Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Cynwysiad.I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cynwysiad. I HysbysiacJau 1, 2 Ymylen y Ffordd—Athrofa Ffrwdval 3 Cyfarfod Chwarterol L'eyn ac Eifionydd—Cyfun- deb Dwyreiniol Morganwg 4 Hyn a'r llall o America—Pethau nas gwyr pawb- Cyfarfodydd 5 Y Golofn Wleidyddol-Sirhowi 6 Fforestt'ach—Capel-y-wig a'r Crugiau-Caerfyrõd. in-Barddoniaeth-Merthyr Tydfil 7 At ein Gohebwyr-Yr Wythnos 8 Y BRIF ERTHYGL— Yr Arglwyddi a'r Wlad—Llanelli 9 Eisteddfod Siloh, Peutre, Rhonida-Gohebiaethau 10 Genedigaethau, Priodasan, Marwolaethau 11 Y Wers Ebyngwladwriaethol—Newyddion, &c. 12 Dadgysyllfciad yr Eglwys yn Nghymru 13 liysbysiadau 14, 15, 16 ♦
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Vox.-Rhaid i chwi ein hesgnaodi am beidio cyhoeddi yr eiddoch. Dichon fod ereill yn teimlo fel chwithau, ond nid oes raid ineb roddi os na bydd yn dewis. Os oes ambell i eglwys yn myned dipyn yn eithafol yu ei synied am ei gweinidog, a'i pharch iddo, y mae hyny yn y dyddiau byn, yn arbenig, yn oddefol iawn. Un o Went.—Cyhoeddwyd yr hyn y cyfeiriwch ato yn unig fel hysbysiad, ac ni chyhoeddwn air ar y mater ond felly, oddieithr iddo ddyfod yn swyddogol o'r Cyfnndeb. Nid ydym yn teimlo fod yn perthyn i ni ymyraeth yn y mater. »
DIWEDDARWCH Y PARSELI.
News
Cite
Share
DIWEDDARWCH Y PARSELI. Yr ydym wedi cael ami i gwyn yn ddiweddar oddiwrth amryw o'n dosbarthwyr fod y TYST yn ddiweddar yn eu cyrhaedd, a bod rhai ohonynt heb gael eu parseli o gwbl am yr wythnos ddiweddaf. Drwg iawn genym am hyn, ya enwedig gan nad oes dim modd eu cyflenwi am yr wythnos ddiweddaf, trwy fod yr oil wedi eu gwerthu allan. Yr ydym yn gwueyd ein goreu i geisio cael o byd i'r aflerwch. Gallwn sierhau ein cyfeillion nad yw y bai yn gorphwys o du y swyddfa. Mae pob parsel a rhifynau unigol yn gadael y swyddfa a Mertbyr yn brydlon bob prydnawn Mercher, fel y dylasent gyrhaedd pawb o'r Dosbarthwyr a'r Derbynwyr erbyn nos dranoeth o bellaf. Hyderwn y gwna ein cyfeillion ein cynorth- wyo trwy alw sylw pobl y rheilffyrdd a'r llythyrfa yn eu gwahanol gymydogaethau at yr aflerwch pan y dygwydda, a gwnawn ninau hyny hefyd yn union yr hysbysir ni. Y CYHOEDDWR.
[No title]
News
Cite
Share
Hysbysiadau. BOOKBINDING FOR THE TRADE. D. D. WILLIAMS (MAB CYHOEDDWR Y TYST A'R DYDD"), LLYFR-RWYMYDD, &c., 56, CASTLE-STREET, MERTI-IYR TYDFIL. D YMUNA D. D. W. wneyd yn bysbys ei fod '—' wedi prynu y fusnes a arferid gario yn mlaen gan Richard Thomas yn y lie uchod, a bydd yn dda ganddo dderbyn Llyfrau o bob math i'w Rhwymo am Brisoedd Rhesymol. Gwneir hefyd pob math o Lyfrau Cyfrifon. Telir Cludiad un ffordd per goods train ar Barseli dros 30s. o werth. COFIER Y CYFElftlAD- 56, CASTLE-ST., MERTHYR TYDFIL. Parkyvelvet Academy, Carmarthen. HEAD MASTER REV. J. CERRIDFRYN THOMAS, First Prizeman throughout his College course at the Presbyterian College, Carmarthen holder of 7 first and 3 second Advanced Certificates issued by the South Kensing- ton Department of Science and A.rt; and an undergraduate of London University; with a Certificated Assistant. THE pupils hitherto prepared by liim have been exceptionally successful. The School reopeus on Monday, Julyu'btli, 18.7. r GREAT WESTERN RAILWAY. ROYAL AGRICULTURAL SOCIETY'S SHOW AT SHREWSBURY. ON JULY 17th an Excursion Train for SHREWS- BURY will leave SWANSEA at at 4.45. a.m., Landore 4 50., Neath 5.10, Glyn Neath 5.25, Merthyr 5.20, Abernant 5.30, Llwydcoed 535, Hirwann 5.45, Aberdar 6.0, Mountain Ash 610, Tredegar Junct on 6.25, Crumlin 6.35, and Ponty^ool (Clarence-street) at 6.50 a.m. To return same day at 6.10 pm. For fares see special bills. 11.7. w. J. GRIERSON, General Manager. LLYFRAoU CYHOEDDEDIG GAN T. GEE A'l IfAB, DINBYCH. Y GWYDDONIADUR CYMREIG. Y Gwaith Cenedlaethol mwyai a gylioeddwyd yn Gymraeg. iJan olygiaeth y diweddar ISarch John Parry, D.D., Bala. Mewn deg o gyfrolau. Mewn llian, pris £7 10s. yn lianer rhwym, mewn Persian morocco, pris £H 8s. eto mewn rhwymiad llawn, prisC9 9s. ac mewn rhwym- iad llawn, extra, £10 10s. Gellir ei gael yn gyfrolau os dewisir, neu ar unwaith. ESBONIA1) AR Y TESTAMENT NEWYBI). Gan y Parch Albert Barnes. Mown chweeh o gyfrolau. Mewn llian hardd, pris 8s. Gc. yn lianer rhwym, pris 10s. ac mewn rhwymiad cyflawn, pris lis. y gyfrol. Gellir cael y Gwaíth hwn hefyd yn gyfrolau, neu yn gyflavvn. TESTAMENT Yll YSGOL SABBOTHOL. Gan amryw o Weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd, gyda pliump o Fapiau Cymreig rhagorol. Mewn dwy gyfrol, pris mewn byrddau; £ 1 3s. yn lianer rhwym £ l Ss. rhwymiad llawn mewn Persian morocco, gydag ymylau aur, £ 1 12s. TESTAMENT Y MILOEDI). Gan y Parch J. Ogwen Jones, B.A., Rhyl. Gyda, neu heb y Cyfnewidiadau a wnaed yn nliestyn y Cvtieitliiad Seisonig Divvygiedig. Pris 12s. 6c. mewn byrddau lianer rowym, 13s. 6c. rhwymiad llawn, 14s. 0c. Neu, lieb y Cyfieithiad,' pris Is yn llai yn mhob rhwymiad. Os nad anfonir i'r gwrthwyncb, anfonir et' gyda'r' Cyfieithiad Diwygiedig.' GEMAU DUWINYDDOL. Gan y Pareli Robert Jones, 1/lanllyfni. Ail-arffraftiad, gyda Nodiadan ychwanegol helaeth. Pris 6s. mewn byrddau. PREGETHAU Y PARCH J OH X PARRY, D.O., P.ALA. Pris 3s. 6c. mewn byrddau. Y mae y gyfrol hon yn cynwys deuddeg-ar-hugain o Bregethau. Y mae Catalogue cyflawn ncwydd ei gyhoeddi o'r lioll Lyfrau a argrafl'wyd gan T. GEE A'I FAB, yr hwn a anfonir ynrhad i'r nob a ddenfyn am dano. 4.7.84.r CARDIFF "GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. /'CLASSES now reading for the UNIVERSITY" Colleges, the VV TRAINING and DENOMINATIONAL Colleges, the MEDICAL, LEGAL, and PHARMACEUTICAL Examin ations, and for the CIVIL SERVICE and COMMERCIAL PURSUITS. DUTIES resumed on MONDAY, JULY 28th, 1884. For terms, &c., apply to R. G. LEVI, 13, Jltzalan Place, Cardiff. 18.7.r ILLUMINATED WORK, I Testimonials, Presentation Addresses, Sfc., executed in the purest styles, in gold and colours, TYSTEBATJ AC ANERCHIADAU ANRHEGOL Y N Gymracg nen Sacsoneg (gwaith Haw), wedi cu gwyuhu yn y dull rnwyaf dillyn a hardd, a Uythyrenau addurnedig a lliwieilig, ae ag anvyddluniau cyfaddas, mewu ymylwaitli amryliw. RHAI AXERCU1ADAU A WNAED Mr D. Simons, Manager, Moss Bay Steel Works, Cumberland, late Manager of the Bessemer Steel Works, Rhymney. Mr T). Phillips, New Tredegar, P.l'.G.M., presented by the Oddfellows of the Rhymney District. Mr J. Price, Manager, Treharris, late Manager of the Clydach Vale Colliery, Rhondda. Rev D. Silyn Evans, Aberdarc. Rev W. Edwards, Aberdare, Chairman of the Welsh Congre- gational Union. 7.6.w. S. D. ROBERTS, Trealaw, Pontypridd.
YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
YR WYTHNOS. LLOFKUDDIAETH ERCHYLL. — Gwarad- wyddir banes ein teyrnas yn achlysurol gan y llofruddiaethau mwyaf anfad a ebreulawn. Yr wythnos ddiweddaf, yn Sheffield, darfu i ddyhiryn ar yr enw dyn ladd ei wraig a'i bedwar plentyn, a gwnaeth gynyg i ladd ei hun, ond metbodd yn ei amcan. Creadur creulon a meddw ydoedd, ac wedi bod yn y carchar lawer gwaith am wahanol droseddau. Nid oedd wedi gweithio diwrnod er's blyn- yddau, oud gorfodai ei wraig a'i blant i weitbio yn galed er enill arian iddo ef gael ymloddesta a meddwi. Pan nad oedd gan y wraig arian i'w rhoddi, ymdyngbedodd na fuasai yn goddef triniaeth felly yn hwy, a'r noson hono cymerodd ellyn miniog—torodd ei gwddf, a gwnaeth yr un peth a'i blant. Pan dorwyd i'r ty cafwyd y llawr yn wely o waed, ac wedi ei balmantu megys gan gyrff meirw. Mae yr erchyllwaith anfad hwn yn gwneyd i ni gywilyddio dros ddyn-oliaeth syrthiedig, ac yn dangos fod gwaith mawr eto i'w wneyd er dwyn ein gwlad oil dan ddylanwad yr Efengyl. MELLT A THARANAU. — Ymwelwyd a rhanau o'r deyrnas yn ddiweddar gan ys- tormydd arswydlawn o fellt a tharanau. Mae Cymru wedi clywed y swn a gweled y goleuni, ond uwchben rhanau o Loegr mae yr ystormydd wedi ymgasglu ac ymdori. Dywed hen bobl nad ydynt yn cofio taranau mor ofnadwy a'r flwyddyn hon. Modd bynag, mae yn ffaith brofedig na fu yn nghof neb y fath golled ar fywydau trwy daranau. Mae y mellt wedi taro yn farw a golosgi yn lludw lawer iawn o wartbeg a cheffylau ar y meusydd agored. Rhedai dynion am amddiffynfa dan gysgod derw cangenog—disgynai y daranfollt sulphur- aidd gyda'r fath sydynrwydd angeuol nes chwalu y derw cedyrn yn ysglodion, a lladd y dynion a ymgysgodent danynt. Ar ganol maes y cynhauaf dygwyddai difrod cyttelyb, nes mae taranau y flwyddyn hon wedi dwyn trallod a galar i lawer cylch. Yr wythnos ddiweddaf torodd ystorm felly ar ddinas Worcester; a phan oedd y Parch G. March, gweinidog Annibynol y ddinas, yn ei lyfr- gell gyda ei waith, daeth y daranfollt i fewn i'r ystafell, chwalodd y cwbl, ond diangodd Mr March yn wyrthiol, ac ni dderbyniodd unrhyw niwed. BADDONAU CYHOEDDUS ABERTAWY.—Yn ddiweddar, ffurfiwyd cwmni yn y dref uchod, yn cael ei flaenori gan Dr Griffiths, er adeiladu baddonau cyhoeddus am bris rhesymol. Bellach, mae y sefydliad rhagor- ol hwn wedi ei agor. Saif yn ngwaelod y dref, ar ochr y brif ffordd sydd yn arwain i'r Mumbles, ac ipewn man cyfleus i gael cyflawnder o ddwfr y mor. Ymddengys yr adeiladau tuallan yn hynod bardd a chelfydd, a dywed dynion sydd yn deall banfodion sefydliadau felly fod ei holl drefniadau mewnol mor gyfleus a pherffaith ag y gellir dymuno. Mae ynddo bob math o faddonau, a phob mantais i ymdrocbi ac ymlanhau. Mae y cwmni wedi cyflogi athraw ac atbrawes nofiedyddol, ac y mae ganddynt eisoes lawer iawn o ddysgyblion. Tyra yno luaws o ferched ieuainc, a dywedir eu bod yn dysgu nofio yn rhagorol. Hyd yn hyn, mae yr anturiaeth yn llwyddiant perffaith, a diau y profant yn fantais fawr i ianweithdra personol a iechyd cyffredinol. Cwynir fod ysbryd anturiaethus yn Iled brin yn Abertawy, ond mae gwaith y cwmni hwn yn profi yn amgen. Hyderwn y try yr anturiaeth allan yn llwyddiant masnachol, ac yna bydd y cwmni yn cael gwobr deilwng am eu llafur a'u haberthau. LLWYDDIANT ADDYSGOL.—Bella ch mae arboliadau cyhoeddus canol yr haf drosodd, a'r adroddiadau wedi eu cyhoeddi. Hwn yw y tymhor pan mae canoedd o bobl ieuainc o'r ddau ryw yn eistedd am ddyddiau i fyned trwy matriculation y London Uni- versity. Hefyd, y mae y Victoria University yn Manchester yn cynal ei matriculation tua'r un adeg. Wedi gweled enwau y gwyr ieuainc ydynt wedi llwyddo, cawn awgrym lied darawiadol o'r cynydd cyflyin mae addysg yn wneyd yn ein gwlad. Mae nifer luosog o Golegau Aberystwyth a Chaerdydd wedi pasio yn anrhydeddus, ac yn eu plith un ferch ieuane o'r enw Miss