Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

FFORESTFACH.

CAPEL-Y-WIG A'R CRUGIAU.

CAEEPYEDDIN.

Advertising

COF-LINELLAU

PENILLION DIRWESTOL.

MERTHYE TYDFIL.

SIRHOWI.

News
Cite
Share

dim arno yn fwy na'r gorphenol, ei fod ef wedi ymserchu ac ymgylymu a'r eglwys nas gallai feddwl am ei gadael. Gallwn dystio yn wyneb araeth Mr Rees ei fod yn dyweyd ei brofiad gwir- ioneddol a diragfarn, am y gwyddom ei fod wedi ei demtio droion i ymadael a'r eglwys am eglwysi 11 el ereill, ond yma mae ei galon, ac yma y dymunwn ninau iddo dreulio ei oes, a gobeithio y caiff oes bir. Nid ydyw Mr Rees ond dyn ieuanc eto, ac y mae yn un o'r pregethwyr blaenaf a feddwn yn y cymydogaethau hyn. Nid oes nemawr o'n cyfar- fodydd casglu ni yn myned heibio heb ei fod yn gweinyddu ar yr achlysur. Y mae yr eglwys, er yr holl symud a'r ymfudiaeth, yn rhifo 350 o aelodau, heblaw y canoedd gwrandawyr. Y mae yn hyfrydwch i weled esgynlawr yr eglwys hon ar nos Sul, pan y mae yr holl ugeiniau o fechgyn a merched ieuainc y lie yn casglu ateu gilydd mor lluosog. Dymunaf bob llwyddiant i'n parchus weinidog a'r frawdoliaeth yn y dyfodol. Faenolog.