Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

YMYLON Y ITORDD. -

News
Cite
Share

YMYLON Y ITORDD. Nos Sadwrn, Qorphenaf 19eg. YR wyf am y rhan fwyaf o'r wythnos bon wedi bod mewn congl lied neillduedig, fel nad wyf wedi clywed ond ychydig am yr hyn sydd yn dygwydd yn y byd oddiallan, er fy mod yu deall hefyd fod "daeargrynfau mewn manau." Mae yn fantais i ddyn sydd yn treulio ei fywyd yn nghanol cym- deitbas i gael myned weithiau am ychydig ddyddiau allan o ferw y byd i rywle lie na ddaw newyddiadur i'w ffordd, ac nad aflon- yddir arno gan guriad sydyn a chyffrous y llythyrgludydd. Er na fynwn, er dim, fod yn y fath sefyllfa yn hir, ac yr oedd yn boenus i fod felly boreu ddoe; pan y dys- gwyliwn yn awyddus, ond yn ofer, pa fodd yr oedd yr Arglwyddi wedi gweithredu ond y mae cael bod allan o ferw a dwndwr y byd am ychydig ddyddiau yn achlysurol yn ymwared mawr. Rhydd adegau felly ham- dden i ddyn i feddwl, yn lie bod beunydd yn brysur yn siarad neu yn gwrando. Cyfeiriais yn frysiog wytbnos i heno at GYFARFODYDD YR UNDEB, a'r darpariadau croesawgar a wneir yn Llanelli i'w derbyn. Yr ydwyf, er hyny, wedi bod yn meddwl tipyn am y eyfarfodydd hyn; ac y mae yn amheus genyf a ydyw y dernydd goreu sydd yn bosibl yn cael ei wneyd ohonynt. Cefais yr hyfrydwch o fwynhau y rhau fwyaf o gyfarfodydd yr Undeb o'i gychwyniad; ac yr oedd bod ynddynt i mi yn fwynhad yn wir, ac yr wyf yn edrych yn mlaeu yn awyddus am y cyf- arfodydd agosaol ond, ar yr un pryd, nid wyf yn meddwl eu bod yn berffaith, na'u bod mor agos at berffeithrwydd ag y gallent fod. Clywais sylwadau yn cael eu gwneyd ar ol rbai o'r eyfarfodydd a fu, y meddyliais ar y pryd y buasai yn dda rboddi cyhoedd- usrwydd iddynt, ond dichon y buasai yn anhawdd gwneyd hyny yr adeg bono beb beri dolur i ryw rai. Dichon y goddefir i mi heno awgrymu dau neu dri o bethau, y rhai, hwyrach, pe telid sylw iddynt, a ych- wanegent at ddyddordeb ac effeithiolaeth y cyfarfodydd. Nid wyf yn meddwl y bu gwell rhaglen i un o gyfarfodydd yr Undeb o'r dechreuad yn wir, y mae yn ambeus genyf, a'i chymer- yd oil yn oil, a fu ei chystal. Nid wyf yn priodoli hyn yn gwbl i ddoethineb uwch y pwyllgor am eleni, na'r pwyllgorau blaen- orol; ond y mae yn ddiau fod hyn i'w bri- odoli, mewn rhan fawr, i'r pwyll a gymeius- ant i wneyd eu trefniadau. Yn lie cyfarfod y diwrnod yr etholid hwy, fel y gwneid y blynyddoedd blaenorol, gohiriwyd pob peth am ychydig fisoedd, a galwyd pwyllgor yn rheolaidd wedi i'r boll aelodau gael ham- dden i feddwl am y testynau mwyaf pwr- pasol i'w dwyn ger bron, a'r personau mwy- af priodol i ymgymeryd a bwy, ac yr wyf yn hyderu y glynir wrth y drefn yma gan bob pwyllgor a etholir yn y dyfodol. Mae etholiad y pwyllgor hefyd vu orchwyl ag y dylid cymeryd gofal gydag ef. Nid y perygl gyda ni ydyw fod yr un personau yn barhaus ar y pwyllgor oblegid y mae ein trefn o'i ddewis, heb son am ein syniadau, yn ein dyogelu rhag byny. Dichon mai i'r eithafion arall yr ydym yn gogwyddo. Mae o bwys pa fodd bynag, fod aelodau y pwyll- gor oil yn lied adnabyddus o'rEnwad i gyd, ac yn ddynion o graffder a barn, oblegid arnynt hwy y mae gwneyd yr holl apwynt- iadau ac oni byddant yn gyffredinol felly, y mae perygl i ychydig o'r rhai mwyaf blaenllaw gario pob peth yn ol eu meddwl. Dylai yr Undeb gadw yn ei law ei hun yr bawl i apwyntio yr is-bwyllgor sydd i enwi pwyllgor i'w gynyg i sylw y gynadledd a dylai mwyafrif yr is-bwyllgor hwnw fod yn ddynion hollol adnabyddus o'r Enwad, a thuallan i bwyllgor yr Undeb am y flwydd- yn, fel na byddo achlysur gan neb i ddy- weyd mai pwyllgor y naill flwyddyn sydd yn dewis pwyllgor y flwvddyu ddilynol. Mae o bwys hefyd i gadw oddiar y pwyllgor y personau y tybir ddylai gymeryd rhan yn nghyfarfodydd y ddwy flynedd ddilynol, oblegid nid yw ddoeth nae yn ddyogel, oddi- eitbr o dan amgylchiadau eithriadol, i aelod- au y pwyllgor gymeryd rhan amlwg yn y gweithrediadau. Cwynir gan rai fod cryn lawer o anesmwythdra ac aflonyddwcb mewn rhai o'r cyfarfodydd a fu. Mae yn wir fod yr eisteddiadau yn feithion, ond am unwaith mewn blwyddyn nid gormod dysgwyl i bawb aros ynddynt yn llonydd o'r dechreu i'r diwedd. Dylai pregethwyr yn arbenig, mewn cyfarfodydd o'r fath, fod yn esiamplau fel gwrandawyr. Mae diweddarwch rhai yn dyfod i mewn, ac anesmwythder ereill ar ol dyfod i mewn, a'r sisial a'r siarad a wneir gan rai, yn rhwym o osod argraff anffafriol ar y rhai fyddo yn sylwi, ac felly wrth- weithio dylanwad daionus y cyfarfodydd. Gosodir angenrheidrwydd ar yr Ysgrifen- yddion symud cryn lawer oddiamgylch yn nglyn a chario yn mlaen y trefniadau, ond byddai yn dda iddyut hwythau gyfyngu hyny i'r hyn sydd bollol angenrheidiol. Pa fwyaf diffwdan y gwneir pob peth, goreu oil. Mae yn bur sicr y dygir pethau ger bron eleni nad ydynt ar y rhaglen. Er y gwnaed y trefniadau y mae pethau pwysig wedi troi 1 fyn/> ac ni ddylai y fath gynulliad fyned heibio heb gyfeirio atynt; ond dy lai y cyfryw ddyfod yn rheolaidd trwy y pwyllgor sydd i gyfarfod prydnawn Llun, ac i'r pwyllgor hwnw drefnu pa bryd a chan bwy y dygir hwy yn mlaen ac ni ddylai dim gael ei ddwyn ger bron y cynadleddau ddydd Mawrth ond trwy awdurdod y pwyllgor. Mae y gynadledd boreu Mercher o nodwedd mwy cyffredinol, yn yr bon na ddylid cadw mor gaeth hwyrach, er fod yn sicr fod dwyn pethau yn mlaen mewn trefn yn hwylusdod i wneyd llawer o waith mewn amser byr. Yr wyf ar fwy nag un achlysur o'r blaen wedi dyweyd mai yr hyn a ymddengys i mi yn brif ddiffyg cyfarfodydd yr Undeb ydyw, na roddir ynddynt ddigon o gyfle i rydd ymddyddan ar y materion a ddygir ger bron. Mae yr amser i byny fynychaf yn brin iawri, a dichon fod arnom ormod o ofn i ddadl godi oblegid yr amrywjaeth barn a all fod ar ryw fater. Mae eleni ddau fater hollol amserol yn cael eu dwyn yn mlaen, y rhai y dylid cael amser i'w gwyntyllio; nid gormod fyddai cael awr o leiaf at bob un obonynt. Mae yr agweddau diweddarat y mae duwin- yddiaeth yn ei gymeryd yn deilwng iawn o'n sylw. Nis gallwn gau ein llygaid rhag gweled fod llawer o symud ar yr ben der- ,D fynau, ac ysgwyd, o leiaf, ar ffurfyx athraw- iaeth, ac nid wyf yn sicr a ydyw yr byn a ystyrir yn wirioneddau hanfodol yr Efengyl yn cael eu dal gyda'r fath afael gref a chynt. Byddai yn werthfawr cael barn dynion o bwyll a sylw ar y pethau hyn. Nid yw y brys a ddangosir am derfynu ymddyddan ar y fath destynau mewn un modd yn deilwng o gynulliad o'r fath. Nid yw ond un cyfle mewn blwyddyn, a dylid gwneyd y goreu ohono. Nid yw y cwestiwn, Pa beth a ddylem fel Enwad ei wneyd yn wyneb cynydd addysg uwcbraddol,[wedi ei gymeryd i fyny ddiwrnod yn rhy fuan. Mae yn wir fod llawer o an- bawsderau yn nglyn ag ef, ond y mae yn rhaid i ni, fel pob enwad arall, ei wynebu, a goreu pa gyntaf i ni wneyd hyny. Mae ein Golegau Enwadol yn rhwym o fyned o dan gyfnewidiad trwyadl; nid oes genym ewyllys yn y mater-mae yn dyfod arnom yn an- ocheladwy; ond y mae arnoni ni i bender- fyny pa fodd i'w wynebu, a pha fodd i'w wneyd yn y modd esmwythaf a mwyaf di- dramgwydd. Nid wyf yn dysgwyl y byddwn oil yn unfarn ar y naill na'r llall o'r mater- ion yma, ac y mae yn amheus genyf a ydyw yn ddoeth pasio penderfyniadau ar faterion o'r fath, oddieithr penderfyniadau hollol agored a chyffredinol, ac y mae penderfyn- iad heb wystlo i rywbeth eglur a phendant yn bur ddibwrpas. Dylid goddef y rbyddid helaetbaf i ddynion draetbu eu meddwl ar faterion o'r fath tra y gwnelont byny yn deg a boneddigaidd, heb gyfeiriad personol at neb. Os na all cynadledd o Annibynwyr oddef amrywiaeth barn, pwy a all? Yr ydym yn ami yn rby barod i gyffroi a dangos arwyddion o anghymeradwyaeth pan draeth- ir gan un olygiadau gwahanol i'r Iluaws; ac y mae hyny, pan y daw oddiwrth y mwyaf- rif tuag at y lleiafrif, yn anfoneddigaidd. iawn. Mae gwaeddi No, no," neu "Vote, vote," pan fyddwn yn traethu golygiadau gwahanol i'r lluaws yn cario argraff anffafr- iol. Mae y neb fyddo yn siarad mewn perygl o gael ei ddyrysu gan gyfarchiadau felly, nes peri iddo golli yr byn a fwriadai ddyweyd, a pheri iddo hefyd, hwyrach, ddyweyd rhywbeth na ddymunasai; ac y mae perygl iddo heblaw hyny i gyffroi a chythruddo. Mae hyny hefyd yn peri i rai anghyfarwydd a dadleuon cynadleddau dybied fod gweinidogion yn croesdynu ac yn ymddadleu, ac felly ymadael o dan gam- argraff. Mae y Saeson yn eu cynadleddau yn dadleu yn frwd, ac yn dangos arwyddion eglur o anghymeradwyaeth i'w gilydd, ac yn cydeistedd drachefn i giniaw fel y cyfeillion goreu; ond nid ydym eto wedi cynefino a hyny. Yr ydym yn llawer rhy dueddol i deimlo gradd o surni personol wrth ddadleu ar gwestiynau cyboeddus, ac oblegid hyny dylem fod yn ochelgar rhag peri dolur i'n gilydd. Rhodder y rhyddid helaethaf i draethiad llawn o'i olygiadau gan bob un, a gwrandawer yn astud, a diragfarn, a di- dwrw, byd yn nod ar olygiadau y rbai ni chymeradwywn. Yr wyf yn dyweyd hyn heno am fy mod yn gwybod fod yn ein plith