Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Y Golofn Wleidyddol.

News
Cite
Share

Y Golofn Wleidyddol. Terfynwyd y ddadl ar ail ddarlleniad Mesur yr Etholfraint yn Nhy yr Arglwyddi mewn dwy noson. Dechreuwyd nos Lun, a nos Fawrth, neu yn hytrach 2 o'r gloch boreu Mercher, cafwyd y bleidlais, pryd y gwelwyd fod 146 dros, a 205 yn erbyn—mwyafrif o 59 yn erbyn yr ail ddarlleniad. Dysgwylid cael tua 120, a mawr oedd y syndod pan welwyd nad oedd ond 59. Rhifedi Ty yr Arglwyddi yw 518; o'r nifer yma mae 5 yn aelodau y Teulu Breninol, y rhai nid ydynt nemawr byth yn pleidleisio. Gwneir y gweddill i fyny o 288 o Dorïaid a 218 o Ryddfrydwyr, a gwelir fod gan y Toriaid 170 o fwyafrif at eu gwasanaeth fel rheol pe ceid yr oil i bleidlais. Anaml y ceir haner y nifer i bleidleisio, ac yr oedd y nifer o 351 a fu ar ail ddarlleniad Mesur yr Etholfraint yn fwy nag y mae neb yn gofio. Mae yn amheus a fu yn y ganrif bon nifer mor fawr yn nghyd i roddi eu pleidlais ar unrhyw fater. GWDaed ymdrech egniol i gael pob un ag oedd yn bosibl, a gwelwyd yno ambell un oedd dros ei 80 yn meddu digon o set dros ddyogelwcb y Cyfan- soddiad Prydeinig i ofalu bod yn bresenol, a phleidleisio yn erbyn y mesur oedd mor beryglus i'r Cyfansoddiad hwnw. Ond er hyn oil, dim ond 59 oedd y mwyafrif. Rhaid fod braw a dychryn wedi meddianu llawer a arferent bleidleisio gyda'r Toriaid. ife ifa Un nodwedd arbenig yn y bleidlais oedd y cwrs a gymerodd yr esgobion. Arferent hwy fod fel rheol yn erbyn pob gwelliant, a phe chwilid eu pleidlais yn Nhy yr Arglwyddi drwy y blynyddau, ceid gweled mai gwrthwynebol i bob diwygiad ydyw eu llais wedi bod. Ond ar yr achlysur pwysig a dyddorol presenol, wele gyfnewidiad. Darfu i Archesgob Canterbury siarad o blaid y mesur, a cheisiodd berswadio y Ty i'w basio, ac aeth ef a'i frawd o York, yn nghyda deg o'r esgobion i'r un lobby a'r Weinyddiaetb, gan adael Esgob Caerloyw yn unig i weini cysur i Ardalydd Salisbury a'i ganlynwyr. Tori mawr yw Esgob Caerloyw. Efe, onide, a ddywedodd rai blynydd- oedd yn ol y dylasai Mr Joseph Arch, yr hwn a ddadleuai hawliau gweithwyr amaethyddol Lloegr, gael ei daflu i'r pwll agosaf? Mae yn wr galluog a dysgedig, a diau ei fod yn un o'r beirniaid Ysgrythyrol goreu yn fyw, a bernir fod ei esbon- iadau yn mhlith y pethau goreu a geir ar ranau o'r Testament Newydd. Gresyn fod Ellicott yn ymyraeth a politics fel y gwna, ac na chyfyngai ei hun yn bolloli'r gwaith y mae ynddo gymhwysder mor arbenig iddo. Nid yw yn amddifad o wrol- deb, fel y prawf ei bleidlais y tro hwn, a'i ymadroddion ar achlysuron ereill; ond y mae yn anbaydd penderfynu i foddlonrwydd bob amser pa un ai gwroldeb neu ynte rhyfyg ydyw yr enw a ddynoda ei ymddygiad yn fwyaf cywir. Beth sydd yn cyfrif am bleidlais yr esgobion y tro hwn ? Gwir na phleidleisiodd ond ychydig dros haner eu nifer, ond o'r cyfryw aethant oil ond un o blaid y mesur. Dyma beth newydd yn eu hanes. Yn sicr y mae eu llygaid wedi eu hagoryd i'r perygl y maent ynddo, a digon tebyg fod y ddadl a'r bleidlais a gaed yn ddiweddar ar eu hachos yn y Ty Cyffredin wedi bod yn help mawr i agoryd eu llygaid. Pe buasai yr arglwyddi Tor'iaidd wedi bod mor gall yn eu cenedlaeth ag y bu yr esgobion y tro hwn, cawsant brydles go dda i'w bodolaeth boliticaidd; ond gan na fuont, rbaid iddynt gymeryd y canlyniadaq, ac nid oes eisieu craffder mawr i weled beth fyddant. Nis gellir dyweyd fod y ddadl yn nodedig o alluog, er fod un neu ddwy o areithiau hefyd yn bur fedrus-eiddo Arglwydd Roseberry yn arbenig. Pendefig cymharol ieuanc yw efe (tua 37 oed), ac yn ddiddadl efe yw y mwyaf addawol yn holl Dy yr Arglwyddi. Mae yn siaradwr campus, a'i arddull yn mhell uwchlaw y cyffredin. Ei araeth ef oedd y mwyaf brilliant a telling yn yr holl ddadl, a sicrha iddo, os ca fyw, le amlwg a chyfrifol yn y blaid Ryddfrydig. Efe oedd cydymaith Mr Gladstone, a'i letywr yn ysbaid brwydr Midlothian. Teilynga Iarll Dalhousie (Arglwydd Ramsay gynt, yr hwn a ymladdodd, er yn aflwyddianus, frwydr Rhyddfrydiaeth yn Liverpool ycbydig flynyddoedd yn ol) sylw. Gwnaeth araeth dda, ond nid i fyny a Roseberry. Mae efe rai blynyddau yn ieuengach na Rose- berry, ond y mae iddo yntau, fel Roseberry, ddyfodol dysglaer os arbedir ef, ac y pery, fel y mae yn debyg o wneyd, yn ffyddlon i'r achos Rhyddfrydig yn ein gwlad. Gwr craffus, ac yn gweled yn mhelI-un yn meddu mesur helaeth o'r I nwydd gwerthfawr, ond yn fynych yn rhy brin, a elwir synwyr cyffredin—un yn ofalus am dir dyogel i sefyll arno, yw Iarll Derby, ac yr oedd ei araeth ar yr achlysur yn nodweddiadol ohono. Siomwyd llawer i'r ochr oreu yn araeth agoriadol Iarll Kimberley. Yr oedd yn well nag y dysgwylid iddi fod. Nid oedd gan neb ddim newydd i'w ddyweyd ar yr aebos-beth allai neb gael i'w ddyweyd arno ar ol areithiau y Prif Weinidog ac ereill yn y Ty Cyffredin? Araeth fedrus o'r fath ag ydoedd a gafwyd gan Ardalydd Salisbury. Nid oes neb yn amheu ei allu i wneyd araeth, ond teimla ei ganlynwyr mai arweinydd peryglus ydyw, ac ni bu erieed yn fwy peryglus i'w blaid na'r dyddiau hyn. Yr oedd ei araeth yn fwy tebyg i un yn cellwair nag i eiddo gwlad- weinydd ar achlysur pwysig. Yn wir, yr oedd diffyg reality yn mhob araeth ar yr ochr Doriaidd, a pha ryfedd ? Proffesant fod tiros y mesur, pan y gwyddai pawb mai rhagrith ydoedd. Nis gall fod real ring yn nhon rhagrithiwr. Daw yn reality arnynt hwythau yn y man. Cefnogodd y Due o Argyll y mesur a'i bleidlais, ond prin y gellir dyweyd fod ei araeth yn gefnogol iddo, er ei fod yn cymeryd arno wneyd hyny. Yr oedd dwy ran o dair ei araeth yn fath o am- ddiffyniad i'r aelodau annibynol (?) sydd yn y Ty -pobl y cross benches, a'r rhai a enwyd yn ddi- weddar gan Iarll Granville yn cross bench minds." Nid yw y rhai a eisteddant ar y meinciau sydd ar draws canol y llawr yn proffesu perthyn i'r un o'r ddwy blaid a eisteddant yn ochrau y Ty. Gyda'r eithriad o'r Teulu Breninol, dynion wedi yrngroesi-dynion siomedig—encilwyr o'r Wein- yddiaeth, neu rai a adawyd allan wrth ffurfio y Weinyddiaeth, sydd yn meddianu y meinciau hyn fel rheol, a dyma'r dosbarth nad oes boddloni arnynt gan nad beth a wneir. Gwelir hwynt mewn cylchoedd heblaw Ty yr Arglwyddi, ond nid yw y lie cysegredig hwnw yn rhydd ohonynt. Mawr edmygai y Due o Argyll y "cross bench mind," a gellid meddwl wrth ei araeth mai y meddwl hwnw yn unig all edrych ar bobpeth yn ei oleuni priodol. Druan ohono, pwy a'i coelia ? Enciliwr o'r Weinyddiaeth bresenol yw y Due, ac fel ei ddosbarth yn gyffredin, mae yn bur chwerw ei ysbryd. Enciliodd ef ar Fesur Tir yr Iwerddon, ae yebydig o help a gafodd Mr Gladstone ganddo byth wedi hyny. Mae y Due yn un o rai galluocaf Ty yr Arglwyddi, a'r Senedd i gyd o ran byny. Mae yn ysgolhaig campus, athronydd dwfn, a gwyddonydd o'r radd flaenaf. Gresyn ei fod wedi ymgroesi cymaint. Hen Whig ydyw, ac y mae eu dyddiau hwy ar bejji. Nid yw yn debyg y gwelir ef mewn Cabinet Rhyddfrydig mwyach. Gellir myned yn mlaen hebddo yn rhagorol, a hwyraeb mai hyny yn rhanol sydd yn ei chwerwi. Fodd bynag, yn ei araeth nos Fawrth, gwnaeth ei oreu i geisio rhybuddio ei gydaelodau i ochelyd eu dinystr mewn pryd, ond ni wrandawsant. Dyna'r mesur allan—beth nesaf ? Mae y blaid Ryddfrydig drwy yr holl wlad wedi ei chyffroi, ac y mae ei lleferydd yn groew. Iach iawn oedd gweled ysbryd y blaid yn, y Senedd. Nid oes bloesgni ar eu tafod wrth son am yr Arglwyddi, a'r hyn a haeddant. Galwodd Mr Gladstone ei blaid yn nghyd prydnawn dydd Iau, ac yr oedd y brwdfrydedd mwyaf yn nodweddu y cyfarfod. Yr oedd 256 yn bresenol, ac anaml, os erioed yn wir, y gwelwyd y fath ysbryd ag a ddangoswyd yno. Hysbysodd Mr Gladstone y byddai Eistedd- iad Hydrefol er cyflwyno y mesur drachefn i'r Arglwyddi; ac er mwyn cael hyn, rhaid dirwyn yr eisteddiad presenol i fyny mor gynted ag y byddo modd-tua dechreu Awst wrth bob tebyg. Aberthir pob mesur o bwys ar allor yr Arglwyddi. Nis gellir gwneyd nemawr mwy na chario y sitpply-fotio arian, wrth gwrs. Mae llawer wedi ffyrnigo wrth weled fod y Senedd-dymhor hwn wedi ei wneyd agos yn ddiffrwyth gan yr Ar- glwyddi. Mae Mesur Addysg Cymru yn mhlith y lladdedigion. Yn y cyfarfod, cwynai Mr Henry Richard yn fawr oherwydd y mesur hwn, ond dywedai y byddai yn iawn go dda i'w gydgenedl am ei oediad pe ceid sicrwydd am gyfnewidiad yn Nhy yr Arglwyddi. Chwareu teg i Mr Henry Richard, nid am nad yw ef wedi gwneyd ei oreu y mae y mesur hwnw heb gael ei gyflwyno i'r Ty, chwaethach ei basio, ac ni fynegoddj efe erioed farn a theimlad ei gydwladwyr yn fwy cywir na phan hysbysodd y boddlonrwydd a roddai i ni i weled Ty yr Arglwyddi yn myned o dan law effeithiol y diwygiwr. Nid newyddian yw ef chwaith yn y ffydd hon, ac nid y cyffro presenol sydd wedi galw ei sylw ato, er ei fod hwyrach iddo ef fel i lawer ereill wedi angerddoli ei deimlad ar y mater. Brwydr yw hi bellach rhwng y ddau Dy, a rhwng yr Arglwyddi a'r wlad. Nid oes dadl nad yw y Weinyddiaeth o ddifrif yn y mater, er fod Mr Gladstone yn ymddaugos yn hynod o lonydd, ond gwyr y rhai a'i hadwaenant oreu beth mae hyny yn olygu. Nid oes dadl nad yw dyddiau y Ty yn ei ffurf bresenol wedi eu rhifo. GWLEIDYDDWR. «

SIRHOWI.