Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ANERCHIAD AT YR YSGOL SABBOTHOL.

News
Cite
Share

ANERCHIAD AT YR YSGOL SABBOTHOL. GAN Y CWMWL TYSTION." ANWYL FAM,—Y mae y derbyn:ad caredig a rodd- aist i'r ddau argraffiad cyntif o'r "Cwmwl Tystion," yn nghyda'r galwad parhaus sydd am dano, a minau heb yr un i ateb i'r gofyn (er fod y ddau argraffiad yn wyth mil o gopiau), yn fy nghymhell i'w argraffu y drydedd waith ac yr wyf wedi ychwanegu ato ha' es Caleb a Josua. Y mae holwyddoregau, ond eu defnyddio, y cyfryngau goreu i gyfranu gwybodaeth i'r ieuanc. Yr holwr, ao nid yr areithiwr, ydyw yr athraw goreu i hyfforddi ei ysgolheigion mewn gwybodaeth. Y mae yr holwr medrus yn gallu arwain ei ysgolheigion i esbonio eu hunain y rhan fyddo dan sylw, a hyny yn llawer mwy llwyddiarms na thrwy artifcliio iddynt. Hefyd, gall yr holwr da, wedi ymddarparu at ei waith, gadw sylw y Losbarth yn well at y wersna phe byddai yn areithio iddo. Gan mai holwyddoreg hanesyddol yoyw y "Owmwl Tystion," dylai yr holwr a'r atebwr ofalu am ddarllen yr hanes yn y Beibl yn flaenorol; ac y mae y cyfeiriadau sydd ynddo yn fanieisiol i hyny. Yr wyf fi yn tybied y byddai yn fuddiol fod mwy o holi ae ateb yn ein cyfarfodydd pen chwarter nag y sydd. Bu yr Ysgol Sabbothol, mewn rhai manau, yn diystyru holwyddoregau am eu bod yn waith dyn- ion-mwy dewisol ganddynt benodau o'r Beibl, a gadael y gofynion a'r atebion heb yr un ffurf neillduol 0 otynton ae atebion. Gall y cyfryw ddyweyd, Dyn- ion ydym ninau hefyd." Ond ymddengys wrth y galw sydd am holwyddoregau yn y dyddiau hyn fod yr hen ffordd dda" yn dyfod yn fwy cymeradwy. Yr wyf wrth gyfl-vyno i ti yr argraffiad hwn (ar ol edrych drosto yn fanwl, ac ychwanegu ato), yn dymuno myn- egi y gwnaf yr un defnydd eto o hanes y proffwydi, os byddaf byw ,.c iach. Y mae y gwasanaeth hwn wedi rhoddi i mi hyfrydwch mawr yn y gwaith, ac yr w)f yn dymuno ilesau ereill. Dywed Solomon wrthym oil, Nac ymad a cliyfraith dy fam."—Yr eiddot yn wir, Llangiwc, Brynaman, B.S.O. JOHN JONES.

DECHREUAD CODI DEGWM TRWY…

CYMDEITHAS DDARBODOL GWEINIDOGION…

" DYDDIADUR YR ANNIBYNWYR."

Family Notices

" PECHADURIAID PREGETHWROL…