Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL 0 AMERICA.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL 0 AMERICA. GAN Y PARCH B. DAVIES, TREO'RTTF, Perthyna i bob gwlad ryw bethau, lleoedd, a phersonau, nad all yrnwelydd a'r cyfryw fforddio bod heb eu gweled, ac yn fynych y mae y'mwel- wyr yn gwybod mwy am ryfeddodau lleoedd na'r rhai a fyddo yn byw yn y cyfryw. Teimlais n'ad allaswn ymadael a dinas New York heb weled li phrif ryfeddodau, os yn bosibl, ac un o fy nymun- iadau penaf oedd cael gweled a chlywed y Parch Henry Ward Beedher, a phenderfynais gael OEDFA YN NGHAPEL BEECHER. Cyrhaeddais Plymouth Church yn nghwmni y iboneddwr caredig Mr S. R. Jones haner awr cyn :amser dechreu yr oedfa. Bum yn chwilio goreu igallwn am le cysurus i weled a chlywed y cyfan. 'Ond yr oeddwn yno yn rhy gynar i gael y fraint ihono, y rhai a ddelai i fewn ar ol i'r lleoedd lanw a safai y fantais oreu am hyny. Cyn i'r amser ddyfod i ben, daeth Mr Beecher i fewn, ac yr oedd yn hawdd ei adnabod wrth ei ddarlun. Dywedwyf wrtbyf i mi fod mor ffodus a, bod yn bresenol ar y Sabboth hynotaf yn y flwyddyn. Yr oedd yn gymundeb yno, ac yntau yn derbyn 83 i gyflawn aelodaeth, ac yn bedyddio 11 ohonynt., Yr oedd yn olygfa swynol iawn. Dechreuwyd y gwasanaeth drwy i'r cor ganu anthem, a'r peth a dynodd fy sylw fwyaf oedd gweled y cor mor gryno ar foreg Sabboth. Pe buasai chwi, Mri Gol., neu Dr Rees, Abertawy, yno, diamheu mae yr organ ysblenydd a welsech y peth cyntaf. Pe na = buaswn yn rhyfygu, dywedwn i mi glytved gwell canu gan gor — lawer gwaith. Nis gallaf lai na mieddwl y byddai yn dreat i gerddorion sydd wedi 'eu magu i fyny o'u cryd i ddysgu cerddoriaetb, i iglywed rhai o gorau Cymru yn canu, rhai beb. 'erioed gael amser a manteision i ddysgu, ond! lllafur 'oriau ladratawyd 'oddiar amser gorphwys.. i Yr oedd y gweddill o'r canu yn gynulleidfaol, ac; yr oadd golwg hyfryd ar y gynulleidfa luosog pan ya ca«u mawl i Dduw. OfJrymwyd gweddi. | afaelgar at Dduw, a chafwyd pregeth ragorol ar' | 1 Pedr ii. 25. Dywodai un o'i wrandawyr cyson. jj nad oedd i fyny ag ef ei hun y boreu hwnw. Yr a oedd y bregeth yn fwy o ddatganiad o'i gredo,. I nag o egluro a chymhell. Dywedodd bethau godidog. Yr oedd y platform yr hwn sydd yn. a fawr iawn, wedi ei orchuddio & blodau, ac ar ddiwedd y gwasanaefch estynai Mr Beecher bouquet i bob un a dderbyniodd y boreu hwnw. Cefais yehydig o eiriau ag ef ar y di wedd, a dywedodd wrthyf fod yn dda ganddo bob amser weled Cymro. Mae dau reswm am hyn, meddir 1. Mae j Cymry wedi sefyll yn ffyddloniddoyn eidywydd garw. 2. Dywed fod gwaed Cymreig yn lhedeg drwy ei wythienau. Er nad oedd y gwasanaeth i fyny a fy nysgwyliad yn mhob peth, bydd genyf adgofion cynes am yr ymweliad a Plymouth Church. Treuliais dair wythnos yn agos i efengylu i'm cydgenedl yn nyffryn y Wyoming—Cwm Rhon- dda, America-a gwelais yno luoedd, nas gallwn eu i rhifo braidd, o ben lowyr Morganwg. Gan fy tmod wedi byw yn mhlith glowyr Morganwg, ac wedi bod yn dyst o gynifer yn ymfudo allan ou Ifwiad, a'r rhan fwyaf i'r parthau yma, yr oeddwn yn telmlo cryn ddyddordeb yn fy ymweliad a'r lleoedd yma. Pan ddaethum i fewn i Scranton, gwelais rai ar y platform ag oeddwn yn eu had- nabod. Hefyd, y mae yn anhawdd disgyn mewn un man yn America na welir dynion Anon yno, fel y gelwir hwy. Maent yn troi yn mhob rhan o fasnach braidd, a dywedir bod enwau Cymreig ar lawer ohonynt, disgynyddion y caethion. Fe fedr rhai ohonynt siarad Cymraeg. Safai un ohonynt unwaith, meddir, ar blatform Station Scranton pan y deuai nifer o ymfudwyr i mewn o New York gyda'r tren. Gwelsant y dyn du ar un- waitb, a dichon bod hwnw yn dduach na'r cyffredin ohonynt. Tynodd sylw yr ymfudwyr, a dylaswn ddyweyd mai Cymry oeddynt. Nesaodd y dyn du atynt, a. deallodd hwynt yn siarad, a I gofynodd, "O'Berdar, ie fe, fecbgyn ?" "Ie," meddent hwythau yn ofnus. 0 ba le yr ydych chwi wedi dyfod," gofynent hwythau. "O'Ber- dar," meddai yntau. II Wel, sut mae y lliw yna arnoch chwi ?" "-0, yr wyf fi yma er's 15 mlyn- edd," meddai ef. Gyda hyny penderfynasant droi yn ol tuag adref, a chyrhaeddasant C--ch yn ddyogel. Na ddigied Gohebydd Aberdar wrtbyf am yr hanes hwn felly y cefais i ef. Mae inasnach yn araf iawn yn bresenol yn y gweithfeydd glo, er byny, dywed y glowyr eu bod yn enill mwy nag a enillent yn Nghymru, felly mae y fantais yn fawr, gweithio llai ac enill mwy. Er hyny, yn sefyllfa bresenol y gweithfaoedd, ni chynghorwn neb i ddyfod allan yma. Ymddengys fod y flwyddyn hoa yn waeth, oherwydd ei bod yn flwyddyn etholiad yr Arlywydd, ond oddieithr bod masnach wedi gwaethygu llawer yn Nghymru y misoedd diweddaf, cynghorwn bawb iaros yna hyd nes y setlo pethau yma. SEFYLLFA CRBPTDD. Gwelir yn amlwg yma bod llawer mwy o aa- hawsderau gan yr eglwysi Americanaidd i ym- wneyd a hwy nag sydd gan eglwysi yn Nghymru. Alae y Cymry yn wasgarog iawn yma, ac y mae y ddwy iaith yn ymrafaelio a'u gilydd. Yehydig j awn o fanau sydd nad yw yr eglwysi Cymreig yn I d^'oddef i raddau oddiwrth y Saesoneg. Mae y gwtUnidogion mewn llawer man yn gorfod parotoi yn y' ddwy iaith. Mae hyn o angenrheidrwydd yn lle^teirio gweithrediadau yr eglwysi, yn gystal a mwyhJiu lIafur y weinidogaeth. Mae yma lawer i hen veteran yn yr eglwysi, wedi bod yn amlwg yna yn ei ifyddlondeb i achos Crist. Nid cea dim yn fwy pwydferth ni, gweled dyn yn cario ei egwyddorion sanctaidd i ganol anfanteision bywyd, ac yno yn sefyll yn ddiymod i'r gwirion- edd. Marwaîdd ar y cyfan yw yr achos—pe gwnelai pawb sydd ar enw crefydd, sydd yn ym- fudo, weithio allan gymeriad Cristionogol pur, newidid gwedd cymdeitbas yn fnan. Mae an- ffyddlondeb rhai felly yn digaloni y rhai sydd yn meddwl am ei enw Ef."

PETHAU NAS GrWTR PAWJB.

Cyfarfodydd, &c.