Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
I DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS…
News
Cite
Share
DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS YN NGHYMRU. CYFARFOD YN LLWYNYPIA. Nos Fawrtb, Gorphenaf 8fed, yn addoldy y Methodistiaid Calfinaidd, cynaliwyd cyfarfod cy- hoeddus yn nglyn a'r ysgogiad hwn. Y prif siar- adwroedd y Paicb John Thomas, D.D., Liverpool. Cymerwyd y gadair gan Mr THOMAS WILLIAMS, Y.H., Gwaelod-y-garth, Merthyr Tydfil, yr hwn wrth agor y cyfarfod a draddododd araeth hynod frwdfrydig. Wedi sylwi ychydig ar syifac-aiad Cymdeitbas y Dadgysylltiad ddeugain mlynedd yn ol, dangosai fod cyeylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaetb yn gwbl groes i'r Ysgrythyrau Sanctaidd. Yna dadleuai fod yr Eglwys wedi methu yn ei chenadaeth yn Nghymru, er iddi gael prawf o 350 mlynedd i hyny. Wedi mynegi ei gred fod teimlad y cyboedd yn N ghymru yn addfed i gael y cwestiwn yn bwnc ymdrafod, dat- ganai yn groew fod yn rhaid i'r Cyrnry oil gael eu gosod ar yr un platfform o ryddid crefyddol cyn y sicrheir cydweithrediad yn eu plith. Ni cheid gwared o ysbryd erledigaeth cyn y diddymid yn hollol bob uchafiaeth crefyddol. Dr THOMAS, wrth gyfodi, a ddywedai mai da oedd ganddo gael cyfle just am unwaith i ddwyn tystiolaeth o blaid yr amcan oedd ganddo mewn golwg. Yr oedd yn bwnc anhawdd, ac yr oedd eisieu ei gymeryd mewn pwyll, a'i ddeall yn drwyadl. Rhaid oedd wrth amynedd wrth bwyso y cwestiwn. Rhwng. dyfalbar had y Sais a than y Cymro llwyddid yn y diwedd. Cymerai olwg ar ddwy wedd y ewestiwn-y grefyddol a'r wleid- yddol. Ymddangosai y wedd grefyddol iddo ef yn glir iawn. Peth rhwng Duw a dyn ydoedd crefydd. Nid oedd dim hawl gan neb i fyned rhyngddynt. Amcan llywodraeth wladol ydoedd amddiffyn deiliaid-eu personau a'u meddianau, a dyogelu i bawb yr un hawliau gwladol. Beth ydoedd eglwys sefydledig, nis gallasai ddyweyd. Beth ydoedd Eglwys Crist, gallasai ddyweyd. Cynulleidfa o gledinwyr yn cyfarfod a'u gilydd yn yr un lie i gario achos Crist yn mlaen. Yr oedd dwy elfen yn hanfodol i gyfansoddiad eglwysig — rhyddid a hunan-lywodraeth. Nid oedd hunan-lywodraeth yn yr Eglwys. Yr oedd nawddogaeth yr Eglwys yn y Goroti—yr awdur- dod yn y Senedd. Nid oedd yr Eglwys Sefydledig ddim ond y Llywodraeth yn y wedd grefyddol arni. Y Llywodraeth oedd biau y meddianau. Yr oedd yr holl fywioliaethau a'r degymau yn eiddo iddi. Yr oedd dadl yn bod yn nghylch y gwadd- oliadau hynafol. Eu pwnc hwy, fel gwlad, oedd dwyn y Senedd yn addfed i'r gwaith, ac fe setla hithau pwy biau y meddianau. Yr oedd yr Eglwys yn Nghymru wedi profi yn fethiaut— tffaelu a sicrhau y bobl yn feddiant iddi. Dywedid fod yr Eglwys am gael y bobl yn ol. Ni fu y bobl erioed yn yr Eglwys casglwyd hwynt oddiallan iddi, oddiwrth ofergampau, &c. Am gan' mlyn- edd wedi y Diwygiad Protestanaidd, ni wnaeth yr Eglwys Sefydledig ddim i efengyleiddio y wlad. f. Yr oedd ystad Cymru yn grefyddol yn waeth nag oedd yn nechreu y Diwygiad. Yn y ganrif gan- lynol, ni wnaeth yr Eglwys odid ddim, dywedai fwy, ni wnaeth ddim y cwbl a wnaed, cafodd ei wneyd gan yr Ymneillduwyr, llawer o ba rai, oherwydd eu purdeb a'u hymlyniad wrth y gwir- ionedd, a drowyd allan o'r Eglwys, ac a erlidiwyd gan y cyfreithiau creulawn a basiwyd yn union- gyrchol i'w herbyn hwy. Yn y trydydd canrif, gan ddechreu gyda chyfodiad y Methodist'aid, gwnaed llawer o waith gan ddynion oedd yn dwyn cysylltiad a'r Eglwys, ond gwnaed ef yn groes i'w chyfreithiap, ac yn wyneb y dirmyg mwyaf oddi- wrth awdurdodau yr Eglwys. Ni chafodd y tadau Methodistaidd-Rowlands, Llangeitho, ac ereill, chwerwach gelynion na ehlerigwyr yr Eglwys Sefydledig. Haner can' mlynedd yn ol, wedi cael 300 mlynedd o brawF, nid oedd dim deg-ar- hugaino gynulleidfaoedd gan yr Eglwys yn holl Gymru yn rhifo cant ac uchod o bobl. Cydna- byddai yn galonog y cyfnewidiad mawr a fn ami yn ystod yr hauer can' mlynedd diweddaf, yn fwy neillduol, yn ystod y pum' mlynedd ar hugain di- weddaf. Deffroad damweiniol ydoedd h wn w. Nid cynyrch bywyd crefyddol yn yr Eglwys ydoedd, ond cynyreh symbyliad cydymdrech Ymneilldu- aeth. Yn y dyddiau hyn, He mae Ymneillduaeth fwyaf digynhwrf mae'r Eglwys fwyaf digyehwyn. Yr oedd yr Eglwys wedi methu dyogelu un- ffurfiaeth golygiadau ar wirioneddau yr Efengyl. Llenwid hi gan ymraniadau. Yr oedd llawer ilai o gvtundeb rhwng y pleidiau o'i mewn nag oedd rhwng y gwahanol gyfundebau Ymneillduol. Mewn un peth yr oedd undeb yn weladwy iawn ynddi-Pabyddiaeth mewn arferion defodol yn cydymagweddu a bi-,r Y fuwch hefyd a'r arth a borant yn nghyd." Yn boll hanes Ymneillduaetb Cymru, nis gwyddai efe ond am un gwr a ym- adawodd ac a aeth drosodd yn uniongyrcbol i Eglwys Rhufain. Dangosai fod yr Eglwys bob amser yn erbyn rhyddid y bobl. Yr oedd erledig- aetb yn gwbl gysonachrefydd sefydledig'. Tra y byddai crefydd sefydledig, nid oedd Ymneill- duaeth i fod. Fod y wlad yn graddol ymddatod oddiwrth lefifetheiriau yr ormes hon. Fod pedair stage i'r diwygiadau hyn. Fod yr ergyd i'r Eglwys Sefydledig a roddwyd trwy basio y deddfau goddefol i derfynn yn rbywlc-yr oedd y deddfau hyny yn addefiad fod y gefyllfa o'r blaen yn anheg. Fod eu brwydr ya sicr o droi o'u til yn hwyr neu hwyracb, oblegid wedi dyogelu rhyddid crefyddol, ni orpbwysid bellach nes enill yearn nesaf—cydraddoldeb, perffaith ryddid. Ymadawodd y Cadeirydd, gan fyned adref, cyn terfyn y cyfarfod, a chymerwyd ei le ga.n Mr J. GRIFFITH, Porth, yr hWD, wrtil ddwyn y cyfarfod i ben, a wnaeth rai sylwadau ar waith pwyllgor Dadgysylltiol y Rhondda. Gosododdgereinbron y ffugyrau a gasglwyd yn adeg y cyfrifiad crefyddol a wnaed ychydig amser yn ol ar gynull- eidfaoedd Cwm Rhondda. Nifery rhai Ymneill- duol foreu a hwyr y Sul hwnw ydoedd 55,661; nifer yr Eglwyswyr, 3,949. Yr oedd deiseb anferth o fawr i'w daafon o'r Rhondda. i'r Senedd i gynorthwyo cynygiad Mr Dillwyn. Mesurai ddeuddeg chain, a chynwysai 23,000 o enwau. Wedi i'r Cadeirydd gynyg diolchgarwch i'r Darlithydd, ac i'r Parch E. Richards, Tonypandy, ei eilio, a chyplysu enw y Cadeirydd yn y cynyg- iad, cariwydlef drwy i'r dorf godi ar eu traed a dangos unfrydedd calonog.
CEINEWYDD,
News
Cite
Share
CEINEWYDD, Y Gijfraith.—Da genym weled yn rhestr y rhai sydd wedi myned drwy eu harholiad diweddaf fel cyfreithwyr yn llwyddianus enw Mr Daniel Owen, mab y diweddar Cad. Owen, Pantglynhir, Llan granog. Treuliodd Mr Daniel Owen ei amser rhagbarotoawl gvda Mr Asa J. Evans, o firm y Mri Asa ac Ivor Evans, Aberteifi. Nis gwyddom yu iawn eto pa le y bwriada ymsefydlu, ond dymunwn o galon hawddamor iddo. CYFAILL. ♦
Advertising
Advertising
Cite
Share
THE GREATEST BLESSING.—A simple, pure, harmless remedy, that cures every time, and prevents disease by keeping the blood pure, stomach regular, kidneys and liver active, is the greatest blessing ever conferred upon man. Hop Bitters is that remedy. and its proprietors are being blessed by thousands who have been cured by it. Will you try it ? See Advt.
TYWALLT GWAED YN NGHYMRU.
News
Cite
Share
TYWALLT GWAED YN NGHYMRU. WRTH daflu cipdrem yn ol dros hanes ein gwlad nis gallwn lai na synu at y tywallt gwaed ofnadwy sydd wedi bod ar liyd mynydd- oedd a dyffrynoedd Gwalia yn ystod yr oesoedd a fu. Braidd nas gallwn ddyweyd fod y rhan fwyaf o ddaear Cymru wedi ei mwydo a gwaed dewrion lhyfelwyr. Tywalltwyd gwaed rhwng pentref St. Fagan's a phentref Llansantffraid, yn sir Forganwg, yn yr ymdreoh ddychrynllyd houo rhwng byddin Cromwel a byddin y Brenin, let yr oedd y nant sydd yn rliedeg rhwng y ddau bentref uchod i itlon Lai wedi ei lliwio gan waed y lladdedigion; ac nid yw hon ond un engraifft o lawer cyffelyb iddi yn hanes Cymru. Ond y mae tywallt gwaed mewn modd arall wedi bod yn Nghymru yn uyddiau ein tadau. Pan fuasai y tadau yn meddwl fod eu gwaed yn anmliur, gollyngent ei i redeg drwy agor gwytliien yn y raieh hyd nes byddai ondychYdig yn aros ar olyn y cyfa isoddiad, atebai hyny ddyben, feddylient hwy, i iachau clefydau, ond, a ddyweyd y lleiaf, arferiad farbaraidd ydoedd, ac arferiad ag y mae meddygon goreu yr oes hon yn arswydo rhagddi ydoedd. Ac nid rhyfedd pan ystyrion y perygl oedd dynion yn gosod eu hunain yn agored iddo drwy ollwng eu gwaed yn y modd y gwnelent. Y mae yn dda genym feddwl fod cyfnewidiad er gwell wedi eymeryd He yn nhriniaethau meddygol y byd yn y cyteiriad hwn, ac fod dynion o ddeall goleu a dysg uchel wedi llwyddo i ddyfeisio modd i buro y gwaed yn y cyfansoddiad dynol, a hyny yn y modd dyogelaf i'r bywyd a'r inodd mwyaf diboen a didra- ffertli i'r eyfryw a fyddont mewn angen am hyny. A lieddyw y mae y ddarpariaetli fyd-enwog sydd wedi ei dyfeisio gan y Fferyllydd galluog a thalentog a adnabyddir drwy yr holl fyd gwareiddiedig wrth yr enw JACOB HUGHES 0 fewn cyrhaedd i bob dyn; ac o bob darpariaeth feddygol a ddyfeisiwyd erioed yn ein byd ni nid oes yr un yn rliagorach na Iluqhes' Blood Pills." Nid oes eisiet, tywallt gwaed dynol mwyach er cael iechyd i'r cyfan- soddiad. Oud myner blychaid o Hughes' Blood Pills," y rhai a werthir gan bob Fferyiiydd. Gofaler eu eymeryd yn unol a'r cyfarwyddiadau argraffedig a geir gyda phob bIwch, a buan yr argyhoeddir y sawl a'u defnyddiant o'r effaith wyrthiol y maent yn ei gael ar y cyfansoddiad. Ceir gweled fod y Pills hyn yn diwreiddio pob afiechyd, yn ei glirio o'r cyfansoddiad, yn puro a ohryfhau y gwaed, ac yn peri i waed iach i fyrlymu ar liyd yr holl ryd-weliau drwy bob aelod o'r corff, yn adferyd nerth a bywiog- rwydd nes y byddo dyn yn teimlo ei hun mewn sefyllfa galonog, fwynhau by wyd ae i tyned rhagddo yn llawen yn y cyflaWniad i ddyledswyddau bywyd er;ileshad i bawb o'i gwmpas, ac er daion eyffredinol i'r byd. Os am iechyd, yute, gofalwch ddefnyddio Hughes' Blood Pills." Nid ydynt bythyn methu oscantchwaieu teg. Ar \<rerthmewn lilychau gan holl Chemists y deyrnas am Is. ljc. 2s.ge., 4s. 6e.; gyda'r post, Is.3c., 2s. lle., a 4s.9c. oddiwrth y Perehenog—JACOB HUGHES, Chemical and Medical Laboratory, Penarth, Cardiff, England (late Llanelly). Home and Foreign Depot. Wholesale and Export. Agents in all parts of the World.
YR APOSTOL PAUL YN NGHYMRU!
News
Cite
Share
YR APOSTOL PAUL YN NGHYMRU! 1 LAWER sydd wedi ei siarad a'i ysgrifenu o bryd i bryd yn 1' L nghylch y dybiaeth fod yr Apostol Paul wedi talu ymwel iad a Chymru fynyddig. Myn rhai iddo dirio) n mro Morganwg, ac iddo alw heibio i Lanilltyd Fawr, yr hwn le ydoedd y pryl hwnw yn enwog am y manteision addysg oeddynt i'w cael yno, mor enwog fel ag yr oedd dynion ieuanc o deuluoedd urddasol oddiar Gyfandir Ewrop, ac o wledy Id tramor ereill, yn dyfod yno i berffeithio eu hunain mewn dysgeidiaeth. Myn rhai hefyd ddarfod i'r Apostol alw heibie i Ogof Caradog, yn rhanau uchaf Cwm Tawe, ac iddo fyned rhagddo oddiyno yn groes i'r wlad. Ond credwn y gallwn ddyweyd mai tybiaeth yw y cwbl ao nad oes yr un ffaith ar gael yn hanes y wlad hon, nac un- rhyw wlad arall, yn profi gwirioneddolrwydd yr hyn a ddywedir am ymweliad Apostol Mawr y Cenedloedd a Chymru. Felly nis gallwn ddyweyd dim amgen nad tybiaeth yw y cwbl Ond er hyny y mae dynion wedi treulio llawer iawn o amse. gwerth- fawr i siarad ac ysgrifenu am hyny heb fod ganddynt ddim ond tybiaeth yn sail, a'r dybiaeth hono, i feadwl clir a goleuedig, yn wan a disylwedd. Os oes y fath ddylanwad gan dybiaeth ar ddynion fel ng i'w cario mor bell, pa faint mwy dylanwad a ddylai fod gm.fl'aith ? yn enwedig os bydd y ffaitli houo yn gyfryw ag y gellir ei cliyf- rif o werth i'r byd, a thuedd ynddi i lesoli dynoliaetli ae i leddfu y dyoddefiadau hyny ag y mae cyrif dynion yn ago red iddynt tra yn byw ac yn ymsymud av y Waned ddaeavol yma. Y line yna un ffaith fawr, yr hon sydd un o rai bwysicaf yr oes hon, a'r hon sydd yn fil gwerthfawrocach i ddynion dybiaethau disylwedd mewn pertliynas i ymweliad yr Apostol Paul a Chymru, ac yr ysgvifenir ac y siaredir cymaint am dan- ynt; a'r ffaith ryfeddol hono yw, fod Mr JACOB HUGHES (Cymro o waed cocli cyfan, gwr genedigol o sir Aberteifi), wedi darganfod un o'r maddyginiaethau rhyfeddaf a mwyaf effeitti- iol a fu yn y byd erioed ar gyfer gwellliau y gwahanol glefydau ag y mae y teulu dynol yn ddarostyngedig iddynt. Y mae y feddyginiaeth hon y fath yn ei heffoithiau iachaol fel ag y mae rhai o brif feddygon yr oes yn sefyll uwch ei phen mewn syndod ac yn rhyfeddu at y modd y mae yn peri i glefydau fyddont wedi hen artrefl mewn cyfansoddiadau dynol i gilio a diflanu o'r golwg fel rkew o flaen gwres neu dywjllwch o flaen goleuni, gan roddi lie i iechyd a hoeuusrwydd. Nid yn unig gyr y feddyginiaeth lion walianol glefy dau yu Ilwyr o gyfansoddtadau dynion, ond adnewydda y lyfansoidiadau hyny, a daw a byw- ogrwydd a nerth ieuenctyd i bob aelod a chvmal ohonynt. Y mae y byd wedi bod ar ei eitliaf yn dyfeisio er ceisio cael o hyd i feddyginiaethau elfeithiol ar gyfer anhwylderau dynion, ac, yn wir, y maa 1 wyddiant mawr wedi diiyn ymdrechion gwahanol bersomu; ond beiddiwn ddyweyd, a hyny yn ddi- betrus, er yr holl lwyddiant ag sydd wedi nodvvjddu yinehwil- adau meddygon yr oasau, nad oes yr un. ddyfais eto wedi oi chael allan yn rhagori ar yr un dan sylw, os, yn wir, y gwelodd y hyd erioed ddim yn cyrhaedd rhith oyffelybrwydd ohoni. Nid rhyw iachad arwynebol y mae y feddyginiaeth lion yn ei gynyrchu. Nage ond y mae yu myned at wraidd y drwg, yn chwilio am wreiddiau y clefyd, ac yn ei ddiwreiddio, gan ei ysgubo allan o'r cyfansoddiad mor llwyr fel na(1 oes yr un gronyn yn cael ei adael ar ol i wenwyno y corff Hen wirion- edd yn y byd yw, mai Y gwaed yw bywyd y corlf," ac fe'n dysgir mai o'r gwaed y gwneir cig, giau, esgyrn, &c., ac o ganlyniad y mae yn ddigon naturiol i ni gredu, os gellir cael gwaed pur ac iach i lifo trwy y gwythienau, y bydd y corff o angenrheidrwydd yn sicr o fod yn iach, cryf, a bywiog. Y mae y darganfyddiad rhyfeddol hwn yn ffaith ag sydd eisoes wedi ei phrofi gan filoedd drwy yr holl fyd adnabyddus, yn un o'r ffeithiau tymhorol gweithfawrocaf a welodd y byd erioed, fel y profa y miloedd tystiolaethau ag sydd wedi eu derbyn o bedwar ban y byd. Y mae y feddygiuia.eth hon yn gwneyd ei gwaith mor sicr, mor drwyadl, ac mor effeithiol, fel nad oes yr un engraifft wedi ei chael o'i bod wedi methu mewn cymaint ag un amgylchiad ag y cafodd ei defnyddio mewn pryd ac yn unol a'r cyfarwydd iadau a roddir gan y darganfyddwr. Boed i bob Cymro, a phob un o ba genedl bynag y dichon idde fod, a fyddo yn dyoddef oddiwrth anhwylderau corfforol, roddi cynyg teg i'r feddyginiaeth ryfeddol ac effeithiol hon. Gellir ei chael gan bob fferyllydd cymeradwy drwy y deyrnas hon, a theymasoedd ereill hefyd; ac os dichon fod rhyw an- hawsder i'w chael yn rliywle, anfoner yn "ddioad at y Dargan- fyddwr ei hunan, yr hwn a'i denfyn gyda throau y post i un- rhyw gyfeiriad ar dderbyniad y pris roddir ar ddiwedd y nod- iadau hyn. Cofiwch ofyn aill "HUGHES' BLOOD PILLS," ac ar ol i chwi eu eael byddweh yn ofalus i ddilyn y cyfar- wyddiadau a gewch gyda phob blyehaid; ac yn wobr am eich traff rth cewch gyfansoddiad cryf ac iach ar gyfer myned drwy ymdrechion ac amgylcliiadau bywyd. Ac ar oi i chwi eu defnyddio, gwyddom na orphwyswch heb eu cymeradwyo o ereill a welwch yn dyoddef o'cli cwmpas. RHYBYDD.— Dim yn bur heb aiwyddnod calon ar y blwch, Ar werth drwy y deyrnas am Is. lzc., 2s 9c 4s. 6c. gyda'r Post Is. 3c., 2s. 11c., a 4s. 9c. oddiwrth y Perehenog, JACOB HUGHES, Chemical and Medical Laboratory, Penarth, Cardiff, England (lateof Llanelly). Goruchw) Iwyr yn.mhob parth o'r byd. 4.1 84.p.