Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL 0 AMERICA.

PETHAU NAS GrWTR PAWJB.

News
Cite
Share

PETHAU NAS GrWTR PAWJB. Marwolaeth M. Tissot. — Bu farw yn ei dy ei hun yn Rue Journon, boreu dydd Mereher, Gorphenaf 2il, 1884, o'r liver complaint. Ganwyd ef Awst 28ain, H828, a gorphenodd ei yrfa yn 56 mlwydd oe £ Yr oedd yn ysgolhaig campus, wedi treulio boreu-ddydd ei fywyd mewn diplomatic service. Penodwyd ef yn Secretary of the French Embassy in London, yn 1869 ac yn French Ambassadorjyn Constantinople, yn 1880; ac wedi iayn daeth i Lundain yn yr un capacity, ac yn ddi- weddaf oil aeth i'r byd arall ar hyd ffordd yr ikoll ddaear," wedi ymddiosg o'i honours i gyd. A dyna ddiwedd pob dyn J/Jv, General Todleben farw. Ymladdodd frwydrau poethion yn ei oes, ond y gelyn diweddaf" a'i gorekfygodd yn dragywydd. Yr oedd yn lied ganolig o iechyd er's cryn amser. Aeth i Soden, ger Wiesbaden, gan feddwl enill nerth wrth ym- drochi yn nyfroedd iachusol y lie, ond yr oedd angeu yn y crochan golchi!" Mai 20fed, 1818, y daeth,ef i'r byd, a Gorphenaf, 1884, yr ymadaw- odd ohono, newydd orphen ei 68 mlwydd oed. Cyrhaeddodd enw mawr yn mysg milwyr, ond Duw a wyr faint o werth oedd ei enw yn annibyn- ol ar y got goch." Os yn filwr da i lesu Grist, gwyn ei fyd ef. Tyfodd ei enwogrwydd milwrol fel mushrooms o'i gwmpas. Yn ystod y Crimean War, cafodd glod mawr fel amddiSynydd Sebas- topol, a dyrchafwyd ef cya pen blwyddyn o fodyn Gadben i Major-General. Ac yn mrwydr 1877, gosododd, warchae ar Plevna, am yr hyn y cafodd y teitl o Count r £ iG(fle,«aen. Apwyntiwyd ef wedi hyn yn Governor of Odessa, gydag awdurdod gaethaf y Czar i wasgu aa1 wynt ffroenau y Nihilists. Ac yn Mai, 1883, gwnaed ef yn Go- vernor of Wilna in Lithmania. Erbyn beddywmae wedi gadael y byd yma, heb fod neb o'i fewn yn gwybod pa dderbyniad gafodd gyda Duw. Y mae mater pwysicaf pob dyn tuhwnt i guess pob dewin. y' Oholera yn Ffrainc. — Y mae echo y gair cholera yn dychrynu cyfandir Ewrop, a doctoriaid a phapyrau newyddion yn cynghori a rhybuddio pawb i ochelyd y manau lie mae. Yn Marseilles a Toulon, y mae ef yn gwneyd yr havoc waethaf. A dywed Dr Bronardeb, penaeth yr Health Commission," mai yr Asiatic cholera ydyw, a'i fod yn fwy peryglus, ac yn waeth am ledu na cholera 1865. Rhyw ddau bob dydd oedd yn meirw ar y cyntaf, yna wyth, ac wedi hyny pump ar-hngain! Gwneir pob ymdrech i'w ddofi yn y lleoedd uchod, a phob darpariaeth i'w ragflaenu mewn lleoedd newyddion, ond ilio y mae, a myn ei ffordd er gwaethaf Iluaws tref. Aeth i mewn i Valette, tua phum' milltir o Toulon, a man ben- trefi ereill, ac nid oes neb ond Dl1 w a wyr faint o'r Ffrancod sethrir o dan garnau y march barnol. Y mae chwythiad ei ffroenau, a rhoch ei weryr- iad yn arwyddo ei fod yn ffyrnigo, ae na fyn ei droi yn ol er neb. A beth pe mytiai ddyfod trosodd i Loegr, a sangu a'i garnau baraol ar dir Cymry; at bwy yr aem am ymwared? Onid a'i Duw yr ymofyn pobl ?" Mae ar bawb ofn y Cholera.—Nid oes na thlawd na chyfoethog, boneddig na gwreng, duwiol nac annuwiol, heb fod yn ddarostyn-gedig i ddychryn- fau rhagddo. Y mae mwy o'i ofn ar jganoedd nag sydd arnynt o ofn Duw. Yehydig o arwydd- ion ymostwng ger bron Duw sydd ar drigoliou Marseilles a Toulon maent yn dianc wrth yr ugeiniau rhag ofn yr epidemic, yn llosgi bonfires yn heolydd y dinasoedd, ac yn dyfeisio pob ystum i lonyddu cynddaredd gynddeiriog ei ysfau marw- ol. Oes rhywun yn ceisio Duw P Mae gwyr Marseilles wedi troi Pharo-Chateau yr Empress Eugenie yn Cholera Hospital, a chodi quarantine building yn ymyl Perpignau, i osod trafaelwyr dan brawf am saith niwrnod, heb fod dyfais yn mhen, na dychymyg yn nghalon neb ohonynt am adeil- adn ty, na synagog, na chathedral, na theml, i addoli "Duw yr holl ddaear," yr hwn sydd ag awdurdod ganddo i ladd a bywhau y neb a fyno. Ac nid yw teyrnasoedd ereill yn fymryn gwell na Ffrainc. Ni cbailf un Ffrancwr gerdded gwlad, na llong Ffrengig ddyfod i borthladd, heb yn gyutaf iod dan five, eight, or fifteen days quaran- tine. Neb yn gofyn, Pa le mae Duw y farn ?" Y DYN HYSBYS.

Cyfarfodydd, &c.