens, mab i'm hen gyfaill y diweddar Barch J. Stephens, Brychgoed, D.C. Da genyf oedd ei weled mewn cartref mor glyd, gyaa'i wraig newydd spon, ac mor siriol a phe buasai yn Gymra.es. Mae ef yn cael byd da yma trwy ganu. Efe sydd yn arwain y canu yn y capel yma, ac y maent yn canu yn dda. Peth dyeithr i mi oedd cael cyhoeddiad i bregethu mown capel Seisonig ar noson waith, ond mwyn- heais fy htm yn fawr yn mysg y Saeson. Ar y ffordd o West Winfield i Plainfield, gwelais am y tro cyntaf deulu o American Indians. Yr oedd yr olwg arnynt, ac ar bobpeth o gwmpas eu caban llwm, yn awgrymu i mi nad oedd ganddynt syniad uwch am gysuron bywyd na cheisio dal corlf ac enaid wrth eu gilydd rywsut. Boddhad i gywrein- rwydd, er hyny, oedd ciel golwg ar deulu o Indi- aid Americanaidd. Drwg oedd genyf ddeall fod y Parch. H. R. Williams yn gorfod rhoddi eglwys Plainfield i fyny oherwydd gwaeledd iechyd. Yr oeddwn weli clywed llawero son am Water- ville, ac ymawyddwn i gael golwg arno. Gyda'm bod yn disgyn o'r tren, dyma las Cymro yn fy- nghyfarch ya Gymraeg wrth fy enw, fel pe yr ad- waenasai ft er's blynyddoedd, ac ya fy- ngbymeryd i'w gartref. Pwy oedd ond Mr H. R. Thomas, brawd i'm bauwyJ gyfaill y Parch R. Thomas, Glandwr, i\i>ertawy. Mae Mr Thomas yn un o fasrraehwyr mwyaf cyfrifol a llwyddianus y lie, ac etc a'i briod yn gorfforiad caredigrwydd. Nid yn futwa yr anghofiaf y prydnawn dedwydd dreuliodd fty hen gyfaill dyddan y Parch T. Jenkins, WateBi- ville (Salem, Mertbyr, gynt), ei briod, a minau, yn nhy Mr Thomas. Dyma un o'r lleoedd tly 00 f\' a welais erioed, a llawenydd oedd genyf weled Mr Jenkins a'i linynau wedi syrthio mewn lie mor hyfryd, a'i fod wedi cael etifeddiaeth mor deg i orphen ei ddyddiau. Mae Mrs Jenkins yn son am dalu ymweliad a'r Hen WJad yn yr Hydref. Paa gyrhaeddais Holland Patent, pwy oedd yno yn fy ngbyfarfod ond Idrisyn, mab fy hen gyfaill a'm cydfyfyriwr y Parch Josiah Jones, Machyn- lletb. Y mae yn a wr yn Yale College, ac yn treulio gwyliau yr haf i supplyo eglwysi Teuton a Holland Patent. Yn New York Mills gwelais beth Badoes ond ycbydig iawn yn y byd, ehwaethach America, ond fy hunan, wedi ei weled, sef peiriani i lispK) papyr am oranges. Cymro o'r enw T. Williams, o gyniydogaethpwllbeli,yw ei gynlliinydd a'i wn,-mth-- urwr. Yr oeddwn yn aros yn ei dy dros nos, a, boreu dranoeth dangosodd i mi y peiriant yra gweithio gydag hwylusdod. Y mae yn gywrain dros ben, ac eto yn syml anarferol yn ei weith- rediad. Saer coed yn y felin gotwm yw T. Wil- liams, ond, os na ddygwyddiddoryw anffawdd neu anghyfiawnder, bydd y peiriant bychan hwn yn fortune iddo. Treuliais foreu Sabboth dedwydd gyda'r hen frawd difyrus y Parch W. D. Williams, Deerfield, yr hwn a dalodd ymweliad a'r Hen Wlad 1R mlynedd yn ol. Brodor ydyw o Troedrhiwdalar, ond, erbyn hyn, y mae yn Yankee trwyadl. Wedi treulio gweddill y Sabboth yn Utica, aethum i Remsen, Bethel, ac i'r Cyfarfod Chwar- terol yn Trenton. Yno cefais y pleser o weled y brodyr a berthynant i gyfarfod chwarterol Oneida, ac yr wyf yn meddwl eu bod oil yn bresenol,. beb un yn eisieu. Yn en plith yr oedd Mr Sand, brook, myfyriwr yn Ngholeg Yale, mab i fy heir gyfeillion James a Mary Sandbrook, a brawd i ar- weinydd y gan yn bresenol yn Soar, Merthyr. Derbynied y fravvdoliaeth yn Oneida fy niolch- garwch am eu sirioldeb a'u caredigrwydd. Yr wythnos ddilynol aeth fy hen gyfaill Dr Gwesyn Jones a minau i gynal cyfaefodydd pregethu ya Fairview aSiloam, Catarangus. Yn foreu dranoeth cychwynodd fy hen gyfaill Gwesyn a minau am y Niagara. Falls. Wedi teithio am saith o oriau cyrbaeddasom y fan, a chefais yr olygfa. yr- hiraetbais am dani dros lawer o flynyddoedd.. Ni cheisiaf ei desgrifio, canys y mae i mi, beth bynag, yn annesgrifiadwy, ond nis gallaf byth ei hanghofio. Yno bu raid i ni ganu yn iach i'n gilydd, Gwesyn yn cymeryd un cyfeiriad tuag Utica, a niinau tuag Hyde Park, ac wedi teithio ar byd y nos cyrhaeddais dy fy nai, T. W. Davies, erbyn 8 o'r gloch y boreu, ac wele fi yn y Wyoming Valley, neu Gwm Rhondda A-merica.
YMYLON Y ITORDD. -
News
Cite
Share
wahanol olygiadau ar y materion at y rhai y cyfeiriais sydd i ddyfod ger bron cyfarfocl- ydd nesaf yr Undeb, yn enwedig ein perth- ynas fel Enwad ag addysg uwchraddol. Mae addysg dduwinyddol y weinidogaeth yn y dyfodol yn y glorian, ac y mae rbai yn ofni am hono, ac nid heb achos, pan gofir gynifer yn ein colegau enwadol sydd wedi ceisio dianc rhag hono. Mae y pura' mlynedd nesaf yn rhwym o fod i'n Henwad, yn y mater yma, yn flynyddoedd o bryder mawr, ac y mae yn ofynol wrth holl bwyll a doeth- ineb ein dynion mwyaf medrus a phrofedig, a dysgwyliaf y bydd y papyr a ddarllenir yn Llanelli, a'r ddadl a geir arno, o lawer o help ac arweiniad yn y dyfodol. Nid wyf yn addaw ysgrifenu dim yr wythnos nesaf, ond enciliaf i wneyd lie i gyfarfodydd yr Undeb; ond hwyrach y bydd genyf rywbeth i'w ddyweyd am danynt wedi yr elont heibio. LLADMERYDD.